Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Committee Room 4, County Hall, Atlantic Wharf, Cardiff. CF10 4UW. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU

Cofnodion:

2.            Y Cynghorydd

Y Math o Fuddiant

G. Caron

S. Churchman

Aelod o Gronfa Bensiwn Llywodraeth Leol;

Aelod o Gronfa Bensiwn Llywodraeth Leol;

M. Norris

Aelod o Gronfa Bensiwn Llywodraeth Leol;

C. Lloyd

Aelod o Gronfa Bensiwn Llywodraeth Leol;

E. Williams

Aelod o Gronfa Bensiwn Llywodraeth Leol.

 

3.

PENODI CADEIRYDD Y CYD-BWYLLGOR AR GYFER Y FLWYDDYN 2017-18

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd Stephen Churchman yn Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2017/18.

 

4.

PENODI IS-GADEIRYDD Y CYD-BWYLLGOR AR GYFER Y FLWYDDYN 2017-18

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd Mark Norris yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y cyngor 2017-18.

 

5.

SWYDDOGAETHAU A CHYLLIDEB YR AWDURDOD CYNNAL pdf eicon PDF 14 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad oedd yn manylu ar swyddogaethau'r awdurdod cynnal [Cyngor Sir Caerfyrddin] a'r gyllideb ddangosol i weinyddu'r bartneriaeth. Pwysleisiwyd ei bod yn anodd llunio'r gyllideb, a oedd yn debygol o newid dros amser, gan nad oedd y meysydd gwaith a'r llif gwaith gwirioneddol yn hysbys eto a bod hynny'n wir yn achos galwadau a gofynion y Pwyllgor hefyd. Byddai'r gyllideb, yn unol â'r Cytundeb Rhwng Awdurdodau, yn cael ei chyllido'n gyfartal gan yr 8 awdurdod lleol sy'n cymryd rhan.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

5.1 nodi swyddogaethau'r awdurdod cynnal;

 

5.2 nodi'r gyllideb ddangosol am y cyfnod 2017-2020.

 

6.

AMSERLEN AR GYFER PENODI GWEITHREDWR AC ADRODDIAD CYNNYDD pdf eicon PDF 214 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd John Wright, Hymans Robertson, amlinelliad i'r Pwyllgor o gyd-destun a chefndir cyfuno buddsoddiadau ar gyfer Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol, gan gynnwys trefniadau mewn ardaloedd eraill, a chyflwynodd adroddiad oedd yn cynnwys amserlen ar gyfer penodi Gweithredwr a'r cynnydd yn hynny o beth. Yn ystod cyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 18 Medi 2017 rhagwelwyd y byddai'r aelodau yn ystyried argymhelliad gan y Gweithgor Swyddogion ynghylch y Gweithredwr a ffefrir ar gyfer y Cyd-bwyllgor Llywodraethu, cyn cael ei gymeradwyo ar lefel leol gan yr awdurdodau unigol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch sut y byddai'r Gweithredwr, ar ôl ei benodi, yn ymgysylltu â phwyllgorau pensiwn yr 8 awdurdod lleol yn unigol, dywedodd John Wright fod rhwymedigaeth wedi'i chynnwys yng nghontract y Gweithredwr i gynnal cyfarfodydd chwarterol gyda'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu ac un cyfarfod gyda phob awdurdod lleol neu eu pwyllgor cronfa bensiwn. Yn ogystal roedd y contract yn darparu ar gyfer un sesiwn hyfforddiant bob blwyddyn ar gyfer pob awdurdod lleol. O ran dadfuddsoddi o'r man lle roedd y cronfeydd yn cael eu cadw ar hyn o bryd a'u trosglwyddo i gronfa'r Gweithredwr rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod hyn yn debygol o gymryd ychydig o flynyddoedd a byddai angen cynllunio pontio'n ofalus. Yn y cyswllt hwn nodwyd bod y Gr?p Trysoryddion wedi sefydlu gweithgor swyddogion i ystyried y trefniadau pontio o ran cynllunio a rhannu costau hefyd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r amserlen ar gyfer penodi'r Gweithredwr ynghyd â chynnydd y prosiect.

 

7.

CYTUNDEB RHWNG-AWDURDODAU pdf eicon PDF 211 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad oedd yn rhoi manylion am gylch gwaith a gweithdrefnau'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu, fel y nodwyd yn y Cytundeb Rhwng Awdurdodau a gytunwyd gan bob un o'r 8 awdurdod lleol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod cylch gwaith a gweithdrefnau'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu, fel y nodwyd yn y Cytundeb Rhwng Awdurdodau, yn cael eu cymeradwyo.

 

8.

NODIADAU CYFARFODYDD Y GWEITHGOR SWYDDOGION pdf eicon PDF 272 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd nodiadau cyfarfodydd diweddar y gweithgor swyddogion wedi cael eu dosbarthu i'r Pwyllgor a rhoddwyd gwybod iddynt am y materion oedd wedi cael eu trafod. Nodwyd y byddai unrhyw faterion y nododd y Cyd-bwyllgor Llywodraethu fod angen ymchwilio ymhellach iddynt yn cael eu cyfeirio at y gweithgor swyddogion.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

8.1 bod nodiadau cyfarfodydd y gweithgor swyddogion a gynhaliwyd ar 10 Mai 2017 a 16 Mehefin 2017 yn cael eu derbyn;

 

8.2 bod y geiriad 'Partneriaeth Pensiwn Cymru' yn cael ei gadarnhau fel enw'r trefniadau cyfuno pensiynau yng Nghymru;

 

8.3 ystyried y posibilrwydd o aildrefnu cyfarfod y Cyd-bwyllgor Llywodraethu a oedd i'w gynnal ar 20 Rhagfyr 2017 oherwydd nad yw rhai aelodau ar gael ar y dyddiad hwnnw.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau