Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr L. Bowen, J. Davies, P. Edwards, L. Evans, T. Higgins, K. Howell, H. Shepardson, A. Speake, D.E. Williams, D. Williams a J.E. Williams

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

K. Lloyd

H. Davies

G. John

A. Davies

D. Nicholas

E. Schiavone

9 - Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - Diweddariadau i Ddisgresiwn y Cyflogwr Medi 2017

Personol ac Ariannol

K. Madge

10.5 - Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar Berfformiad y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin 2016/17

Ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol

Ei wraig yn gweithio i Fwrdd Iechyd Hywel Dda

J. Morgan – Cyfarwyddwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol,

C. Moore – Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol,

R. Mullen – Cyfarwyddwr yr Amgylchedd,

W. Walters – Cyfarwyddwr Adfywio a Pholisi

G. Morgans – Cyfarwyddwr Addysg a Phlant Dros Dro

L. Rees-Jones – Pennaeth Gweinyddiaeth a’r Gyfraith

P. Thomas – Prif Weithredwr Cynorthwyol – (Rheoli Pobl a Pherfformiad)

9 - Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – Diweddariadau i Ddisgresiwn y Cyflogwr Medi 2017

Aelodau'r Cynllun Pensiwn

 

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·        Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i Gôr Merched Sir Gâr ar gyrraedd yr ail safle yng nghystadleuaeth Côr y Flwyddyn Eurovision 2017. Dywedodd fod y Côr, a gaiff ei redeg gan Wasanaeth Cerdd Sir Gaerfyrddin, yn cynnwys 42 o ddisgyblion uwchradd o'r Sir a fu'n cynrychioli Cymru a'r Deyrnas Unedig yn y gystadleuaeth ryngwladol a gynhaliwyd yn Riga, Latvia ar ôl ennill Cystadleuaeth Côr Cymru ym mis Ebrill 2017.                                            

Mynegodd y Cynghorydd G. Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant, y farn y dylai'r Sir gyfan fod yn falch o gyflawniadau'r Côr, a oedd yn pwysleisio pa mor bwysig yw hi fod y sir yn cadw ei gwasanaeth cerdd ar gyfer y dyfodol, ac a oedd yn darparu ffenestr siop i'r Sir.

(NODER: am 11.45 y bore daeth y Côr i Gyfarfod y Cyngor a pherfformio nifer o'u caneuon.  Yn dilyn y perfformiad cyflwynodd Cadeirydd y Cyngor tlws Côr Cymru i Arweinydd y Côr, Mr Islwyn Evans. Mynegodd y Prif Weithredwr ei werthfawrogiad i'r Côr ac i staff y gwasanaeth cerdd am eu holl waith caled yn arwain at y gystadleuaeth a hefyd am berfformiad y Côr ar gyfer y Cyngor y bore hwnnw. Dywedodd y byddai pob aelod o'r Côr yn derbyn plac oddi wrth y Cyngor yn coffáu eu cyflawniad).

·        Estynnodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i Harriet Alsop-Bingham, aelod 16 oed o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, ar dderbyn Gwobr Plentyn Dewr Radio Sir Gâr.

·        Cyfeiriodd y Cadeirydd at noson gerddorol y bu'n bresennol ynddi ac a drefnwyd gan Gr?p Syria Sir Gâr, ac adroddodd fod y Gr?p wedi gofyn iddo fynegi ei ddiolchiadau i aelodau etholedig y Cyngor, a'r staff, am yr holl gymorth a gynigiwyd i'r teuluoedd o Syria a oedd wedi'u syfrdanu gan yr holl garedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt.

·        Mynegodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad â theulu'r cyn-Gynghorydd Sir, Wilf Davies, a fu'n cynrychioli Ward Llangeler rhwng 1996-2008 ac a fu hefyd yn Gynghorydd ar yr hen Gyngor Dosbarth Caerfyrddin.

·        Mynegodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad â theulu Janice Dudley, Maer cyfredol Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot, a oedd yn ddiweddar wedi marw yn yr ysbyty.

·        Mynegodd y Cynghorydd S.L. Davies ei gwerthfawrogiad i drefnwyr a gwirfoddolwyr yn Wardiau Llwynhendy a Pemberton a fu wrthi'n darparu cyfanswm o 319 o brydau i blant ac oedolion mewn angen yn wardiau Llwynhendy, Bynea, a Phenygraig, a hynny mewn 7 sesiwn dros gyfnod o dair wythnos yn ystod y gwyliau haf diweddar.

·        Adroddodd y Cynghorydd G. Thomas am ymdrechion Ceri Murphy o Langennech a fyddai'n cystadlu yn ei driathlon cyntaf yn y Mwmbwls ar 7 Hydref mewn ymgais i godi £2,000 tuag at ymchwil canser i gefnogi aelod agos o'r teulu sy'n dioddef o'r salwch. Gofynnodd a fyddai'r aelodau a oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn gallu noddi Ceri yn ei ymdrechion.

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR YR 19EG GORFFENNAF, 2017 pdf eicon PDF 376 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriwyd at y bleidlais gofnodedig a gymerwyd yng nghyswllt Cofnod 9 – “Apwyntiadau i'r Tîm Rheoli Corfforaethol” a thynnwyd sylw'r Cyngor at y ffaith fod y Cynghorydd Cefin Campbell wedi cael ei gofnodi'n anghywir fel un a bleidleisiodd yn erbyn y newid yn hytrach nag atal ei bleidlais.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 19Gorffennaf 2017 yn gofnod cywir yn amodol ar newid yr uchod.

5.

YSTYRIED Y RHYBUDDION O GYNNIG CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

5.1

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD DERYK CUNDY:-

“Lle ceisir am arian Adran 106 ar gyfer unrhyw ddatblygiad newydd, boed yn ddatblygiad masnachol neu dai, a lle bo'r datblygiad yn fwy na 15 o dai, dylid cynnwys y cynghorwyr sir lleol a'r cynghorwyr cymuned leol ar gyfer y ward honno yn ystod y "cam cyn cynllunio" neu "gam y cais cynllunio" parthed unrhyw drafodaethau yngl?n ag Adran 106 gyda'r Datblygwr a Swyddogion y Cyngor. Bwriad hyn yw rhoi cyfle iddynt ychwanegu eu gwybodaeth leol ac anghenion lleol y Gymuned a gynrychiolir ganddynt at y cytundeb terfynol, a hynny cyn y cytunir ar symiau a thelerau ac amodau Adran 106 a chyn ceisio am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad a nodwyd”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Cyngor y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd D. Cundy:-

 

“Lle ceisir am arian Adran 106 ar gyfer unrhyw ddatblygiad newydd, boed yn ddatblygiad masnachol neu dai, a lle bo'r datblygiad yn fwy na 15 o dai, dylid cynnwys y cynghorwyr sir lleol a'r cynghorwyr cymuned lleol ar gyfer y ward honno yn ystod y "cam cyn cynllunio" neu "gam y cais cynllunio" parthed unrhyw drafodaethau yngl?n ag Adran 106 gyda'r Datblygwr a Swyddogion y Cyngor. Bwriad hyn yw rhoi cyfle iddynt ychwanegu eu gwybodaeth leol ac anghenion lleol y Gymuned a gynrychiolir ganddynt at y cytundeb terfynol, a hynny cyn y cytunir ar symiau a thelerau ac amodau Adran 106 a chyn ceisio am ganiatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad a nodwyd”.

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Cafodd y cynigydd gyfle i siarad o blaid y Cynnig, ac amlinellodd y rhesymau dros ei gyflwyno.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau o blaid ac yn erbyn y Cynnig, ac ar ôl hynny

 

PENDERFYNWYD peidio â chefnogi'r Rhybudd o Gynnig.

 

5.2

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD JEFF EDMUNDS

Yn sgil y toriadau diweddar i'r gyllideb addysg gwelwyd, ymhlith pethau eraill, fod meintiau dosbarthiadau mewn rhai ysgolion wedi cynyddu ymhell dros 30, ac mae gan un ysgol lle'r wyf yn llywodraethwr ond dau ddosbarth lle mae nifer y disgyblion yn is na 30.

Ein plant yw dyfodol ein cenedl ac fel y sawl sy'n gwneud penderfyniadau rydym yn gyfrifol am sicrhau bod yr addysg orau bosibl ar gael i'r holl blant yn Sir Gaerfyrddin. Gan gadw'r uchod mewn cof, gofynnwn i'r cyngor hwn gymeradwyo'r cynnig canlynol:

“Cyn ystyried unrhyw doriadau ariannol i'r gyllideb addysg, bod gwerthusiad llawn a phriodol yn gael ei gynnal o effaith a chanlyniadau posibl toriadau o'r fath. Bod ymgynghoriad priodol â phob ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn cael ei gynnal a bod canlyniad y gwerthusiad a'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor llawn cyn cyfarfod y Cyngor am gyllideb 2018/19. Bydd hyn yn golygu bod pob aelod yn gwbl ymwybodol o'r ffeithiau a phwysigrwydd eu pleidlais ar fater mor hanfodol bwysig”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Jeff Edmunds:-

 

Yn sgil y toriadau diweddar i'r gyllideb addysg gwelwyd, ymhlith pethau eraill, fod meintiau dosbarthiadau mewn rhai ysgolion wedi cynyddu ymhell dros 30, ac mae gan un ysgol lle'r wyf yn llywodraethwr ond dau ddosbarth lle mae nifer y disgyblion yn is na 30.

Ein plant yw dyfodol ein cenedl ac fel y rheiny sy'n gwneud penderfyniadau rydym yn gyfrifol am sicrhau bod yr addysg orau bosibl ar gael i'r holl blant yn Sir Gaerfyrddin. Gan gadw'r uchod mewn cof, gofynnwn i'r cyngor hwn gymeradwyo'r cynnig canlynol:

 

“Cyn ystyried unrhyw doriadau ariannol i'r gyllideb addysg, bod gwerthusiad llawn a phriodol yn cael ei gynnal o effaith a chanlyniadau posibl toriadau o'r fath. Bod ymgynghoriad priodol â phob ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn cael ei gynnal a bod canlyniad y gwerthusiad a'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor llawn cyn cyfarfod y Cyngor am gyllideb 2018/19. Bydd hyn yn golygu bod pob aelod yn gwbl ymwybodol o'r ffeithiau a phwysigrwydd eu pleidlais ar fater mor hanfodol bwysig”.

 

Eiliwyd y Cynnig.

 

Cynigiwyd y gwelliant canlynol i'r Cynnig gan y Cynghorydd Glynog Davies a chafodd ei eilio:-

 

“Cyn ystyried unrhyw doriadau ariannol i'r gyllideb addysg, bod gwerthusiad llawn a phriodol yn cael ei gynnal o effaith a chanlyniadau posibl toriadau o'r fath. Bod ymgynghoriad priodol â phob ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn cael ei gynnal a bod canlyniad y gwerthusiad a'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gyflwyno i'r Cyngor llawn cyn cyfarfod y Cyngor am gyllideb 2018/19. Mae'r wybodaeth a geir o ganlyniad hefyd i gael ei chyflwyno fel tystiolaeth i Lywodraeth Cymru, gan ofyn am sicrwydd y bydd y grant cymorth refeniw ar gyfer 2018/19 yn cynnwys cyllid digonol ar gyfer addysg, gan nad yw mwyach wedi'i glustnodi ganddynt. Bydd hyn yn golygu bod pob aelod yn gwbl ymwybodol o'r ffeithiau a phwysigrwydd eu pleidlais ar fater mor hanfodol bwysig”.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr nad oedd y gwelliant yn negyddu'r Cynnig a'i fod felly'n dderbyniol.

 

Dywedodd y Cynigydd (gyda chefnogaeth ei eilydd) ei fod yn hapus i dderbyn y newid a rhoddwyd cyfle iddo siarad o blaid y Cynnig gan amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd y Gwelliant siarad o blaid hynny, ac amlinellodd y rhesymau dros ei gyflwyno.

 

Gwnaed sawl datganiad o blaid y Cynnig, fel y'i diwygiwyd, ac yn dilyn hynny daeth yn Gynnig Terfynol a

 

PHENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gan y Cyngor fod y Cynnig Terfynol yn cael ei gefnogi.

6.

CWESTIYNAU GAN AELODAU:-

Dogfennau ychwanegol:

6.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ANDREW JAMES I'R CYNGHORYDD MAIR STEPHENS - DIRPRWY ARWEINYDD Y CYNGOR

Cysylltiad Band Eang Gwael.

Mae Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr yn y 5ed safle mewn perthynas â'r ardaloedd yn y Deyrnas Unedig sydd â'r cysylltiad arafaf o ran band eang cyflym iawn.

Mae Cynghorwyr Sir Gaerfyrddin wedi derbyn dau gyflwyniad ar wahân yn y Siambr gan swyddogion British Telecom yn ystod 2014 a 2016 a oedd yn addo gwella cyflymdra ein cysylltiad band eang yn Sir Gaerfyrddin.

Mae'r adroddiad diweddaraf yn nodi mai'r gorau y gallwn ei ddisgwyl bellach yw 2020!!!

Mae'r sefyllfa'n newid yn gyson gydag ychydig o gynnydd ac addewidion gwag.

Sut y disgwylir i bobl, gan gynnwys cynghorwyr, gyflawni eu dyletswyddau a bod yn effeithlon yn y gweithle pan fydd band eang cyfyngedig mewn rhai ardaloedd yn Sir Gaerfyrddin?

Gofynnaf yn garedig i Gyngor Sir Caerfyrddin ysgrifennu at British Telecom a mynnu bod rhaglen waith â blaenoriaeth yn cael ei rhoi ar waith i unioni'r broblem fawr sydd gennym yn ardal Dwyrain Caerfyrddin/Dinefwr”.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Cysylltiad Band Eang Gwael.

Mae Dwyrain Caerfyrddin / Dinefwr yn y 5ed safle mewn perthynas â'r ardaloedd yn y Deyrnas Unedig sydd â'r cysylltiad arafaf o ran band eang cyflym iawn neu, yn hytrach, diffyg hyn.

Mae Cynghorwyr Sir Gaerfyrddin wedi derbyn dau gyflwyniad ar wahân yn y Siambr gan swyddogion British Telecom yn ystod 2014 a 2016 a oedd yn addo gwella cyflymdra ein cysylltiad band eang yn Sir Gaerfyrddin.

 

Mae'r adroddiad diweddaraf yn nodi mai'r gorau y gallwn ei ddisgwyl bellach yw 2020!!!

 

Mae'r sefyllfa'n newid yn gyson gydag ychydig gynnydd yn cael ei wneud ac yn llawn addewidion gwag.

 

Sut y disgwylir i bobl, gan gynnwys Cynghorwyr, gyflawni eu dyletswyddau a bod yn effeithlon yn y gweithle pan fydd band eang cyfyngedig mewn rhai ardaloedd yn Sir Gaerfyrddin? Rwyf yn gwneud y cais hwn mor bell â Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, ond hoffwn dynnu sylw at y ffaith fod sawl Cynghorydd arall yn yr Awdurdod wedi fy nghefnogi yn hyn o beth ac wedi dweud eu bod nhw hefyd yn dioddef o hyn, yn enwedig yn Nhre-lech ac mewn ardaloedd gwledig eraill. Rwyf felly'n dweud hynny ar ran yr awdurdod cyfan.

 

Gofynnaf yn garedig i Gyngor Sir Caerfyrddin ysgrifennu at British Telecom a mynnu bod rhaglen waith â blaenoriaeth yn cael ei rhoi ar waith i unioni'r broblem fawr sydd gennym yn ardal Dwyrain Caerfyrddin/Dinefwr”.

 

Hoffwn hefyd wneud gwelliant i'r uchod a gofyn i'r Cynghorydd Mair Stephens a fyddai'n fodlon gwneud hynny, ac wrth gwrs y siambr gyfan. Yn ddiweddar gwnaethom sefydlu Fforwm Cefn Gwlad yn Sir Gaerfyrddin, ac un o'r materion y maent wedi dweud y byddant yn ei wneud yw cael y siaradwr i ymweld â'r fforwm cefn gwlad lle byddai yna naw aelod ar draws y pleidiau yn bresennol yn y cyfarfod. Felly, os gallai hynny fod yn ystyriaeth, ac adrodd yr ymateb oddi wrth British Telecom yn ôl i'r Cyngor llawn. Credaf y byddai hynny'n drefn lywodraethu dda. Felly, os gallai'r Cynghorydd Mair Stephens gadw hynny mewn cof, byddwn yn ddiolchgar dros ben.

 

Ymateb gan y Cynghorydd Mair Stephens, Dirprwy Arweinydd y Cyngor:-

 

Diolch i chi Gynghorydd James am godi'r mater hwn. Ac, wrth gwrs, mae'n bwnc pwysig iawn i bawb yn Sir Gaerfyrddin.

 

Fel yr ydych yn gywir i ddweud, yn yr erthygl a gyhoeddwyd gan Wales Online ym mis Awst 2017 datgelwyd mai Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr oedd yr etholaeth seneddol 5ed waethaf am gyflymder band eang ac, mae'n gas gen i ddweud hyn, y gwaethaf yng Nghymru. Roedd yr erthygl yn gysylltiedig ag adroddiad a gyhoeddwyd gan y British Infrastructure Group ac yn seiliedig ar gyflymderau band eang a brofwyd gyda defnyddwyr gan y Cylchgrawn ‘Which’.

 

Ceir cyfanswm o ryw 14,000 o dai ac eiddo yn ardal Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr sydd â chyflymderau band eang annigonol, sydd yn hollol annerbyniol. Mae hyn yn gosod ein cymunedau gwledig mewn sefyllfa o anfantais sylweddol ac yn llesteirio gallu busnesau gwledig i gystadlu mewn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.1

6.2

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEVIN MADGE I'R CYNGHORYDD DAVID JENKINS - AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS ADNODDAU

“Wrth i staff gweinyddol gael eu symud o ddepo Glanaman i ddepo Llanelli dros yr wythnosau diwethaf, ac wrth i staff eraill gael eu cwtogi, a allwch chi roi sicrwydd i mi a'r Cyngor fod Depo Glanaman yn ddiogel o dan y weinyddiaeth hon a arweinir gan Plaid”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Wrth i staff gweinyddol gael eu symud o ddepo Glanaman i ddepo Llanelli dros yr wythnosau diwethaf, ac wrth i staff eraill gael eu cwtogi, a allwch chi roi sicrwydd i mi a'r Cyngor fod Depo Glanaman yn ddiogel o dan y weinyddiaeth hon a arweinir gan Plaid”.

 

Ymateb y Cynghorydd David Jenkins - yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau:-

 

Diolch i chi am eich cwestiwn, y byddaf yn ymateb iddo yn y modd canlynol:

Gwyddoch, fel cyn-Arweinydd y Cyngor, mai dyletswydd y weinyddiaeth bresennol yw gosod y weledigaeth ar gyfer y cyfeiriad y bydd y Sir yn teithio iddo yn y tymor canolig a'r tymor hir.

 

Rydym ni, fel gweinyddiaeth, wedi nodi'n glir bod twf economaidd ac amddiffyn gwasanaethau rheng flaen yn uchel ar ein hagenda.

 

Mae gennym raglen gyfalaf £290 miliwn ar waith ar gyfer y 5 mlynedd nesaf ac, yn ogystal â hynny, yr hyn y byddwn yn ei ennill o raglen Bargen Ddinesig Abertawe ac felly rydym ar y trywydd iawn er mwyn cyflawni ein blaenoriaeth gyntaf.

 

O ran cyflawni ein hail flaenoriaeth, sef amddiffyn y gwasanaeth rheng flaen a gyflwynir, rydym yn wynebu set ddifrifol o heriau sydd o ganlyniad, yn bennaf, i leihad yn y cyllid a dderbyniwn oddi wrth Lywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar sail amcangyfrif dyfaliad gorau o ostyngiad o 2% yn y Grant Cynnal Refeniw sydd yn cyfateb i doriad o £5 miliwn i'n cyllid sydd ar gael ac o ychwanegu ffactorau dilysu eraill at hyn megis cynnydd posibl o 2% yn ein bil cyflogau, chwyddiant ac effeithiau economaidd eraill rydym yn rhagweld, pan fydd yr holl ffactorau hyn yn cael eu cymryd i ystyriaeth, y byddwn yn edrych ar wneud iawn am ddiffyg o £12 miliwn yng nghyllideb y flwyddyn nesaf. Ac af ymlaen i ddweud ein bod hefyd yn disgwyl swm tebyg yn y flwyddyn ddilynol a'r flwyddyn ddilynol wedyn, felly rydym yn edrych ar wneud gwerth £36m o doriadau dros y tair blynedd nesaf.

 

Yn wyneb y broblem hon gofynnir i Adrannau gyflwyno cynigion am arbedion gweithredol/rheolaethol er mwyn ceisio mynd i'r afael â'r diffyg hwn. Cafwyd siarad ers peth amser yn awr yn Adran yr Amgylchedd am Resymoli Depos, trwy'r hyn y byddai modd darparu gwasanaethau o nifer lai o ddepos a fyddai'n arwain at ddefnydd mwy effeithlon o lafur, offer a pheiriannau gan felly arbed arian. Yn ogystal, gallai'r tir a'r adeiladau a fyddai'n cael eu rhyddhau gan y trefniant hwn wedyn fod ar gael at ddefnydd amgen a allai naill ai gynhyrchu ffrydiau incwm, derbyniadau cyfalaf neu gyfleoedd eraill am waith.

 

Os daw'r swyddogion ag agos busnes ymlaen i'r Bwrdd Gweithredol sy'n dangos y gellid gwneud arbedion sylweddol trwy fabwysiadu'r cynnig byddai rhaid i ni, fel Aelodau'r Bwrdd Gweithredol, ystyried o ddifrif yr hyn a roddir ger ein bron. Ac os, ar ôl rhoi ystyriaeth briodol i bob peth o blaid ac yn erbyn y cynnig, y penderfynir cymeradwyo'r cynlluniau, yna gallai'r penderfyniad hwnnw o bosibl arwain at gau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.2

6.3

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEVIN MADGE I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES - AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

“Yn sgil adroddiad gwael Estyn yn ddiweddar ynghylch Ysgol Gymraeg Rhydaman, a bod adroddiad Estyn wedi disgrifio'r ysgol fel un annigonol a bod y posibilrwydd o wella hefyd yn cael ei ystyried yn annigonol, pa gamau gweithredu y mae'r Bwrdd Gweithredol a'r Cyngor yn eu cymryd i gefnogi'r ysgol i sicrhau y bydd gwelliannau yn y dyfodol?”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Nododd y Cyngor fod y Cynghorydd Madge wedi tynnu'n ôl ei gwestiwn i'r Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd dros Addysg a Phlant.

 

6.4

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD KEVIN MADGE I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE - ARWEINYDD Y CYNGOR

"Wrth i'r Bwrdd Gweithredol dynnu'n ôl yr adroddiad ynghylch y cynllun buddsoddi Gweithio Ystwyth ar ddyfodol Neuadd y Dref Rhydaman a'r Hen Lyfrgell, a allwch chi roi sicrwydd i ni bellach fod Neuadd y Dref a'r Hen Lyfrgell yn ddiogel o dan y weinyddiaeth hon a arweinir gan Plaid”.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"Wrth i'r Bwrdd Gweithredol dynnu'n ôl y cynllun buddsoddi Gweithio Ystwyth ar ddyfodol Neuadd y Dref Rhydaman a'r Hen Lyfrgell, a allwch chi roi sicrwydd i mi yn awr fod Neuadd y Dref a'r Hen Lyfrgell yn ddiogel o dan y weinyddiaeth hon a arweinir gan Plaid”.

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

Mae'r cwestiwn gan y Cynghorydd Madge yn un sydd allan o'i le ac sydd heb gael ei ystyried yn briodol, ac nid yw'n gwneud unrhyw ffafrau iddo'i hun yn y siambr hon nac yn ei gymuned leol chwaith trwy ofyn cwestiynau o'r fath sy'n seiliedig ar godi bwganod gwleidyddol a rhagdybiaethau mytholegol. Dylai eich cwestiwn fod wedi dweud bod yr adroddiad wedi cael ei dynnu'n ôl, a hynny er mwyn ei ystyried ymhellach. Mae hynny'n golygu gohirio, oherwydd ein bod eisiau rhoi rhagor o ystyriaeth i'r mater. Bydd yr ystyriaeth honno a'r adroddiad hwnnw ar Weithio Ystwyth yn cael eu cyflwyno'n ôl i'r Bwrdd Gweithredol. Wedi hynny, yn ôl ein gweithdrefnau a osodwyd gan y Cyngor hwn, hynny yw ar ôl i'r mater gael ei drafod gan y Bwrdd Gweithredol, byddaf yn rhydd i ateb cwestiynau yn seiliedig ar yr adroddiad a drafodwyd. Hyd yma nid oes unrhyw adroddiad o'r fath wedi cael ei drafod gan y Bwrdd Gweithredol felly mae'r dybiaeth a wnaed gan y Cynghorydd Madge, ac eraill, a byddaf yn eu dal i gyfrif am hynny pan fyddwn wedi trafod yr adroddiad hwnnw yn y Siambr hon ac yn ehangach gan fod y rhagdybiaethau a wnânt ar sail myth llwyr wedi tarfu ar ein gweithwyr ac nid yw'n gwneud unrhyw beth i roi tawelwch meddwl iddynt, a hwythau'n gwneud eu gorau glas o dan yr amodau presennol. Rwyf yn llwyr gefnogol i weithio ystwyth ble mae hynny'n ychwanegu at effeithlonrwydd y staff ac ar eu gallu i ymgymryd â'u dyletswyddau'n briodol a hyd yn oed i raddau mwy nag y maent yn ei wneud yn awr. Ond, nid yw'r adroddiad hwnnw ar weithio ystwyth wedi cael ei ystyried eto. Felly, mae'r cwestiwn yn seiliedig ar fyth a gaiff ei bedlera gan y gwleidyddion lleol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Madge y cwestiwn atodol canlynol:- 

 

Pam y gwnaethoch roi'r mater hwn i'r Bwrdd Gweithredol ac wedyn codi braw ar bawb ym mis Awst pan oedd pawb ar eu gwyliau.

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor

 

Mae’r ateb yn un digon syml, nid wyf wedi gwneud hyn. Nid yw wedi cyrraedd y Bwrdd Gweithredol eto.

6.5

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES - AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

"Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, mae nifer yr athrawon yn Sir Gaerfyrddin wedi lleihau gan 60, a chollwyd 199 o gynorthwywyr dysgu eraill o ganlyniad i fesurau cyni diweddar. A all yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg roi gwybod faint o athrawon a chynorthwywyr dysgu fydd, yn ei farn ef, yn cael eu colli gyda'r toriad arfaethedig o £ 4,989,000 i gyllideb ddirprwyedig ysgolion ar gyfer 2018/19?”

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, mae nifer yr athrawon yn Sir Gaerfyrddin wedi lleihau gan 60, a chollwyd 199 o gynorthwywyr dysgu eraill o ganlyniad i fesurau cyni diweddar. A all yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg roi gwybod faint o athrawon a chynorthwywyr dysgu fydd, yn ei farn ef, yn cael eu colli gyda'r toriad arfaethedig o £4,9m i gyllideb ddirprwyedig ysgolion ar gyfer 2018/19?

Ymateb gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

Rwyf eisoes wedi nodi ein bod, yn anffodus, yn y seithfed flwyddyn o gyni ariannol ac mae'r sector cyhoeddus wedi cael ergyd go iawn. Rydym yn darllen am hyn yn gyson, rydym yn ei weld yn ein papurau, ar y radio, ar y teledu, llai o nyrsys yn ein hysbytai, llai o blismyn ar ddyletswydd, a dim ond y bore yma nododd y Cynghorydd Madge y pryderon sydd yn y Frigâd Dân. Mae'r gweithlu mewn awdurdodau lleol ledled Cymru wedi cael ei dorri. Rydym ni fel awdurdod wedi wyneb toriad o £53m yn y gyllideb yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Mae hyn wedi cael effaith. Ein gwaith yw gwneud ein gorau glas gyda'r gyllideb a roddir i ni. Daw'r arian o Lundain sy'n cyrraedd trwy Gaerdydd. Mae'r niferoedd a ddyfynnir gennych yn gywir ond hoffwn atgoffa'r Cyngor fod yna doriadau hefyd yn 2013, a thoriadau pellach yn 2014 pan oedd yr awdurdod hwn dan arweinyddiaeth y Blaid Lafur. Nawr, rhaid i ni dderbyn fod y sefyllfa staffio yn ein hysgolion yn newid am amryw o resymau, nid oherwydd cyllidebau yn unig. Mae'r ysgolion yn mynd ati'n rheolaidd i adolygu strwythurau staffio, dyna yw rôl y Corff Llywodraethu ac, o ganlyniad, caiff rhai staff eu rhyddhau os ydynt yn ychwanegol at ofynion yr ysgol. Mae gennym niferoedd disgyblion sy'n cwympo. Ni allaf orfodi pobl i fynd i fyw yn Sir Gaerfyrddin wledig ac, yn aml iawn, mae'r bobl hynny sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn cludo eu plant i'r trefi ar eu ffordd i'r gwaith.
 Oes, mae yna newidiadau wedi bod i gyllidebau'r ysgolion, mae yna doriadau wedi bod mewn grantiau sy'n mynd i ysgolion o Gaerdydd. Efallai y bydd rhai staff sydd o oedran penodol yn hoffi cael eu hystyried ar gyfer dileu swydd yn wirfoddol. Mae'r sefyllfa yn eithaf cymhleth, ac mae'r niferoedd yn gostwng am amryw o resymau. Ledled Cymru mae yna ostyngiad o 583 wedi bod yn niferoedd yr athrawon yn ystod y cyfnod yr ydych yn cyfeirio ato. Dydyn ni ddim yn unigryw, mae hyn wedi digwydd mewn 19 allan o'r 22 o'r awdurdodau lleol ledled Cymru. Sut y gallaf fi, neu unrhyw un arall, ateb y cwestiwn ar niferoedd y dyfodol. Rwyf am amddiffyn staff rheng flaen. Fel y gwyddom i gyd rydym wedi cael swyddog TIC (Trawsnewid i Wneud Cynnydd) newydd a fydd yn cynorthwyo cyrff llywodraethu, a chredaf fod angen arweiniad a chymorth ar rai cyrff llywodraethu. Rhaid edrych ar bethau mewn modd radical. Nhw sydd yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.5

6.6

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES - AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

"A all yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y nifer o leoedd gwag mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn Sir Gaerfyrddin?"

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"A all yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y nifer o leoedd gwag mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Sir Gaerfyrddin?"

Ymateb gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:

Ein rôl, fel y gwyddoch, yw sicrhau bod yna ddigon o leoedd ar gael yn ein hysgolion i ddiwallu'r angen a bod yna ysgol ar gael i ddiwallu angen pob disgybl. Mae'n ofynnol i ni hefyd edrych ar nifer y lleoedd gwag ac, unwaith eto, mae'n ofynnol i ni wneud hyn yn flynyddol. Ym mis Ionawr eleni roedd yna 4,404, mae angen i ni gofio'r pedwar, 4,404 o leoedd gwag, 2,628 yn y sector cynradd, 1,776 yn y sector uwchradd. Mae'r niferoedd a nodwyd ar gyfer y sector cynradd, a rhaid i mi ddweud hyn, nid wyf yn cuddio unrhyw beth oddi wrthych, ymhlith yr uchaf yng Nghymru. Mae'n is yn y sector uwchradd sef 14%. Dyma'r ffigurau a roddaf i chi'r bore yma.

Gofynnodd y Cynghorydd James y cwestiwn atodol canlynol:

Yn ôl y ffigurau a gefais amcangyfrifwyd bod yna 3,000 o leoedd gwag ledled Sir Gaerfyrddin a fyddai wedi costio £1m yn ôl adroddiad Estyn. Er gwaethaf y ffaith i'ch rhagflaenydd geisio rhoi sicrwydd i'r Bwrdd Gweithredol ym mis Chwefror y byddai camau'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r mater hwn, mae'r awdurdod hwn ond wedi arbed £77k yn y maes hwn. Sut y gallwn ninnau, a'r cyhoedd, fod â hyder yn eich plaid y byddwch yn mynd ati mewn gwirionedd i leihau nifer y lleoedd gwag?

Ymateb gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

Nid wyf yn sefyll yma heddiw i ddadlau dros gau ysgolion gwledig. Dyma sut y byddem yn arbed y lleoedd gwag hynny gan mai dyna ble mae llawer ohonynt. Ond nid wyf yn barod i wneud hynny. Mae'n sefyllfa debyg yng Ngwynedd, Ceredigion ac, fel y dylech wybod, Castell-nedd Port Talbot, eich hen awdurdod. Mae ganddynt i gyd ffigurau uwch na'n rhai ni, a dylai hyn fod yn destun pryder iddynt hwy fel y mae'n destun pryder i ninnau. Rydym wedi cymryd nifer o gamau i leihau'r niferoedd. Trwy uno dwy ysgol gynradd ym Mhorth Tywyn, rydym wedi arbed 53 o leoedd gwag. Rydym yn cymryd camau yn y cyfeiriad cywir trwy greu Ysgol Bro Dinefwr, gan gau Ysgol Tregib ac Ysgol Pantycelyn. Gwnaethom arbed 313 o leoedd gwag. Felly, allwch chi ddim dweud wrthym nad ydym yn ymdrechu i wella'r sefyllfa. Rydym yn gwneud ein gorau glas.

6.7

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD BILL THOMAS I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES - AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

"Pa effaith y bydd y toriadau o £18 miliwn i'r gyllideb Addysg a Phlant, a gyflwynwyd i gyfarfod y Bwrdd Gweithredol ar 31 Gorffennaf, yn ei chael ar faint dosbarthiadau dros y tair blynedd nesaf, ym marn yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant?"

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"Pa effaith y bydd y toriadau o £18 miliwn i'r gyllideb Addysg a Phlant, a gyflwynwyd i gyfarfod y Bwrdd Gweithredol ar 31 Gorffennaf, yn ei chael ar faint dosbarthiadau dros y tair blynedd nesaf, ym marn yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant?"

 

Ymateb gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

Rhaid cofio, Gadeirydd, mai amcangyfrif oedd y ffigurau a ddarparwyd i'r Bwrdd Gweithredol ddiwedd mis Gorffennaf, a phwysleisiaf fod rhaid derbyn hynny. Gwnaethant amcangyfrif, neu ddyfalu os hoffwch chi, na fyddai addysg yn cael ei ddiogelu gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn rhoi pwysau ar Lywodraeth Lafur Cymru yng Nghaerdydd i edrych ar hyn o ddifri a dyna pam fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cwrdd â Kirsty Williams y bore yma, ac yn ôl y ffigurau hyn bydd addysg yn dioddef ergyd yn union yr un peth â'r adrannau eraill. Ond, fy ngobaith mawr yw y bydd Kirsty Williams y bore yma yn gwrando ar y pryder a fynegir yn holl siroedd Cymru ac y bydd tystiolaeth yn cael ei chyflwyno iddi y bore yma, a hynny ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. A gaf eich cyfeirio at ‘Reoliadau Meintiau Dosbarthiadau Cymru 2013’. Mi wnaf anfon y ddolen atoch fel y gallwch weld eich hun beth yw'r sefyllfa. Mae llawer o'r wybodaeth hon eisoes ar gael i chi edrych arni. Nid fi yw eich ymchwilydd. Mae dyletswydd arnoch chi hefyd i chwilio am y wybodaeth hon. Does dim rhaid gwneud hynny'n gyhoeddus fel hyn. Mae ar gael i bawb ei gweld.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Thomas y cwestiwn atodol canlynol:-

 

Pa sicrwydd allwch ei roi i rieni nad yw meintiau dosbarthiadau yn mynd i gynyddu eto?

 

Ymateb gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

Mae'n flin gennyf Gynghorydd Thomas, mae'n gwestiwn damcaniaethol. Nid ydym wedi cael ein cyllideb. Felly, sut gallaf roi ateb i chi'r bore yma? Byddwn i gyd yn ystyried y cyllidebau a bydd gennych chi, a phawb arall, gyfle i gymryd rhan yn ein hymgynghoriadau ac rwyf yn gobeithio gwneud y gorau y gallaf dros addysg. Dyna'r cyfan y gallaf ei ddweud.

6.8

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD SHAREN DAVIES I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES - AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

"Gyda'r cyhoeddiad diweddar y bydd Ysgol Pontyberem yn cael ei datblygu, a fyddai’r aelod cabinet cystal â rhoi dyddiad cychwyn i'r Cyngor ar gyfer datblygu Ysgol Dafen".

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"Gyda'r cyhoeddiad diweddar y bydd Ysgol Pontyberem yn cael ei datblygu, a fyddai'r aelod cabinet cystal â rhoi dyddiad cychwyn i'r Cyngor ar gyfer datblygu Ysgol Dafen".

 

Y peth cyntaf yr hoffwn ei ddweud yw hyn; nid oes unrhyw gynghorwyr nac yn wir unrhyw un arall yn yr ardal hon wedi gofyn i mi am gyfarfod i drafod y sefyllfa yn Ysgol Dafen. Rydym i gyd yn ymwybodol o gynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif ac rydym ni, fel sir, wedi elwa'n sylweddol ar hyn ac rydym yn ddiolchgar iawn am y cyllid hwn. Ceir ysgolion newydd ar hyd a lled y sir. Ar hyn o bryd rydym yn cwblhau gwaith ar yr ysgolion hynny a oedd ym Mand A, ar hyn o bryd mae yna gontractwyr yn gweithio yn Ysgol Penrhos, Ysgol Trimsaran, Ysgol Coedcae, Ysgol Pontyberem ac Ysgol Parc y Tywyn. Ysgolion Band B fydd nesaf, er nad ydym yn hollol sicr eto faint y bydd rhaid i ni ei gyfrannu a faint fydd yn dod oddi wrth y llywodraeth; roedd hyn yn destun trafodaeth danbaid yng Nghaerdydd ddoe. Bydd y cynllun hwnnw'n cael ei roi ar waith rhwng 2019 a 2024 a, Sharen, nid yw Dafen hyd yn oed ar y rhestr honno eto ond eleni gwariwyd £175k ar do newydd a gwaith ailweirio yn Ysgol Dafen, gwariwyd £172k ar yr iardiau er mwyn bodloni'r rheoliadau Iechyd a Diogelwch ac rwyf wedi clywed gan awdurdod da fod Pennaeth yr ysgol yn hapus dros ben â'r hyn yr ydym wedi'i wneud ac yn ddiolchgar i ni am yr hyn a wnaethom. Felly, dyna'r buddsoddiad sydd wedi digwydd. Os wnewch chi siarad â'r aelod lleol dros Ddafen efallai y bydd ganddo ragor o wybodaeth i'w rhoi i chi.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Davies y cwestiwn atodol canlynol:-

 

Oni fyddai'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg yn cytuno, oherwydd y gwaith adeiladu newydd arfaethedig yn ardal Llwynhendy, y Bynea a Dafen, y dylai ysgol Dafen gael ei hystyried cyn gynted â phosibl ar gyfer ei hailddatblygu yn sgil yr angen mawr am adnewyddu'r ysgol. Byddai hyn yn helpu i ddarparu nid yn unig yr isadeiledd ar gyfer darpariaeth yr ysgol ond hefyd ar gyfer addysg y plant hynny.

 

Ymateb gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

Rhaid i ni gadw at weithdrefn sgorio lem a dyna sut y mae rhai ysgolion wedi'u cynnwys ym Mand A ac eraill ym Mand B. Ond, a allech chi ddod â'r dystiolaeth i mi ac mi wnaf yn bendant roi ystyriaeth i'r mater a byddaf yn siarad â'm swyddog i weld a oedd yna, o bosibl, gamgymeriad yn y system sgorio.
 Mi wnaf edrych ar hyn, ond rhaid i ni gadw at y system sgorio.

7.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

8.

ADOLYGIAD ETHOLIADOL SIR GAERFYRDDIN - CYFLWYNIAD GAN GOMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER, am 10.15 a.m., ac yn unol â darpariaethau Rheol Gweithdrefn y Cyngor 2(3) dygodd y Cadeirydd yr eitem hon ymlaen ar yr agenda i gael ei hystyried yn union ar ôl mabwysiadu  cofnodion y cyfarfod blaenorol)

Croesawodd y Cadeirydd Julie May (Comisiynydd Arweiniol), Steve Halsall (Prif Weithredwr), Matt Redmond (Dirprwy Brif Weithredwr) a Farhan Khan (Swyddog Adolygu) o Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru i'r cyfarfod, a oedd wedi'u gwahodd i wneud cyflwyniad i'r Cyngor ar y dull y byddai'r Comisiwn yn ei ddefnyddio i gynnal Adolygiad Etholiadol Sir Gaerfyrddin a sut y gellid gwneud sylwadau ar hynny.

 

Cynghorwyd y Cyngor ynghylch rôl annibynnol y Comisiwn yn y broses adolygu o dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, a oedd â'r nod o gynnig patrwm wardiau etholiadol ar gyfer holl ardal y cyngor, nid yr ardaloedd hynny lle ceir anghydraddoldeb etholiadol yn unig. Fel rhan o'r adolygiad byddai'r Comisiwn yn cynnig:-

·        Cyfanswm Nifer y Cynghorwyr;

·        Nifer a ffiniau'r wardiau etholiadol;

·        Nifer y Cynghorwyr ar gyfer pob ward a;

·        Enwau'r wardiau etholiadol.

·        Mae gan Sir Gaerfyrddin 75 o gynghorwyr gyda chymhareb o un cynghorwr i bob 1,915 o etholwyr

Cynghorwyd y Cyngor y byddai'r cyfnod amser er mwyn cynnal yr adolygiad yn cael ei rannu'n bum cam ar wahân yn cynnwys:

·        Cam 1 – cyfnod ymgynghori cychwynnol o 12 wythnos o 5 Hydref - 27 Rhagfyr 2017;

·        Cam 2 – Bydd y Comisiwn yn datblygu ac yn cyhoeddi ei gynigion drafft gyda chyfnod ymgynghori o 12 wythnos i gael ei gynnal ar hynny yn ystod haf 2018;

·        Cam 3 – Bydd y Comisiwn yn ffurfio ei Adroddiad terfynol ar y cynigion i gael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn Gwanwyn 2019;

·        Cam 4 – Bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y cynigion ac ar ôl cyfnod o 6 wythnos gall wneud gorchymyn (cyfle i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru)

·        Cam 5 – Byddai'r wardiau newydd yn dod i rym mewn pryd ar gyfer etholiadau llywodraeth leol 2022.

Pe bai unrhyw unigolyn/sefydliad yn dymuno cyflwyno sylwadau am y cynigion, cynghorwyd y Cyngor y byddai angen iddynt fod yn seiliedig ar dystiolaeth a'u bod yn cael eu barnu yn ôl ansawdd y dystiolaeth a gyflwynir. Byddai angen i sylwadau effeithiol roi ystyriaeth hefyd i ofynion statudol, polisïau'r Comisiwn, awgrymu opsiwn arall yn ogystal â chyflwyno gwrthwynebiad ac ystyried unrhyw ganlyniadau posibl i'r opsiwn arall ar draws yr ardal ehangaf posibl.

 

Cynhaliwyd sesiwn holi ac ateb ar ôl y cyflwyniad.

 

Diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr y Comisiwn Ffiniau am ddod i'r cyfarfod i roi gwybod i'r aelodau etholedig am y broses adolygu.

9.

CYNLLUN PENSIWN LLYWODRAETH LEOL (CPLL) - MEDI 2017 NEWIDIADAU A DISGRESIYNAU Y CYFLOGWR DIWYGIEDIG pdf eicon PDF 293 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER:

1.     Roedd y Cynghorwyr A. Davies, G. John, K. Lloyd, E. Schiavone, H. Davies a D. Nicholas wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a bu iddynt adael y Siambr tra oedd penderfyniad yn cael ei wneud ar yr eitem.

2.     Roedd yr holl swyddogion oedd yn bresennol yn y cyfarfod, ac eithrio'r Prif Weithredwr a'r Swyddog Gwasanaethau Democrataidd, wedi gadael y cyfarfod tra oedd yr eitem hon yn cael ei hystyried (h.y.: J. Morgan, C. Moore, R. Mullen, W. Walters, G. Morgans, L. Rees-Jones a P. Thomas)).

Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad am gynigion i gynnwys, yn ei Ddatganiad Polisi Pensiwn Dewisol presennol, ddisgresiwn newydd i awdurdodi Cynllun Rhannu Cost Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol (AVCs) fel un o'i Ddisgresiynau Cyflogwr, yn unol â'i rwymedigaethau o dan Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2014. Pe bai'n cael ei fabwysiadu, byddai'r cynnig yn arwain at Gyfraniadau Yswiriant Gwladol llai i'r cyflogwr a'r gweithiwr. Fodd bynnag byddai angen cael caniatâd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i roi hyn ar waith.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo cynnwys disgresiwn newydd yn Natganiad Polisi Pensiwn Dewisol y Cyngor, i awdurdodi Cynllun Rhannu Cost Cyfraniadau Gwirfoddol Ychwanegol fel un o'i Ddisgresiynau Cyflogwr.

10.

YSTRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATERION CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

10.1

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R DANGOSYDD DARBODAETH 2016-2017 pdf eicon PDF 398 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 31ain Gorffennaf, 2017 (gweler Cofnod 8), wedi derbyn yr Adroddiad Blynyddol ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys 2016/17. Yr oedd yr adroddiad yn crynhoi'r hyn oedd wedi digwydd yn ystod 2016/17 o dan y penawdau canlynol: Buddsoddiadau, Benthyca, Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys; Dangosyddion Darbodaeth, Prydlesu ac Aildrefnu. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

 

“Bod Adroddiad Blynyddol 2016/17 ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys yn cael ei dderbyn” 

10.2

ADRODDIAD MONITRO BLYNYDDOL 2016/17 CYNLLUN DATBLYGU LLEOL SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 602 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf, 2017 (gweler Cofnod 10), wedi derbyn Adroddiad Monitro Blynyddol 2016/17 ar Gynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin. Nodwyd bod angen i'r adroddiad a baratowyd yn unol â darpariaethau Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2014 a Rheoliadau Cynllun Datblygu Llywodraeth Leol 2005, gael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref, 2017. Cynghorwyd y Cyngor, pe bai'n cymeradwyo argymhellion y Bwrdd Gweithredol, a oedd yn cynnwys cynnal adolygiad o'r Cynllun Datblygu Lleol, y byddai cyfarfod cyntaf Gr?p Ymgynghorol y Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei gynnal ar 9 Tachwedd

 

Cyfeiriwyd at agweddau unigol ar yr adroddiad, yn enwedig yr iaith Gymraeg a'r effaith andwyol bosibl y gallai presenoldeb Argae Llyn Brianne fod yn ei chael ar botensial Llanymddyfri o safbwynt datblygu. Cynghorwyd y Cyngor y byddai angen i'r materion uchod gael eu codi fel rhan o broses adolygu'r Cynllun Datblygu Lleol, gan mai adroddiad monitro ffeithiol yn unig oedd yr adroddiad presennol ar weithredu'r Cynllun Datblygu Lleol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

“Cael a derbyn cynnwys yr ail Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Sir Gaerfyrddin, y mae angen ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2017;

Cychwyn arolwg llawn neu rannol CDLl Sir Gaerfyrddin yn gynnar:

-        Ystyried a mynd i'r afael â'r diffyg tir sydd ar gael ar gyfer tai ac ystyried yr ymyriadau angenrheidiol.

-        Paratoi rhagor o dystiolaeth ar oblygiadau a chywirdeb amcanestyniadau aelwydydd a phoblogaeth is-genedlaethol 2014 a'u hystyried yng ngoleuni'r adolygiad.

-        Ystyried dosbarthu a chyflenwi tai a llwyddiant, neu fel arall, y strategaeth, neu ei helfennau o ran bodloni gofynion tai a nodwyd;

 

Cynhyrchu adroddiad adolygu gan nodi ac esbonio hyd a lled unrhyw newidiadau sydd angen eu gwneud i'r Cynllun;
Rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion wneud addasiadau teipograffyddol neu ffeithiol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb yr Adroddiad Monitro Blynyddol”.

10.3

ARDOLL SEILWAITH CYMUNEDOL SIR GAERFYRDDIN DIWEDDARIAD AC ADRODDIAD CYNNYDD pdf eicon PDF 696 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf, 2017 (gweler Cofnod 11), wedi derbyn y Diweddariad ar Ardoll Seilwaith Cymunedol Sir Gaerfyrddin a'r Adroddiad Cynnydd ar y posibilrwydd o gyflwyno Ardoll Seilwaith Cymunedol yn Sir Gaerfyrddin. Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am natur ddatganoledig Ardollau Seilwaith Cymunedol yng Nghymru a'u dyfodol mewn cyd-destun cenedlaethol a oedd yn cynnwys yr adolygiad Annibynnol diweddar ar Ardollau Seilwaith Cymunedol a gomisiynwyd gan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol. Roedd hefyd yn amlinellu'r newidiadau posibl sydd i ddod a'r goblygiadau sy'n golygu mai un o argymhellion y Bwrdd Gweithredol i'r Cyngor yw y dylid atal am y tro unrhyw gynnydd o ran mabwysiadu Ardoll Seilwaith Cymunedol Sir Gaerfyrddin yn y dyfodol hyd nes y ceid canlyniadau ystyriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol, yn sgil Deddf Cymru 2017.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

Bod y Newyddion Diweddaraf am Ardoll Seilwaith Cymunedol Sir Gaerfyrddin a'r Adroddiad Cynnydd yn cael eu derbyn;

 

Bod y sefyllfa bresennol mewn perthynas â dyfodol yr Ardoll Seilwaith Cymunedol mewn cyd-destun cenedlaethol a chyd-destun Cymreig yn cael ei nodi;

 

Bod cynnydd o ran paratoi Ardoll Seilwaith Cymunedol Sir Gaerfyrddin yn cael ei atal am y tro hyd nes y ceid canlyniadau ystyriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y dyfodol, yn sgil Deddf Cymru 2017;

 

Bod adroddiad arall yn cael ei gyflwyno pan geir syniad clir ynghylch dyfodol yr Ardoll Seilwaith Cymunedol, unrhyw newidiadau i reoliadau'r Ardoll Seilwaith Cymunedol, neu gynigion am dariff newydd yn ei lle;

 

Bod y cynnydd hyd yn hyn yn cael ei nodi a bod y sylwadau sydd wedi dod i law yn cael eu defnyddio i lywio unrhyw waith ar yr Ardoll Seilwaith Cymunedol yn y dyfodol neu ar unrhyw beth a ddaw yn ei lle”.

10.4

PWERAU GORFODI TROSEDD TRAFFIG SYMUDOL pdf eicon PDF 660 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf, 2017 (Gweler Cofnod 12) wedi derbyn adroddiad ar Bwerau Gorfodi Trosedd Traffig Symudol ar fod y Cyngor yn cael pwerau ychwanegol i ategu'r pwerau gorfodi rheolau parcio presennol i gynorthwyo gyda symud pobl a nwyddau, cadw safleoedd ysgolion yn fwy diogel a chadw'r traffig i symud yn gyffredinol.  Nodwyd, yn amodol ar gymeradwyaeth y Cyngor, ac wedi hynny gydsyniad Llywodraeth Cymru ar gyfer creu Gorchymyn i ddynodi strydoedd penodol yn Sir Gaerfyrddin yn 'Ardaloedd Gorfodi Materion Sifil', y byddai'r awdurdod yn gallu cymryd cyfrifoldeb dros orfodi rheolau lonydd bysiau a rhai troseddau traffig symudol, sydd ar hyn o bryd yn cael eu gorfodi gan yr heddlu yn unig, trwy ddefnyddio dyfeisiau camera cymeradwy.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

“bod yr adroddiad ar Bwerau Gorfodi Troseddau Traffig Symudol yn cael ei dderbyn;

Bod cais yn cael ei wneud i Lywodraeth Cynulliad Cymru am greu Gorchymyn i ddynodi strydoedd penodol yn Sir Gaerfyrddin yn ‘Ardal Gorfodi Materion Sifil’ ar gyfer troseddau lonydd bysiau a thraffig symudol;

Dirprwyo awdurdod i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd fwrw ati â'r mesurau angenrheidiol i weithredu'r cynigion a nodwyd yn yr adroddiad hwn;

Cydgysylltu â PATROL-UK, y corff statudol sy'n darparu'r gwasanaeth dyfarnu annibynnol, i benderfynu a oes angen unrhyw addasiadau i'r trefniadau contractiol presennol ac i roi unrhyw newidiadau o'r fath ar waith. Mae hyn yr un mor berthnasol i gyrff statudol eraill megis yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) a'r Ganolfan Gorfodi Rheolau Traffig;

Cymeradwyo'r cynigion ar gyfer ariannu'r costau sefydlu o'r Gronfa Ddatblygu fel y'i hamlinellir yn y Goblygiadau Ariannol;

Cyfarwyddwr yr Amgylchedd i ymchwilio i ddichonoldeb defnyddio dyfeisiau camera sefydlog yn hytrach na dyfeisiau camera ar gerbydau”.

10.5

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYFARWYDDWR STATUDOL Y GWASANAETHAU CYMDEITHASOL YNGHYLCH PERFFORMIAD Y GWASANAETHAU GOFAL CYMDEITHASOL YN SIR GAERFYRDDIN YN 2016/17 pdf eicon PDF 393 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Ar ddechrau'r eitem hon tynnwyd sylw'r Cyngor at Reol Gweithdrefn Gorfforaethol 9.1 "Hyd Cyfarfodydd" ac wedi nodi bod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers tair awr:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL atal Rheolau Gweithdrefn Gorfforaethol y Cyngor er mwyn galluogi'r Cyngor i gwblhau'r eitemau sy'n weddill ar yr Agenda.

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf, 2017 (gweler cofnod 13), wedi ystyried y fersiwn Drafft o Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar berfformiad y Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2016/17. Roedd yr adroddiad hefyd yn manylu ynghylch y cynnydd a wnaed yn y meysydd a nodwyd fel rhai i'w gwella yn adroddiad y flwyddyn flaenorol gan dynnu sylw hefyd at y meysydd i'w datblygu yn y flwyddyn gyfredol,

 

Cyfeiriwyd at bwysigrwydd bod pobl sy'n derbyn gofal yn gallu cyfathrebu â'u gofalwyr trwy'r Gymraeg. Rhoddwyd sicrwydd i'r Cyngor mai'r bwriad oedd cael gofalwr sy'n siarad Cymraeg ar ddyletswydd ar bob sifft ac mewn cartrefi gofal a bod mesurau ar waith i hyfforddi ac annog staff i ddysgu Cymraeg. Fodd bynnag, roedd rhaid cydnabod efallai nad yw hi bob amser yn bosibl cyflawni'r nod hwnnw.

 

Mewn ymateb i ddatganiad am yr angen i sicrhau bod darparwyr gofal yn cael eu hyfforddi a'u talu'n briodol dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol bod gweithdrefnau Comisiynu'r Cyngor mewn perthynas â darparu gofal yn hyblyg ac yn caniatáu i ddefnyddwyr fancio oriau nas defnyddiwyd. Er enghraifft, os oedd defnyddiwr gwasanaeth wedi'i gontractio i dderbyn tri ymweliad 15 munud o hyd y diwrnod ac yn defnyddio cyfran o'r amser hwnnw yn unig, gellid bancio'r amser nas defnyddiwyd a'i ddefnyddio i ddarparu gofal ychwanegol pan fyddai angen. Roedd honno'n system unigryw lle'r oedd y Cyngor yn arwain y farchnad ac yn rhannu ei brofiadau ag awdurdodau lleol eraill. Gyda golwg ar recriwtio a chadw staff, dywedodd fod gan yr awdurdod weithlu sy'n heneiddio a'i fod yn ceisio denu darparwyr ifanc i'r gwasanaeth.

 

Gwnaed sawl cyfeiriad at dudalen 258 yr adroddiad a chafodd yr adran ei chanmol am iddi gymryd y cam y llynedd o roi'r gorau i allgontractio gofal cartref ymhellach trwy ffafrio buddsoddi yn y gwasanaeth mewnol.

 

Cyfeiriwyd at yr achos diweddar o gau Cartref Gofal Gower Lodge a gofynnwyd am eglurhad ynghylch pa fesurau yr oedd y Cyngor yn eu cymryd i sicrhau y byddai unrhyw gontractau oedd ganddo yn osgoi sefyllfa debyg yn digwydd yn Sir Gaerfyrddin. Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymunedol mai un o'r materion allweddol yn hynny o beth oedd monitro contractau'n rheolaidd. Roedd y Cyngor wedi gwella ei drefn fonitro ac roedd yntau'n derbyn adroddiadau misol ar weithrediad y gwasanaethau. Dywedodd ymhellach mai un o'r prif faterion a oedd yn wynebu'r adran mewn perthynas â darparu gofal preswyl oedd diffyg darpariaeth yn y sir, ac roedd yr adran yn mynd ati i archwilio'r agwedd honno.

 

Mewn ymateb i ddatganiad am yr angen canfyddedig am fwy o nyrsio a llai o welyau gofal yn ardal Llanelli, cynghorodd Cyfarwyddwr y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 10.5

11.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR Y 31AIN GORFFENNAF, 2017 pdf eicon PDF 437 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD bod adroddiad y cyfarfod uchod yn cael ei dderbyn.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau