Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem | ||
---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr G. B. Thomas a J.E. Williams.
|
|||
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|||
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: (NODER: Seiniodd y larwm tân wrth ystyried yr eitem hon. O ganlyniad, gohiriwyd y cyfarfod am 2.50p.m., gan ailymgynnull am 3.10p.m.)
Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4.3 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 21 Medi 2017) a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor asesu'r effaith bosibl y gallai'r datblygiad ei chael ar barcio ceir ac ar lif traffig. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad/atodiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig ac yn amodol ar welliant Rhif 7 y manylwyd arno yn yr atodiad.
Daeth sylwadau i law a wrthwynebai'r cais, ac a ailbwysleisiai'r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio. Y prif feysydd a oedd yn peri pryder oedd y canlynol:- · mwy o draffig ar y ffyrdd a'r peryglon posibl a allai ddeillio o hynny ar gyfer pobl eraill sy'n defnyddio'r ffyrdd a cherddwyr · statws yr ardal barcio oddi ar y stryd a ddarperir fel rhan o'r datblygiad a ph'un a fyddai'r ardal barcio honno ar gael ar gyfer trigolion rhifau 41-44 yn unig, a fyddai'n cael ei tharmacio i safon briodol, a fyddai wedi'i goleuo a phwy fydd yn gyfrifol am gynnal a chadw'r ardal yn y dyfodol · y posibilrwydd y gallai'r tai newydd edrych dros dai cyfagos
Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu a'r Peiriannydd Cynorthwyol - Cydgysylltu Cynllunio i'r materion a godwyd
PENDERFYNWYD cymeradwyo cais cynllunio S/35875 yn unol â'r amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio ac yn amodol ar welliant Rhif 7 y manylwyd arno yn yr atodiad.
|
|||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4.3 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 21 Medi 2017) a drefnwyd er mwyn rhoi cyfle i'r garfan newydd o Aelodau'r Pwyllgor Cynllunio ymweld â'r safle o ystyried mai 6 yn unig o'r aelodau presennol oedd yn aelodau'r Pwyllgor pan ymwelwyd â'r safle yn flaenorol ar 19 Ebrill 2017 cyn yr Etholiadau Llywodraeth Leol ym mis Mai 2017. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell gwrthod y cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig.
Daeth cynrychiolaeth i law yn cefnogi'r cais ar y sail yr ystyrir yr oedd safle'r cais yn rhan o glwstwr bychan o 8 eiddo, yr oedd wedi'i leoli ar lwybr bysys, yr oedd 1.7km yn unig i ffwrdd o bentref Pontyberem sy'n cynnwys amrywiaeth eang o wasanaethau, yr oedd y mynediad arfaethedig i'r safle wedi'i symud er mwyn gwella gwelededd, yr oedd yn ddigon mawr i ymdopi â'r cynnig ac roedd yr ymgeisydd wedi cytuno i dalu swm cyfnewid tuag at ddarparu tai fforddiadwy, yn unol ag argymhellion y Pwyllgor yn y cyfarfod ar 19 Ebrill.
Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu a'r Peiriannydd Cynorthwyol - Cydgysylltu Cynllunio i'r materion a godwyd.
PENDERFYNWYD gwrthod cais cynllunio S/35189 am y rhesymau a nodwyd yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio.
|
|||
S/35791 - CODI PRESWYLFA NEWYDD, TIR YN 7 HEOL Y PWLL, Y PWLL, LLANELLI SA15 4BG PDF 106 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 4.3 o gyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 21 Medi 2017) a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor asesu'r effaith bosibl y gallai'r datblygiad ei chael ar barcio ceir ac ar lif traffig. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell cymeradwyo'r cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig
Daeth cynrychiolaeth i law a wrthwynebai'r cais ac a ailbwysleisiai'r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio. Y prif feysydd a oedd yn peri pryder oedd bod y cynnig yn groes i Bolisi GP2, effeithiau'r cerbydau ychwanegol yn dod o'r safle datblygu ac o'r eiddo gwag cyfagos yn rhif 7 ar yr anawsterau o ran parcio cyfyngedig ar y stryd, y golau a fyddai'n cael ei golli yn yr eiddo cyfagos ar naill ochr y safle, ystyriwyd bod y datblygiad yn rhy fawr i'r llain ac os caiff y datblygiad ei gymeradwyo, dylai gael ei symud yn ôl er mwyn lleihau'r effaith ar eiddo cyfagos rhif 9A.
Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu a'r Peiriannydd Cynorthwyol - Cydgysylltu Cynllunio i'r materion a godwyd
PENDERFYNWYD caniatáu cais cynllunio S/35791, yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio.
|
|||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyfeiriodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3.2 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 19 Hydref 2017) a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle mewn perthynas â'r ardal gyfagos. Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y Pennaeth Cynllunio yn argymell gwrthod y cais am y rhesymau a nodwyd yn ei hadroddiad ysgrifenedig.
PENDERFYNWYD gwrthod cais cynllunio S/36018 am y rhesymau a nodwyd yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio.
|
|||
RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 954 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 7.1 PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:-
|
|||
RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 883 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD 5.1 cymeradwyo'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
|