Eitemau
Rhif |
eitem |
1. |
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J.A.
Davies a B.A.L. Roberts.
|
2. |
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Bu i Ms
Llinos Quelch, Pennaeth Cynllunio, ddatgan buddiant yn y ceisiadau
canlynol gan ei bod yn adnabod yr ymgeisydd:-
W/34736
|
Newid
defnydd hen gapel yn siop gamerâu. Byddai'r gwaith yn cynnwys symud seti
sefydlog, gwneud nifer fawr o atgyweiriadau i'r adeilad presennol,
gosod llawr mesanîn a grisiau newydd, gosod caeadau diogelwch
mewnol newydd ar gyfer ffenestri'r llawr gwaelod, a lledu drws
allanol yng nghefn yr adeilad yng Nghapel Zion, Heol Mansel,
Caerfyrddin, SA31 1QZ [Cynllunio - Llawn]
|
W/34737
|
Newid
defnydd hen gapel yn siop gamerâu. Byddai'r gwaith yn cynnwys symud seti sefydlog,
gwneud nifer fawr o atgyweiriadau i'r adeilad presennol, gosod
llawr mesanîn a grisiau newydd, gosod caeadau diogelwch
mewnol newydd ar gyfer ffenestri'r llawr gwaelod, a lledu drws
allanol yng nghefn yr adeilad yng Nghapel Zion, Heol Mansel,
Caerfyrddin, SA31 1QZ [Adeilad Rhestredig]
|
|
3. |
RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 488 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
3.1
PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr
amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd
gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
E/34907
|
Datblygiad defnydd cymysg i gynnwys defnydd
A1, Swyddfeydd ac Elfennau Preswyl, safle Hen Orsaf yr Heddlu a'r
Llys, Stryd Marged, Rhydaman, SA18 2NP
|
E/35622
|
Addasu'r Hen Lys yn Swyddfeydd, yr Hen Lys,
Stryd Marged, Rhydaman, SA18 2NP
|
|
4. |
RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO. PDF 537 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
4.1 PENDERFYNWYD caniatáu'r cais
cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y
Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y
cyfarfod:-
S/35440
|
Datblygiad preswyl – dymchwel y byngalo presennol ac adeiladu preswylfa
tair ystafell wely yn ei le, O'keip, Ocean View, Porth Tywyn, Sir
Gaerfyrddin, SA16 0DW
|
4.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio
ystyried y ceisiadau cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor
Cynllunio ymweld â'r safleoedd:-
S/34537
|
Adeiladu 8 o dai ynghyd â'r mynediadau
cysylltiol ar gyfer cerbydau a cherddwyr, lleoedd parcio, tirweddu,
draeniau a datblygu ategol arall tir ar ochr ddwyreiniol Heol
Bronallt, yr Hendy, Llanelli.
Y
RHESWM: Er mwyn i'r Pwyllgor i asesu
addasrwydd y safle o ystyried y pryderon yn ymwneud â
serthrwydd y safle a materion o ran mynediad.
|
S/35403
|
Cais amlinellol am ddatblygiad preswyl ar
dir ger 32 Teras yr Erw, Porth Tywyn, Llanelli, Sir Gaerfyrddin,
SA16 0DA
Y
RHESWM: Er mwyn i'r Pwyllgor gael
golwg ar y safle yn dilyn pryderon ynghylch diogelwch
priffyrdd.
|
|
5. |
RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 532 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
5.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn
Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod
amdanynt yn y cyfarfod:-
W/35451
|
Newid defnydd 4 ysgubor gerrig ddiangen yn 4
uned breswyl ynghyd â'r garejis a'r storfeydd cysylltiedig,
Penybont, Meidrim, Caerfyrddin, SA33 5QL
|
5.2 PENDERFYNWYD
caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr
amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd
gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
W/34736
|
Newid defnydd hen gapel yn siop
gamerâu. Byddai'r gwaith yn
cynnwys symud seti sefydlog, gwneud nifer fawr o atgyweiriadau i'r
adeilad presennol, gosod llawr mesanîn a grisiau newydd,
gosod caeadau diogelwch mewnol newydd ar gyfer ffenestri'r llawr
gwaelod, a lledu drws allanol yng nghefn yr adeilad yng Nghapel
Zion, Heol Mansel, Caerfyrddin, SA31 1QZ
[SYLWER: Gan iddi ddatgan buddiant
yn y cais hwn yn gynharach, gadawodd Mrs Llinos Quelch, Pennaeth
Cynllunio, y cyfarfod cyn i'r cais gael ei ystyried a chyn y gwnaed
penderfyniad yn ei gylch.]
|
W/34737
|
Newid defnydd hen gapel yn siop
gamerâu. Byddai'r gwaith yn
cynnwys symud seti sefydlog, gwneud nifer fawr o atgyweiriadau i'r
adeilad presennol, gosod llawr mesanîn a grisiau newydd,
gosod caeadau diogelwch mewnol newydd ar gyfer ffenestri'r llawr
gwaelod, a lledu drws allanol yng nghefn yr adeilad yng Nghapel
Zion, Heol Mansel, Caerfyrddin, SA31 1QZ
[SYLWER: Gan iddi ddatgan buddiant
yn y cais hwn yn gynharach, gadawodd Mrs Llinos Quelch, Pennaeth
Cynllunio, y cyfarfod cyn i'r cais gael ei ystyried a chyn y gwnaed
penderfyniad yn ei gylch.]
|
|
6. |
LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 13EG MEHEFIN, 2017. PDF 234 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD cymeradwyo a llofnodi cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2017 gan eu bod yn
gywir.
|