Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Nodyn: Moved from 04/03 - Council Tax & PPS 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr F. Akhtar, J. Edmunds, P. Edwards, P. Hughes, A. James, J. Jenkins, T.J. Jones, A.G. Morgan,

S. Najmi, S. Phillips, D. Price, H. Shepardson ac E.G. Thomas

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd S Davies yn gwneud casgliad yn y cyfarfod i gefnogi Tîm Bowlio Nam ar y Golwg Llanelli.

 

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor y wybodaeth ddiweddaraf am y coronafeirws a'r gwaith sy'n cael ei wneud gan y Cyngor, cyrff cyhoeddus a Fforwm Lleol Cymru Gydnerth er mwyn paratoi ar gyfer achosion posibl yn y Sir.

 

4.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR A GYNHALIWYD AR 12FED CHWEFROR 2020 pdf eicon PDF 642 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 12 Chwefror 2020 gan eu bod yn gywir.

 

5.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW).

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

6.

CWESTIYNAU GAN YR AELODAU:-

Dogfennau ychwanegol:

6.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD BILL THOMAS I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

“Ym mis Gorffennaf y llynedd, penderfynodd Cyngor Sir Caerfyrddin yn unfrydol ar gynnig i "nodi ffyrdd o gyflenwi llaeth mewn poteli gwydr y gellir eu hailddefnyddio yn hytrach na phlastig yn ein hysgolion cynradd."

Cyhoeddodd Cyngor Sir Ceredigion yn ddiweddar fod ei ysgolion yn mynd i roi'r gorau i ddefnyddio 400,000 o boteli plastig.

A wnaiff yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant gyhoeddi cynllun manwl gydag amserlenni ar gyfer gweithredu'r cyfarwyddyd unfrydol gan aelodau'r Cyngor Sir hwn fel na fydd yn rhaid i'n hysgolion cynradd ailgylchu symiau mawr o boteli plastig gwag?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"Ym mis Gorffennaf y llynedd, cytunodd Cyngor Sir Caerfyrddin i "nodi ffyrdd o gyflenwi llaeth mewn poteli gwydr y gellir eu hailddefnyddio yn hytrach na phlastig yn ein hysgolion cynradd”.

Cyhoeddodd Cyngor Sir Ceredigion yn ddiweddar fod ei ysgolion yn mynd i roi'r gorau i ddefnyddio 400,000 o boteli plastig.

A wnaiff yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant gyhoeddi cynllun manwl gydag amserlenni ar gyfer gweithredu'r cyfarwyddyd unfrydol gan aelodau'r Cyngor Sir hwn fel na fydd yn rhaid i'n hysgolion cynradd ailgylchu symiau mawr o boteli plastig gwag?”

Ymateb gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

Diolch ichi am y cwestiwn. Mae'n rhywbeth rydym wedi cyfeirio ato sawl tro. Mae'n fater rydym wedi'i drafod yma yn y Siambr. Gan fod y cwestiwn yn cyfeirio'n benodol at Gyngor Sir Ceredigion, rwy'n credu ei bod yn bwysig nodi bod ein contract llaeth presennol yn Sir Gaerfyrddin yn wahanol i gontract Ceredigion. Mae'r ddau gytundeb ar wahân. Mae ein contract ni ar gyfer yr holl laeth sy'n mynd i bob ysgol. Felly, mae pob diferyn o laeth sy'n mynd i unrhyw waith yn yr ysgol yn dod o dan y contract hwn. Nid yw'r llaeth i ddisgyblion yn unig. Hynny yw, y llaeth sydd ar hyn o bryd yn cael ei osod mewn poteli plastig. Mae'r contract sydd gennym yn dod i ben ym mis Awst 2021. Felly, Awst y flwyddyn nesaf. Felly, mae blwyddyn a phum mis o'r contract yn weddill, ac rydym yn glwm i'r contract hwnnw tan hynny. Ni allwn wneud unrhyw beth tan hynny.

 

Roedd Ceredigion wedi gwneud darn o waith diddorol iawn, gwaith gorchwyl a gorffen, i adolygu'r ddarpariaeth llaeth, y ddarpariaeth llaeth am ddim. Ond, rydym hefyd yn ymwybodol bod Ceredigion, fel sir, ar hyn o bryd yn ystyried peiriannau llaeth ac rwy'n credu y dylwn hefyd ystyried o bosibl y datblygiadau newydd sydd yn y maes hwn. Mae Ceredigion yn ymgynghori ag ysgolion mwy i gyflwyno llaeth o beiriant. Bydd y llaeth yn oer fel petai'n dod o'r oergell ac rwy'n si?r eich bod chi, fel minnau, yn gallu cofio'r dyddiau ysgol pan oeddem ni'n cael llaeth yn ystod tymor yr haf, a hwnnw wedi bod yn yr haul ac roedd e'n dwym.  Felly mae rhywbeth i'w ddweud am gael llaeth sy'n oer iawn, mae'n llawer mwy derbyniol. Nawr, mae'r peiriant llaeth hwn, hyd y deallaf, yn dal un pergal ar y tro. Hynny yw, mae pergal yn cyfateb i oddeutu 24 peint ac felly mae'n gallu rhoi 70-72 dogn o laeth, felly un traean peint y mae pob plentyn yn ei dderbyn o'r poteli plastig bach ar hyn o bryd. Mae Ceredigion hefyd wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru am grant. Mae grantiau ar gael i brynu'r peiriannau llaeth hyn. Byddai'n grant gan Gronfa Gyfalaf yr Economi Gylchol. Mae'r grantiau hynny ar gael.

 

Rydym ni fel sir yn ymwneud â'r prosiect WRAP, a dyna'r acronym ar gyfer y Rhaglen Weithredu Gwastraff ac Adnoddau. Rydym  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.1

6.2

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD DOT JONES I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

"Ym mis Awst 2019, derbyniais e-bost yn nodi y byddai'r adolygiad o ddalgylchoedd ysgol yn dechrau ym mis Medi y llynedd. A ellir rhoi diweddariad ar y gwaith a'r ymgynghoriadau sydd wedi'u cwblhau hyd yn hyn."

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

"Ym mis Awst 2019, derbyniais e-bost yn nodi y byddai'r adolygiad o ddalgylchoedd ysgol yn dechrau ym mis Medi y llynedd.

A ellir rhoi diweddariad ar y gwaith a'r ymgynghoriadau sydd wedi'u cwblhau hyd yn hyn."

 

Ymateb gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

Rydym ni gyd yn ymwybodol bod gan bob ysgol dalgylch ac rwy'n si?r eich bod chi, fel fi, wedi gofyn y cwestiwn sut ddaeth y dalgylchoedd ysgol i fodolaeth. Wel, yn wreiddiol, ffurfiwyd y rhain er mwyn sicrhau bod digon o ddisgyblion ar gael i gefnogi pob ysgol, i gynnal pob ysgol, i wneud yn si?r bod y plant sy'n byw yn agos yn mynd i'r ysgol benodol honno. Mae pob ysgol yn gwasanaethu dalgylch dynodedig ac yma yn Sir Gaerfyrddin rydym yn defnyddio dalgylchoedd ysgol fel rhan o'n system derbyn i ysgolion a hefyd i weithredu ein polisi cludiant o'r cartref i'r ysgol. Cynhaliwyd adolygiad llawn o'n dalgylchoedd yn 2012 a nawr yw’r amser priodol i ni eu diweddaru. I wneud y gwaith hwn mae swyddog wedi'i benodi, mae'r gwaith wedi dechrau ac mae'r swyddog hwn yn mynd i arwain y gwaith, ond mae'n ddarn mawr iawn o waith, ac yn ddarn gymhleth iawn o waith.

 

Er mwy adolygu'r sefyllfa'n llawn, mae'r sir hon fel y gwyddom yn un eang, mae'n sir fawr yn ddaearyddol ac mae gennym lawer o ysgolion ac mae'n rhaid i ni edrych yn ofalus ar y cyd-destun ieithyddol. Mae gennym ysgolion crefyddol. Mae ein holl ysgolion yn wahanol iawn, felly mae angen i ni ystyried yn ofalus yr holl drefniadau sydd ar waith. Mae angen i ni edrych ar natur ddeinamig ôl-troed addysg ar draws y sir. Fel y soniais, ac rwy'n falch o gael dweud hyn, oherwydd roeddwn am weld y gwaith yn dechrau, mae'r gwaith hwn wedi dechrau, mae ymgynghoriadau wedi cael eu cynnal gyda'r adran cludiant ysgol er mwyn deall y trefniadau presennol a'r newidiadau posibl a allai ddigwydd. Mae dadansoddiad daearyddol o ddata disgyblion ar gyfer pob ysgol gynradd ac uwchradd hefyd ar waith. Bydd hyn o gymorth i ddeall patrymau presenoldeb yn yr ysgolion mewn perthynas â ffiniau'r dalgylchoedd presennol.

 

Mae dalgylchoedd ysgol yn amodol i raddau helaeth ar yr adolygiad o'n Rhaglen Moderneiddio Addysg. Rydych wedi fy nghlywed yn aml yn siarad am y Rhaglen Moderneiddio Addysg. Mae'n rhaglen bwysig i ni yn Sir Gaerfyrddin, ac rydym wedi elwa llawer ar y rhaglen honno, ac mae'r adolygiad hwnnw ar waith ar hyn o bryd. Gall yr adolygiad o'r Rhaglen Moderneiddio Addysg ddylanwadu ar newidiadau i'r map addysg yn ein sir. Mae angen i'r adolygiad hwn gael ei gwblhau cyn bod yr ymgynghoriad yn dechrau â'n hysgolion. Mae'n rhaid i ni gael canlyniadau'r adolygiad hwnnw. Hefyd, bydd ymgynghoriad trylwyr iawn ynghylch unrhyw newidiadau a gaiff eu cynnig i'r dalgylchoedd hynny. Bydd digon o gyfle i fynegi barn. Bydd hyn yn rhan o'r broses derbyn i ysgolion ac mae hyn yn digwydd yn flynyddol ym mis Ionawr,  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.2

7.

PENNU TRETH Y CYNGOR AM FLWYDDYN ARIANNOL 2020/21 pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Cyngor yn ystyried adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, a oedd yn nodi'r manylion ariannol perthnasol o ran pennu'r Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/2021, ynghyd â symiau'r Dreth Gyngor o ran gwahanol Fandiau Prisio'r Dreth Gyngor, fel yr oeddynt yn berthnasol i'r holl Gynghorau Cymuned a Thref unigol.

Nodwyd bod yr argymhellion yn yr adroddiad yn seiliedig ar fanylion y setliad terfynol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru a'r praeseptau a nodwyd i'r Cyngor Sir gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a'r Cynghorau Tref a Chymuned.

PENDERFYNWYD, er mwyn galluogi'r Cyngor i gydymffurfio â'r gofynion deddfwriaethol, bod adroddiad ac argymhellion y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol ynghylch pennu'r Dreth Gyngor am flwyddyn ariannol 2020/21 yn cael eu mabwysiadu.

 

8.

YSTYRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATERION CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

8.1

PROTOCOL AR GYFER Y WASG A'R CYFRYNGAU pdf eicon PDF 186 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ionawr, 2020 (gweler cofnod 7) wedi ystyried adroddiad ar fabwysiadu Protocol wedi'i ddiweddaru ynghylch y Wasg a'r Cyfryngau yn lle'r protocol presennol a fabwysiadwyd gan y Cyngor ym mis Mehefin, 2015. Roedd y Protocol newydd yn adlewyrchu'r newidiadau ym maes y cyfryngau i gynorthwyo'r Tîm Marchnata a'r Cyfryngau i reoli'r cysylltiadau a'r berthynas â'r wasg a'r cyfryngau ar ran y Cyngor, gan ddarparu hefyd ganllawiau i aelodau etholedig a staff.

 

Cyfeiriwyd at y rhan yn yr adroddiad a oedd yn ymwneud â cheisiadau am dynnu lluniau a ffilmio ar safleoedd y Cyngor. Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai'r geiriad yn cael ei newid i roi eglurhad ynghylch aelodau lleol yn tynnu lluniau ar dir y cyngor fel rhan o'u rôl.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr argymhelliad gan y Bwrdd Gweithredol a mabwysiadu'r Protocol ynghylch y Wasg a'r Cyfryngau.

 

8.2

CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL (DRAFFT) 2020-2024 pdf eicon PDF 157 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Chwefror, 2020 (gweler cofnod 10) wedi ystyried Fersiwn Drafft o Gynllun Cydraddoldeb Strategol Cyngor 2020-2024 a luniwyd yn unol â gofynion Deddf Cydraddoldeb 2010 a oedd yn cymryd lle'r dyletswyddau ar wahân o ran cydraddoldeb hil, cydraddoldeb anabledd a chydraddoldeb rhyw. Nododd y Cyngor mai nod Dyletswydd Gyffredinol y Ddeddf oedd sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus a'r rhai oedd yn cyflawni swyddogaeth gyhoeddus yn ystyried sut y gallent gyfrannu'n gadarnhaol at gymdeithas decach drwy hyrwyddo cydraddoldeb a pherthynas dda yn eu gweithgareddau pob dydd

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

"Cymeradwyo'r Fersiwn Drafft o Gynllun Cydraddoldeb Strategol ar gyfer ei weithredu ym mis Ebrill 2020;

 

Cymeradwyo'r Fersiwn Drafft o'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol a'r gwaith o ddatblygu cynllun gweithredu manwl i fod yn sail i'r amcanion hynny"

 

 

9.

DERBYN ADRODDIADAU CYFARFODYDD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR Y 24AIN CHWEFROR, 2020 pdf eicon PDF 322 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

UNANIMOUSLY RESOLVED that the report of the meeting of the Executive Board held on the 24th February, 2020 be received.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau