Agenda a Chofnodion

Bwrdd Pensiwn - Dydd Iau, 23ain Ionawr, 2020 2.00 yp

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd P. Hughes (Cyngor Sir Caerfyrddin - Cynrychiolydd y Cyflogwr), y Cynghorydd G. Lloyd (Cyngor Sir Ceredigion - Cynrychiolydd y Cyflogwr), Chris Moore, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a Kevin Gerard, Rheolwr Pensiynau.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENSIWN A GYNHALIWYD AR 23 HYDREF 2019 pdf eicon PDF 240 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD cadarnhau cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 23 Hydref 2019 gan eu bod yn gofnod cywir.

 

 

4.

CYFARFOD Y PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 28 TACHWEDD 2019 pdf eicon PDF 406 KB

Cofnodion:

 

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf o ran blwyddyn ariannol 2019/20.

 

Mewn ymateb i sylw a godwyd mewn perthynas â'r cynnydd yn yr amrywiant yn erbyn y gyllideb ar gyfer ffigur diwedd blwyddyn Partneriaeth Pensiwn Cymru, esboniodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn fod y cyfrifiad diwedd blwyddyn yn cynnwys data cyfredol fel yr oedd ar 30 Medi 2019.

 

Gan gyfeirio at gynnwys y costau trosglwyddo unwaith yn unig, gofynnwyd a oes modd darparu'r costau fel dogfen ar wahân er mwyn galluogi cymariaethau tebyg am debyg.  Dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau y byddai'r wybodaeth y gofynnir amdani'n cael eu rhoi i Aelodau'r Bwrdd er gwybodaeth. 

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

4.1

MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2019 - 30 MEDI 2019 pdf eicon PDF 110 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf o ran blwyddyn ariannol 2019/20.

 

Mewn ymateb i sylw a godwyd mewn perthynas â'r cynnydd yn yr amrywiant yn erbyn y gyllideb ar gyfer ffigur diwedd blwyddyn Partneriaeth Pensiwn Cymru, esboniodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn fod y cyfrifiad diwedd blwyddyn yn cynnwys data cyfredol fel yr oedd ar 30 Medi 2019.

 

Gan gyfeirio at gynnwys y costau trosglwyddo unwaith yn unig, gofynnwyd a oes modd darparu'r costau fel dogfen ar wahân er mwyn galluogi cymariaethau tebyg am debyg.  Dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau y byddai'r wybodaeth y gofynnir amdani'n cael eu rhoi i Aelodau'r Bwrdd er gwybodaeth. 

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

4.2

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 30 MEDI 2019 pdf eicon PDF 13 KB

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed. Nodwyd ar 30 Medi, 2019 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £7.2m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod y ffigur presennol yn rhannol oherwydd bod Cyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Caerfyrddin yn talu cyfraniadau cyflogwr ymlaen llaw ar gyfer y flwyddyn gyfan/bob chwe mis. Nododd y Bwrdd fod y ffigur wedi lleihau yn ôl y disgwyl.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

4.3

ADRODDIAD TORRI AMODAU 2019-20 pdf eicon PDF 113 KB

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd yr Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried. Mae Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn nodi'r ddyletswydd gyfreithiol i adrodd am achosion o dorri'r gyfraith.

 

Nododd y Bwrdd fod nifer o achosion wedi bod ers y cyfarfod diwethaf lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser.

 

Nodwyd bod achosion tebyg yn ymwneud â Chlercod Cynghorau Tref a Chymuned nad oeddent yn gallu cyfrannu ar amser yn cael eu hadrodd yn gyson ym mhob cyfarfod.  Er mwyn lleihau'r achosion hyn, awgrymwyd bod modiwl hyfforddi ar-lein yn cael ei ddatblygu a'i ddarparu i Glercod Cynghorau Tref a Chymuned.  Cydnabuwyd nad oedd yr achosion hyn yn ymwneud â swm sylweddol o arian, ond yn dechnegol roeddent yn achosion o dorri'r amodau a'r arfer gorau fyddai delio â gwraidd yr achosion hyn.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol y byddai'n trafod yr awgrym uchod ymhellach gyda'r Rheolwr Pensiynau.

  

CYTUNWYD nodi’r adroddiad mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.

 

 

4.4

Y DIWEDDARAF AM BARTNERIAETH PENSIYNAU CYMRU LINK A RUSSELL pdf eicon PDF 392 KB

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd ystyriaeth i gyflwyniad gan Link and Russell ynghylch cynnydd a cherrig milltir allweddol Partneriaeth Pensiwn Cymru. Rhoddodd y cyflwyniad drosolwg o'r gwasanaethau a ddarperir gan weithredwr Partneriaeth Pensiwn Cymru, gan gynnwys penodi a goruchwylio rheolwyr buddsoddi, monitro buddsoddiadau, goruchwylio'r Gweinyddwr (Northern Trust) a'r cerrig milltir allweddol. Yn ogystal, rhoddodd y cyflwyniad wybodaeth am fuddion a gofynion rheoleiddiol strwythur y Cynllun Contractiol Awdurdodedig, a oedd wedi'i fabwysiadu gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Cyfeiriwyd at y graffiau Ecwiti Tyfu Byd-eang ac Ecwiti Cyfleoedd Byd-eang ar y sleid mewn perthynas â Chronfa LF Partneriaeth Pensiwn Cymru bresennol.  Yn dilyn sylw, gofynnwyd er hwylustod bod y lliwiau'n cynrychioli'r un Awdurdod ar bob un o'r ddau graff mewn diweddariadau yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i gais, byddai Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau yn ceisio cynnwys blaen ddyddiadau yn y diweddariadau yn y dyfodol.

 

CYTUNWYD derbyn y cyflwyniad.

 

 

 

4.5

DIWEDDARAF AM BARTNERIAETH PENSIYNAU CYMRU YR AWDURDOD LLETYOL pdf eicon PDF 175 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd adroddiad ynghylch Partneriaeth Pensiwn Cymru a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf gan yr awdurdod cynnal am gerrig milltir a chynnydd Partneriaeth Pensiwn Cymru. Ymysg y meysydd allweddol o ran gwybodaeth oedd gweithdai llywodraethu WPP, lansio porth adroddiadau ar-lein ar gyfer awdurdodau cyfansoddol, penodi Hymans yn Ymgynghorydd Goruchwyliaeth Rheoli Trosglwyddo Incwm Sefydlog, lansio gwefan Partneriaeth Pensiwn Cymru, datblygu cynllun cyfathrebu a hyfforddi a chyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf o ran cynnydd MHCLG y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.

 

Nododd y Bwrdd ddiweddariadau mewn perthynas â'r meysydd allweddol canlynol:

 

·       Gweithdai llywodraethu

·       Porth adrodd ar-lein

·       Ymgynghorydd Goruchwyliaeth Rheoli Pontio Incwm Sefydlog

·       Cyfathrebu ac adrodd

·       Hyfforddiant a chyfarfodydd

·       Adnoddau, cyllideb a ffïoedd

 

Bu'r Bwrdd yn ystyried hefyd y manylion a roddir yng nghynllun gwaith Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer 2019/2020, sydd wedi'i atodi.

 

Cyfeiriwyd at ddiweddariad y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.  Mewn ymateb i gais am ddosbarthu'r diweddariad i Aelodau'r Bwrdd er gwybodaeth, dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau y byddai'n ceisio cyngor cyfreithiol o ran estyn dosbarthiad y diweddariad i'r Bwrdd.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad diweddaru ynghylch Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cael eu nodi.

 

 

4.6

COFNODION DRAFFT CYFARFOD PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 28 TACHWEDD 2019 pdf eicon PDF 239 KB

Cofnodion:

 

Cafodd y Bwrdd gofnodion drafft cyfarfod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 28 Tachwedd, 2019.

 

CYTUNWYD bod y cofnodion yn cael eu nodi.

 

 

5.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIADAU SY'N YMWNEUD Â'R MATERION CANLYNOL GAN EU FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION YMA YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

6.

ADRODDIAD PERFFORMIAD A RISG YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL 30 MEDI 2019

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 5 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.

 

Ystyriodd y Bwrdd Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 30 Medi 2019.

 

PENDERFYNWYD nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 30 Medi 2019.

 

 

7.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 30 MEDI 2019

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 5 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.

 

Ystyriodd y Bwrdd adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Medi 2019 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 30 Medi 2019.