Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Rhith-Gyfarfod - ddim ar gael. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Nodyn: Virtual Meeting. Members of the public can view the meeting live via the Authority's website. If you require Welsh to English simultaneous translation during the meeting please telephone +44 330 336 4321 Passcode: 76531459# . (For call charges contact your service provider) 

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

 

Aelod

Rhif yr Eitem

Y Math o Fuddiant

Mrs. J James

6 - Penderfyniad y Panel Dyfarnu

Gwasanaethodd ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gyda'r Cynghorydd Roderick a Ms Doel am gyfnod, ond nid oes ganddi berthynas bersonol agos â nhw. (Noder - barnodd y Swyddog Monitro nad oedd y datganiad yn fuddiant personol).

Y Cynghorydd R. James

6 - Penderfyniad y Panel Dyfarnu

Mae'r Cynghorydd Shotton yn adnabod y Cynghorydd James yn bersonol. Datganodd fuddiant rhagfarnol a phersonol.

 

 

3.

LOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFODYDD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 14EG CHWEFROR, 2020. pdf eicon PDF 97 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 14 Chwefror, 2020 yn gywir.

 

4.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD DOROTHY JONES. pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Dorothy Jones am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a phleidleisio ar faterion yn ymwneud â darparu cludiant o'r cartref i'r ysgol yn Sir Gaerfyrddin, yn enwedig gweithrediadau'r Panel Ymgynghorol Adolygu Cludiant i'r Ysgol a sefydlwyd gan y Bwrdd Gweithredol i ymchwilio i'r mater hwn yr oedd y Cynghorydd Jones wedi'i phenodi i wasanaethu arno.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Jones fuddiant personol yn y mater hwn yn rhinwedd paragraff 10(2)(b)(i) o Gôd Ymddygiad yr Aelodau gan ei bod yn rhiant i blant oed ysgol sy'n byw yn y Sir.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Jones hefyd yn rhagfarnol petai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel y byddai'n debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd. Gan hynny, roedd y Cynghorydd Jones wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.

 

Nododd y Pwyllgor fod gollyngiad wedi'i roi i'r Cynghorydd Jones mewn perthynas â'r buddiant hwn ar 14 Chwefror 2020 ond nid oedd wedi cael y cyfle i wneud defnydd ohono eto.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Dorothy Jones SIARAD A PHLEIDLEISIO ar unrhyw fater y Cyngor sy'n ymwneud â chludiant o'r cartref i'r ysgol yn Sir Gaerfyrddin a bod y gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd ei chyfnod yn y swydd.

 

5.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD KEN LLOYD. pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Ken Lloyd am ollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad a chyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar faterion y cyngor yn ymwneud ag Ynni Sir Gâr neu faterion sy’n debygol o gael effaith ar Ynni Sir Gâr, a oedd yn gymdeithas budd cymunedol sy'n gweithredu yn y Sir.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Lloyd fuddiant personol yn y mater hwn yn rhinwedd paragraff 10(2)(a) (ix)(bb) ac (ee) a 10(2)(b)(v) o'r Côd Ymddygiad, sef ei fod ef a chysylltiadau personol agos iddo yn aelodau o'r sefydliad hwnnw a'u bod â chyfranddaliadau ynddo.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Lloyd hefyd yn rhagfarnol, gan y byddai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Rhoddwyd gollyngiad i'r Cynghorydd Lloyd yn flaenorol mewn perthynas â'r buddiant hwn ar 21 Ionawr 2020 a ddefnyddiodd er mwyn siarad yng nghyfarfodydd y Cyngor Llawn ar faterion fel newid yn yr hinsawdd.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD caniatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Ken Lloyd SIARAD A CHYFLWYNO SYLWADAU YSGRIFENEDIG YN UNIG mewn perthynas â materion cyffredinol yn ymwneud â'r amgylchedd ond nid materion yn ymwneud yn benodol ag Ynni Sir Gâr, a bod y gollyngiad mewn grym tan ddiwedd ei gyfnod presennol yn y swydd.

 

6.

PENDERFYNIADAU'R PANEL DYFARNU. pdf eicon PDF 105 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[SYLWER:

1. Roedd Mrs J. James wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach ond barnodd y Swyddog Monitro wedi hynny nad oedd o fuddiant personol.

2. Gan fod y Cynghorydd R. James wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod ac felly nid oedd wedi cymryd rhan yn y broses o ystyried y mater a phenderfynu arno.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Banel Dyfarnu Cymru yn manylu ar ei ganfyddiadau yn achosion y Cynghorydd Sir Roderick o Gyngor Sir Powys ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a'r Cynghorydd Sir Shotton o Gyngor Sir y Fflint.

 

Cyfeiriwyd y materion i'r Panel gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o ganlyniad i gwynion a ddaeth i law.

 

Canfuwyd bod y Cynghorydd Roderick wedi methu â dangos ystyriaeth a pharch i Gynghorydd benywaidd a'i fod wedi dwyn anfri ar ei swydd a hefyd ei fod wedi ceisio defnyddio ei swydd yn amhriodol i roi mantais iddo'i hun neu anfantais i un arall. Cafodd y Cynghorydd Roderick ei wahardd o'r ddau awdurdod am 4 mis.

 

Canfuwyd bod y Cynghorydd Shotton wedi defnyddio ei swydd yn amhriodol i roi mantais i berson arall a'i fod wedi dwyn anfri ar ei awdurdod trwy annog yr unigolyn hwnnw (un o weithwyr y cyngor) i ymddwyn yn amhriodol yn ystod oriau swyddfa. Cafodd y Cynghorydd Shotton ei wahardd o'i swydd am 3 mis.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

7.

COFLYFR CÔD YMDDYGIAD. pdf eicon PDF 103 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y rhifyn diweddaraf o ‘Goflyfr Côd Ymddygiad’ Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2020, a oedd yn rhoi crynodeb o'r ddau ymchwiliad côd a gynhaliwyd yn ymwneud ag aelodau o Gynghorau Sir a Chynghorau Cymuned. Nid oedd dim o'r achosion yn berthnasol i gynghorwyr o Sir Gaerfyrddin.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL YR OMBWDSMON. pdf eicon PDF 110 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2019/20 a oedd yn cynnwys y Datganiad Cyfrifon ac yn darparu gwybodaeth am achosion o gamweinyddu ac achosion Côd Ymddygiad y deliwyd â nhw gan ei swyddfa yn ystod cyfnod yr adroddiad.

 

Nododd y Pwyllgor fod y pwyntiau allweddol a godwyd yn yr adroddiad fel a ganlyn:

-       Derbyniwyd cyfanswm o 231 o gwynion yn ymwneud â chôd yn ystod y cyfnod adrodd sy'n ostyngiad o 18% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol,

-       Gostyngiad yn nifer yr achosion a gyfeiriwyd at Banel Dyfarnu Cymru o 4 i 1,

-       Gostyngiad yng nghanran y cwynion yn ymwneud â chôd a gaewyd (23.7% yn llai o gymharu â'r flwyddyn flaenorol),

-       Mae'r mwyafrif o gwynion yn ymwneud â chôd yn cael eu cau yn gynnar.

 

Cyfeiriwyd at fudd hyfforddiant neu hyfforddiant gloywi ac

nad yw llawer o aelodau Cynghorau Tref a Chymuned yn aml yn manteisio ar gyfleoedd a gynigir iddynt o ran cael hyfforddiant. Gofynnwyd i'r Pwyllgor nodi, oherwydd Covid-19, na roddwyd hyfforddiant eleni a bod deunydd hyfforddiant wedi'i ddosbarthu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

9.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau