Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas.  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Edwards, S. Phillips ac E.G. Thomas.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Math o Fuddiant

T.J. Jones

3 - Mr Leslie Albert Sydney Curle - Trwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat

Yn adnabod perchennog y cwmni tacsi

 

 

3.

MR LESLIE ALBERT SYDNEY CURLE - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 181 KB

Cofnodion:

(SYLWER: Gan fod y Cynghorydd T.J. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, gadawodd y Siambr tra oedd y Pwyllgor yn penderfynu ar y cais).

 

Yn unol â Chofnod 5 o'i gyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr, 2019, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Leslie Albert Sydney Curle, 5 Burrows Terrace, Porth Tywyn, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Curle ynghylch y mater hwnnw.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr Curle yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod Mr Leslie Albert Sydney Curle yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

4.

MR JASON LEE DAVIES - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 181 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Jason Lee Davies Fflat 1, Y Felin, Ffordd Glannant, Caerfyrddin, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Davies ynghylch y mater hwnnw.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr Davies yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod Mr. Jason Lee Davies yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

 

5.

MR IAN RICHARD JONES - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 181 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Ian Richard Jones, Cae'r Felin, Llanswel yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Jones ynghylch y mater hwnnw.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr Jones yn cael rhybudd terfynol ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod Mr Ian Richard Jones yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol

 

6.

MR STEPHEN GARY WARR - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 182 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr Stephen Gary Warr, Swan Fach, Llansawel am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr. Warr ynghylch ei gais.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr. Warr yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD caniatáu cais Mr Stephen Gary Warr am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Rhesymau

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

 

7.

MR JOHN LESLIE COX - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 182 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod cais wedi dod i law gan Mr John Leslie Cox, Bodfuan, Carmel am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Dywedodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu er i Mr Cox gael gwahoddiad i fod yn bresennol, nad oedd wedi dod i'r cyfarfod ac nad oedd wedi rhoi gwybod i'r Awdurdod am unrhyw reswm dros beidio â bod yn bresennol. Felly, byddai angen i'r Pwyllgor benderfynu a ddylid gohirio ystyried y cais tan ddyddiad arall er mwyn rhoi cyfle i Mr Cox fod yn bresennol neu, fel arall, ystyried y cais yn ei absenoldeb

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ystyried cais Mr Cox yn ei absenoldeb.

 

Yna cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu yn ymwneud â'r materion oedd wedi codi mewn perthynas â chais Mr Cox.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Cox yn cael ei wrthod.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais a gyflwynwyd gan Mr John Leslie Cox am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Rhesymau

Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd, nid oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

8.

MR ALBERT BLEDDYN DAVISON - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 182 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor gais gan Mr Albert Bleddyn Davison, 3 Heol D?r Fach, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Davison ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu a chynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys. 

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Davison yn cael ei wrthod.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, wrthod cais Mr Albert Bleddyn Davison am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Rhesymau

Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd ac ymatebion yr ymgeisydd, nid oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn unigolyn addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

9.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD YR IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU "B" A GYNHALIWYD AR 20FED TACHWEDD 2019 pdf eicon PDF 215 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu 'B' a gynhaliwyd ar 20 Tachwedd 2019, gan eu bod yn gywir

 

10.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD YR IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU "A" A GYNHALIWYD AR 10FED RHAGFYR 2019 pdf eicon PDF 329 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu 'A' a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr 2019, gan eu bod yn gywir

 

 

11.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD YR IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU "B" A GYNHALIWYD AR 23AIN IONAWR 2020 pdf eicon PDF 233 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu 'B' a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2020, gan eu bod yn gywir

 

 

12.

COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 5ED RHAGFYR, 2019 pdf eicon PDF 239 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr 2019, gan eu bod yn gywir

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau