Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod y Cabinet dros yr Amgylchedd (Cyn Mai 2022) - Dydd Llun, 15fed Ebrill, 2019 9.00 yb

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 26 MAWRTH 2019 pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi'r cofnod penderfyniadau o gyfarfod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd a gynhaliwyd ar 26 Mawrth, 2019 gan ei fod yn gofnod cywir.

 

3.

GWRTHWYNEBIADAU I ORCHYMYN SIR GAERFYRDDIN (RHYDAMAN) - CYFYNGU AR AROS A MANNAU PARCIO AR Y STRYD - (AMRYWIAD 14) pdf eicon PDF 152 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyo'r cyfyngiadau aros ar y stryd arfaethedig yn Rhydaman. Rhoddwyd manylion am y cyfyngiadau arfaethedig canlynol yn Atodiad 1 a 2 oedd ynghlwm wrth yr adroddiad:

 

   i.  Cyfyngu ar aros, Stryd y Cei
Cyflwyno lle aros am gyfnod cyfyngedig (1 awr), dydd Llun - dydd Sadwrn, 8am-6pm, heb ddychwelyd cyn pen 1 awr.

 

  ii.  Heol Maescwarrau
Cyflwyno gwaharddiad ar aros ar unrhyw adeg ar ei chyffordd â Maes Ifan.

 

Rhoddwyd gwybod yn dilyn ymgynghori cychwynnol ynghylch y cynigion â'r ymgyngoreion statudol, fod 3 gwrthwynebiad a deiseb ag arni 32 o enwau yn erbyn y cynigion a hysbysebwyd wedi dod i law, fel y manylwyd yn Atodiad 3 yr adroddiad ynghyd ag ymatebion y swyddog iddynt.

 

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i'r cynigion ynghyd â'r gwrthwynebiadau cysylltiedig a gafwyd.

 

Argymhellwyd, yn dilyn rhoi ystyriaeth briodol i'r gwrthwynebiadau ac ymateb yr Awdurdod, gymeradwyo'r cynigion, fel y nodwyd yn yr Hysbysiad Cyhoeddus o'r atodlen leoliadau (Atodiad 1).


PENDERFYNWYD:

 

3.1      nodi'r gwrthwynebiadau fel y manylwyd arnynt yn Atodiad 3;
3.2       cymeradwyo'r cynigion fel y manylwyd arnynt yn Atodiad 1. 

 

4.

GWRTHWYNEBIADAU I ORCHYMYN CYDGYFNERTHU SIR GAERFYRDDIN (AC EITHRIO CAERFYRDDIN, LLANELLI A RHYDAMAN) (CYFYNGIADAU AR AROS A MANNAU PARCIO AR Y STRYD) (AMRYWIAD RHIF 30) 2019 pdf eicon PDF 200 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyo'r gorchymyn gwledig ynghylch cyfyngiadau aros ar y stryd arfaethedig. Rhoddwyd manylion am y cyfyngiadau arfaethedig canlynol yn Atodiad 1 a 2 oedd ynghlwm wrth yr adroddiad:

 

i.        Cwm-ann, yr A482 - Cyflwyno gwaharddiad ar aros ar unrhyw adeg, ar ochr ogleddol Stryd Treherbert, ger ei chyffordd â Chwrt Deri;

 

ii.        Heol y Gaer, Llanybydder - Cyflwyno gwaharddiad ar aros ar unrhyw adeg ar ddwy ochr y gyffordd;

 

iii.        Heol Trallwm/Bryn Isaf, Llwynhendy - Cyflwyno gwaharddiad aros ar unrhyw adeg a llwytho/dadlwytho wrth y gyffordd; 

 

iv.        Parc Elkington, Porth Tywyn - Cyflwyno gwaharddiad ar aros ar unrhyw adeg;

 

v.        Heol Danlan, Pen-bre - Dirymu'r gwahardd aros ar unrhyw adeg presennol a chyflwyno gwaharddiad ar aros, dydd Llun – dydd Gwener rhwng 08:00 a 17:00.

 

Rhoddwyd gwybod yn dilyn ymgynghori cychwynnol ynghylch y cynigion â'r ymgyngoreion statudol, fod 20 gwrthwynebiad a deiseb ag arni 64 o enwau yn erbyn y cynigion a hysbysebwyd wedi dod i law, fel y manylwyd yn Atodiad 3 yr adroddiad ynghyd ag ymatebion y swyddog iddynt.

 

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i'r cynigion ynghyd â'r gwrthwynebiadau cysylltiedig a gafwyd.

 

Argymhellwyd, yn dilyn rhoi ystyriaeth briodol i'r gwrthwynebiadau ac ymateb yr Awdurdod, gymeradwyo'r cynigion, fel y nodwyd yn yr Hysbysiad Cyhoeddus o'r atodlen leoliadau (Atodiad 1), yn amodol ar wneud newidiadau i Heol y Gaer, Llanybydder, fel y manylwyd yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

4.1      nodi'r gwrthwynebiadau fel y manylwyd arnynt yn Atodiad 3;
4.2       cymeradwyo'r cynigion fel y nodwyd yn Atodiad 1, yn amodol ar             wneud newidiadau i Heol y Gaer, fel y manylir yn yr adroddiad.

 

5.

GWRTHWYNEBIADAU I ORCHYMYN SIR GAERFYRDDIN (AC EITHRIO CAERFYRDDIN, LLANELLI A RHYDAMAN) (AMRYWIAD 31) (GWAHARDD ARBROFOL AR AROS A PHARCIO AR Y STRYD) 2018 pdf eicon PDF 198 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad er mwyn penderfynu ynghylch gwrthwynebiadau oedd wedi dod i law ynghylch y Gorchymyn Arbrofol ar y stryd mewn mannau ym Mharc Arfordirol y Mileniwm. Rhoddwyd manylion am y cyfyngiadau arfaethedig canlynol yn Atodiad 1 a 2 oedd ynghlwm wrth yr adroddiad:

 

   i.        Heol y Ffatri, Parc Gwledig Pen-bre;

  ii.        Y ffordd sy'n arwain i'r maes parcio, ger Parc Carafanau Shoreline, Pen-bre;

 iii.        Ffordd fynediad i faes parcio Meysydd G?yl, Llanelli;

iv.        Ffordd fynediad o Ffordd Gyswllt Porth Tywyn i'r maes parcio.

 

Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol mai diben y cyfyngiadau arfaethedig oedd hwyluso diogelwch ffyrdd, llif y traffig ar hyd y darn o'r ffordd, yn enwedig ar gyfer cerbydau'r gwasanaethau brys.

 

Rhoddwyd gwybod yn dilyn ymgynghori cychwynnol ynghylch y cynigion â'r ymgyngoreion statudol, cafwyd gwrthwynebiadau ynghylch Heol y Ffatri, Parc Gwledig Pen-bre yn unig, a oedd yn cynnwys 97 o wrthwynebiadau yn erbyn y cynigion a hysbysebwyd, fel y manylwyd yn Atodiad 3 yr adroddiad ynghyd ag ymatebion y swyddog iddynt.

 

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i'r cynigion ynghyd â'r gwrthwynebiadau cysylltiedig a gafwyd.

 

Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod gwrthwynebwyr yn pryderu'n bennaf nad oedd unrhyw drefniadau wedi eu gwneud ar gyfer faniau ceffylau, sy'n rhy fawr i'w parcio yn y maes parcio. Oherwydd y pryderon a gyflwynwyd, argymhellwyd gweithredu'r cynigion fel y nodwyd yn Atodiad 1, a'r newid a nodwyd yn 3.2.1.2 yr adroddiad, i gynnwys cyflwyno lle parcio ar gyfer faniau ceffylau a'u hôl-gerbydau, gyferbyn â'r fynedfa i'r maes parcio ger y cae pêl-droed, am oddeutu 30 metr, yn lle'r llinellau melyn dwbl presennol a ddisgrifir yn y gorchymyn.


 

 

PENDERFYNWYD:

 

5.1      nodi'r gwrthwynebiadau fel y manylwyd arnynt yn Atodiad 3;
5.2       cymeradwyo'r cynigion a nodwyd yn Atodiad 1, yn amodol ar gynnwys y newid i gyflwyno lle parcio ar gyfer faniau ceffylau a'u hôl-gerbydau, gyferbyn â'r fynedfa i'r maes parcio ger y cae pêl-droed, am oddeutu 30 metr, yn lle'r llinellau melyn dwbl presennol a ddisgrifir yn y gorchymyn hwn;
5.3       bod y gorchymyn arbrofol yn cael ei wneud yn un parhaol