Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed - Dydd Mercher, 19eg Mehefin, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Ystafell Pwyllgor 2, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Y Math o Fuddiant

D.E. Williams

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

T.J. Jones

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

R. Evans

Aelod o Gronfa Bensiwn Dyfed

 

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 21AIN CHWEFROR, 2019. pdf eicon PDF 333 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 21 Chwefror 2019 yn gywir.

 

4.

MONITRO CYLLIDEB 1 EBRILL 2018 – 31 MAWRTH 2019 pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor Adroddiad Monitro Cronfa Bensiwn Dyfed a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol o ran blwyddyn ariannol 2018/19. Nodwyd bod y sefyllfa bresennol, fel yr oedd ar 31 Mawrth 2019, yn rhagweld tanwariant o £635k o ran arian parod. O ran gwariant, roedd yr effaith net o'r buddion sy'n daladwy a throsglwyddiadau allan yn cynrychioli gorwariant o £3.4m yn bennaf oherwydd natur aflywodraethus cyfandaliadau a throsglwyddiadau o'r gronfa. Roedd tanwariant o ran treuliau rheolwyr o £0.2k. O ran incwm, roedd effaith net cyfraniadau, incwm buddsoddi a throsglwyddiadau i mewn yn cynrychioli cynnydd mewn incwm o £3.9m. Yn gyffredinol, y cyfanswm gwariant oedd £89.8m a chyfanswm incwm o £90.4m sy'n cynrychioli sefyllfa llif arian cadarnhaol o £0.6m.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Monitro Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

 

5.

DATGANIAD CYFRIFON 2018-2019 pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed ar gyfer 2018/19, a gynhyrchwyd yn unol â'r Côd Ymarfer ar Gadw Cyfrifon Awdurdodau Lleol yn y Deyrnas Unedig 2018-19, sy'n manylu ar y sefyllfa ariannol, perfformiad a hyfywedd ariannol ar gyfer y flwyddyn 2018-19 ynghyd â chanlyniadau stiwardiaeth rheoli h.y. – atebolrwydd rheolwyr o ran yr adnoddau sydd wedi'u hymddiried iddynt a sefyllfa’r asedau ar ddiwedd y cyfnod.

 

Nodwyd bod sefyllfa'r gronfa, fel yr oedd ar 31 Mawrth 2019, yn nodi mai gwerth y cyfanswm asedau oedd £2.575bn, i fyny o £2.44bn yn 2017/18. Roedd hwn yn gynnydd o £135m yn yr asedau net o 2017/18 i 2018/19. O ran gwariant y Gronfa, daeth y buddion taladwy a'r trosglwyddiadau i gyfanswm o £87m a'r adenillion yn sgil buddsoddi i £152m.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Dyfed 2018/19.

 

 

6.

CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 31 MAWRTH 2019 pdf eicon PDF 112 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed. Nodwyd ar 31 Mawrth, 2019 fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cadw £5.2m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion llif arian uniongyrchol i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad Cysoni Arian Parod Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

 

7.

ADRODDIAD TORRI AMODAU pdf eicon PDF 113 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried. Nodwyd gan y Pwyllgor fod Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn pennu'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith. Mae Côd Ymarfer rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith. Cafodd Polisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed ei gymeradwyo gan Banel Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2016. O dan y polisi, roedd yn ofynnol i achosion o dorri'r gyfraith gael eu hadrodd i'r Rheoleiddiwr Pensiynau os oes achos rhesymol i gredu'r canlynol:

 

·         na chydymffurfir – neu na chydymffurfiwyd – â dyletswydd gyfreithiol sy'n berthnasol i'r gwaith o weinyddu'r cynllun;

·         bod yr anallu i gydymffurfio yn debygol o fod o arwyddocâd sylweddol i'r Rheoleiddiwr wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau.

                     

Nododd y Pwyllgor fod nifer o achosion wedi bod ers y cyfarfod diwethaf lle nad oedd cyfraniadau gweithwyr/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser. Ond, erbyn hyn, roedd yr holl gyfraniadau yn gyfredol ac nid oedd achos wedi'i gyfeirio at y Rheoleiddiwr Pensiynau.

 

O ran Eitem 62 yn yr adroddiad, hysbyswyd Aelodau'r Pwyllgor fod y toriad yn ymwneud â gofyniad i dalu ad-daliadau awtomatig ar ôl pum mlynedd i aelodau'r cynllun a wnaeth adael ar ôl Ebrill 2014. Roeddid wedi cysylltu ag aelodau'r cynllun yr oedd hyn wedi effeithio arnynt i ofyn am eu manylion banc ond nid oedd ateb wedi dod i law. Roedd Gr?p Technegol Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yn cydnabod y mater hwn ar raddfa genedlaethol, yn enwedig mewn perthynas ag ad-dalu symiau bach o arian, ac wedi argymell bod Bwrdd Ymgynghorol y Cynllun yn gofyn i Weinidogion newid y Rheoliad.

 

PENDERFYNWYD nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.

 

 

8.

Y DIWEDDARAF AM BARTNERIAETH PENSIYNAU CYMRU pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ynghylch y cerrig milltir a'r cynnydd o ran Partneriaeth Pensiwn Cymru. Nododd y Pwyllgor fod y gwaith o gyflwyno a throsglwyddo asedau i ddwy is-gronfa Ecwiti Byd-eang (£3.5bn) wedi'i gwblhau a bod adroddiadau perthnasol wedi'u gwneud.  Roedd Tracey Williams wedi'i phenodi'n Uwch-swyddog y Gwasanaethau Ariannol ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru. O ran cyfathrebu, byddai gwefan Partneriaeth Pensiwn Cymru yn weithredol erbyn dechrau mis Awst. Byddai gweithdy yn cael ei gynnal ar y polisi cyfathrebu ar ôl cyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ym mis Mehefin. O ran adrodd, dywedodd Mr Parnell fod LINK wedi ailddyrannu staffio er mwyn mynd i'r afael â heriau blaenorol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y cyflwyniad.

 

 

9.

DRAFFT WPP DATBLYGU POLISI BUDDSODDI CYFRIFOL pdf eicon PDF 198 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Er ystyriaeth, cafodd y Pwyllgor y fersiwn ddrafft o Bolisi Buddsoddiad Cyfrifol Partneriaeth Pensiwn Cymru. Dywedwyd fod y polisi trosfwaol hwn yn cynnwys egwyddorion y byddai angen i bob cronfa eu hystyried ond ei fod wedi'i lunio mewn ffordd a allai ddarparu ar gyfer polisïau Buddsoddiad Cyfrifol cronfeydd unigol. Byddai'n rhaid i bob un o'r wyth cronfa ystyried y polisi drafft, a fyddai'n cael ei ddychwelyd i'w gymeradwyo gan y Cyd-bwyllgor Llywodraethu ym mis Medi.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Polisi Buddsoddiad Cyfrifol Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

10.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI’R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â’R MATERION CANLYNOL GAN EU  BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y’I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y’I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR  AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â’R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HYN YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I’R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O’R FATH.

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

 

11.

CRONFA CREDYD FYD-EANG

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 10 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn ac o niweidio trafodaethau parhaus a thrafodaethau'r dyfodol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad am yr is-gronfeydd arfaethedig a'r strwythurau rheolwyr ar gyfer Is-gronfeydd Incwm Sefydlog Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru. Dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiwn taw dim ond y Gronfa Credyd Byd-eang oedd yn berthnasol i Gronfa Bensiwn Dyfed o ran y strwythur is-gronfeydd arfaethedig. Pe bai'r cynnig yn cael ei dderbyn, byddai bondiau corfforaethol y Gronfa yn cael eu trosglwyddo i'r Gronfa Credyd Byd-eang. Dywedodd yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol y dylid cefnogi'r cynnig.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

11.1    Derbyn yr adroddiad;

11.2   Cytuno i drosglwyddo Bondiau Corfforaethol i Gronfa Credyd Byd-eang Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

12.

ADRODDIAD YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL MAWRTH 2019

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 10 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol, a roddai wybodaeth mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 31 Mawrth 2019.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ar 31 Mawrth 2019.

 

 

13.

ADRODDIAD PERFFORMIAD NORTHERN TRUST 31 MAWRTH 2019

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 10 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn debygol o achosi niwed ariannol i'r Gronfa Bensiwn.

 

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Mawrth 2019 a oedd yn nodi dadansoddiad o berfformiad o ran lefel y gronfa gyfan a chan y rheolwr buddsoddi am y cyfnodau cyn i'r gronfa gychwyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad perfformiad Northern Trust ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed fel yr oedd ar 31 Mawrth 2019.