Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Meeting Room 6, Block 2, Parc Myrddin, Carmarthen

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

2.

I ARWYDDO COFNOD PENDERFYNIAD Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 28 IONAWR 2019 pdf eicon PDF 74 KB

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD llofnodi'r cofnod penderfyniadau o gyfarfod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd a gynhaliwyd ar 28 Ionawr, 2019 gan ei fod yn gofnod cywir.

 

 

3.

GWRTHWYNEBIADAU I'R CYNNIG I OSOD TWMPATH FFORDD AR Y B4312, HEOL LLANSTEFFAN, TRE IOAN pdf eicon PDF 189 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyo cynigion i leihau cyflymder traffig ar y B4312, Heol Llansteffan, Tre Ioan lle mae tystiolaeth bendant bod cerbydau'n teithio'n gyflymach na'r terfyn cyflymder presennol o 20mya.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi bod pen deheuol y B4312, Heol Llansteffan, Tre Ioan wedi bod yn destun pryderon lleol ynghylch problemau goryrru y tu allan i Ysgol Rhyd-y-gors ac Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth.

 

Rhoddwyd gwybod, yn dilyn ymgynghori cychwynnol ynghylch y cynigion â'r ymgyngoreion statudol, fod dau wrthwynebiad/sylwad wedi dod i law, fel y manylwyd yn Atodiad 2 yr adroddiad ynghyd ag ymatebion y swyddog iddynt. 

 

Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol y daethpwyd i'r casgliad, mewn partneriaeth â'r heddlu, mai'r unig ddewis a fyddai'n arwain at ostyngiad boddhaol o ran cyflymder ym mhen deheuol Heol Llansteffan, fyddai gosod mesur fertigol ychwanegol ar ffurf twmpath ffordd â brig crwn yn lle'r sgwariau arafu presennol sydd y tu allan i Ysgol Rhyd-y-gors.

 

 

Argymhellwyd bwrw ymlaen â'r cynigion, fel y nodir yn yr Hysbysiad Cyhoeddus o'r atodlen leoliadau (Atodiad 1).

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cynigion fel y nodwyd yn Atodiad 1 - Hysbysiad Cyhoeddus o'r atodlen leoliadau.

 

 

4.

CYNNIG I GYFLWYNO BEICIO DWYFFORDD - TERAS CAERSALEM, LLANELLI pdf eicon PDF 208 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn gofyn am gymeradwyo cynnig a fyddai'n caniatáu i feicwyr deithio yn erbyn y cyfeiriad y mae cerbydau eraill yn teithio ar hyd Teras Caersalem (oddeutu 100m).

 

Nodwyd y byddai'r cynnig yn atal beicwyr rhag gorfod teithio ar hyd Heol yr Orsaf at gylchfan ac yn ôl ar hyd Stryd y Gors er mwyn cyrraedd yr un man (oddeutu 450m) fel y dangosir yn Atodiad 1 sydd ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Yn ogystal, roedd y cynnig yn rhan o gynllun ehangach a oedd yn cynnwys cyfres o fesurau a luniwyd er mwyn creu a gwella seilwaith teithio llesol ledled Llanelli. Byddai creu'r gwrthlif hwn felly yn hwyluso teithio amlfodd drwy wella cysylltiadau â Gorsaf Reilffordd Llanelli a thu hwnt. Roedd map manwl o'r cynllun ynghlwm wrth yr adroddiad, sef Atodiad 2.

 

Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, yn dilyn ymgynghori cychwynnol ynghylch y cynigion â'r ymgyngoreion statudol, fod gwrthwynebiad wedi dod i law, fel y manylwyd yn Atodiad 3 yr adroddiad ynghyd ag ymatebion y swyddog iddynt.  

 

Gan ystyried y gwrthwynebiadau a'r trafodaethau dilynol, datblygodd y tîm prosiect ddau ddewis a ddisgrifir yn yr adroddiad. O ganlyniad, argymhellwyd y dylid cymeradwyo Dewis 1.

 

Mewn ymateb i ymholiad a godwyd gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, dywedwyd bod y beicio dwyffordd a gynigwyd wedi cael ei ddatblygu yn unol â Chanllawiau Dylunio Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 - 'DE10, beicio dwyffordd anwahanedig'.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cynnig i gyflwyno beicio dwyffordd ar hyd Teras Caersalem, Llanelli yn unol â Dewis 1 yn yr adroddiad.

 

 

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau