Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin J Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd C. Campbell – Yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

4.

GWASANAETH LLAWN Y CREDYD CYNHWYSOL - Y WYBODAETH DDIWEDDARAF pdf eicon PDF 258 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod, yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2019 (gweler Cofnod 5), ar ôl rhoi ystyriaeth i adroddiad ynghylch cyflwyno Credyd Cynhwysol yn Sir Gaerfyrddin, wedi gwneud cais am adroddiad diweddaru mewn chwe mis gan estyn gwahoddiadau i'r Adran Gwaith a Phensiynau ac i Gyngor ar Bopeth Sir Gaerfyrddin fod yn bresennol.  Yn unol â'r penderfyniad hwnnw estynnodd y Cadeirydd groeso i Adele Lodwig a Maria Brookfield o Is-adran Tai y Cyngor i'r cyfarfod, ynghyd â Menna Davies – Adran Gwaith a Phensiynau a Hayley Price a Suzanne Gainard – Cyngor ar Bopeth Sir Gaerfyrddin.

 

Yna cafodd y Pwyllgor adroddiad diweddaru ar effaith credyd cynhwysol ar denantiaid y cyngor ynghyd â chyflwyniadau gan y rhai a enwir uchod ynghylch cyflwyno Credyd Cynhwysol yn Sir Gaerfyrddin o safbwynt eu sefydliadau unigol, er enghraifft:-

 

-       Yr Adran Gwaith a Phensiynau – cyflwyno a gweithredu Credyd Cynhwysol, gan gynnwys trefniadau presennol ar gyfer hawlwyr newydd a'r broses ymfudo a reolir erbyn Rhagfyr 2023 ar gyfer yr holl hawlwyr presennol sy'n cael taliadau gan y gronfa waddol.

-       Cyngor ar Bopeth Sir Gaerfyrddin – darparu cyngor a chymorth i hawlwyr presennol budd-daliadau y gronfa waddol sy'n newid i gredyd cynhwysol a'r holl hawlwyr newydd mewn amrywiaeth o ffyrdd, er enghraifft wyneb yn wyneb, gan gynnwys cyfweliadau yn y swyddfa ac ymweliadau cartref, gwe-sgwrs, gwasanaeth ffôn cenedlaethol a chymorth TG, a hynny er mwyn gallu cwblhau ffurflenni ar-lein. Roedd y cyngor hwnnw'n cynnwys asesiadau unigol a chyngor ynghylch a fyddai'n fuddiol i hawlwyr presennol budd-daliadau barhau ar y budd-daliadau hynny neu drosglwyddo i gredyd cynhwysol.

-       Is-adran Tai Sir Gaerfyrddin – mabwysiadu dull rhagweithiol ar gyfer ei thenantiaid drwy ddarparu cyswllt cynnar ac adnabod unrhyw un a allai, o bosib, fod mewn risg o dan y trefniadau newydd. Sefydlwyd tîm cyn-denantiaeth i helpu ac i gefnogi darpar denantiaid i reoli eu harian a'u tenantiaethau. Roedd hynny'n cynnwys cyflwyno hawliadau am fudd-daliadau'n gynnar er mwyn sicrhau bod taliadau'r budd-daliadau'n dechrau ar yr un pryd â dechrau'r denantiaeth, gan nad oedd modd ôl-ddyddio'r taliadau.

 

Cafodd aelodau'r Pwyllgor gyfle i holi cwestiynau ynghylch yr adroddiad/cyflwyniadau a oedd yn cynnwys y canlynol:-

 

·         Cyfeiriwyd at y defnydd cynyddol o fanciau bwyd yn Sir Gaerfyrddin, fel y nodwyd yn yr adroddiad. Cydnabuwyd er bod defnydd o'r banciau bwyd wedi cynyddu, nid cyflwyno'r Credyd Cynhwysol sydd i gyfri'n gyfan gwbl am hyn. Fodd bynnag, nodwyd bod y broses gwneud cais am gredyd cynhwysol yn gymhleth, yn enwedig yn ystod y camau cynnar pan nad oedd hawlwyr yn cael taliadau. Yr amser rhwng cyflwyno cais am hawliad a'r taliad cyntaf yw 5 wythnos ar gyfartaledd, ac mae hwnnw'n cael ei dalu ar ffurf ad-daliad. Cyfeiriwyd hawlwyr oedd yn wynebu caledi ariannol yn ystod y cyfnod hwn at fanciau bwyd a phosibiliadau eraill er mwyn cael cymorth. Roedd taliadau ymlaen llaw o hyd at 100% ar gael, a byddai'r rhain yn cael eu had-dalu dros gyfnod o 12 mis. Yn ogystal, cydnabuwyd er nad oedd dechrau'r cynllun wedi bod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2019/20 pdf eicon PDF 298 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiadau Monitro Cyllideb Refeniw a Chyllideb Gyfalaf 2019/20 y Gwasanaethau Tai, Adfywio, Cynllunio a Hamdden ar gyfer y cyfnod hyd at 31 Awst 2019. Nodwyd y rhagwelid gorwariant o £703k yn y gyllideb refeniw, tanwariant o £169k yn y gyllideb gyfalaf, a thanwariant o £32k yn y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·         Cyfeiriwyd at yr ymweliadau safle a wnaethpwyd ym mis Mai 2019 â Chanolfan Hamdden Sanclêr, Y Gât a Chanolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn. Gofynnwyd am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch unrhyw gynnydd a gyflawnwyd ers yr adeg honno ar eu datblygiad yn y dyfodol.

 

Dywedodd y Pennaeth Hamdden fod ymchwiliadau/adroddiadau'n cael eu gwneud ar hyn o bryd ynghylch opsiynau ar gyfer y tri lleoliad ac y byddai hyn yn destun proses ddemocrataidd y Cyngor maes o law.

 

O ran Canolfan Hamdden Sanclêr, roedd model gweithredu newydd yn cael ei archwilio a'r gobaith oedd y byddai modd bod yn rhan o drefniant partneriaeth gyda'r cyngor cymuned. Dywedwyd bod angen gwneud dros £600k o waith i ddiweddaru'r cyfleuster ac roedd cais cyfalaf yn cael ei baratoi er mwyn ystyried ei gynnwys yn rhan o raglen gyfalaf 5 mlynedd y Cyngor. Er y byddai'r cais hwnnw'n dod o dan flwyddyn 5 yn y rhaglen petai'n cael ei dderbyn, y gobaith oedd y byddai unrhyw amrywiadau i'r rhaglen yn gallu caniatáu i'r cais gael ei ddwyn ymlaen.

 

O ran y sefyllfa yn y Gât, roedd ymgynghoriadau ar waith gyda'r Cyngor Cymuned ynghylch y modd y gweithredir y lle yn y dyfodol. Roedd llawer o opsiynau'n cael eu hystyried ar gyfer Canolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn, ac roedd gwaith ymgynghori ar waith gydag ysgolion ynghylch y math o gyfleuster yr hoffent weld yn cael ei ddarparu.

 

·         Cyfeiriwyd at y gorwariant arfaethedig o £463k yn yr Is-adran Gynllunio a gofynnwyd am eglurhad ynghylch pa fesurau oedd yn cael eu cyflwyno i fynd i'r afael â'r diffyg ariannol, a oedd wedi bod yn broblem dro ar ôl tro yn y blynyddoedd blaenorol.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu a Threftadaeth Adeiledig er bod y gorwariant arfaethedig yn sylweddol, roedd yr is-adran yn ymwybodol o nifer o geisiadau cynllunio oedd i ddod a byddai ffioedd y rheiny yn helpu i leihau'r gorwariant. O ran mynd i'r afael â'r gorwariant dibaid, roedd hynny'n cael ei archwilio'n lleol ac yn genedlaethol. Yn lleol, roedd ystyriaeth yn cael ei rhoi i gyflwyno polisi codi tâl yn ôl disgresiwn a allai gynnwys tâl am gyngor cyn cynllunio.

 

Yn genedlaethol, roedd newid yn y ddeddfwriaeth yn 2015 yn golygu mai'r awdurdodau lleol oedd yn gyfrifol am y gwaith a'r costau cysylltiedig o ran penderfynu ynghylch cynlluniau mawr megis ffermydd gwynt er bod y ffioedd ar eu cyfer yn daladwy i Lywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd roedd Llywodraeth Cymru yn archwilio lefel y ffioedd cynllunio, lle gallai cynnydd drwyddi draw fod yn bosibl, ynghyd â phennu taliadau cynllunio ar sail adennill costau yn llawn. Yn ogystal roedd sylwadau wedi cael eu gwneud i Lywodraeth Cymru  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 150 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried rhestr o'r eitemau a fyddai'n cael eu hystyried yn ei gyfarfod nesaf ym mis Rhagfyr 2019.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y rhestr o'r eitemau i'w hystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ym mis Rhagfyr 2019.

 

7.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR GOFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR:

7.1

3YDD HYDREF, 2019 pdf eicon PDF 262 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi'i gynnal ar 3 Hydref, 2019 gan eu bod yn gywir.

 

7.2

16EG HYDREF, 2019 pdf eicon PDF 249 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor oedd wedi'i gynnal ar 16 Hydref 2019 gan eu bod yn gywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau