Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan B. Rees (Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda).

 

Bu i'r Cadeirydd groesawu'r Athro Medwin Hughes i'r cyfarfod fel Cynrychiolydd newydd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar y Cyd-bwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r newid o ran cynrychiolaeth ar y Cyd-bwyllgor, fel yr hysbyswyd gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

3.

DATGANIAD Y CADEIRYDD

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y cyhoeddiad diweddar gan Brifysgol Abertawe ynghylch gwahardd aelodau staff. Dywedodd y Cadeirydd fod y gwaharddiadau yn fater i Brifysgol Abertawe yn unig, fodd bynnag, byddai'n ddoeth i'r Cyd-bwyllgor ddeall ac ymateb i unrhyw bryderon posibl ynghylch y Fargen Ddinesig.

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth yr Aelodau, ar ôl iddo gael gwybod am y gwaharddiadau, cysylltodd â Chofrestrydd y Brifysgol ar unwaith. Rhoddodd y Cofrestrydd sicrwydd iddo, er bod y gwaharddiadau yn gysylltiedig â'r Pentref Gwyddor Bywyd a Llesiant, nid oeddent yn gysylltiedig ag unrhyw brosiectau eraill y Fargen Ddinesig. Dywedodd y Cadeirydd fod Prifysgol Abertawe wedi ailddatgan ymrwymiad cadarn i'r Fargen Ddinesig. Awgrymodd, fodd bynnag, ynghyd â'r sicrwydd hwn, y byddai'n fuddiol i'r Cyd-bwyllgor gynnal adolygiad mewnol ynghylch diwydrwydd dyladwy y Fargen Ddinesig. Awgrymodd y gellid cynnal yr adolygiad ochr yn ochr â'r adolygiad annibynnol gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, a hynny o dan ei gadeiryddiaeth, a Chyngor Sir Penfro yn cymryd cyfrifoldeb am y gwaith archwilio. 

 

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin wrth y Cyd-bwyllgor fod Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymeradwyo Achos Busnes Pentref Gwyddor Bywyd a Llesiant Llanelli mewn egwyddor a barnwyd ei fod yn barod i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Fodd bynnag, cyn cymryd unrhyw gamau pellach, cyfarwyddwyd bod angen cael rhagor o sicrwydd gan Swyddogion, gan gynnwys cyngor cyfreithiol allanol arbenigol, bod yr holl brosesau cyfreithiol priodol wedi cael eu dilyn a bod angen adrodd yn ôl i'r Bwrdd Gweithredol yn unol â hynny. Dywedodd yr Arweinydd wrth Aelodau fod y broses hon ar waith a byddai'r Cyd-bwyllgor yn cael adroddiad ynghylch y canlyniadau. Gofynnwyd hefyd i'r swyddogion ystyried dulliau darparu eraill er mwyn sicrhau y gellir cwblhau Pentref Gwyddor Bywyd a Llesiant Llanelli. Roedd yr Awdurdod yn gwbl ymroddedig i'r prosiect ac yn hyderus y byddai modd cael cyllid gan y sector preifat. Roedd yr Awdurdod yn parhau i weithio gyda'r ddwy brifysgol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i symud y prosiect yn ei flaen, a gofynnodd i'r Cyd-bwyllgor gefnogi a pharhau yn ymroddedig i gyflawni'r holl brosiectau sy'n rhan o'r Fargen Ddinesig.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch Pentref Gwyddor Bywyd a Llesiant Llanelli, a chadarnhaodd ei fod yn adlewyrchu barn y Cyd-bwyllgor na fyddai modd i’r prosiect barhau hyd nes i gynnig diwygiedig gael ei gyflwyno i’r Cyd-bwyllgor er mwyn ei ystyried.  Ailbwysleisiodd y byddai'n synhwyrol ac yn ddoeth yn ei farn ef i gynnal adolygiad ynghylch diwydrwydd dyladwy'r holl brosiectau, er mwyn sicrhau bod y Fargen Ddinesig yn parhau ar y trywydd cywir a hefyd i sicrhau bod yr holl gynlluniau yn gadarn. Byddai'r adolygiad yn cynnwys rheoli rhaglenni, statws prosiect, gwelededd a pherchnogaeth, capasiti, rolau, cyfrifoldebau a swyddogaethau ac yn galluogi'r Cyd-bwyllgor i barhau yn hyderus. Byddai canfyddiadau unrhyw adolygiad gan y Cyd-bwyllgor yn cyd-fynd â'r Adolygiad Annibynnol ac yn cael eu cynnwys yn y trefniadau cydweithio. Ni allai’r prosiect gymryd camau pellach hyd nes y bydd Sir Gaerfyrddin yn cyflwyno  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

LLOFNODI BOD COFNODION CYFARFOD Y CYD-BWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 22 TACHWEDD 2018 YN GYWIR pdf eicon PDF 146 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Cyd-bwyllgor Dinas-ranbarth Bae Abertawe a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd 2018 gan eu bod yn gywir.

 

5.

Y DIWEDDARAF AM BROSIECTAU BARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE pdf eicon PDF 201 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Cyd-bwyllgor adroddiad diweddaru ynghylch y prosiectau lleol a rhanbarthol canlynol a ariennir gan y Fargen Ddinesig:

 

·         Seilwaith Digidol

·         Ardal Ddigidol Dinas Abertawe a’r Glannau;

·         Sgiliau a Thalent;

·         Yr Egin;

·         Pentref Gwyddor Bywyd a Llesiant Llanelli

·         Campws Gwyddor Bywyd a Llesiant Llanelli;

·         Cartrefi yn Orsafoedd P?er

·         Canolfan Ragoriaeth Gwasanaethau y Genhedlaeth Nesaf (CENGS);

·         Ffatri'r Dyfodol;

·         Gwyddoniaeth Dur;

·         Ardal Forol Doc Penfro.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru ynghylch y prosiectau.

 

 

6.

ADOLYGIAD ANNIBYNNOL O FARGEN DDINESIG DINAS-RANBARTH BAE ABERTAWE pdf eicon PDF 200 KB

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi ymdrin â rhan fwyaf o'r eitem hon yn ei ddatganiad yn gynharach, a byddai'r Cyd-bwyllgor yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i fagu rhagor o hyder yn y fargen. Braf oedd nodi nad oedd y Llywodraethau yn cynnig oedi'r Fargen mewn unrhyw fodd a'u bod wedi rhoi gwybod y byddai eu Hadolygiad Annibynnol yn cael ei gwblhau erbyn diwedd mis Ionawr.

 

Mewn ymateb i ddatganiad gan gynrychiolydd cyfetholedig Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, croesawodd y Cadeirydd gynnig gan y cynrychiolwyr cyfetholedig i gyfrannu'n llawn at adolygiad y Cyd-bwyllgor. Dywedodd y Cadeirydd ei fod yn disgwyl i'r holl bartneriaid gyfrannu, er mwyn i'r Cyd-bwyllgor allu darparu un ddogfen adolygiad a fyddai'n cyfrannu at adolygiad Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ac yn cydymffurfio ag ef.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei derbyn.

 

7.

PRIFYSGOL ABERTAWE - Y WYBODAETH DDIWEDDARAF pdf eicon PDF 209 KB

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi ymdrin â'r eitem hon yn ei ddatganiad yn gynharach ac nad oedd rhagor o fanylion ynghylch y gwaharddiadau ym Mhrifysgol Abertawe ar gael gan fod yr ymchwiliad yn parhau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y wybodaeth ddiweddaraf yn cael ei derbyn.

 

8.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIAD SY’N YMWNEUD Â'R MATER CANLYNOL GAN Ei FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION HON  YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

9.

CYFLWYNO CAIS RHANBARTHOL BARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE I GYSTADLEUAETH Y RHWYDWAITH FFEIBR LLAWN LLEOL TON 3 YR ADRAN DROS DDIWYLLIANT, Y CYFRYNGAU A CHWARAEON (DCMS).

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 8 uchod, y byddai'r mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod gan fod yr adroddiad a'r cyflwyniad yn cynnwys manylion ynghylch strwythur y cais am arian ar gyfer y Rhwydwaith Ffeibr Llawn Lleol. Er y byddai'r budd i'r cyhoedd fel rheol yn ffafrio tryloywder a diffuantrwydd, mae hwn yn gais mewn cystadleuaeth ag eraill am swm o arian cyfyngedig sy'n drech yn yr achos hwn, ac felly mae angen cadw cyfrinachedd y cynnig.

 

Rhoddodd y Cyd-bwyllgor ystyriaeth i adroddiad ar Gynnig Rhanbarthol Bargen Ddinesig Bae Abertawe i gystadleuaeth y Rhwydwaith Ffeibr Llawn Lleol Ton 3 yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Atgoffwyd y Pwyllgor fod y cais rhanbarthol a'r gwaith o'i gyflwyno yn cael ei arwain gan Gyngor Abertawe â chymorth gan CUBE Ultra Ltd. Rhoddwyd gwybod fod cynnig wedi cael ei ddatblygu yn dilyn dadansoddi data yn helaeth, modelu costau ac ymgynghori â phob un o'r pedwar Awdurdod Lleol yn y rhanbarth. Rhoddodd CUBE Ultra Ltd a Chyngor Abertawe gyflwyniad byr i'r Cyd-bwyllgor ynghylch y cynnig a nodwyd mai'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth oedd 5pm y diwrnod hwnnw.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo cais cyflwyno mynegiant o ddiddordeb yn y gystadleuaeth Ton 3 yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, fel y'i cyflwynwyd i'r Cyd-bwyllgor ar 14 Rhagfyr 2018.

 

10.

EITEM FRYS

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd ei fod ef, yn unol ag Adran 100B(4)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, wedi penderfynu caniatáu, a hynny ar fyrder, drafodaeth bellach ar ddatganiad y Cadeirydd, gan fod angen gweithredu cyn cyfarfod nesaf y Pwyllgor.

 

11.

DATGANIAD Y CADEIRYDD

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Cyd-bwyllgor fod y Swyddog Monitro wedi rhoi gwybod na fu unrhyw bleidlais ar y drafodaeth ynghylch y Cyd-bwyllgor yn cyflawni ei adolygiad ei hun. Gofynnodd felly i'r Cyd-bwyllgor gytuno'n ffurfiol ar y cam gweithredu hwn.

Yn dilyn trafodaeth bellach, rhoddodd y Cadeirydd wybod i'r Cyd-bwyllgor ei fod yn disgwyl i bob aelod fod ar gael ar gais, ar gyfer cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Craffu.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y bydd Cyd-bwyllgor Dinas-Ranbarth Bae Abertawe yn cynnal adolygiad mewnol ynghylch y Fargen Ddinesig, a bydd yr adolygiad yn cael ei gynnal ochr yn ochr ag Adolygiad Annibynnol Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yn cael ei gadeirio gan Gadeirydd y Cyd-bwyllgor a bydd trefniadau Archwilio yn cael eu cyflawni gan Gyngor Sir Penfro.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau