Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau - Dydd Iau, 18fed Gorffennaf, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin Davies 

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan  y Cynghorwyr S.M. Allen a J. Edmunds.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

K. Madge

4 - Adroddiad Blynyddol Drafft Cyngor Sir Caerfyrddin 2018-19

Mae ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Cofnodion:

 

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

4.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR GYFER 2018/19 pdf eicon PDF 440 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Drafft y Cyngor ar gyfer 2018/19 ynghyd ag adroddiadau manwl ynghylch yr Amcanion Llesiant perthnasol sydd o fewn maes gorchwyl y Pwyllgor, sef:

 

·      Amcan Llesiant 5 - Mynd i'r afael â thlodi;

·      Amcan Llesiant 14 - Hyrwyddo'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru;

·     Amcan Llesiant 15 - Adeiladu Gwell Cyngor a Gwneud Gwell Defnydd o Adnoddau.

 

Nodwyd ei bod yn ofynnol o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) i'r Awdurdod gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar berfformiadau blaenorol erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·         Mewn ymateb i bryder bod cynnydd sylweddol wedi bod yng nghanran y mesurau sydd wedi gostwng, cydnabuwyd bod cyllidebau llai'n bendant yn cael effaith ar ddarpariaeth gwasanaethau, a'r farn mewn rhai achosion oedd bod angen gosod targedau mwy cyraeddadwy yn unol â hynny;

Amcan Llesiant 5

·         Rhoddwyd sicrwydd i'r aelodau bod yr awdurdod yn gwneud popeth y gallai i leihau effaith Credyd Cynhwysol ar hawlwyr budd-daliadau;

·         Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau TGCh a Pholisi Corfforaethol i gadarnhau'r sefyllfa bresennol o ran yr Hwb arfaethedig yng Nghaerfyrddin;

·         Nodwyd bod yr awdurdod yn cyfathrebu â darparwyr y trydydd sector i osgoi dyblygu darpariaeth gwasanaeth;

·         Er bod llwyddiant Apêl Hamperi Bwyd Nadolig yn cael ei groesawu, y farn oedd y dylai'r cynllun gael ei estyn i wyliau'r haf pan fydd plant yn absennol o'r ysgol am gyfnod hwy a bydd angen cymorth ar rai teuluoedd o hyd. Cyfeiriwyd at Raglen Gwella Gwyliau'r Haf, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, sy'n darparu prydau, addysg a gweithgareddau corfforol am ddim i blant ledled Cymru a chytunodd y Swyddog Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth i gadarnhau a oedd unrhyw fodd o estyn y cynllun yn Sir Gaerfyrddin;

Amcan Llesiant 14

·         Mewn ymateb i ymholiad ynghylch pam yr oedd canran y disgyblion Cyfnod Sylfaen a gafodd asesiad athro/athrawes yn y Gymraeg wedi gostwng, dywedwyd ei bod hi'n bosibl bod nifer wirioneddol y disgyblion wedi cynyddu ond byddai angen cadarnhau hyn;

·         Rhoddwyd gwybod i'r aelodau na fyddai modd gwybod yn sicr a oedd nifer y siaradwyr Cymraeg yn y Sir yn cynyddu neu'n gostwng nes bod canlyniadau'r cyfrifiad nesaf yn 2021 yn cael eu cyhoeddi; 

·         Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau TGCh a Pholisi Corfforaethol i ofyn i'r Pennaeth Hamdden gadarnhau nifer yr ymwelwyr ag amgueddfeydd a lleoliadau celf/theatrau'r Sir yn 2018/19 o gymharu â 2017/18;

 

Amcan Llesiant 15

·         Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau TGCh a Pholisi Corfforaethol i gadarnhau gyda'r Tîm Datblygu Trefniadaeth pa gefnogaeth a gynigir drwy'r rhwydwaith Gwelliant Parhaus;

·         Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau TGCh a Pholisi Corfforaethol i gadarnhau gyda'r Pennaeth Eiddo y sefyllfa o ran gwerthu Nant y Ci a 5-7 Heol Spilman, Caerfyrddin, gan nad oedd yr arwyddion 'Ar Werth' yno mwyach.

·         Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau TGCh a Pholisi Corfforaethol i rannu pryderon ynghylch casglu gwastraff a thipio anghyfreithlon yn ardal Llanelli â Phennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff. Cyfeiriwyd yn benodol at y bagiau a gafodd eu labelu gan gasglwyr gwastraff na chafodd eu casglu, sy'n cael eu torri  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN CYDRADDOLDEB STRATEGOL 2018-19 pdf eicon PDF 302 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyfeirio at gofnod 9 y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Tachwedd 2015, bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2018-19 a oedd yn manylu ar sut yr oedd y Cyngor wedi gweithredu ei Gynllun Cydraddoldeb Strategol a chyflawni ei ddyletswyddau o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a'r Dyletswyddau Penodol i Gymru. Dosbarthwyd copïau o 'Atodiad 1' fel y'i cyfeiriwyd ato ar dudalen 'Cynnwys' ar Adroddiad yn y cyfarfod gan ei fod wedi'i hepgor ar gam.

 

Cytunodd y Swyddog Polisi a Phartneriaeth rannu â'r Adain Caffael a'r Is-adran Rheoli Pobl sylw y dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau nad oes unrhyw gyflenwr/contractwr/is-gontractwr y Cyngor yn cyflogi gweithwyr drwy gontractau dim oriau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod yr adroddiad, yn amodol ar gynnwys 'Atodiad 1', yn cael ei gymeradwyo.

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR YR IAITH GYMRAEG 2018-19 pdf eicon PDF 300 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyfeirio at gofnod 7 y cyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Hydref 2016, bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Blynyddol mewn perthynas â'r Iaith Gymraeg a chydymffurfio â Safonau'r Gymraeg yn ystod 2018-19. Roedd yr Adroddiad wedi cael ei lunio er mwyn cydymffurfio â threfniadau monitro Comisiynydd y Gymraeg.

 

Cytunodd y Swyddog Polisi a Phartneriaeth i rannu â'r Is-adran Cynllunio bryder sydd wedi'u ailadrodd ynghylch colli enwau lleoedd Cymraeg, ac ymholiad ynghylch a fyddai modd llunio polisi cadarn o ran hynny.

 

Mewn ymateb i sylw, dywedodd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth fod rhagor o gymorth ar gael erbyn hyn i alluogi staff i wella'u sgiliau o ran yr iaith Gymraeg a bod fframwaith wedi'i sefydlu ar gyfer pennu lefelau Cymraeg ar gyfer swyddi a hysbysebir.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYFOL argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod yr Adroddiad Blynyddol ynghylch yr Iaith Gymraeg 2018-19 yn cael ei gymeradwyo.

 

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL STRATEGAETH TRAWSNEWID DIGIDOL A STRATEGAETH TECHNOLEG DDIGIDOL 2019 pdf eicon PDF 234 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Strategaeth Trawsnewid Digidol a Strategaeth Technoleg Ddigidol 2019 yn unol â'r ymrwymiadau a nodir yn Strategaeth Trawsnewid Digidol 2017-2020, a gymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol ym mis Mai 2017, a Strategaeth Trawsnewid Digidol 2018-2021, a gymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol ym mis Mai 2018. Roedd y ddwy strategaeth yn cynnwys ymrwymiad i lunio adroddiad blynyddol.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

·         Nodwyd mai dim ond 47% o aelwydydd yn manteisio ar yr opsiwn i gael band eang cyflym iawn er ei fod ar gael yn 87% o'r sir. Roedd cymunedau'n cael eu hysbysu am y cyllid sydd ar gael i wella cysylltedd ac roedd swydd swyddog cysylltedd digidol yn cael ei sefydlu i gynorthwyo o ran hynny;

·         Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau TGCh a Pholisi Corfforaethol i rannu â'r Adran Addysg bryder ynghylch anallu rhai disgyblion i wneud gwaith cartref oherwydd materion cysylltedd a chadarnhau sut yr oedd ysgolion yn ymdrin â'r mater hwn;

·         Mewn ymateb i sylw, cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau TGCh a Pholisi Corfforaethol ei bod hi'n bwysig sicrhau bod seilwaith TG a chysylltedd ar gyfer y Pentref Llesiant arfaethedig yn gallu hwyluso'r holl gynlluniau ar gyfer y lleoliad yn y dyfodol;

·         Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod modd defnyddio gwefan y Cyngor ar yr holl ddyfeisiau symudol, yn wahanol i wefannau rhai asiantaethau Llywodraeth - mae hyn yn hynod bwysig ar gyfer defnyddwyr 'Fy Nghyfrif';

·         Roedd gwaith i ymgysylltu â'r sector iechyd a'r trydydd sector yn mynd yn ei flaen;

·         Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau TGCh a Pholisi Corfforaethol i ystyried y posibilrwydd o gynnwys y trydydd sector yn y gwaith o uwchraddio'r Diogelwch Haen Cludo (TLS).

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Adroddiad Blynyddol Strategaeth Trawsnewid Digidol a Strategaeth Technoleg Ddigidol 2019.

 

8.

STRATEGAETH DDIGIDOL AR GYFER YSGOLION - ADRODDIAD BLYNYDDOL 2019 pdf eicon PDF 132 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol y Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion 2019, a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion Cyngor Sir Caerfyrddin 2018-2021. Mae'r strategaeth yn manylu ar weledigaeth y Cyngor, yn seiliedig ar yr egwyddorion cyffredinol a'r meysydd o ran blaenoriaethau allweddol ar gyfer darparu Gwasanaethau TGCh i ysgolion ledled Sir Gaerfyrddin. Ym mhob un o'r meysydd blaenoriaeth allweddol, cymeradwywyd nifer o brosiectau a chanlyniadau allweddol, ac mae'r Adroddiad Blynyddol yn nodi'r cynnydd a wnaed dros y 12 mis diwethaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion 2019.

 

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A'R DANGOSYDD DARBODAETH 2018-2019 pdf eicon PDF 298 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Blynyddol a restrai weithgareddau rheoli'r trysorlys a ddigwyddodd yn ystod 2018-2019 yn unol â Pholisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2018-2019 a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 21 Chwefror 2018.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad.

 

10.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2018/19 pdf eicon PDF 296 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2018/19.

Nodwyd bod swyddogion yn parhau i ystyried ffyrdd o leihau'r blwch rhwng gorffen adroddiadau monitro a'u cyflwyno i'r Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

11.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU POLISI AC ADNODDAU pdf eicon PDF 269 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYDYN UNFRYDOL nodi'r adroddiad a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu.

 

12.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 290 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y rhestr o eitemau i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf i'w gynnal ar 10 Hydref 2019 yn cael eu derbyn yn amodol ar gynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am Fargen Ddinesig Bae Abertawe/ y Pentref Llesiant.

 

13.

COFNODION - 13EG MEHEFIN 2019 pdf eicon PDF 334 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mehefin 2019 gan eu bod yn gywir.