Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Neuadd y Sir, Cyngor Sir Benfro - Hwlffordd, SA61 1TP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB A MATERION PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn absenoldeb y Cadeirydd (ar ddechrau'r cyfarfod) a'r Is-gadeirydd, fod y Cynghorydd Rob Summons yn cadeirio'r cyfarfod.

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr John Prosser a Ken Howell (Cyngor Sir Caerfyrddin), y Cynghorydd Keith Evans (Cyngor Sir Ceredigion) a'r Athro Ian Roffe.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol yn y cyfarfod.

 

3.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR

Dogfennau ychwanegol:

3.1

25AIN IONAWR 2019 pdf eicon PDF 274 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a gynhaliwyd ar 25 Ionawr 2019 yn gofnod cywir.

 

3.2

15TH CHWEFROR 2019 pdf eicon PDF 189 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Panel Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2019 yn gofnod cywir.

 

4.

MATERION YN CODI O'R COFNODION (OS OES RHAI)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

25 Ionawr 2019 - Cofnod 4.2. – Eitem ar yr Agenda, Cwestiwn i'r Panel gan A.T., Sir Gaerfyrddin

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch cynyddu'r aelodaeth annibynnol, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y gellid recriwtio trydydd aelod annibynnol fel rhan o'r broses o recriwtio aelodau annibynnol ar gyfer y flwyddyn nesaf. Nododd y Panel fod recriwtio trydydd aelod annibynnol yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Swyddfa Gartref.

 

 

5.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN AELODAU'R PANEL I'R COMISIYNYDD - NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan Aelodau'r Panel i'r Comisiynydd.

 

6.

CWESTIYNAU Â RHYBUDD GAN Y CYHOEDD - NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

7.

TROSEDDAU SY'N GYSYLLTIEDIG Â CHYFFURIAU pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad ar droseddau cysylltiedig â chyffuriau. Dywedodd y Comisiynydd mai hwn oedd yr ail adroddiad 'Deep Dive' a ddarparwyd gan ei swyddfa a bod adroddiadau ar faterion pellach o bwys i'r cyhoedd yn cael eu cynllunio ar gyfer y dyfodol. Yn ystod y cyfarfod dosbarthodd y Prif Gwnstabl lythyr i Aelodau'r Panel a oedd yn ymateb i'r adroddiad.

 

Dywedodd y Comisiynydd fod canfyddiadau'r adroddiad yn gadarnhaol ar y cyfan ond awgrymodd y gellid gwneud gwelliannau gyda golwg ar ymgysylltu â sefydliadau partner a rhoi'r cynllun Braenaru a phenderfyniadau dwy haen y tu allan i'r llysoedd ar waith. Argymhellodd yr adroddiad ymhellach y dylid adolygu effaith bosibl Ystafelloedd Cymryd Cyffuriau ar gymunedau yn Nyfed-Powys.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â chyffuriau, dywedodd y Comisiynydd fod y ffigurau'n gymharol uchel yng Nghymru gan gynnwys mewn ardaloedd fel Sir Gaerfyrddin, ond bod y ffigurau'n amrywio'n sylweddol yn ardal Dyfed-Powys. Dywedodd hefyd fod yna dystiolaeth y gallai'r Ystafelloedd Cymryd Cyffuriau leihau niwed sy'n gysylltiedig â chyffuriau yn sylweddol. Er bod y ffigurau ar dudalen 33 [11] o'r adroddiad yn gynrychioliadol ar gyfer Cymru a Lloegr, dywedodd y Pennaeth Staff y byddai Swyddfa'r Comisiynydd yn edrych ar ddata mwy penodol ar gyfer ardal Dyfed-Powys.

 

Mewn ymateb i ymholiad yngl?n ag effeithiolrwydd triniaeth camddefnyddio sylweddau, cynghorodd y Comisiynydd fod angen monitro canlyniadau'r gwasanaethau hyn ar sail hirdymor. Dywedodd, er bod strategaeth y Llu ar fasnachu cyffuriau yn gadarn, eu bod yn lobïo Llywodraeth Cymru a'r Swyddfa Gartref ar fabwysiadu safbwynt sy'n canolbwyntio mwy ar iechyd yn eu strategaeth camddefnyddio sylweddau. Dywedodd y Comisiynydd hefyd, er nad oedd ei swyddfa'n ariannu gwasanaethau cwnsela'n uniongyrchol, ei bod yn cyfrannu at y rhwydwaith cymorth ehangach a bod Swyddogion yn ymgysylltu'n rheolaidd â chynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Hywel Dda yng nghyfarfodydd chwarterol y Bwrdd Cynllunio Ardal.

 

Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r llinell amser a'r adnoddau ar gyfer cynllun mentor Stopio a Chwilio, dywedodd y Comisiynydd mai megis dechrau yr oedd y trafodaethau ond y gellid rhoi manylion pellach i'r Panel yn yr Hydref.

 

Yngl?n ag ystafelloedd defnyddio cyffuriau, cynghorodd y Comisiynydd fod y Bwrdd Plismona yng Nghymru yn darparu cyfleoedd i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru.

 

Mewn ymateb i ymholiad, cynghorodd y Comisiynydd fod gwaith trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr yn cael ei gefnogi gan gysylltiadau deallusrwydd iach a sefydledig.

 

Mewn ymateb i ymholiad yngl?n ag ymgysylltu â'r cyhoedd, dywedodd y Comisiynydd fod cysylltiadau deallusrwydd â chymunedau lleol yn hanfodol; fodd bynnag, weithiau nid oedd y wybodaeth a ddarparwyd yn ddigon manwl ac felly nid oedd modd gweithredu arni. Roedd mentrau i gefnogi cysylltiadau gwybodaeth lleol yn cynnwys cydweithio â Crimestoppers, rhif ffôn am ddim a'r Ymgyrch Fearless, a oedd yn annog pobl ifanc i ddarparu gwybodaeth yn ddienw. Dywedodd y Comisiynydd hefyd y byddai'r mater yn cael sylw yn yr adolygiad 'Deep Dive' nesaf.

 

Mewn ymateb i ymholiad am wasanaethau camddefnyddio sylweddau, cynghorodd y Comisiynydd fod maes gwahanol ddarparwyr gwasanaeth yn un cymhleth. Awgrymodd y byddai adolygiad  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

TWYLL A SEIBERDROSEDDU pdf eicon PDF 125 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Panel adroddiad ar dwyll a seiberdroseddu, a ddarparwyd gan y Comisiynydd ar gais y Panel. Cynghorodd y Comisiynydd fod adolygiad CThEM o'r ymateb gweithredol i dwyll ar lefel genedlaethol wedi nodi diffygion gyda golwg ar gymorth i ddioddefwyr ac ymchwilio i dwyll. Awgrymodd fod Heddlu Dyfed-Powys, fodd bynnag, ar flaen y gad o ran nodi ac ymchwilio i'r mater. Dywedodd y Comisiynydd ei fod wedi darparu cymorth ychwanegol i'r tîm troseddau ariannol a seiberfwlio yn ystod ei gyfnod yn y swydd, gan gynnwys cyllid ar gyfer Swyddog Diogelu Operation Signature. Roedd nifer o fentrau partneriaeth wedi'u cynnal, gan gynnwys y Gynhadledd Dydd G?yl Dewi flynyddol o dan y thema twyll a seiberfwlio, dau ddigwyddiad Diogelu a Busnesau, ac roedd Hyrwyddwr 'Seiberdroseddu' ym mhob tîm plismona. Mewn ymateb i ymholiad, cynghorodd y Comisiynydd fod y Llu yn cydweithio â Safonau Masnach trwy Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol ac y byddai buddsoddiad ychwanegol i gefnogi cydweithio ar y lefel hon yn cael ei gyhoeddi'n fuan.

 

Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â chymorth i ddioddefwyr, cynghorodd y Comisiynydd fod gan y Llu weithdrefnau ar waith i asesu pa mor agored i niwed yw dioddefwyr twyll a seiberfwlio ar y pwynt cyswllt cyntaf cyn iddynt gael eu hailgyfeirio at Action Fraud.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, dywedodd y Comisiynydd y byddai'n hapus i gydlynu cyfleoedd i Gynghorwyr ymgysylltu â Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

9.

PENDERFYNIADAU A WNAED GAN Y COMISIYNYDD pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Panel adroddiad, er gwybodaeth, a fanylai ar y penderfyniadau a wnaed gan y Comisiynydd ar gyfer y cyfnod rhwng 16 Ionawr – 26 Ebrill 2019.

 

Gyda golwg ar y ffaith fod nifer o'r penderfyniadau yn yr adroddiad yn dwyn y dyddiad 12 Ebrill, cynghorodd y Comisiynydd fod y penderfyniadau hyn wedi'i gwneud dros gyfnod o amser a bod y dyddiad ond yn cynrychioli'r adeg pryd y llofnodwyd y cofnod o benderfyniadau.

 

Mewn ymateb i ymholiad, cynghorodd y Comisiynydd fod manylion am y Gronfa Gymunedol ar gyfer 2019 ar gael ar ei wefan ac y byddent yn cael eu dosbarthu i'r Panel a'r Cynghorwyr Sir.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

10.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PANEL 2018-19 pdf eicon PDF 120 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Panel yn ystyried Adroddiad Blynyddol Drafft y Panel ar gyfer 2018-19. Yn 2018 penderfynodd y Panel gyhoeddi adroddiadau blynyddol yn nodi ei weithgareddau yn ystod y flwyddyn flaenorol, ynghyd â nodau ac amcanion ar gyfer y flwyddyn ganlynol.

 

Roedd yr adroddiad drafft yn nodi:

-       Unrhyw newidiadau i aelodaeth y Panel;

-       Gweithgareddau a wnaed yn ystod y flwyddyn;

-       Unrhyw g?ynion yn erbyn y Comisiynydd yr ymdriniwyd â hwy;

-       Perfformiad y Panel yn erbyn ei amcanion ar gyfer 2018-19;

-       Amcanion arfaethedig y Panel ar gyfer 2019-20.

 

Diolchodd y Panel i Reolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol am ei waith. O ran Eitem 4 yr adroddiad (Adolygiad o'r Flwyddyn) awgrymwyd y gellid darparu gwybodaeth ychwanegol i helpu pobl sydd â sgiliau TG cyfyngedig.

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai'r adroddiad yn cael ei gylchredeg yn electronig ac fel copi caled.

 

Awgrymwyd y gallai'r adroddiad gyfeirio at aelodau staff o Swyddfa'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu a oedd yn mynychu cyfarfodydd y Panel yn rheolaidd.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch teledu cylch cyfyng, dywedodd y Comisiynydd fod y broses o gyflwyno'r system 90% yn gyflawn ac y byddai staff monitro yn cael eu penodi'n fuan. Dywedodd hefyd fod costau cyfalaf o £1.5m wedi'u hysgwyddo ac y byddai'r costau refeniw yn cynnwys costau staffio yn bennaf, ac amcangyfrifwyd y byddai'r costau hyn yn dod i £160k y flwyddyn ar gyfer un cydlynydd teledu cylch cyfyng a phedwar gweithiwr. Roedd y system teledu cylch cyfyng yn fenter gan yr heddlu mewn cydweithrediad ag Awdurdodau Lleol a oedd yn rhannu rhai o'r costau megis trydan.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

11.

BLAENRAGLEN WAITH pdf eicon PDF 118 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Panel ei Flaenraglen Waith ar gyfer 2019-20, gan fanylu ar y cyfarfodydd a gynlluniwyd ar gyfer y Panel a gweithgareddau ehangach y Panel rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2020.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, yn dilyn y drafodaeth a gafwyd yn y cyfarfod hwn, y byddai'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Comisiynydd ar recriwtio aelodau annibynnol ac adroddiadau Deep Dive yn cael ei chynnwys fel eitemau ychwanegol ar gyfer cyfarfod y Panel ym mis Hydref.

 

Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol nad oedd ganddo unrhyw bryderon ynghylch Aelodau'r Panel yn mynychu digwyddiadau gwleidyddol yn ystod y cyfnod 'purdah', cyn belled nad oedd y digwyddiadau hyn yn cynnwys ymgeiswyr ar gyfer etholiadau'r UE. Fodd bynnag, dywedodd ei bod yn bosibl y byddai Swyddogion Monitro eraill yn anghytuno â'i argymhelliad.

 

Mewn ymateb i ymholiad ynghylch cyfarfodydd y Bwrdd Atebolrwydd Cyhoeddus, awgrymodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y gallai Aelodau'r Panel barhau i fod yn bresennol fel y cytunwyd yn flaenorol, gyda'r Hyrwyddwr Panel perthnasol a dau Aelod lleol neu fwy yn bresennol ym mhob cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Flaenraglen Waith.

 

12.

GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD

NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIADAU  SY'N YMWNEUD Â'R MATERION CANLYNOL GAN EU FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATERION YMA  YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.

 

13.

CWYN YN ERBYN Y COMISIYNYDD HEDDLU A THROSEDDU

Cofnodion:

Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod rhif 12 uchod, fod y mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan y byddai datgelu gwybodaeth yn rhoi gwybodaeth bersonol sensitif am aelod o'r cyhoedd yn y parth cyhoeddus.

 

Cafodd y Panel adroddiad ar g?yn a gofnodwyd yn erbyn y Comisiynydd Heddlu a Throseddu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

15.1.     Nodi'r g?yn;

15.2.       Anfon adroddiad at yr achwynydd, ac at y Comisiynydd Heddlu a Throseddu, gan fanylu ar ganlyniad y g?yn.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau