Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd - Dydd Iau, 18fed Ebrill, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd A. Davies

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Eryl Morgan i'r Pwyllgor.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIP A NODWYD MEWN PERTHYNAS AG UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

4.

ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD CHWARTER 3 – 1 EBRILL I 31 RHAGFYR 2018 pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer Chwarter 3 - 1 Ebrill i 31 Rhagfyr 2018, a oedd yn manylu ar y cynnydd a wnaed yn erbyn y camau a'r mesurau yn Strategaeth Gorfforaethol Newydd 2018/19 o ran cyflawni'r Amcanion Llesiant o fewn ei faes gorchwyl.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

  • Cyfeiriwyd at y ffaith bod y modd y cafodd yr adroddiad ei gyflwyno yn annerbyniol, cyfeiriwyd at destun oedd ar goll a fformat y data.  Roedd yr Uwch-swyddog Rheoli Perfformiad yn cydnabod y cafwyd anawsterau o ran fformatio'r adroddiad a gafwyd o'r System Monitro Perfformiad a Gwella (PIMS) a sicrhaodd y Pwyllgor y byddai gwelliannau'n cael eu gwneud i adroddiadau yn y dyfodol.

 

  • Cyfeiriwyd at y mesur sy'n ymwneud â'r nifer cyfartalog o ddiwrnodau gwaith a gymerir i glirio achosion o dipio anghyfreithlon. Codwyd cwestiwn yngl?n â'r statws perfformiad nad oedd wedi cyrraedd y targed ac os oedd hyn o ganlyniad i gyflwyno'r rheolau newydd.  Yn ôl y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff, er y bu ychydig o gynnydd mewn tipio anghyfreithlon, ar y cyfan nodwyd nad oedd y targed wedi'i gyrraedd yn bennaf oherwydd y newidiadau yn y dulliau categoreiddio a chofnodi.

 

Mewn ymateb i sylwadau a godwyd mewn perthynas â'r cynnydd mewn tipio anghyfreithlon a'r cyfrifoldeb o dipio anghyfreithlon ar dir preifat, pwysleisiodd y Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff pe bai tipio anghyfreithlon yn digwydd ar dir preifat, cyfrifoldeb y tirfeddiannwr fyddai i waredu unrhyw eitemau a gafodd eu tipio.  Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn gweithio gydag asiantaethau partner pan fo'n briodol gan gynnwys yr Heddlu, Cyfoeth Naturiol Cymru a sefydliadau eraill ar sail amlasiantaethol i helpu i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon ar dir preifat. 

 

Mewn ymateb i ymholiad pellach, dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y byddai'n cysylltu â'r grwpiau gorfodi mewnol i ymchwilio i ffyrdd posibl o roi cymorth ar gyfer achosion o dipio anghyfreithlon ar dir preifat.

 

Codwyd nifer o faterion yn ymwneud â'r newidiadau diweddar i'r canolfannau ailgylchu. Ategodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff  i'r Pwyllgor y rhesymau pam yr oedd angen y newidiadau ac esboniodd fod gwefan y Cyngor yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:-

 

­   Oriau agor newydd y canolfannau ailgylchu

­   Yr hyn sy'n ofynnol o ran prawf preswylio

­   Pam y mae cynllun hawlen yn cael ei gyflwyno

­   Sut y mae'r cynllun hawlen yn gweithio

­   Gwybodaeth am wneud cais am hawlen

­   Pa fath o gerbydau sydd angen hawlen.

­   Pa gerbydau sydd wedi cael eu gwahardd

 

 

 

Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff nad oedd y daflen a roddai ganllawiau ar y math o gerbydau sy'n cael mynediad i ganolfannau ailgylchu a ddarparwyd i Aelodau'r Pwyllgor ym mis Chwefror wedi newid, gan fod nodau cyffredinol y cyfyngiadau'r un fath. Fodd bynnag, roedd newidiadau wedi'u gwneud yn y modd y cafodd ei gyflwyno i ddarparu rhagor o eglurder ar y mathau/grwpiau o gerbydau a byddai'n anfon y fersiwn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

ADRODDIAD MONITRO'R GYLLIDEB REFENIW A'R GYLLIDEB GYFALAF 2018/19 pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr Adroddiad Monitro Cyllideb Cyfalaf a Refeniw dyddiedig 31 Rhagfyr mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2018/19.  Roedd yr adroddiad yn rhoi i'r aelodau wybodaeth am fonitro'r gyllideb ar gyfer Gwasanaeth yr Amgylchedd, Gwasanaeth Diogelu'r Cyhoedd, a'r Gwasanaeth Diogelwch Cymunedol ac roedd yn rhoi ystyriaeth i'r sefyllfa gyllidebol. 

 

I grynhoi, roedd y gyllideb refeniw ar gyfer y gwasanaethau o fewn maes gorchwyl Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd yn rhagweld gorwariant o £447k. 

 

Roedd y prif amrywiannau ar gynlluniau cyfalaf yn dangos gwariant net rhagweladwy o £16,252k o gymharu â chyllideb net weithredol o £16,401k gan roi amrywiant o £-149k.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

 

 

6.

ADRODDIAD AR GAMAU GWEITHREDU'R PWYLLGOR CRAFFU - DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad yn cynnwys manylion am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r camau, ceisiadau, neu atgyfeiriadau a gododd o gyfarfodydd ers 18 Mai 2018.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

 

  • Gweithred 009-18/19

 

Yn ogystal â'r wybodaeth ddiweddaraf a ddarparwyd yn yr adroddiad, darparodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel ddiweddariad llafar pellach i roi sicrwydd fod y Pwyllgor wedi bod yn gweithio'n agos gyda Chyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a roddodd rybudd i'r cwmni dan sylw a bod y cosbau priodol wedi'u nodi.  Yn ogystal, roedd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynyddu nifer yr ymweliadau safle o ran rheoli ac roedd yn fodlon â'r camau a gymerwyd. Yn sgil y cynnydd a wnaed, dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod yr adran yn hyderus na fyddai digwyddiad arall tebyg i'r pla o glêr a gafwyd y llynedd.


Mewn ymateb i ymholiad ynghylch ymweliadau safle, cadarnhaodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymweld yn rheolaidd â safle'r cwmni ar sail ad-hoc.  Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd y byddai'r ymweliadau safle ychwanegol a gynlluniwyd, ynghyd â chyflwyno mesurau ychwanegol i reoli plâu, yn osgoi unrhyw achosion posibl o bla.

 

  • Gweithred 011-18/19

 

O ran cyfraniadau Adran 106, gofynnwyd sut y penderfynir ar lefel y cyfraniad a geisir a phwy sy'n penderfynu sut y caiff y cyfraniadau eu gwario.  Eglurodd y Pennaeth Cynllunio, o ran lefel y cyfraniad a geisir, fod fformiwla wahanol ar gyfer y gwahanol fathau o angen a nodir. Er enghraifft, roedd y dull o gyfrifo cyfraniadau mewn perthynas â mannau agored yn wahanol i'r modd y cyfrifir cyfraniadau ar gyfer tai fforddiadwy neu anghenion addysg.

 

Eglurodd y Pennaeth Cynllunio y pwysigrwydd i Aelodau Lleol gymryd rhan yn gynnar yn y broses pan oedd lefel y cyfraniadau yn cael eu trafod naill ai yn ystod y cam cyn ymgeisio neu ar ôl  i gais cynllunio ddod i law.  Dylai'r Aelod Lleol, ar yr adeg honno gyflwyno unrhyw anghenion y mae'n ymwybodol ohonynt a thrafod hyn â'r adran berthnasol e.e. Addysg os oedd yr angen yn ymwneud ag ysgolion yn ogystal â thrafod gyda'r Swyddog Achos Cynllunio.  Hefyd, rhaid i unrhyw anghenion a nodwyd gael eu hategu gan dystiolaeth i brofi'r angen hwnnw.  Mae'r penderfyniad yn ystod y cam cais cynllunio yn pennu'r swm a'r math o angen y dylid ei fodloni.  Nodir y manylion hyn yn Adran 106.  Ar ôl i'r Is-adran Gynllunio gasglu'r arian hwnnw, gellid cyflwyno ceisiadau ar gyfer defnyddio'r gwahanol gronfeydd arian. Yna, ymgynghorir â'r Aelod Lleol ar ôl derbyn datganiad o ddiddordeb. Bydd y penderfyniad terfynol o ran a fu'r datganiad o ddiddordeb yn llwyddiannus yng ngofal y Pennaeth Cynllunio.

 

Nododd y Pennaeth Cynllunio, o ganlyniad i Drosglwyddo Asedau, fod angen ailedrych ar y fethodoleg ar gyfer nodi anghenion mannau agored. Byddai hyn yn cael ei wneud fel rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol newydd ac, yn y cyfamser, byddai angen nodi ffordd ymlaen dros dro. Roedd swyddogion ar hyn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 73 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor yr eitemau ar gyfer y cyfarfod nesaf a oedd wedi cael ei drefnu ar gyfer 17  Mai 2019. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn rhestr o'r eitemau i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf o'r Pwyllgor ar 17 Mai 2019.

 

 

8.

LLOFNODI BOD COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 22AIN CHWEFROR 2019 YN GOFNOD CYWIR pdf eicon PDF 277 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a gynhaliwyd ar 22 Chwefror, 2019 yn gofnod cywir.