Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd - Dydd Mercher, 17eg Ebrill, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Fox, G. R. Jones, B. A. L. Roberts a D. T. Williams.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif(au) y Cofnod

Y Math o Fuddiant

S.L. Davies

Cofnod 4 – Gwasanaethau a Chymorth i Blant a Phobl Ifanc sydd â Phroblemau Iechyd Meddwl.

Cofnod 6– Cais am Eitem ar Agenda'r Pwyllgor Craffu –Gwasanaeth Fflebotomi Ysbyty Tywysog Philip.

Mae'n gweithio yn y GIG

K. V. Broom

Cofnod 4 – Gwasanaethau a Chymorth i Blant a Phobl Ifanc sydd â Phroblemau Iechyd Meddwl.

Mae gan aelod o'r teulu awtistiaeth

 

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

4.

GWASANAETHAU A CHYMORTH I BLANT A PHOBL IFANC SYDD Â PHROBLEMAU IECHYD MEDDWL pdf eicon PDF 176 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorwyr K.V. Broom a S.L Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach]

 

Yn unol â chofnod 5 o'i gyfarfod ar 5 Mawrth 2018, ystyriodd y Pwyllgor, ynghyd â'r Pwyllgor Craffu Addysg a Gwasanaethau Plant (a wahoddwyd i fod yn bresennol yn ystod eitem 4 o'r cofnodion) adroddiad a oedd yn rhoi trosolwg ar y gwasanaethau presennol sydd ar gael i bobl ifanc sydd â phroblemau emosiynol ac iechyd meddwl. 

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu cynlluniau i wella'r ffordd y caiff gwasanaethau a chymorth eu cydgysylltu drwy fforwm amlasiantaeth.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Mynegodd y Pwyllgor bryderon ynghylch y capasiti i ymdrin â'r materion uchod.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai cydweithio â gwasanaethau arbenigol a'r UCD yn ychwanegu capasiti i gefnogi ysgolion prif ffrwd. Roedd ffyrdd mwy effeithlon o weithio gyda gwasanaethau arbenigol wedi cael eu hystyried yn ogystal â gwaith prosiect cydnerthu ar y cyd â'r adran hamdden.

 

·         Mynegwyd pryder ynghylch y disgwyliadau i athrawon fod yn weithwyr cymdeithasol ac yn eiriolwyr.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod therapi ac addysg yn wahanol a bod athrawon yn cael eu hannog i adeiladu ar sgiliau presennol megis cyfathrebu a rhyngweithio â phlant. Roedd cefnogi llesiant athrawon yn un o amcanion Llywodraeth Cymru.

 

·         Dywedwyd bod tlodi yn broblem fawr hefyd ac y gall hyn gael effaith fawr ar iechyd meddwl. Roedd y gwaith o gyflwyno Credyd Cynhwysol wedi ychwanegu at hyn yn ddiweddar.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor nad oedd pob teulu'n ymwybodol o'r cymorth oedd ar gael a bod archwiliad yn cael ei gynnal er mwyn llunio cyfeiriadur cynhwysfawr o wasanaethau a chymorth.

 

·         Gofynnwyd i swyddogion am yr amserlenni rhwng atgyfeirio ac asesu ac a allai ysgol atgyfeirio plentyn yn uniongyrchol at y Gwasanaethau Plant.

 

Dywedwyd bod y Tîm Atgyfeirio Canolog yn cynnal ymarfer brysbennu a bod achosion brys yn cael sylw o fewn dyddiau. Dywedodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu y byddai'n gofyn am ragor o eglurhad ynghylch atgyfeiriadau ac amserlenni.

 

·         Mynegwyd pryder bod llawer o ysgolion yn nodi nad oedd dim achosion o fwlio oherwydd y diffiniad cyfredol o fwlio a dywedwyd y dylid diwygio diffiniad y sir.

 

Dywedwyd bod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori â'r Awdurdod ynghylch y diffiniad o fwlio fel rhan o'i Pholisi Gwrth-fwlio Diwygiedig a fydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mehefin.  Dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant fod gan bob ysgol bolisi sy'n berthnasol iddi a bod y polisi hefyd yn cael ei arolygu. Dywedodd y byddai'n herio'r syniad nad oedd bwlio'n digwydd mewn ysgolion a dywedodd ei fod yn croesawu adolygiad Llywodraeth Cymru.  Hefyd dywedwyd bod cyfeiriadur gwasanaethau yn cael ei gynnwys yn y Strategaeth Llesiant ac y gellid ehangu'r cyfeiriadur.

 

·         Mynegwyd pryder ynghylch y cynnydd mewn camddefnyddio sylweddau a'r gostyngiad yn oedran y plant sy'n camddefnyddio sylweddau.  Dywedwyd hefyd yr ymdrinnir â'r plant gan ddefnyddio'r un gweithdrefnau ag a ddefnyddir ar gyfer oedolion, ac nad oedd hyn yn briodol. 

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod camddefnyddio sylweddau yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

TREFN BUSNES

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd wrth y Pwyllgor, yn unol â Rheol 2(3) o Weithdrefn y Cyngor, ei bod yn mynd i newid trefn y materion ar yr agenda er mwyn i Gais am Eitem ar Agenda'r Pwyllgor Craffu - Gwasanaeth Fflebotomi Ysbyty Tywysog Philip gael ei ystyried yn gynharach yn y cyfarfod.

 

6.

Y CYNG. R. EVANS - CAIS AM EITEM AR AGENDA'R PWYLLGOR CRAFFU - GWASANAETH FFLEBOTOMI YSBYTY'R TYWYSOG PHILIP pdf eicon PDF 144 KB

Cofnodion:

[NODER: Roedd y Cynghorydd S.L Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach]

 

Ystyriodd y Pwyllgor gais gan y Cynghorydd R. Evans i ychwanegu Gwasanaeth Fflebotomi Ysbyty Tywysog Philip fel eitem ar yr agenda mewn cyfarfod yn y dyfodol o dan Reol 10(1) y Weithdrefn Graffu.

 

Roedd rhai o'r pryderon/sylwadau a fynegwyd gan y Cynghorydd Evans yn cynnwys:

·         Roedd y gwasanaeth fflebotomi yn cau ei ddrysau'n gynnar oherwydd y galw mawr am ei wasanaeth.

·         Mae meddygon teulu yn yr ardal yn gofyn am brofion ar gyfer eu cleifion yn hytrach na darparu'r gwasanaeth yn fewnol.

·         Yn ogystal, mae Canolfan Antioch o dan bwysau ac mae cleifion yn gorfod aros hyd at 10 diwrnod am apwyntiadau.

·         Posibilrwydd y gallai cleifion golli profion gwaed hanfodol oherwydd anawsterau o ran cael apwyntiadau.

 

Gofynnodd y Cynghorydd R. Evans i'r Pwyllgor nodi nad oedd hyn yn adlewyrchiad ar y staff sy'n darparu gwasanaeth proffesiynol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y dylai Neil Edwards, Pennaeth y Gwasanaethau Integredig gyflwyno'r pryderon i'r Bwrdd Iechyd Lleol gan ddefnyddio'r broses ffurfiol.

 

7.

GWASANAETH EIRIOLAETH RHANBARTHOL pdf eicon PDF 87 KB

Cofnodion:

Yn unol â chofnod 4 o'i gyfarfod ar 23 Ionawr 2019, ystyriodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn rhoi gwybodaeth am y gwaith a oedd yn cael ei wneud i ddatblygu gwasanaeth eiriolaeth rhanbarthol a gynhyrchir ar y cyd; y cefndir a'r cyd-destun strategol a deddfwriaethol y gwaith hwn. 

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi manylion am y gwaith ymgysylltu a oedd wedi ei gomisiynu i gefnogi datblygiad gwasanaeth eiriolaeth rhanbarthol a gynhyrchir ar y cyd.  Roedd comisiynwyr wedi gwneud cais am dendrau ar gyfer peilota'r gwasanaeth yng Ngheredigion, a bydd y gwaith o werthuso'r rheiny yn llywio'r sail ar gyfer cyflwyno'r gwasanaeth rhanbarthol i Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch ystyr hunan-eiriolaeth.

 

Dywedwyd bod hunan-eiriolaeth yn ymwneud â grymuso unigolion – lleisio rheolaeth a chynrychioli eich hun. Er enghraifft, mae Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin yn helpu pobl i fagu hyder ac i fynegi eu hunain.

 

·         Dywedwyd bod hunan-eiriolaeth yn gysyniad cadarnhaol ac y dylid ystyried ehangu hyn.

 

Dywedodd y swyddogion y bydd y rôl hon yn parhau a bod y GIG yn bartneriaid er mwyn gallu manteisio i'r eithaf ar yr adnoddau.

 

·         Gofynnwyd a fyddai Pobl yn Gyntaf Sir Gaerfyrddin ac Eiriol yn parhau i fod yn annibynnol.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai hyn yn dibynnu ar y modd yr oedd yr ymateb i'r tendr yn cael ei gyflwyno.  Mae rhai o'r darparwyr eiriolaeth, gan gynnwys Eiriol, Pobl yn Gyntaf Sir Benfro ac Eiriolaeth Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru eisoes wedi ffurfio endid cyfreithiol newydd wrth baratoi ar gyfer comisiynu rhanbarthol.

 

·         Gofynnwyd sut y byddai darparwyr yn cytuno pwy sy'n cael pa gontract.

 

Mewn ymateb, dywedodd y swyddog nad oedd hyn yn faes cyfarwydd a bod yr heriau yn cael eu trafod gyda'r darparwyr. Dywedwyd mor bwysig oedd cadw arbenigedd a darparwyr lleol.

 

·         Mynegwyd pryder y byddai pobl yn colli'r cyfle o ran ymyrraeth gynnar ac y dylai cyfeiriadur cymorth fod ar gael.

 

Cytunodd y swyddogion gan ddweud bod cydweithio'n allweddol i ymyrraeth gynnar.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod eiriolaeth plant o dan gontract ar wahân sydd eisoes ar waith (Eiriolaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru) a bod cyfeiriadur gwasanaethau Cymru gyfan ar gael ar ffurf 'Dewis', porth cyfeiriadur electronig.

 

·         Gofynnwyd sut y byddai darparwyr gwasanaethau llai amlwg yn ffynnu o dan y model newydd.

 

Dywedwyd y byddai'r model yn helpu'r darparwyr llai gan nad yw nifer o ddarparwyr lleol yn derbyn arian gan yr Awdurdod ar hyn o bryd. Byddai'r model diwygiedig yn eu cynnwys yn y rhwydwaith comisiynu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad

 

8.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2018/19 pdf eicon PDF 149 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2018, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2018/19.

 

Rhagwelid y byddai'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn gorwario £930k o ran y gyllideb refeniw ac y byddai yna -£33k o amrywiant net yn erbyn y gyllideb gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2018/19.

 

Cyflwynwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr adroddiad:

 

Atodiad B

 

·         Mynegwyd pryder ynghylch y swydd wag ar gyfer gweithiwr cymdeithasol yn Nhîm Adnoddau Cymunedol Ardal Tywi, Teifi, Taf.

 

Dywedodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu y byddid yn gofyn am eglurhad ynghylch recriwtio gan Neil Edwards, Pennaeth y Gwasanaethau Integredig.

 

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch y swydd wag i reolwr yn y gwasanaeth Gofal Seibiant i Oedolion.

 

Dywedwyd bod rheolwr dros dro wedi bod yn y swydd a bod y gwaith o recriwtio rheolwr parhaol yn mynd rhagddo.

 

·         Gofynnwyd pam roedd y prosiect Dewis Gwaith wedi cael ei ddatgomisiynu.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y prosiect wedi cael ei ddatgomisiynu gan fod y prosiect ehangach wedi dod i ben yn sgil peidio ag ennill y tendr (yr Adran Gwaith a Phensiynau). 

 

Atodiad F (ii)

 

·         Gofynnwyd pam roedd y data ar gyfer Gofal Cartref (Ffeil Ffeithiau) yn 3 blwydd oed.

 

Eglurodd y swyddog fod y data yn y golofn Ffeil Ffeithiau yn wybodaeth o'r adeg y pennwyd y gyllideb ac nad oedd yn cael ei ddiweddaru fel rhan o'r adroddiad fel mater o drefn. Disgrifiad o effeithlonrwydd yw'r wybodaeth sy'n cael ei diweddaru.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

Hyd y Cyfarfod

 

Am 1:00pm tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Reol 9 o'r Weithdrefn Gorfforaethol "Hyd y Cyfarfod" - ac at y ffaith bod y cyfarfod wedi bod yn mynd rhagddo ers tair awr a

 

Phenderfynwyd atal Rheolau Gweithdrefn y Cyngor er mwyn galluogi'r pwyllgor i ystyried y materion oedd yn weddill ar yr agenda.

 

9.

ADRODDIAD MONITRO PERFFORMIAD - CWARTER 3 - 1AF EBRILL I'R 31AIN O RHAGFYR 2018 pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro Perfformiad ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Rhagfyr 2018 (Chwarter 3), a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â'r camau gweithredu a'r mesurau yn y Strategaeth Gorfforaethol Newydd ar gyfer 2018-23 i gyflawni'r Amcanion Llesiant ar gyfer 2018/19 a oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor, fel yr oedd ar 31 Rhagfyr, 2018.

 

Cyflwynwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr adroddiad:-

 

Heb gadw at y targed - Thema 10

·         Gofynnwyd am eglurhad ynghylch yr hyn a ystyrir yn Oedi Cyn Trosglwyddo Gofal a sut yr oedd y ffigurau'n cael eu cyfrifo.  Gofynnwyd a oedd y ffigurau ar gyfer y mis/blwyddyn neu fesul 1000 o'r boblogaeth.

 

Dywedodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu y byddai'r wybodaeth yn cael ei chadarnhau gan Bennaeth y Gwasanaethau Integredig.

 

Cyrraedd y targed – Cam gweithredu 13223

·         Gofynnwyd a fyddai modd cael canlyniad yr Holiadur Sicrwydd Ansawdd ar y ddarpariaeth o gyfleoedd dydd i bobl h?n a ddosbarthwyd i'r Pwyllgor.

 

Dywedodd y Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel y byddai’n trefnu i ganlyniadau'r holiadur gael eu hanfon ymlaen at y Pwyllgor.

 

Cyrraedd y targed – Cam gweithredu 13234

·         Gofynnwyd a oedd gr?p llywio adrannol ynghylch dementia wedi'i sefydlu.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod hwn wedi'i sefydlu fel rhan o'r Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol.

 

Cyrraedd y targed – Cam gweithredu 13226

Gofynnwyd pa waith arall, yn ogystal â'r hanner marathon, oedd yn cael ei wneud.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod Iechyd, Tai a Hamdden yn cydweithio mewn perthynas â'r strategaeth 'Cymru Iachach'. Cytunodd aelodau'r Pwyllgor y byddai cyflwyniad ar y cyd yn ddefnyddiol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

10.

STRATEGAETH GORFFORAETHOL 2018-23 - DIWEDDARIAD DRAFFT MEHEFIN 2019 pdf eicon PDF 217 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd aelodau'r Pwyllgor ystyriaeth i ddiweddariad drafft Strategaeth Gorfforaethol 2018-23 (Mehefin 2019) ynghyd â chynlluniau cyflawni manwl a oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor Craffu – Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

 

·         Gofynnwyd cwestiwn ynghylch canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru 2016/17 (cytuno bod Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol da ar gael) a sefyllfa Sir Gaerfyrddin erbyn hyn.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod arolwg diweddar yn dangos gwelliant o ran y 56.2% wrth gymharu â'r cyfartaledd o 56.8% a nodwyd yn arolwg 2016/17.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod diweddariad drafft Strategaeth Gorfforaethol 2018-23 yn cael ei gymeradwyo.

 

11.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD pdf eicon PDF 142 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad diweddaru a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, a'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o'r cyfarfodydd blaenorol.

 

Nodwyd nad oedd sawl cais am y wybodaeth ddiweddaraf wedi cael sylw.  Gofynnodd aelodau'r Pwyllgor fod swyddogion yn rhoi sylw i'r rheiny cyn gynted ag y bo modd. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

12.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 132 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried rhestr o'r eitemau sydd i ddod a chytunwyd y dylid cyflwyno'r eitemau yn y cyfarfod nesaf.

 

Dywedodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu y dylid gohirio'r eitem ar Ofal Parhaus/Uwchgynhadledd y GIG gan na fydd yr uwchgynhadledd wedi'i chynnal cyn y Pwyllgor ym mis Mai.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn amodol ar aildrefnu'r adroddiad ar Ofal Parhaus/Uwchgynhadledd y GIG ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 3 Gorffennaf 2019, gytuno ar y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a'i chyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor a gynhelir ar 20 Mai 2019.

 

13.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 23AIN IONAWR, 2019 pdf eicon PDF 190 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2019 yn gofnod cywir.