Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd - Dydd Gwener, 22ain Chwefror, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd P. Edwards, S.J.G. Gilasbey, T. Higgins a J.S. Phillips.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

4.

ADOLYGU'R PROSIECT NEWID I OLEUADAU LED pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y camau gweithredu a'r cynnydd o ran y rhaglen newid i oleuadau LED.

 

Nododd yr Aelodau fod yr adroddiad yn rhoi manylion ynghylch y camau gweithredu a'r arbedion sydd wedi eu cyflawni wrth agosáu at ddiwedd trydydd cam y rhaglen. 

 

Codwyd y canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

 

  • Mynegwyd gwerthfawrogiad am fynd ati mor sydyn i newid yr hen fath o oleuadau i'r goleuadau LED newydd yn Travellers Rest, Caerfyrddin.

 

  • Mewn ymateb i nifer o ymholiadau a godwyd mewn perthynas â goleuadau LED a Chynghorau Tref a Chymuned, dywedodd y Peiriannydd Goleuadau Cyhoeddus wrth y Pwyllgor fod costiadau manwl yn cael eu hystyried ar hyn o bryd ac y byddent yn cael eu darparu ar ffurf adroddiad ysgrifenedig.

 

Dywedodd y Peiriannydd Goleuadau Cyhoeddus, mewn ymateb i ymholiad pellach, y byddai'r manylion yn cael eu hanfon i bob Cyngor Tref a Chymuned pan fyddai'r adroddiad wedi'i gwblhau.

 

  • Dywedwyd bod y goleuadau LED yn bwrw llai o olau na'r goleuadau safonol blaenorol. Esboniodd y Peiriannydd Goleuadau Cyhoeddus ei fod wedi derbyn ymateb cymysg i'r goleuadau LED a bod rhai o'r farn eu bod yn rhy llachar. Fodd bynnag, gan fod y goleuadau LED newydd yn bwrw golau mwy cyfeiriol, roedd  pobl yn prysur ddod i arfer â'r goleuadau newydd.

  • Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Peiriannydd Goleuadau Cyhoeddus na fyddai newid i oleuadau LED yn cael dim effaith ar y lefelau staffio presennol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru ynghylch y Prosiect Newid i Oleuadau LED.

 

 

5.

Y DIWEDDARAF YNGHYLCH Y RHAGLEN FUDDSODDI O RAN PRIFFYRDD, TROEDFFYRDD A DIOGELWCH FFYRDD pdf eicon PDF 763 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad diweddaru ynghylch y Rhaglen Fuddsoddi o ran Priffyrdd, Troedffyrdd a Diogelwch Ffyrdd a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau mewn perthynas â diogelwch ffyrdd a seilwaith cysylltiedig.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth i'r Aelodau am yr agweddau canlynol:-

 

·       Cynllun Trafnidiaeth Lleol

·       Llwybrau Diogel mewn Cymunedau

·       Y Ddeddf Teithio Llesol a Rhwymedigaethau'r Awdurdod Lleol

·       Rhaglen Gwella Diogelwch Ffyrdd a Gwella Troedffyrdd

·       Grant Diogelwch Ffyrdd (Cyfalaf a Refeniw)

·       Rhaglen Rheoli Traffig ac Atal Damweiniau

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys crynodeb o'r cyllid ar gyfer cynlluniau yn ymwneud â diogelwch ffyrdd a chynlluniau seilwaith eraill yn 2018/19 a'r rhaglen wedi'i blaenoriaethu ar gyfer diogelwch ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·         Cyfeiriwyd at y Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan. Gofynnwyd a allai Aelodau gael map oedd yn dangos ble roedd y Pwyntiau Gwefru Cerbydau Trydan. Bu i Reolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd gydnabod nad oedd llawer o bwyntiau gwefru cerbydau trydan ar hyn o bryd, ac o ran y cais y bwriad oedd cynyddu'r ddarpariaeth fel ei bod ar gael ar 25 o safleoedd eraill. Pan fyddai'r cais hwn wedi llwyddo, byddai map yn dangos yr holl bwyntiau gwefru cerbydau trydan yn cael ei rannu gydag aelodau'r Pwyllgor.

 

Mewn ymateb i ymholiad pellach ynghylch mewnbwn gan Gynghorau Tref a Chymuned, esboniodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd er bod y cais am 2018/19 wedi cael ei gyflwyno eisoes, byddai mewnbwn gan y Cynghorau Tref a Chymuned yn cael ei groesawu.

 

Mynegwyd pryderon ynghylch y diffyg pwyntiau gwefru mewn ardaloedd gwledig. Dywedodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd y byddai'r gyfres nesaf o geisiadau yn cynnwys ehangu'r ddarpariaeth wefru i ardaloedd gwledig.

 

·         Gofynnwyd a oedd y defnydd cynyddol o sgwteri symudedd wedi'u hystyried, ac esboniodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd fod yn rhaid cynllunio, dylunio, cymeradwyo, adeiladu a chynnal a chadw llwybrau teithio llesol yng Nghymru yn unol â Chanllawiau Dylunio Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Byddai dylunio'r rhwydweithiau teithio gan ddefnyddio'r model dylunio yn sicrhau hygyrchedd i bawb ac roeddent yn cynnwys cynnal a chadw hygyrchedd i draciau ar gyfer pob defnyddiwr dilys, yn cynnwys pob math o feiciau, cerddwyr a defnyddwyr mewn cadair olwyn/sgwter symudedd.

 

·         Cyfeiriwyd at yr adran yn ymwneud â Llwybrau Diogel mewn Cymunedau.  Dywedwyd bod y ffordd tu allan i Ysgol Model, Caerfyrddin yn enghraifft ragorol o lwybr diogel i'r ysgol, oherwydd y mesurau arafu traffig oedd ar waith yno, a oedd yn cynnwys terfyn cyflymder traffig o 20mya.  Fodd bynnag, er gwaethaf y mesurau arafu traffig oedd ar waith, dywedwyd bod llawer o'r traffig yn mynd yn gynt na'r cyfyngiad o 20mya. Esboniodd Rheolwr y Strategaeth Drafnidiaeth ac Isadeiledd y rhagwelid mewn mannau lle roedd cyfyngiadau traffig is wedi eu cyflwyno, y byddai'r mesurau oedd ar waith yn mabwysiadu tacteg hunanorfodi. Fodd bynnag, pe bai hyn yn aflwyddiannus, byddai achos yn cael ei roi gerbron y Gweithgor Cyfyngiadau Cyflymder.

 

·         Pwysleisiwyd nad oedd Terfyn Cyflymder Cenedlaethol o 60mya yn dderbyniol drwy bentrefi bychain gwledig, felly gofynnwyd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

DIWEDDARIAD YNGHYLCH GWAITH Y TÎM GORFODI MATERION AMGYLCHEDDOL pdf eicon PDF 335 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar y gwaith a'r gweithgareddau a wnaed gan yr Uned Gorfodi Materion Amgylcheddol, ac roedd yr adroddiad yn cynnwys Polisi Gorfodi Cyffredinol Sir Gaerfyrddin a'r rhaglen waith gynlluniedig ar gyfer 2019.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi gwybodaeth i'r Aelodau am yr agweddau canlynol:-

 

·         Rhagarweiniad a Chefndir

·         Troseddau o ran:-

      C?n yn baeddu

      Sbwriel

      Tipio anghyfreithlon

      Dyletswydd gofal

      Graffiti a gosod posteri'n anghyfreithlon

      Cerbydau wedi'u gadael

      Troseddau Priffordd

·         Y Sefyllfa Bresennol

·         Llwyddiannau

·         Y Dyfodol

 

Yn unol â gofynion statudol presennol, dywedwyd bod angen adnewyddu Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus bob 3 blynedd.  Gan i Sir Gaerfyrddin weithredu ei Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus yn 2016, byddai angen adnewyddu cyn mis Gorffennaf eleni. Er mwyn paratoi at yr adnewyddu, dywedodd y Pwyllgor fod ymgynghoriad yn mynd rhagddo ar hyn o bryd a byddai'r Pwyllgor yn cael gwybod am ganlyniadau'r ymgynghoriad yn ei gyfarfod ym mis Mai 2019.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

  • Cyfeiriwyd at nifer y cwynion am faw c?n. Gan fod baw c?n yn cymaint o broblem, dywedwyd ei bod yn syndod taw dim ond 396 o g?ynion oedd wedi dod i law ynghylch baw c?n. Eglurodd y Rheolwr Gorfodi Materion Amgylcheddol fod aelodau'r cyhoedd yn aml yn amharod i wneud cwyn swyddogol oherwydd y wybodaeth oedd yn angenrheidiol i gael erlyniad llwyddiannus a bod hynny yn ei dro yn peri i bobl beidio â rhoi gwybod am droseddau baw c?n. Fodd bynnag, pwysleisiwyd y gallai achwynwyr fod yn ddienw drwy roi gwybodaeth am leoliad achosion rheolaidd yn cynnwys diwrnodau ac amserau er mwyn i adnoddau gael eu cyfeirio i'r mannau iawn, gan arwain o bosibl at erlyniad.

 

Gofynnwyd a oedd yn bosibl rhoi rhagor o gyhoeddusrwydd i'r ffaith fod baw c?n yn drosedd.  Dywedodd y Rheolwr Gorfodi Materion Amgylcheddol fod y wasg a'r cyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio cymaint â phosibl. Eglurwyd i'r Pwyllgor enghreifftiau o ymgyrchoedd diweddar.

 

Nodwyd bod Cyngor Cymuned Llanboidy wedi datblygu taflen/poster i godi ymwybyddiaeth fod baw ci yn drosedd a sut i roi gwybod am droseddwyr. Canmolwyd hyn gan y Rheolwr Gorfodi Materion Amgylcheddol, ynghyd ag unrhyw fath o fenter i ddileu'r broblem o safbwynt ataliol.  Fel enghraifft o arfer gorau, roedd y Pwyllgor yn dymuno gofyn i Gyngor Cymuned Llanboidy a ellid anfon copi at y Pwyllgor a'r Swyddogion.

 

  • O ran yr hysbysiad cosb presennol, holwyd a oedd yn ddigon uchel i atal y broblem. Eglurodd y Rheolwr Gorfodi Materion Amgylcheddol fod y gosb benodedig o £100 wedi'i chyfyngu gan y gyfraith ond nad oedd gan yr Awdurdod unrhyw rym i gynyddu'r swm.

 

At hynny dywedodd y Rheolwr Gorfodi Materion Amgylcheddol ei fod, yn dilyn cytundeb gyda'r Heddlu, wedi cwblhau hyfforddi Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu drwy gydol y sir yn ddiweddar, a oedd yn eu galluogi i fod yn swyddogion gorfodi ar ran yr Awdurdod.

 

7.

ADRODDIAD POLISI CANOLFANNAU AILGYLCHU GWASTRAFF Y CARTREF pdf eicon PDF 162 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn darparu gwybodaeth am y polisïau arfaethedig newydd mewn perthynas â chyfyngiadau ar wastraff yn y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am:-

  • Ffactorau Perfformiad Safle

­   Gwastraff masnachol

­   Gwastraff o siroedd cyfagos

­   Ailgylchu Gwastraff

  • Yr Oriau Agor
  • Argymhellion, gan gynnwys arbedion ac effaith

 

Amlygodd yr adroddiad fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn darparu gwasanaethau gwastraff i tua 89,000 o aelwydydd ac yn cynnig gwasanaeth casglu bagiau du bob pythefnos a gwasanaeth casglu deunydd ailgylchu o ymyl y ffordd, yn ogystal â chasgliad bwyd wythnosol.

 

Dywedodd y Pwyllgor pe byddai'r cynigion a amlinellwyd yn yr adroddiad yn cael eu mabwysiadu, gellid cyflawni cynnydd o 4.1% yng nghyfradd ailgylchu gyffredinol y sir ac arbediad net posibl o £275k i'r gyllideb wastraff i'w ailfuddsoddi mewn mentrau eraill er mwyn cynyddu ymhellach faint o ailgylchu gellid ei wneud.

 

Codwyd y cwestiynau/materion canlynol ar yr adroddiad:-

 

·         Ceisiwyd eglurhad ynghylch amseroedd agor y Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref.  Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff er fod bwriad i agor am awr yn llai a chau am 6:00pm yn ystod yr haf ac am 4:00pm yn ystod y gaeaf, byddai'r safleoedd i gyd ar agor 7 diwrnod yr wythnos.

 

·         Mewn ymateb i ymholiad a wnaed mewn perthynas â gwiriadau preswyliaeth mewn Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod y ddeddfwriaeth gyfredol yn nodi bod yn rhaid i Awdurdodau Lleol adael i drigolion lleol ddefnyddio Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref am ddim i waredu gwastraff y cartref a deunydd ailgylchu. Fodd bynnag, yn dilyn cyflwyno cyfyngiadau llymach ar draws rhwydwaith Canolfannau Abertawe yn ystod 2016, roedd Sir Gaerfyrddin wedi profi cynnydd sylweddol yn y gwastraff gâi ei adael yng nghyfleusterau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Cyngor Sir Caerfyrddin.

Mewn ymgais i leihau costau a chynyddu targedau perfformiad ailgylchu, awgrymwyd gwahardd y defnydd o Ganolfannau Cyngor Sir Caerfyrddin gan drigolion 'nad ydynt yn lleol', ac o ganlyniad roedd angen gofyn am brawf preswyliaeth ar ffurf trwydded yrru/bil cyfleustod pan oeddent yn cyrraedd y safle.

 

·         Mewn perthynas â sylwadau a godwyd yngl?n â'r ddarpariaeth ailgylchu yng ngogledd y Sir, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod adroddiad am y ddarpariaeth o ran Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref wedi ei gynnwys ym Mlaenraglen Waith y Pwyllgor 2019-2020.

 

·         Mewn ymateb i ymholiad ynghylch gwastraff masnachol, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff y byddai cyfleoedd yn y dyfodol i fanteisio ar wastraff masnachol wrth ei ddargyfeirio i gwmni Teckal y Cyngor; CWM Environmental Ltd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL fod y cynigion canlynol o ran Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael eu cymeradwyo:

·         Agor am awr yn llai bob dydd – 1 Ebrill 2019.

·         Gwahardd gwastraff masnachol – 1 Ebrill 2019.

·         Gwiriadau Preswyliaeth - yn cael eu cyflwyno o 1 Ebrill 2019.

·         System hawlenni  – 3 Mehefin 2019.

·         Didoli bagiau du - yn cael eu cyflwyno o 1 Hydref 2019.

 

 

8.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 65 KB

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod Adroddiad Monitro'r Gyllideb heb gael ei gyflwyno, a byddai'n cael ei ystyried yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 18 Ebrill 2019 yn unol â'r cylch adrodd.

 

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 101 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor yr eitemau ar gyfer y cyfarfod nesaf a oedd wedi cael ei drefnu ar gyfer 18 Ebrill 2019. 

 

 

10.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALWYD AR Y:

10.1

10 RHAGFYR 2018 pdf eicon PDF 241 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr, 2018 gan eu bod yn gywir.

 

 

10.2

14 IONAWR 2019 pdf eicon PDF 268 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a gynhaliwyd ar 14 Ionawr, 2019 gan eu bod yn gywir.