Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Jenkins
01267 224088
Media
Eitemau
Rhif |
eitem |
1. |
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr
M.J.A. Lewis, C. Jones, a G.B. Thomas.
|
2. |
Datgan Buddiannau Personol
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Y Cynghorydd
|
Rhif y Cofnod
|
Y Math o Fuddiant
|
J.A.
Davies
|
Cais Cynllunio – E/37648 - Adeiladu mynediad gât
i'r safle o'r enw Penygroes Concrete Works yn ogystal â
gwneud gwaith draenio cysylltiedig, y ceir mynediad iddo o'r ffordd
gyswllt economaidd (wrthi'n cael ei hadeiladu) a hefyd adeiladu
mynediad amaethyddol newydd o'r ffordd gyswllt economaidd yn
Penygroes Concrete, Heol Norton, Pen-y-groes, Llanelli, SA14
7RU
|
Mae'n perthyn i berchennog Penygroes Concrete
Works.
|
J.D.
James
|
Cais cynllunio - S/38052 - Newid
defnydd o hen Gapel Seion (D1) i ddarparu swyddfeydd ar y llawr
gwaelod (B1) a chreu dwy lefel ychwanegol o lety (C3), 2 fflat 2
ystafell wely ar y ddau lawr (cyfanswm o 4 fflat 2 ystafell wely)
yng Nghapel Seion, Stryd Parc-y-Minos, Porth Tywyn.
|
Mae'n breswylydd yn y stryd lle y gwneir cais am
ganiatâd cynllunio, ac mae'n adnabod yr ymgeisydd.
|
|
3. |
RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 976 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD caniatáu'r
ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn
Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn
y cyfarfod:
E/37648
|
Adeiladu mynediad gât i'r
safle o'r enw Penygroes Concrete Works yn ogystal â gwneud
gwaith draenio cysylltiedig, y ceir mynediad iddo o'r ffordd
gyswllt economaidd (wrthi'n cael ei hadeiladu) a hefyd adeiladu
mynediad amaethyddol newydd o'r ffordd gyswllt economaidd yn
Penygroes Concrete, Heol Norton, Pen-y-groes, Llanelli, SA14
7RU
[Sylwer: Gan ei
fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y
Cynghorydd J.A. Davies siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y
mater a phenderfynu arno].
Bu'r aelod lleol yn annerch y
Pwyllgor ynghylch pryderon mewn perthynas â llwch ar y
safle. Dywedodd yr Uwch-swyddog
Rheoli Datblygu y gallai unrhyw bryderon ynghylch materion o'r fath
gael eu trosglwyddo i Adran y Gwasanaethau
Amgylcheddol.
|
|
4. |
RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 1001 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr
amodau a nodwyd yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd
gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
S/36837
|
Amrywio amodau 2, 7 a 9 o gais
cynllunio S/32708 yn hen westy Gwenllian Court, Mynyddygarreg,
Cydweli, SA17 4LW
|
PENDERFYNWYD caniatáu'r cais
cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad y Pennaeth
Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y
cyfarfod:-
S/37798
|
Adeiladu dau d? ar wahân ar
dir yn Nolau Fan, Porth Tywyn, SA16 0RG
Mewn ymateb i gwestiynau a godwyd gan yr Aelodau,
dywedodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu y byddai gwaith
peirianyddol sylweddol yn cael ei wneud fel rhan o'r datblygiad,
fel eiddo eraill, ac y byddai'n cael ei archwilio gan y gwasanaeth
Rheoli Adeiladau.
Rhoddodd y Rheolwr Datblygu sylw i'r mater o 'ffyrdd
heb eu mabwysiadu' a rhoddwyd gwybod i'r aelodau bod y mater hwn yn
destun adolygiad ar hyn o bryd.
|
PENDERFYNWYD gohirio ystyried y
cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor gynnal ymweliad
safle:-
S/38052
|
Newid defnydd o hen Gapel Seion
(D1) i ddarparu swyddfeydd ar y llawr gwaelod (B1) a chreu dwy
lefel ychwanegol o lety (C3), 2 fflat 2 ystafell wely ar y ddau
lawr (cyfanswm o 4 fflat 2 ystafell wely) yng Nghapel Seion, Stryd
Parc-y-Minos, Porth Tywyn.
[Sylwer: Gan ei
fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y
Cynghorydd J.D. James siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y
mater a phenderfynu arno].
RHESWM – Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle
yn sgil pryderon a godwyd ynghylch yr effaith bosibl ar draffig a
pharcio.
|
|
5. |
RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO PDF 928 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais
cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn
Adroddiady Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt
yn y cyfarfod:-
W/38150
|
Adnewyddu caniatâd cynllunio sydd
wedi dod i ben (W/20486), preswylfa yn 14 Heol Gwermont,
Llan-saint, Cydweli, SA17 5JA
Nodwyd bod y cais yn amodol ar
Ganiatâd Ardal Gadwraeth i ddymchwel yr adeilad presennol
hefyd yn cael ei gymeradwyo. Rhoddwyd
gwybod i'r aelodau bod cais am y caniatâd hwn wedi dod i
law.
Mewn ymateb i gwestiwn gan yr
aelodau, dywedodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu mai'r newidiadau
mwy arwyddocaol i'r caniatâd gwreiddiol (W/20486) oedd
sicrhau Taliad Tai Fforddiadwy, cael gwared ar Hawliau Datblygu a
Ganiateir a hefyd sicrhau'r defnydd o sgriniau preifatrwydd lle bo
angen.
|
|
6. |
LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 10FED O IONAWR 2019 PDF 155 KB
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 10 Ionawr 2019 yn
gofnod cywir.
|