Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Craffu Polisi ac Adnoddau - Dydd Mercher, 6ed Chwefror, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd A.C. Jones.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

4.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2018/19 pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 31 Hydref 2018 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2018/19.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

 

·         Cyfeiriwyd at oferedd cynyddu'r targed incwm ar gyfer meysydd parcio pe na bai'r ffioedd parcio yn cael eu cynyddu;

·         Ailfynegwyd pryderon ynghylch y ffaith bod y Pwyllgor yn cael ei wahodd i graffu ar y sefyllfa gyllidebol ddeufis wedi'r cyfnod yr oedd yr adroddiad ar ei gyfer. Cafodd y pryderon eu cydnabod gan Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, ond dywedodd ei bod yn cymryd tua mis ar ôl diwedd y mis i baratoi'r sefyllfa gyllidebol am y cyfnod dan sylw, a bod yn rhaid wedyn yn y lle cyntaf i'r Bwrdd Gweithredol ei hystyried cyn y gellid ei chyflwyno i'r pwyllgor craffu. Ychwanegodd er mai prif ddiben yr adroddiad oedd darparu rhagolygon diwedd blwyddyn ac amlygu pwysau cyllidebol, byddai ei swyddogion yn edrych ar yr amseriadau ar gyfer ei chyflwyno yn y dyfodol;

·         Mewn ymateb i ymholiad, cytunodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol i roi'r rheswm pam na fyddai modd cyrraedd y targed a ragwelwyd o ran cynnydd mewn incwm ar gyfer darparu hyfforddiant cydymffurfiaeth weithredol yn Adran yr Amgylchedd;

·         Codwyd bod y gwaith o ailstrwythuro'r gwasanaethau Priffyrdd a Thrafnidiaeth yn dal i fynd rhagddo, er eu bod wedi cael eu huno i greu un is-adran yn 2016.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

5.

POLISI A STRATEGAETH RHEOLI'R TRYSORLYS 2019-20 pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Polisi a Strategaeth arfaethedig Rheoli'r Trysorlys 2019/20 [a gafodd ei ystyried, hefyd, gan y Bwrdd Gweithredol yn ei gyfarfod ar 4 Chwefror 2019] ac atgoffwyd yr aelodau fod yn rhaid i'r Cyngor, o dan ofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ynghylch Rheoli'r Trysorlys, feddu ar Bolisi Rheoli'r Trysorlys a oedd yn manylu ar bolisïau ac amcanion ei weithgareddau o ran rheoli'r trysorlys. Fe'u hatgoffwyd hefyd fod yn rhaid i'r Cyngor gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn flynyddol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol yr oedd yn ymwneud â hi. Hefyd, dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo ei Ddangosyddion Darbodaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol y byddai disgwyl i'r Cyngor gael benthyg, ar gyfer y prosiectau a arweinid gan Sir Gaerfyrddin ym mhartneriaeth Bargen Ddinesig Bae Abertawe, £40m ar gyfer y Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd a £2m ar gyfer Yr Egin o 2019-20 i 2021-22. Ychwanegodd fod y Bwrdd Gweithredol wedi argymell i'r Cyngor fod Cartrefi Croeso Cyfyngedig yn cael cynnig cyfleuster cyllido o £6m ar y mwyaf.

Cyfeiriwyd at yr angen am graffu'r tendrau a wahoddwyd gan Cartrefi Croeso Cyfyngedig yn fanwl.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2019/20 a'r atodiadau cysylltiedig.

 

6.

DATGANIAD SAFBWYNT LLESIANT A GWYDDOR BYWYD LLANELLI pdf eicon PDF 348 KB

Cofnodion:

Yngl?n â datganiad sefyllfa y Prif Weithredwr ynghylch Pentref Llesiant Llanelli i'r Cyngor ar 12 Rhagfyr 2018 [gweler cofnod 3], rhoddodd y Pwyllgor ystyried i adroddiad a oedd â'r nod o roi rhagor o sicrwydd ynghylch trefniadau llywodraethu Prosiect y Pentref, yn ystod y broses gaffael ac ar ôl llofnodi'r Cytundeb Cydweithio gyda Phrifysgol Abertawe a Sterling Health Security Holdings Limited. Roedd yr adroddiad  yn cynnwys:

·         Cynnydd Achos Busnes y Fargen Ddinesig;

·         Statws y pedwar adolygiad oedd wedi dechrau a darparu prosiect y Pentref;

·         Sicrwydd, drwy adolygiad cyfreithiol, fod proses graffu gadarn wedi'i chynnal;

·         Sicrwydd ynghylch trefniadau llywodraethu'r prosiect;

·         Terfynu'r Cytundeb Cydweithio.

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai canfyddiadau'r pedwar adolygiad hyn yn cael eu rhannu ar ôl iddynt gael eu cwblhau. Yn ogystal, er bod y Cytundeb Cydweithio wedi cael ei derfynu, roedd angen perthynas waith gyda Phrifysgol Abertawe, ac, ar hyn o bryd, er gwaethaf atal rhai o'r staff dros dro, nid oedd y Brifysgol wedi tynnu'n ôl o'r prosiect ond ni fyddai'n gallu parhau i ymgysylltu hyd nes bod ei hymchwiliadau mewnol wedi eu cwblhau. Roedd y prosiect yn parhau i wneud cynnydd, a'r nod oedd cwblhau cam un y Pentref yn 2021.

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd ynghylch yr adroddiad:

·         Dywedwyd wrth y Pwyllgor petai Prifysgol Abertawe yn tynnu'n ôl o'r prosiect, byddai'r Awdurdod yn barod i drafod ffordd arall o ddarparu'r prosiect gyda sefydliad academaidd arall a fyddai â diddordeb;

·         Eglurodd y swyddogion eu bod wedi clywed gyntaf am yr ataliadau dros dro yn y Brifysgol ar yr un adeg ag y bu i'r wasg adrodd am hynny;

·         O ran yr ymholiadau a godwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch yr Asesiad  Canlyniad Llifogydd, a oedd yn ofynnol fel rhan o'r Cais Cynllunio a gymeradywyd yn ddiweddar ar gyfer y Pentref Llesiant, rhagwelwyd y byddai'r wybodaeth berthnasol yn cael ei chyflwyno i Cyfoeth Naturiol Cymru o fewn y mis nesaf ond bod adborth diweddar wedi bod yn gadarnhaol;

·         Nodwyd bod Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn gwbl ymrwymedig i'r prosiect o hyd;

·         Pwysleisiwyd bod asedau'r Cyngor Sir wedi cael eu diogelu drwy gydol datblygiad y prosiect,

·         Mewn ymateb i sylw ynghylch cysylltedd ar draws y sir â safle'r Pentref Llesiant, dywedwyd wrth yr aelodau bod Asesiad Trafnidiaeth ynghlwm wrth y Cais Cynllunio a roddai sylw i effeithiau posibl y datblygiadau ar draffig a thrafnidiaeth, a hynny yn ystod y gwaith adeiladu ac wedi hynny. Hefyd roedd Cynllun Teithio wedi ei lunio. Roedd hefyd yn debygol y byddai swyddi â phosibiliadau gweithio ystwyth yn cael eu creu.

Diolchwyd i'r swyddogion am y diweddariad cynhwysfawr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

6.1         bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;

6.2       bod diweddariad pellach yn cael ei roi yn y cyfarfod nesaf.

 

7.

COFNODION BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS (BGC) SIR GÂR - MEDI 2018 pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cofnodion cyfarfod Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin a gynhaliwyd ar 20 Medi 2018.Roedd yn ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fod Pwyllgor Craffu Llywodraeth Leol penodol yn cael ei benodi i graffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Yn Sir Gaerfyrddin, penodwyd Pwyllgor Craffu – Polisi ac Adnoddau y Cyngor fel y Pwyllgor Craffu perthnasol.

 

Gan gyfeirio at gofnod 3 y cofnodion uchod -'Diweddariad am Bentref Llesiant a Gwyddor Bywyd Llanelli' - rhoddwyd sicrwydd i'r Cyngor y byddai'r Cyngor yn sicrhau bod manteision i fusnesau lleol drwy reoli'r cadwyni cyflenwi i gwmnïau mwy o faint a allai fod yn rhan o'r prosiect.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn cofnodion cyfarfod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 20 Medi 2019.

 

8.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 90 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y rhestr o eitemau i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf i'w gynnal ar 20 Chwefror 2019 yn cael eu derbyn yn amodol ar gynnwys Cofnodion y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a diweddariad ar y Pentref Llesiant.

 

9.

COFNODION - 11 IONAWR 2019 pdf eicon PDF 168 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Ionawr 2019 yn gofnod cywir.