Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P. Edwards,
T. Higgins, B.D.J. Phillips, S. Phillips, A.D.T. Speake a P. Edwards. 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol. 

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

4.

Y CYNG. J. JAMES - CAIS AM EITEM AR AGENDA'R PWYLLGOR CRAFFU - BRIDIO CWN YN SIR GAERFYRDDIN pdf eicon PDF 512 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ar Fridio C?n yn Sir Gaerfyrddin. Derbyniwyd yr adroddiad yn ogystal â Blaenraglen Waith y Pwyllgor yn dilyn cais gan y Cynghorydd J. James o dan Reolau'r Weithdrefn Graffu 10 (1). 

 

Eglurodd y Cynghorydd James, yn dilyn y rhaglen ddogfen a ddarlledwyd gan y BBC yn ddiweddar yn ymchwilio i'r diwydiant ffermio c?n bach (Hydref 2019), ei fod yn ofynnol i ofyn am adroddiad er mwyn cael gwybodaeth am y mater emosiynol hwn.

 

Cyflwynodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd yr adroddiad i'r Pwyllgor, a oedd yn rhoi gwybodaeth am y sefyllfa bresennol o ran trwyddedu bridio c?n yn Sir Gaerfyrddin a'r dull a ddefnyddir.

 

Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn esbonio y lefel o reoleiddio a gorfodi rhagweithiol sydd wedi digwydd, sut mae dull y Cyngor wedi datblygu a heriau'r dyfodol. Roedd hyn cynnwys gwybodaeth am sut mae'r Cyngor wedi parhau i wella safonau bridwyr trwyddedig a'r ffordd orau o dargedu adnoddau yn y dyfodol.

 

Holwyd ynghylch y canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

  • Mewn ymateb i ymholiad ynghylch yr adolygiadau a amlinellir yn yr adroddiad, eglurodd Pennaeth Cartrefi a Chymunedau Mwy Diogel y cynhaliwyd yr adolygiadau fel rhan o broses barhaus i wella, sicrhau eglurder o ran y dull a thargedu adnoddau'n briodol. Rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor y byddai unrhyw argymhellion yn deillio o'r adolygiadau yn rhan o ymgynghoriad cynhwysfawr.

 

  • Cyfeiriwyd at y dull presennol o gynnal ymweliadau/monitro rhyngrwyd rhagweithiol. Eglurodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd fod Swyddogion yn monitro'r cyfryngau cymdeithasol bob dydd ac wedi ymchwilio i unrhyw weithgaredd amheus. Eglurodd y Rheolwr Materion Defnyddwyr a Busnes ymhellach, er bod monitro'r cyfryngau cymdeithasol a'r rhyngrwyd yn gyffredin, fod gwaith rhagweithiol arall yn helpu i ddod o hyd i werthwyr, gan gynnwys gweithio mewn partneriaeth a gweithio'n agos gydag Awdurdodau Lleol cyfagos i rannu gwybodaeth.

 

·       Cyfeiriwyd at y ffaith mai dim ond 2 swyddog penodedig sydd gan yr Awdurdod i reoli holl elfennau'r gwaith gan gynnwys archwilio a rheoleiddio cynelau lletya. Mynegwyd pryder cryf na fyddai'r nifer hwn o adnoddau penodol yn ddigon i fodloni disgwyliadau'r cyhoedd am y gwasanaeth o ran rheoleiddio diwydiant mor ddeinamig a chymhleth. Cydnabu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd y pryder a dywedodd fod adnoddau'n cael eu hadolygu i sicrhau bod blaenoriaethau'n cael eu cyflawni o fewn y terfynau amser penodol.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â gwirio gerddi cefn preifat ar gyfer bridio c?n yn anghyfreithlon, dywedodd y Rheolwr Materion Defnyddwyr a Busnes fod Swyddogion Tai yr Awdurdod Lleol yn cynorthwyo drwy wneud gwiriadau fel rhan o'u rhaglen arolygu. Cydnabuwyd bod eiddo preifat yn cael eu defnyddio i fasnachu bridio c?n fodd bynnag, roedd nifer o gyfyngiadau cyfreithiol yn bodoli a'r unig ffordd o fynd mewn i eiddo preifat a amheuir oedd cyflwyno gwarant, a oedd yn ofynnol gan y Llys Ynadon, a oedd yn broses heriol ac yn aml yn llawn straen.

 

Mewn ymateb i ymholiad pellach, dywedodd y Rheolwr Materion Defnyddwyr a Busnes fod  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

ADRODDIAD BLYNYDDOL AR GANMOLIAETH A CHWYNION 2018/19 pdf eicon PDF 249 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol y Cyngor ynghylch Cwynion a Chanmoliaeth ar gyfer y cyfnod 2017/18 gan dalu sylw penodol i Adran 10.6 a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl.

Nodwyd bod yr adroddiad yn manylu ar y canlynol:-

·       Nifer y cwynion yr ymchwiliwyd ac ymatebwyd iddynt rhwng Ebrill 2018 a Mawrth 2019 fesul adran.

·       Ystadegau o ran y negeseuon a gafwyd gan y Tîm Cwynion, ac a ailgyfeiriwyd.

·       Cwynion yr oedd yr Ombwdsmon yn penderfynu arnynt.

·       Dadansoddiad o gwynion a chanmoliaeth fesul adran.

·       Crynodeb o ymholiadau gan gynghorwyr.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr Adroddiad Blynyddol ynghylch Cwynion a Chanmoliaeth ar gyfer 2018/19.

 

 

6.

GWASANAETHAU MATERION BUSNES A DEFNYDDWYR ADRODDIAD BLYNYDDOL 2018/19 pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Materion Defnyddwyr a Busnes ar gyfer 2017/18.  Rhoddodd yr adroddiad wybodaeth i'r aelodau yn ogystal ag ystadegau ynghylch y gwaith a wnaed gan y Gwasanaeth yn 2018/19.

 

Nododd y Pwyllgor fod y Gwasanaeth yn cynnwys Safonau Masnach, Trwyddedu a Gwasanaethau Iechyd Anifeiliaid.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Blynyddol y Gwasanaethau Materion Defnyddwyr a Busnes ar gyfer 2018/19.

 

 

7.

BLAEN-GYNLLUN DEDDF YR AMGYLCHEDD CSC 2016-19 ADRODDIAD AR GYFLWYNO I LYWODRAETH CYMRU pdf eicon PDF 237 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adolygiad o Blaen-gynllun Deddf yr Amgylchedd Cyngor Sir Caerfyrddin (Cymru) 2016-2019 i'w ystyried yn dilyn ei gyhoeddi am y tro cyntaf yn 2017. Roedd yr adolygiad yn dangos sut oedd y Cyngor yn bodloni ei rwymedigaeth gyfreithiol wrth gyfeirio at y Ddeddf.

 

Er mwyn dangos tystiolaeth o'r ddyletswydd hon yn cael ei chyflawni o dan Ddeddf yr Amgylchedd, roedd yn ddyletswydd statudol bod yn rhaid i bob corff cyhoeddus yng Nghymru baratoi a chyhoeddi cynllun ynghylch sut yr oedd yn bwriadu cydymffurfio â'r Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau erbyn mis Mawrth 2017.

 

Nododd yr Aelodau fod dull Sir Gaerfyrddin o ddatblygu a chyflawni ei Flaen-gynllun wedi cynnwys ymgysylltu â swyddogion i edrych ar eu harferion gwaith, eu cynlluniau a'u prosiectau tra'n eu cynorthwyo i nodi cyfleoedd presennol ar gyfer cynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo gwytnwch ecosystemau, ochr yn ochr â chyflawni eu rhwymedigaethau a'u hamcanion eraill.

 

Holwyd ynghylch y canlynol mewn perthynas â'r adroddiad:-

 

·       Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â'r gost o reoli clefyd coed ynn, esboniodd y Rheolwr Cadwraeth Wledig nad oedd yn bosibl amcangyfrif cost gan fod llawer iawn o waith dal i'w wneud. Fodd bynnag, cadarnhawyd y byddai angen y £300k a neilltuwyd dros y 2 flynedd nesaf ar gyfer rheoli'r clefyd.  Er mwyn rheoli lledaeniad clefydau, roedd arolygon yn cael eu cynnal ar hyn o bryd i nodi meysydd risg uchel er mwyn blaenoriaethu cam gweithredu priodol a thargedu adnoddau'n effeithiol. Eglurodd y Rheolwr Cadwraeth Wledig fod coed wedi'u heintio yn aml yn cael eu marcio â rhuban oren.

 

Er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o ddifrifoldeb y clefyd hwn, awgrymwyd y byddai seminar ar gyfer pob aelod yn fuddiol er mwyn egluro arwyddocâd Clefyd Coed Ynn, sut i'w adnabod a'r ffordd orau o weithredu. Yn dilyn yr awgrym hwn, cynigiwyd y dylid trefnu seminar ar gyfer yr holl Aelodau ar Glefyd Coed Ynn. Eiliwyd y cynnig.

 

Eglurodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd fod gweithgor Clefyd Coed Ynn wedi cael ei sefydlu a bod cynllun cyfathrebu wrthi'n cael ei ddatblygu er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o'r clefyd. Yn ogystal, roedd tudalen we yn cael ei datblygu a fyddai'n cynnwys canllawiau a chyngor i berchnogion tir.

 

Yn ogystal, dywedodd y Rheolwr Cadwraeth Wledig er mwyn sicrhau bod negeseuon cyson yn cael eu cyfleu, fod 'Cwestiynau Cyffredin' yn cael eu datblygu ar y cyd â'r NFU, NRU a CLA, roedd pecyn cymorth a luniwyd gan y Cyngor Coed yn cael ei ddefnyddio ac roedd gwaith cyswllt angenrheidiol yn cael ei gyflawni gyda pherchnogion tir oedd gerllaw priffyrdd.

 

·       Cyfeiriwyd at y gwaith a wneir ar hyn o bryd gydag ysgolion (cyfeirnod PIMS 1304, tudalen 11 o'r adroddiad). Gwnaed ymholiad ynghylch Ysgol Tre Ioan, sef yr unig ysgol y soniwyd amdano yn y Cynllun. Dywedodd y Rheolwr Cadwraeth Wledig fod gwaith y tîm yn cael ei gyfyngu gan amser y tymor, materion brys eraill a bod diffyg adnoddau ar gael. Codwyd awgrym y gallai'r Cyngor ddefnyddio rhwydwaith Ysgolion Awyr Agored Sir Gaerfyrddin er mwyn helpu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

CYNLLUN CARBON SERO-NET pdf eicon PDF 348 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a chynllun drafft a oedd yn amlinellu ffordd o fod yn Awdurdod Lleol carbon sero-net erbyn 2030. Datblygwyd y Cynllun yn unol â phenderfyniad unfrydol y Cyngor ar 20 Chwefror, 2019 [gweler cofnod 7.1] i gefnogi'r Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Aled Vaughan Owen:

 

“…Cynigiwn fod Cyngor Sir Caerfyrddin yn:

 

1.     Datgan Argyfwng Hinsawdd

2.     Ymrwymo i wneud Cyngor Sir Caerfyrddin yn awdurdod lleol carbon sero-net erbyn 2030

3.     Datblygu cynllun clir ar gyfer bod yn awdurdod carbon sero-net o fewn 12 mis

4.     Galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu cymorth ac adnoddau angenrheidiol er mwyn ein galluogi i leihau carbon yn effeithiol

5.     Gweithio gyda'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a phartneriaid Bargen Ddinesig Bae Abertawe i ddatblygu cyfleoedd cyffrous i gyflawni arbedion carbon

6.     Cydweithio ag arbenigwyr o'r sector preifat a'r 3ydd sector i ddatblygu atebion arloesol er mwyn bod yn awdurdod carbon sero-net.”

 

Un o argymhellion yr adroddiad oedd y dylid mabwysiadu dull gweithredu pragmatig a oedd yn canolbwyntio'n gyntaf ar yr allyriadau carbon a oedd yn cael eu mesur gan y Cyngor ar hyn o bryd gan gynnwys adeiladau annomestig, goleuadau stryd, milltiroedd y fflyd a milltiroedd busnes.

 

Pwysleisiodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig y byddai angen i'r dull hwn fod yn ddigon hyblyg er mwyn darparu ar gyfer amgylchiadau sy'n newid, gan gynnwys ystyried y gofynion adrodd sydd eto i'w cyflwyno gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'i uchelgais i gael sector cyhoeddus sy'n garbon niwtral erbyn 2030.

 

Pwysleisiwyd, o fewn cyfyngiadau'r cynllun gweithredu drafft, fod 'Carbon Sero-net' a 'Carbon Niwtral' yn gyfnewidiadwy a byddai adroddiad ar y camau gweithredu a nodwyd yn y cynllun gweithredu drafft yn cael lunio bob blwyddyn.

 

Nododd y Pwyllgor, er mai'r prif ddull a ffefrir o ran gwneud iawn am ôl-troed carbon gweddilliol y Cyngor fyddai cynyddu'n sylweddol swm yr ynni adnewyddadwy sy'n cael ei gynhyrchu, byddai hyn yn gofyn am gyllid sylweddol. Felly, roedd yn hanfodol sefydlu achos busnes cadarn ar gyfer pob prosiect ynni adnewyddadwy posibl.

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:-

 

·       Mynegwyd pryder nad oedd gan y rhwydwaith dosbarthu trydan lleol ddigon o gapasiti i alluogi'r Cyngor i ddilyn ei nod o gynyddu'n sylweddol swm yr ynni adnewyddadwy sy'n cael ei gynhyrchu ar ei dir. Dywedodd yr aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig fod trafodaethau wedi'u cynnal gydag Arweinydd y Cyngor i gael dull ar y cyd er mwyn lobïo gweithredwr y rhwydwaith dosbarthu trydan - Western Power Distribution - i gael mwy o gapasiti ar y rhwydwaith. 

 

·       Mewn ymateb i ymholiad ynghylch cydweithio â Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC), dywedodd y Rheolwr Datblygu Cynaliadwy, er mwyn adeiladu ar y gwaith blaenorol ar y cyd, y byddai BGC Sir Gaerfyrddin yn cynnal gweithdy i weld sut y mae sefydliadau sy'n aelodau o'r bwrdd yn ymateb i'r newid yn yr hinsawdd, gan amlinellu gweithgarwch presennol ac arfaethedig yn eu sefydliadau a nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithio ar  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 245 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y rhestr o eitemau ar gyfer y cyfarfod oedd i'w gynnal ar ym mis Rhagfyr 2019 a rhoddwyd cyfle i'r Pwyllgor wneud cais am wybodaeth i'w chynnwys yn yr adroddiadau.

 

Nododd yr Aelodau fod yr Adroddiad Monitro Cyllideb 2019/20 (y cyfnod rhwng Ebrill 2019 ac Awst 2019) wedi cael ei gylchredeg i holl Aelodau'r Pwyllgor drwy e-bost ar 4 Tachwedd, 2019 a hynny ar gais y Cadeirydd, i leihau nifer yr eitemau i'w hystyried ar yr agenda heddiw.  Ni chodwyd unrhyw sylwadau/ymholiadau/pryderon mewn perthynas ag Adroddiad Monitro Cyllideb 2019/20 a ddosbarthwyd (y cyfnod rhwng Ebrill 2019 ac Awst 2019).

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

9.1    dderbyn y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol;

9.2    nodi'r Flaenraglen Waith a ddiweddarwyd.

 

 

10.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALWYD AR Y 30 MEDI 2019 pdf eicon PDF 312 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a gynhaliwyd ar 30 Medi, 2019 gan eu bod yn gywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau