Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 14eg Tachwedd, 2019 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr P.M. Edwards a C. Jones. 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONAL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Enw

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

Y Cynghorydd J.E. Williams

5 - Cais Cynllunio W/38688 - Newid llawr gwaelod hen dafarn yn llety preswyl, gan gyfuno â'r llety presennol ar y llawr cyntaf i ffurfio preswylfa hunangynhwysol; gwaredu rhan o'r waliau modern mewnol er mwyn ailgyflwyno defnydd y grisiau mewnol presennol a blocio'r drws cefn mewnol i'r estyniad yn y cefn; ynghyd â rhannu'r estyniad cefn sydd wedi'i gwblhau'n sylweddol er mwyn ffurfio dwy breswylfa ychwanegol, Ram Inn, Cwm-ann, Llanbedr Pont Steffan, SA48 8ES.

Aelod o Gyngor Cymuned Pencarreg.

 

3.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 454 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn unol â'r amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

E/39337

Dofednod Amrywio amod 22 o E/33695 (codi uned ddofednod ar fferm er mwyn cadw ieir maes (i gynhyrchu wyau) ynghyd â biniau bwyd cysylltiedig, mynediad mewnol i'r fferm a gwaith cysylltiedig). Bydd danfoniadau a chasgliadau sy'n gysylltiedig â'r datblygiad arfaethedig yn cyrraedd neu'n gadael y safle rhwng 08:00 a 20:00 yn unig o ddydd Llun i ddydd Sul. Os bydd argyfwng, gellir gwneud danfoniadau a chasgliadau y tu allan i'r oriau a bennwyd ar yr amod bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn cael gwybod yn ysgrifenedig, Godre Garreg, Llangadog, SA19 9DA.

 

4.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 669 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.1    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

S/39156

Materion a gadwyd yn ôl yn ymwneud â holl amodau caniatâd amlinellol S/36946 (adeiladu un breswylfa ar wahân) - ailgyflwyno S/38167, a wrthodwyd ar 11.02.2019, tir y tu cefn i 61 Heol y Pwll, Llanelli, SA15 4BD;

 

S/39221

Un cartref newydd y tu cefn i 29 Rhes Hir, Y Fron, Felin-foel, Llanelli, SA15 4LW;

 

S/39430

Adeiladu estyniad unllawr, sef cegin, gyda balconi ar y llawr cyntaf uwchben yr estyniad yn 146 Pentre Nicklaus, Llanelli, SA15 2DF;

 

 

4.2   PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r rhesymau dros wrthod y cais a ddrafftiwyd gan y Pennaeth Cynllunio, fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad, mewn perthynas â'r cais cynllunio canlynol, y gwrthododd y Pwyllgor Cynllunio roi caniatâd cynllunio iddo, yn groes i argymhelliad y swyddog, ar 1 Hydref, 2019:-

 

S/21597

Adeiladu 100 o breswylfeydd a gwaith cysylltiedig ar dir ger Garreglwyd, Pen-bre, Sir Gaerfyrddin.

 

 

S/39538

 

Amrywio Amod 2 ar gais S/36465 (cynlluniau), tir ger Ystad Dai Dylan, Llanelli, SA14 9AN;

Cafwyd sylw gan yr Aelod Lleol a oedd yn cefnogi’r cais.

 

 

 

5.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 680 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

5.1    PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-

 

W/37254

Cais cynllunio i godi adeilad â gwelyau gwellt ar gyfer stoc ifanc, adeilad ar gyfer geni stoc, clampiau silwair, mannau concrid ar y buarth a phwll wedi'i ailbroffilio (sy'n rhannol ôl-weithredol), Fferm Wernolau, Llangynog, Caerfyrddin, SA33 5BN;

 

Cafwyd sylwadau a wrthwynebai'r cais ac a ailadroddodd y pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys pryderon mewn perthynas â'r canlynol:

 

·                     Mae gan y fferm hanes o fethu â chydymffurfio ag amodau cynllunio;

·                     Mae'r fferm yn gweithredu ar raddfa ddiwydiannol ac yn gysylltiedig ag is-ffermydd;

·                     Dylid gosod treulydd anerobig;

·                     Mwy o allyriadau diesel o ganlyniad i gynnydd heb ei ddatgan mewn perthynas â theithiau cerbydau nwyddau trwm.

·                     Mae'r fferm eisoes yn rhy fawr ac mae nifer y lorïau trwm eisoes wedi cael effaith ar ansawdd bywyd preswylwyr lleol;

·                     Bydd y cynnydd yn nifer y da byw yn gwaethygu'r llygredd yn yr ardal drwy slyri a gwaddodion. Bydd y pyllau slyri yn effeithio ar iechyd preswylwyr lleol;

·                     Yn y gorffennol, rhoddwyd caniatâd cynllunio ôl-weithredol i'r fferm ac mae'r cais presennol hefyd yn rhannol ôl-weithredol;

·                     Diystyriwyd pryderon preswylwyr ar draul y rhwydwaith priffyrdd, ansawdd aer a llygredd s?n;

·                     Yr effaith ar iechyd dynol.

·                     Yr effaith ar dwristiaeth - effeithiwyd ar bysgota;

·                     Yr effaith ar fentrau bach i dwristiaid yn yr ardal.

 

Ymatebodd yr ymgeisydd, y Swyddog Rheoli Datblygu a'r Uwch-dechnegydd (Cydgysylltydd Cynllunio Priffyrdd) i'r materion a godwyd.

 

5.2  PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y cais cynllunio canlynol nes cadarnhau hyfywedd yr eiddo fel tafarn yn y dyfodol:-

 

[Sylwer: Roedd y Cynghorydd E. Williams wedi datgan buddiant yn y cais canlynol yn gynharach fel aelod o Gyngor Cymuned Pencarreg.]

 

W/38688

Newid llawr gwaelod hen dafarn yn llety preswyl, gan gyfuno â'r llety presennol ar y llawr cyntaf i ffurfio preswylfa hunangynhwysol; gwaredu rhan o'r waliau modern mewnol er mwyn ailgyflwyno defnydd y grisiau mewnol presennol a blocio'r drws cefn mewnol i'r estyniad yn y cefn; ynghyd â rhannu'r estyniad cefn sydd wedi'i gwblhau'n sylweddol er mwyn ffurfio dwy breswylfa ychwanegol, Ram Inn, Cwm-ann, Llanbedr Pont Steffan, SA48 8ES.

 

6.

COFNODION

Dogfennau ychwanegol:

6.1

1AF HYDREF 2019; pdf eicon PDF 217 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2019 yn gofnod cywir.

 

6.2

17EG HYDREF 2019 pdf eicon PDF 314 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 17 Hydref 2019 yn gofnod cywir.