Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

PENODI CADEIRYDD AR GYFER Y CYFARFOD

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL benodi'r Cynghorydd G. Thomas yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Davies, T. Higgins, A. James, E.G. Thomas ac A. McPherson.

 

3.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

4.

DATGAN CHWIPIAID PLAID SYDD WEDI EU GWAHARDD

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

 

5.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y BWRDD CYNLLUNIO RHANBARTHOL YNGHYLCH CAMDDEFNYDDIO CYFFURIAU AC ALCOHOL 2017 pdf eicon PDF 450 KB

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Ms Ros Jervis, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, a Ms Joanna Dainton, Pennaeth Datblygu Strategaeth Comisiynu a Phartneriaeth (Camddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol) Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol Camddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol y Bwrdd Cynllunio Ardal, a oedd yn rhoi sylw i ystod o feysydd, er mwyn rhoi gwybodaeth i aelodau a'u diweddaru o ran y trefniadau comisiynu presennol a'r gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a ddarperir. Roedd yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

 

·       yr amcanion strategol mewn perthynas â darparu gwasanaethau o'r fath, y trefniadau cyllido, a'r gwasanaethau/prosiectau a gomisiynir;

·       datblygiadau lleol a chadarnhad o'r trefniadau llywodraethu a chynllunio sydd ar waith yn rhanbarthol.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y cyflawniadau a wnaed yn 2017, a oedd yn cynnwys dosbarthu 397 o gitiau Naloxone.  Gofynnwyd pwy oedd wedi derbyn cit Naloxone.  Yn ogystal, dywedwyd y gallai codi ymwybyddiaeth o Naloxone a'i ddiben fod yn fuddiol. Gellid cyflawni hyn drwy gynnal y sioe deithiol ynghylch Naloxone ar draws y sir a darparu hyfforddiant i'r rheiny sy'n goruchwylio drysau tafarnau/clybiau. Esboniodd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd fod Naloxone yn feddyginiaeth a ddefnyddir i atal effeithiau opioidau, yn arbennig mewn achosion gorddos a bod citiau wedi'u dosbarthu'n eang.  Roedd yn cydnabod y byddai codi ymwybyddiaeth yn fuddiol ac y byddai hi'n ystyried ehangu'r rhaglen hyfforddiant yn y dyfodol. Ychwanegodd Pennaeth Datblygu'r Strategaeth Comisiynu a Phartneriaeth (Camddefnyddio Cyffuriau ac Alcohol) fod Naloxone eisoes yn cael ei ddosbarthu'n eang ar draws ardal Hywel Dda.  

 

·       Codwyd pryder mawr o ran nifer gynyddol y bobl ifanc sydd â phroblemau mewn perthynas ag alcohol a chyffuriau, a'r amcan yw cael gwared ar broblemau yn hytrach na'u cuddio.  Roedd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd yn cydnabod bod hwn yn faes heriol a bod ymchwil yn cael ei wneud yn barhaus i sicrhau bod y gwasanaethau cywir yn cael eu comisiynu.  Roedd y Bwrdd Cynllunio Ardal yn cynnwys aml-asiantaethau, y mae pob un ohonynt â chyfrifoldeb i fynd i'r afael â chymhlethdod y materion sy'n codi.  Mae'r gwasanaethau triniaeth integredig sy'n darparu dull cyfannol a gr?p deuol sy'n cefnogi ac yn llywio materion heriol o ran iechyd meddwl a chaethiwed.

Yn ogystal, esboniodd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd i'r Pwyllgor fod gwybodaeth newydd wedi dangos nad yw dibyniaeth ar alcohol yn gyfyngedig i bobl ifanc, roedd yn effeithio ar ystod eang o oedrannau gan gynnwys grwpiau o oedran h?n. Addysg, atal ac ymyrraeth gynnar oedd y prif feysydd a gafodd sylw gan y Bwrdd, a oedd yn hanfodol er mwyn lleihau dibyniaeth ar alcohol.  Ychwanegodd Pennaeth Datblygu'r Strategaeth Comisiynu a Phartneriaeth y byddai'r Bwrdd Cynllunio Ardal yn ymgymryd ag ymarferion i gomisiynu gwasanaethau yn y sector addysg mewn ysgolion a cholegau.

 

·       O ran Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r 5 ffordd o weithio, gofynnwyd a oedd unrhyw gydweithio â'r trydydd sector a chymunedau? Dywedodd Pennaeth Datblygu'r Strategaeth Comisiynu a Phartneriaeth fod Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol Dyfed, sy'n wasanaeth i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GWASANAETH CAMDDEFNYDDIO SYLWEDDAU 2016-17 pdf eicon PDF 123 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Camddefnyddio Sylweddau 2016-17 a oedd yn amlinellu'r amcanion ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

Rhoddodd yr adroddiad wybodaeth ystadegol am ystod o wahanol categorïau atgyfeirio a dadansoddiad o ddata o ran oedran, rhywedd a'r sylweddau a ddefnyddir.

 

Rhoddwyd sylw i'r materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Mewn ymateb i ymholiad a wnaed ynghylch digartrefedd o ganlyniad i ddibyniaeth ar alcohol/cyffuriau, dywedodd yr Uwch-reolwr - Anghenion Cymhleth a Phontio fod yna gysylltiadau agos rhwng digartrefedd a'r defnydd o alcohol/cyffuriau, a oedd wedi'u hystyried a'u cynnwys yn y Strategaeth Ddigartrefedd.

 

·       O ran adsefydlu, gofynnwyd a oedd y prosiect 't? sych' yn gweithio. Esboniodd yr Uwch-reolwr - Anghenion Cymhleth a Phontio i'r Pwyllgor mai t? 5 ystafell wely yn Nh?-croes yw'r prosiect, sydd â'r nod o gynorthwyo unigolion wrth iddynt adfer drwy ddarparu cyngor arbenigol mewn amgylchedd cefnogol, a bod nifer o lwyddiannau wedi dod yn sgil y prosiect.

 

·       Mewn ymateb i ymholiad a wnaed ynghylch niwed i'r ymennydd sy'n gysylltiedig ag alcohol a chyffuriau, dywedodd yr Uwch-reolwr - Anghenion Cymhleth a Phontio nad oedd tystiolaeth wirioneddol i awgrymu bod yna gyswllt rhwng defnyddio cyffuriau a niwed i'r ymennydd, er bod yna dystiolaeth i awgrymu bod yna gyswllt rhwng alcohol a phobl yn datblygu anawsterau gwybyddol gan arwain at ddementia yn hwyrach mewn bywyd.  Fodd bynnag, gallai fod yna gysylltiadau rhwng defnyddio cyffuriau ac effaith bosibl ar iechyd meddwl.

·       O ran cyflwyno isafswm pris yr uned ar gyfer alcohol yn yr Alban, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor gan Gyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fabwysiadu strwythur prisio unedau yng Nghymru ac mai'r gobaith yw y byddai cytundeb ffurfiol yn cael ei wneud dros yr haf, ac wedyn byddai cyfnod cyflwyno o 2 flynedd.

·       Gwnaed ymholiad ynghylch Bws Drugaid a pha mor aml mae'n cael ei ddefnyddio. Dywedodd Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd mai Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol Dyfed oedd yn berchen ar y bws ac y byddai hi'n hapus i wneud ymholiadau a rhoi ffigurau i'r Pwyllgor.

 

 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.


 

 

8.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR GOFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR A GYNHALIWYD AR Y 26AIN O FEDI 2016 pdf eicon PDF 138 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod ar y cyd y Pwyllgorau Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd a Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a gynhaliwyd ar 26 Medi 2016, gan eu bod yn gywir.

 

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau