Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Siambr- Cyngor Abertawe, Guildhall, Abertawe, SA1 4PE.. Cyfarwyddiadau
Media
Rhif | eitem | ||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan Mr Graeme Russell, Pennaeth Pensiynau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
|
|||||||||||||||||
Datganiadau o fuddiant Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Noder: Mae eithriad yng Nghod Ymddygiad Aelodau sy'n galluogi i aelod sydd wedi'i benodi neu'i enwebu i gorff perthnasol gan ei awdurdod ddatgan y budd hwnnw ond aros a chymryd rhan yn y cyfarfod).
|
|||||||||||||||||
LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 7FED TACHWEDD 2017 PDF 165 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL i lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd, 2017 fel rhai cywir.
|
|||||||||||||||||
CYFLWYNIAD GAN LINK AR CERRIG MILLTIR A DIWEDDARIAD CYNNYDD PDF 160 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawyd Denise Jones - Pennaeth Rheoli Newid yn Link Asset Services gan y Cadeirydd a rhoddodd gyflwyniad ar Gerrig Milltir Allweddol a Chynnydd yr is-gronfeydd.
Cyflwynodd Ms Jones restr o ddyddiadau posib i'r Pwyllgor ar gyfer Cerrig Milltir Allweddol er mwyn sefydlu is-gronfeydd y Bartneriaeth. Byddai'r cronfeydd hyn yn diwallu anghenion yr awdurdodau sy'n buddsoddi, ac yn eu galluogi i roi eu strategaethau dyrannu asedau amrywiol ar waith. Adroddwyd bod dyddiad i gytuno'r is-gronfa gychwynnol, a glustnodwyd ar gyfer 28 Mawrth 2018, wedi'i ohirio a rhagwelwyd y byddai hyn bellach yn cael ei gyflwyno ochr yn ochr â chymeradwyo prosbectws y gronfa, mewn cyfarfod ychwanegol o'r Pwyllgor a drefnir ym mis Mai 2017. Byddai Link yn parhau i drafod gyda Rheolwyr Buddsoddi a chynigiwyd y byddai'r cais i'r FCA yn cael ei gyflwyno erbyn 31 Mai 2017, ac y byddai'r Gronfa'n lansio ym mis Medi/Hydref 2018.
Dywedodd Ms Jones y byddai Link, ar yr un pryd â'r is-gronfa gychwynnol, yn bwrw ymlaen gydag is-gronfeydd Cyfran 2 a Chyfran 3; y mae'r naill wedi'i glustnodi i lansio ym mis Tachwedd 2018 a'r llall ym mis Chwefror 2019.
Wrth gyfeirio at ei chyflwyniad, soniodd Ms Jones am y cynnydd a wnaed hyd yn hyn a bod y cynnig ar gyfer cyflwyno'r gronfa gychwynnol wedi'i ystyried gan Weithgor y Swyddogion (GS) ym mis Chwefror 2018 a chynnig cychwynnol am gronfa Fyd-eang a Rhanbarthol, a dewis ychwanegol hefyd ar gyfer cronfa Fyd Eang yn unig. Ar ôl ystyried yr adborth a dderbyniwyd gan y GS, cyflwynodd Link bum dewis diwygiedig i'r Gr?p ym mis Mawrth 2018. Dau gynnig terfynol a drafodwyd gyda Thrysoryddion yr wyth Awdurdod, sef:
· Dewis 1a - dau reolwr presennol ac un rheolwr newydd - Link i benodi rheolwyr (Global Core Fund)
· Dewis 4a, saith rheolwr newydd (pum byd eang a dau ranbarthol) - Russell i gael ei benodi fel prif reolwr y prosbectws a dyrannu gwaith i'r saith rheolwr arall.
Awgrymodd Mr Chris Lee, er mwyn cael eglurdeb, y dylai'r ddau gynnig gael eu hystyried fel cynigion Byd-eang Alffa Uchel.
Mynegodd Mr Dafydd Edwards fod yr amserlen wreiddiol a gynhyrchodd Link wedi'i diwygio er mwyn sicrhau fod y cynigion yn fwy cynhwysfawr. Byddai hyn yn galluogi i Aelodau'r Pwyllgor a swyddogion gael y wybodaeth berthnasol a chael digonedd o amser i adrodd yn ôl a thrafod y cynigion gyda'u cronfeydd perthnasol.
O ran cynnydd arall, soniwyd i'r Pwyllgor fod Link wedi cysylltu â thri rheolwr buddsoddi ynghylch yr is-gronfa a bod cyfarfodydd dygnwch wedi'u trefnu. Yn ogystal, roedd y prosbectws drafft wedi'i gwblhau a'i drosglwyddo i Burges Salmon er mwyn adolygu a chael sylwadau, ac ar ôl cael mewnbwn pellach gan Eversheds, fe gai'r prosbectws ei drafod gan y Pwyllgor. Yn ogystal, cynhaliodd Link a Russell Investments sesiynau briffio gydag wyth Pwyllgor Cyfansoddol y Gronfa Bensiwn.
Wrth gasglu, soniodd Ms Jones wrth y Pwyllgor am gamau nesaf y broses, fel manylwyd yn y cyflwyniad, a rhoddodd gyfle i holi cwestiynau. Yna, diolchodd y Cadeirydd i Ms Jones am fynychu. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|||||||||||||||||
CYLLIDEB PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU PDF 170 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Hysbysodd Mr Chris Moore, Swyddog Adran 151 y Pwyllgor, y Pwyllgor o gyllideb Partneriaeth Pensiwn Cymru. Dywedodd, gan fod trefniadau Cyfuno megis dechrau, fod y gyllideb wedi'i seilio ar amcangyfrifon gwybodus ar gyfer y tair blynedd nesaf, ac y gallai'r rhain newid yn dibynnu ar lif gwaith y gronfa a gofynion y Pwyllgor.
Nododd y Pwyllgor fod y ffigyrau gwirioneddol a ragwelwyd ar gyfer 2017/18 yn is na rhai blynyddoedd i ddod; roedd hyn oherwydd bod trefniadau partneriaeth yn dal i gael eu datblygu. Mae'r rhan fwyaf o swyddogaethau'r Awdurdod Llwyfannu bellach wedi'u sefydlu ac mae angen gwaith pellach ar ddatblygu'r wefan a strwythur staffio terfynol. Caiff cost cyllid yr Awdurdod Llwyfannu ei rhannu rhwng yr wyth awdurdod cyfansoddol.
O safbwynt Cyllid y Gweithredwr a'r Gwasanaethau Eraill, roedd gwariant gwirioneddol yr elfen hon o'r cyllid yn ddibynnol ar drosglwyddo asedau a ffioedd rheoli.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
1. Nodi'r sefyllfa sydd ohoni gyda chyllideb 2017-18 1. Cymeradwyo cyllidebau diwygiedig 2018-19 a 2019-20 2. Cymeradwyo cyllideb 2020-2021.
|
|||||||||||||||||
DIWEDDARIAD AWDURDOD CYNNAL PDF 167 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Mr Anthony Parnell y diweddariad a ganlyn i'r pwyllgor ar gyfrifoldebau'r awdurdod llwyfannu.
· Staffio - penodwyd Prif Swyddog Gwasanaethau Cyllidol, a dechreuodd yn y swydd ym mis Ionawr 2018 · Cyfathrebu - roedd gwaith wedi dechrau ar Wefan Partneriaeth Pensiwn Cymru a chafwyd tri dyfynbris gan ddarparwyr meddalwedd a chai hyn ei werthuso'n fuan. Roedd cylchlythyr dwyieithog yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd a byddai'n cael ei gyhoeddi bob deufis, gyda'r rhifyn cyntaf ar gael ym mis Ebrill neu Fai 2018. · Llywodraethu - roedd trefniadau'n gweithio'n dda ar hyn o bryd ar lefel y Cyd-bwyllgor a Swyddogion. Roedd Swyddogion o'r awdurdodau cyfansoddol hefyd yn rhan o is-grwpiau, er mwyn cyfrannu at y gwaith trawsnewidiol angenrheidiol ac roedd trafodaethau wedi dechrau gyda Swyddfa Archwilio Cymru er mwyn pennu a ellid caffael yr holl geisiadau am wybodaeth am y Bartneriaeth Pensiwn gan yr Awdurdod Llwyfannu. · Adrodd - roedd trafodaethau cyson yn cael eu cynnal gyda Link a Northern Trust, oedd yn galluogi i Russell Investments gytuno ar ffordd ymlaen wrth adrodd. Roedd Rheolwyr hefyd yn ymgysylltu â gr?p adrodd CIPFA.
Hysbyswyd y Pwyllgor fod yr Awdurdod Llwyfannu yn archwilio a fyddai'n beth da penodi ymgynghorydd annibynnol i'r Pwyllgor.
Holwyd a fyddai'r Cydbwyllgor yn trafod buddsoddiadau cyfrifol. Dywedodd Mr Parnell, ar hyn o bryd, fod is-gronfa o fuddsoddi cyfrifol ar draws cronfeydd wedi'i sefydlu a oedd yn cynnwys swyddogion o bob un o'r chwe threfniant cydgyfrannu. Y gobaith oedd y byddai'r broses hon yn arwain at gydsynio ar y ffordd orau i fwrw ymlaen gyda'r buddsoddiadau hyn.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y byddai'r diweddariad yn cael ei dderbyn.
|
|||||||||||||||||
NODIADAU CYFARFODYDD Y GWEITHGOR SWYDDOGION A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:- Dogfennau ychwanegol: |
|||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion cyfarfod Gweithgor Swyddogion a gynhaliwyd ar 1 Rhagfyr, 2017 YN UNFRYDOL.
|
|||||||||||||||||
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL - derbyn cofnodion cyfarfod Gweithgor Swyddogion a gynhaliwyd ar 20 Rhagfyr, 2017.
|
|||||||||||||||||
26AIN CHWEFROR 2018 PDF 139 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL - derbyn cofnodion cyfarfod Gweithgor Swyddogion a gynhaliwyd ar 26 Chwefror, 2018.
|
|||||||||||||||||
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIAD SY'N YMWNEUD Â'R MATER CANLYNOL GAN EI BOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PWYLLGOR, AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HON YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywiad) (Cymru) 2007 - gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod yr eitem a ganlyn gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig, fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14, Rhan 4, Atodlen 12A y Ddeddf.
|
|||||||||||||||||
CYFLWYNIAD GAN LINK / RUSSELL AR IS-GRONFA ECWITI BYD-EANG Cofnodion: Yn dilyn y cais prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeirir ati yng nghofnod 8 uchod, y dylid ystyried y mater hwn yn breifat ac y dylid gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar sail bod y wybodaeth a drafodir yn yr adroddiad yn cynnwys manylion cyfleoedd buddsoddi nad oedd wedi'u trafod yn llwyr na'u hail-negodi eto, ac y byddai datgelu'r cyflwyniad yn niweidio'r trafodaethau ac yn cael effaith ar gostau a dychweliadau'r Cronfeydd.
Derbyniodd y Pwyllgor gyflwyniad gan Peter Hugh Smith - RheolwrGyfarwyddwr Link Asset Services, a Sasha Mandich - Cyfarwyddwr, Russell Investments.
Cafwydtrosolwg o weithgaredd, buddsoddiadau ac arbenigedd y ddau gwmni ar lefel byd-eang gan y cynrychiolwyr ynghyd â'r ymdriniaeth i'w defnyddio wrth sefydlu Is-gronfeydd Ecwiti Byd-eang, y proses o benodi is-reolwyr cronfeydd, a'r effaith posib a'r arbedion yn sgil uno cronfeydd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y byddai'r cyflwyniad yn cael ei dderbyn ac y byddai'r cynigion yn cael eu derbyn mewn egwyddor, gydag adroddiad pellach i gael ei gyflwyno i'r Cydbwyllgor Llywodraethu yn y man.
|
Cyngor a Democratiaeth
Y Cyngor
Cynghorwyr, ACau ac ASau
- Eich Cynghorydd Sir
- Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'r Cynllun Deiseb
- Lwfansau a buddiannau cynghorwyr
- Cynghorwyr Tref a Chymuned
- Aelodau Senedd Cymru
- Aelodau Seneddol
- Sut mae bod yn Gynghorydd
Adrannau'r Cyngor
Dweud eich dweud
- Ymgynghoriad ar y gyllideb 2024Gyllideb
- Prif Gynllun Teithio Llesol Y Tymbl
- Strategaeth Hamdden 2023-33 ymgynghoriad cymunedol
- Trwyddedu Bridio Cŵn yn Sir Gaerfyrddin
- Cynnig i ffedereiddio Ysgol Rhys Prichard ac Ysgol Llangadog o 1 Medi 2024.
- Polisi codi tâl am wasanaethau gofal cymdeithasol
- Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol
- Strategaeth Leol ar gyfer Perygl Llifogydd 2024-2030
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg
- Strategaeth Cyfleusterau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin
- Creu Sir Gaerfyrddin Ddigidol
- Holiadur Preswylwyr Sir Gâr 2023
- Ymgynghoriad ynghylch Polisi Plant sy'n Codi'n 4 Oed Ysgolion Cynradd 2025/26
- Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
- Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig ar gyfer yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo 2018-2033
Pwyllgorau a Chyfarfodydd
- Agendâu a chofnodion
- Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
- Dyddiadur y Cyngor
- Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd
- Y Cabinet
- Penderfyniadau swyddogion
- Blaengynlluniau Waith
- Pwyllgor Cynllunio
- Craffu
- Pwyllgor Safonau
- Cyngor Ymgynghorol Sefydlog dros Addysg Grefyddol (CYSAG)
Strategaethau a chynlluniau
- Cynllun Cyflenwi Tai Fforddiadwy 2016 - 20
- Datganiad Gweledigaeth y Cabinet 2022 - 2027 (Gorffennaf 2022)
- Strategaeth Drawsnewid Cyngor Sir Caerfyrddin
- Polisi Diogelu Corfforaethol
- Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion 2018 - 2021
- Strategaeth Technoleg Ddigidol 2018 - 2021
- Strategaeth Trawsnewid Digidol
- Cymorth i Deuluoedd Sir Gaerfyrddin 2018-23
- Gwybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth Llyfrgelloedd - Symud ymlaen 2017 - 2025
- Strategaeth y Rhaglen Moderneiddio Addysg (1)
- Symud Sir Gâr Wledig Ymlaen
- Cynllun Cydraddoldeb Strategol
- Cynllun Trechu Tlodi 2023
- Strategaeth Hybu’r Gymraeg
- Safonau’r Gymraeg
- Adroddiad Blynyddol y Gymraeg
Y Cyllideb y Cyngor
Cyllideb y Cyngor
- Crynhoad Cyllideb
- Datganiad Cyfrifon
- Cronfa Bensiwn Dyfed
- Ein Rhanbarth ar Waith (ERW)
- Bargen Ddinesig Bae Abertawe
- Ffyrdd syml i arbed arian i'r Cyngor
Perfformiad y Cyngor
- Rheoli Perfformiad
- Archwiliadau, Arolygiadau ac Adroddiadau
- Y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
- Adroddiad Blynyddol y Cyngor 2022-23
Hysbysiadau cyhoeddus
Canllawiau Brexit
Iaith Gymraeg
Carbon Sero-net
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Cyfamod Lluoedd Arfog
Etholiadau a Phleidleisio
- Etholiadau'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu 2024
- Etholiad Cyffredinol Seneddol y Deyrnas Unedig
- Pleidleisio
- Bod yn gymwys i bleidleisio
- Sut mae pleidleisio?
- Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a phleidleisio drwy ddirprwy
- Cofrestru i bleidleisio
- Diweddaru eich manylion ar y Gofrestr Etholiadol
- Sut i optio allan o'r gofrestr agored
- Gweld y Gofrestr Etholiadol
- Is-etholiadau
- Fy Un Agosaf - Gwybodaeth etholiadol
- Help i Bleidleiswyr Anabl
- Prawf Adnabod Pleidleisiwr
- Recriwtio ar gyfer etholiadau
Mwy ynghylch Cyngor a Democratiaeth