Agenda a Chofnodion

Bwrdd Pensiwn - Dydd Iau, 18fed Ionawr, 2018 3.00 yp

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan Mr Ian Eynon a Mr Mike Rogers.  Rhoddodd y Cadeirydd wybod i'r Bwrdd fod Ms Janet Wyer wedi cyflwyno'i hymddiswyddiad. Cafwyd ymddiheuriadau hefyd gan Mr Chris Moore, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a Mr Kevin Gerard, Rheolwr Pensiynau.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

COFNODION CYFARFOD Y BWRDD PENSIWN A GYNHALIWYD AR 9FED HYDREF, 2017. pdf eicon PDF 210 KB

Cofnodion:

CYTUNWYD bod cofnodion cyfarfod y Bwrdd Pensiwn a gynhaliwyd ar 9 Hydref 2017 yn cael eu cadarnhau fel cofnod cywir

 

4.

CYFARFOD PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED - 27AIN TACHWEDD 2017 pdf eicon PDF 61 KB

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd yr adroddiadau canlynol, a ystyriwyd eisoes gan Bwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed yn ei gyfarfod ar 27 Tachwedd 2017, i'w hystyried:-

 

 

4a

MONITRO'R CYLLIDEB HYD AT 31AIN HYDREF, 2017 pdf eicon PDF 94 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd Adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol ar gyfer 2017/18 fel yr oedd ar 31 Hydref 2017.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

4b

CYSONI ARIAN PAROD HYD AT 30AIN MEDI 2017 pdf eicon PDF 70 KB

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed.

 

Ar 30 Medi, 2017 cadwai Cyngor Sir Caerfyrddin £4.5 miliwn o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion uniongyrchol o ran llif arian i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

4c

ADRODDIAD TORRI AMODAU pdf eicon PDF 64 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd yr Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.  Mae Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn nodi'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith. 

 

Nododd y Pwyllgor fod nifer o achosion wedi bod ers y cyfarfod diwethaf lle nad oedd cyfraniadau cyflogai/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser ond, erbyn hyn, roedd yr holl gyfraniadau yn gyfredol ac nid oedd achos wedi'i gyfeirio at y Rheoleiddiwr Pensiynau.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

4d

COFRESTR RISG pdf eicon PDF 159 KB

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Gofrestr Risg, a oedd yn cynnwys yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed, i'w hystyried.

 

Caiff y gofrestr ei monitro a'i hadolygu yn rheolaidd ac mae'n cynnwys y wybodaeth ganlynol:-

 

·       Manylion yr holl risgiau a nodwyd

·       Asesiad o'r effaith bosibl, tebygolrwydd a sgorio risg

·       Mesurau rheoli risg sydd ar waith

·       Y swyddog cyfrifol

·       Dyddiad targed (os yw'n berthnasol)

 

Rhoddodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiynau wybod i'r Bwrdd fod y gofrestr wedi'i diweddaru yn dilyn cyfarfod Pwyllgor y Gronfa Bensiwn ym mis Tachwedd a bod y fersiwn ddiwygiedig yn cael ei chyflwyno iddynt heddiw.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.


 

 

 

4e

PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU - CRYONDEB O'R LLIF GWAITH pdf eicon PDF 202 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor grynodeb o'r Ffrwd Waith, fel yr oedd ar 30 Medi 2017, a amlinellai'r camau sy'n ofynnol ar gyfer y broses o benodi Gweithredwr ynghyd â'r dyddiadau cwblhau. 

 

Rhoddodd y Rheolwr Pensiynau a Buddsoddiadau y diweddaraf i'r Bwrdd ynghylch y sefyllfa bresennol a nododd y Bwrdd fod Partneriaeth Pensiwn Cymru yn unol â'r amserlen.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

4f

PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU - ADOLYGIAD YR HYDREF DCLG pdf eicon PDF 404 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad cynnydd am Adolygiad Hydref yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (DCLG) gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru ar Gronni Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

4g

DIWEDDARIAD MiFID II pdf eicon PDF 55 KB

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y diweddaraf ynghylch y Gyfarwyddeb Marchnadoedd mewn Offerynnau Ariannol (MIFID II). 

 

Dangosodd y nodyn briffio wedi'i ddiweddaru fod ceisiadau wedi'u cyflwyno gan Gyngor Sir Caerfyrddin, fel yr awdurdod gweinyddu ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed, i uwchraddio i statws Cleient Proffesiynol at ddibenion MIFID II.

 

Nododd y Pwyllgor fod yr uwchraddio wedi cael ei gwblhau gan bob un o'r sefydliadau.

 

CYTUNWYD bod yr adroddiad yn cael ei nodi.

 

 

4h

COFNODION CYFARFOD PWYLLGOR CRONFA BENSIWN DYFED A GYNHALIWYD AR 27AIN TACHWEDD 2017 pdf eicon PDF 213 KB

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd gofnodion cyfarfod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd, 2017.

 

NODWYD.

 

5.

TYMOR Y SWYDD pdf eicon PDF 56 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Bwrdd fod cyfnod yr aelodau yn y swydd wedi'i ystyried yn y cyfarfod diwethaf (ac eithrio cynrychiolydd Cyflogwr Sir Gaerfyrddin a oedd ond wedi'i benodi'n ddiweddar).

 

Nododd y Bwrdd y canlynol:-

 

(1)  Mae aelodau canlynol y Bwrdd, y bydd eu cyfnod gwreiddiol yn y swydd yn dod i ben ar 31 Mawrth 2018, oll wedi mynegi diddordeb mewn ymestyn eu cyfnod yn y swydd am hyd at ddwy flynedd ychwanegol, yn unol â'r cylch gwaith:-

 

Mr John Jones, Ms Catherine Davies, Mr Ian Eynon a Mr Mike   Rogers

 

(2)  Mae Ms Janet Wyer wedi ymddiswyddo fel aelod o'r Bwrdd;

 

(3)  Mae Mr Mark Miles wedi mynegi ei ddymuniad i gamu i lawr ond roedd yn fodlon aros hyd nes y caiff ei olynydd ei benodi.

 

Dymunai'r Cadeirydd fynegi ei werthfawrogiad i'w gyd-aelodau ar y Bwrdd am eu cyfraniad at waith y Panel ers ei gychwyn yn 2015.

 

CYTUNWYD bod y Swyddog Adran 151 yn nodi'r uchod ac yn dechrau ar y broses berthnasol er mwyn llenwi'r swyddi.