Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

Y DDEDDF RHEOLEIDDIO PWERAU YMCHWILIO pdf eicon PDF 158 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad a oedd yn adolygu'r gweithdrefnau ysgrifenedig ynghylch y dull o gynnal cudd-wylio gan staff a defnyddio cudd-wylio o'r fath. 

 

Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio yn gofyn i awdurdodau lleol fabwysiadu gweithdrefnau ysgrifenedig, sy'n golygu bod yr Awdurdod yn cael ei fonitro gan aelodau etholedig. Cyhoeddwyd yr adroddiad blynyddol diwethaf ychydig cyn etholiadau'r Awdurdod Lleol ym mis Mai 2017.

 

Esboniodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol nad oedd yr Awdurdod wedi defnyddio'i bwerau o dan y Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio er mwyn caffael data cyfathrebu hyd yn hyn, ond bu Swyddog Ymchwilio'n bwriadu gwneud hyn a chafodd wybod nad oedd angen.  Felly, penderfynwyd newid y weithdrefn gorfforaethol er mwyn cynnwys adran ychwanegol yngl?n â chaffael data cyfathrebu a rhoi cyfarwyddyd pellach i staff.

 

Cyfeiriwyd at yr Adran 9 newydd - Data Cyfathrebu - a amlinellodd fod y broses bellach yn ei gwneud yn ofynnol i geisiadau gael eu craffu a'u cymeradwyo gan y Rhwydwaith Cenedlaethol Atal Twyll yn y lle cyntaf.  Cadarnhaodd y Swyddog Polisi a Strategaeth dros Orfodi Materion Amgylcheddol mai ef oedd y cyswllt ar gyfer y Rhwydwaith Cenedlaethol Atal Twyll.

 

Cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol at Adran 14 - Craffu a Thribiwnlys y weithdrefn, ac ar ôl ymholiad gan Reolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol, dywedodd fod yr archwiliad diwethaf gan arolygydd Swyddfa'r Comisiynwyr Cudd-wylio wedi'i gynnal yn 2016, a phenderfynwyd bod yn fwy cyson o ran cwblhau ffurflenni o ganlyniad i'r archwiliad hwnnw.  Ychwanegwyd Atodiad 3 at y gweithdrefnau gan roi enghraifft o ffurflen Awdurdodi Cudd-wylio dan Gyfarwyddyd wedi'i chwblhau, a fyddai'n rhoi canllaw i'r swyddogion ar gyfer defnyddio dull mwy cyson.

 

Gofynnodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol am gael gwybod am unrhyw geisiadau wedi'u cymeradwyo. Cytunodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol a dywedodd y byddai adroddiad ynghylch gweithgarwch adolygu a monitro'n cael ei roi gerbron yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol i'w ystyried ym mis Mai 2018.

 

Mewn ymateb i ymholiad a gafwyd ynghylch camerâu (camerâu corff) a wisgir gan Swyddogion Gorfodi, eglurodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol na fyddai'r Ddeddf Rheoleiddio Pwerau Ymchwilio'n berthnasol gan fod camerâu corff yn hawdd eu gweld a bod swyddogion yn rhoi gwybod i unigolion ar lafar bod camera ar-wylio ar waith.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r newidiadau i'r weithdrefn gorfforaethol ynghylch y dull o gynnal cudd-wylio.

 

 

3.

DERBYN COFNOD PENDERFYNIADAU CYFARFOD PENDERFYNIADAU'R AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS DDIOGELU'R CYHOEDD A GYNHALIWYD AR 25AIN MEDI, 2017. pdf eicon PDF 68 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Medi 2017, gan ei fod yn gywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau