Lleoliad: Ystafell Pwyllgor 2, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
COFNODION CYFARFOD Y BWYLLGOR A GYNHALIWYD AR 21AIN MEDI, 2017 PDF 185 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD derbyn cofnodion cyfarfod y Panel a gynhaliwyd ar 21ain Mawrth, 2017.
|
|
MONITRO CYLLIDEB EBRILL 2017 - 31 HYDREF 2017 PDF 61 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed i'w ystyried; rhoddai hwn y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol mewn perthynas â 2017/18.
Mae'r sefyllfa bresennol ar 31ain Hydref 2017 yn rhagweld tanwariant o £63.2m ar gyfer 2017/18. Yn y ffigwr hwn roedd tanwariant o £0.8m yn gysylltiedig ag eitemau arian parod a oedd yn cael yr effaith fwyaf ar lif arian dyddiol y Gronfa. Roedd y tanwariant sy'n weddill o £62.4m yn perthyn i eitemau nad ydynt yn rhai arian parod.
Eitemau Arian Parod
Ar sail y gweithgareddau cyfredol hyd yma, amcangyfrifwyd y byddai'r Buddion Taladwy a Throsglwyddiadau yn cael eu tanwario gan £3.9m. Dylanwadwyd yn bennaf ar hyn gan y ffaith na ellir rheoli cyfandaliadau a throsglwyddiadau o'r Gronfa, wrth eu natur. Cyfrannodd cyfraniadau ac incwm buddsoddi at £3.8m pellach o danwariant. Roedd hyn oherwydd bod angen incwm buddsoddi ychwanegol i gadw llif arian cadarnhaol er mwyn sicrhau bod £6.9m ar gael i dalu'r Rheolwyr Buddsoddi am yr ymrwymiadau buddsoddi. Arweiniodd y tanwariant o £7.7m, namyn £6.9 miliwn o daliad i'r Rheolwyr Buddsoddi, at amcangyfrif o £0.8m o danwariant am y flwyddyn.
Eitemau nad ydynt yn rhai arian parod
Roedd £62.4m o'r tanwariant yn deillio o gynnydd yng ngwerth yr enillion a gafwyd. Digwyddodd hyn yn sgil trosglwyddo ecwiti goddefol, ar wahân ym mis Ebrill 2017 fel rhan o waith caffael ar y cyd Partneriaeth Pensiwn Cymru. Nid yw'r eitemau nad ydynt yn rhai arian parod yn cael effaith ar lif arian dyddiol y gronfa.
PENDERFYNWYD derbyn adroddiad Monitro Cyllideb Cronfa Bensiwn Dyfed.
|
|
CYSONI ARIAN PAROD FEL YR OEDD AR 30 MEDI 2017 PDF 57 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr adroddiad Cysoni Arian Parod a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol Cronfa Bensiwn Dyfed.
Ar 30ain Medi, 2017 cadwai Cyngor Sir Caerfyrddin £4.5m o arian parod ar ran y Gronfa ar gyfer gofynion uniongyrchol o ran llif arian i dalu pensiynau, cyfandaliadau a chostau rheoli buddsoddiadau.
PENDERFYNWYD derbyn adroddiad Cysoni Arian Parod Cronfa Bensiwn Dyfed.
|
|
ADRODDIAD TORRI AMODAU PDF 63 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor Adroddiad Torri Amodau, mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed, i'w ystyried.
Mae Adran 70 o Ddeddf Pensiynau 2004 yn nodi'r ddyletswydd gyfreithiol i riportio achosion o dorri'r gyfraith. Mae Côd Ymarfer rhif 14, paragraffau 241 i 275, a gyhoeddwyd gan y Rheoleiddiwr Pensiynau ym mis Ebrill 2015, yn rhoi cyfarwyddyd ynghylch riportio'r achosion hyn o dorri'r gyfraith. Cafodd Polisi Torri Amodau Cronfa Bensiwn Dyfed ei gymeradwyo gan Banel Cronfa Bensiwn Dyfed ym mis Mawrth 2016.
O dan y polisi, mae'n ofynnol i achosion o dorri'r gyfraith gael eu hadrodd i'r Rheoleiddiwr Pensiynau os oes achos rhesymol i gredu'r canlynol:
·
na chydymffurfir – neu
na chydymffurfiwyd – â dyletswydd gyfreithiol sy'n
berthnasol i'r gwaith o weinyddu'r cynllun; · bod yr anallu i gydymffurfio yn debygol o fod o arwyddocâd sylweddol i'r Rheoleiddiwr wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau.
Nododd y Pwyllgor fod nifer o achosion wedi bod ers y cyfarfod diwethaf lle nad oedd cyfraniadau cyflogai/cyflogwr wedi'u derbyn ar amser ond, erbyn hyn, roedd yr holl gyfraniadau yn gyfredol ac nid oedd achos wedi'i gyfeirio at y Rheoleiddiwr Pensiynau.
PENDERFYNWYD nodi’r Adroddiad Torri Amodau mewn perthynas â Chronfa Bensiwn Dyfed.
|
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafodd y Pwyllgor Gofrestr Risg, a oedd yn cynnwys yr holl risgiau a nodwyd mewn perthynas â swyddogaethau Cronfa Bensiwn Dyfed, i'w hystyried.
Roedd y gofrestr, a oedd yn cael ei monitro a'i hadolygu'n rheolaidd, yn cynnwys gwybodaeth fel a ganlyn:
· Manylion yr holl risgiau a nodwyd · Asesiad o'r effaith bosibl, tebygolrwydd a sgorio risg · Mesurau rheoli risg sydd ar waith · Y swyddog cyfrifol · Dyddiad targed (os yw'n berthnasol)
Nododd yr Aelodau nad oedd dim diwygiadau wedi'u gwneud yn dilyn yr adolygiad presennol a chymeradwyo'r gofrestr ym mis Ebrill 2017.
Cyfeiriodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiynau at y risg oedd yn perthyn i beidio â chael adnoddau staffio digonol i gyfrannu adborth ystyrlon tuag at ddatblygu Partneriaeth Pensiwn Cymru. Dywedwyd wrth yr aelodau y byddai'r adnoddau staffio yn cael eu hadolygu'n barhaus i sicrhau bod buddiannau'r Gronfa yn cael eu bodloni'n briodol wrth ddatblygu trefniadau cronni buddsoddiadau. Mewn perthynas â sylw a wnaed ynghylch y posibilrwydd o gyflwyno gweithio ystwyth ar gyfer y swydd newydd gyda Phartneriaeth Pensiwn Cymru, yn dilyn ystyriaeth, roedd y Pwyllgor yn cytuno na fyddai hyn yn ymarferol ar hyn o bryd.
Mewn ymateb i ymholiad a wnaed mewn perthynas â'r dull sgorio risg a ddefnyddiwyd ar gyfer y gofrestr, dywedodd y Rheolwr Pensiynau y byddai'n adolygu'r mesurau rheoli cyn eu bod yn cael eu cyflwyno i'r Bwrdd Pensiynau.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Gofrestr Risg yn amodol ar adolygu'r mesurau rheoli.
|
|
PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU; |
|
CRYNODEB O LIF GWAITH PDF 56 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor grynodeb o'r Ffrwd Waith fel yr oedd ar 30ain Medi 2017, a amlinellai'r camau gofynnol yn y broses ar gyfer penodi Gweithredwr a'r dyddiadau cwblhau.
Nododd y Pwyllgor fod Partneriaeth Pensiwn Cymru yn unol â'r amserlen a'i bod yn debygol y byddai cytundeb y Gweithredwr yn cael ei gwblhau erbyn mis Ionawr 2018.
PENDERFYNWYD nodi'r crynodeb o'r Ffrwd Waith fel yr oedd ar 30ain Medi 2017.
|
|
ADRODDIAD CYNNYDD HYDREF DCLG PDF 63 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad cynnydd am Adolygiad Hydref yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol (DCLG) gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru ar Gronni Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol a oedd yn cynnwys:- · cyfanswm gwerth amcangyfrifedig asedau wedi'u cynnwys yn y cynllun trosglwyddo ar gyfer buddsoddiad drwy'r strwythur cronni; · cyfanswm gwerth amcangyfrifedig asedau i'w buddsoddi y tu allan i'r strwythur cronni drwy'r cronfeydd cyfrannog; · cynllun prosiect lefel uchel a ddiweddarwyd er mwyn cyflawni erbyn mis Ebrill 2018; · yn cynnwys cynnydd o ran caffael/adeiladu gweithredwr, llunio is-gronfeydd, recriwtio tîm craidd, penodi adnau a chaniatâd gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol · unrhyw risgiau neu broblemau a allai olygu na chyflawnir erbyn mis Ebrill 2018, ac unrhyw gynlluniau i liniaru risgiau a/neu reoli problemau; · cynnydd o ran trefniadau llywodraethu; · cynnydd o ran buddsoddi mewn seilwaith ac amserlen i gyflawni'r uchelgais a nodwyd.
O ran Maen Prawf A: Graddfa, nododd y Pwyllgor mai cyfanswm gwerth asedau'r cronfeydd cyfrannog y cyfeiriwyd atynt yn yr adroddiad terfynol i'r Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol ym mis Gorffennaf 2016 (gwerth fel yr oeddent ym mis Mawrth 2015), oedd £12.8bn, a bod cyfanswm gwerth yr asedau ar 30 Mehefin 2017 yn £16.3bn.
O ran cynnydd mewn perthynas â chaffael gweithredwr, dywedodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiynau fod chwe chynigiwr wedi cael gwahoddiad i dendro ond mai pedwar yn unig oedd wedi cyflwyno tendr. Hysbyswyd yr aelodau bod disgwyl i gontract ffurfiol y gweithredwr fod wedi'i gwblhau erbyn diwedd mis Rhagfyr 2017.
Rhoddodd Rheolwr y Trysorlys a Buddsoddiadau Pensiynau y wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y sefyllfa bresennol o risgiau ac eglurodd fod y risg o herio'r broses gaffael neu'r canlyniad yn dal i fod yno gan fod y broses gaffael yn dal i fynd rhagddi. Hysbyswyd yr aelodau fod llunio is-gronfeydd wedi cael ei drafod yng nghyfarfod diwethaf y Gr?p Ymarferwyr Buddsoddi a gynhaliwyd ar 24ain Tachwedd, 2017. Roedd adroddiad wedi'i baratoi ar gyfer y Gweithgor Swyddogion ar 1af Rhagfyr 2017.
Atgoffwyd yr Aelodau fod Sir Gaerfyrddin yn "awdurdod cynnal" ers mis Mehefin 2017 a'i fod yn rhoi cymorth ysgrifenyddol a thechnegol i'r Cyd-bwyllgor Llywodraethu, i'r Gweithgor Swyddogion a'r Gweithredwr. Yn ogystal roedd Sir Gaerfyrddin, fel yr awdurdod cynnal, yn gyfrifol am reoli contractau ac roedd y broses o recriwtio staff eisoes wedi dechrau.
Dywedodd y Rheolwr Pensiynau y byddai'r tabl yn yr adroddiad, a oedd yn cynnwys amcangyfrifon o'r arbedion, yn cael ei ddiweddaru cyn gynted ag y byddai gweithredwr mewn lle.
O ran Maen Prawf D: Seilwaith, nododd y Pwyllgor mai'r uchelgais yn y tymor byr - tymor canolig oedd buddsoddi o leiaf 5% o asedau mewn buddsoddiadau seilwaith gyda dyhead yn y pen draw i fuddsoddi 10%. Mewn ymateb i ymholiad ynghylch buddsoddi mewn ffermydd gwynt a ffermydd solar, dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod Cronfa Bensiwn Dyfed, fel rhan o 8 cronfa bensiwn Cymru, yn ystyried ar hyn o bryd y potensial o fuddsoddi ym Morlyn Llanw Abertawe ac roeddid wedi cytuno i fwrw ati â'r camau cychwynnol o ran gwirio diwydrwydd.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad cynnydd ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8b |
|
DIWEDDARIAD Y GYFARWYDDEB MARCHNADOEDD MEWN OFFERYNNAU ARIANNOL (MIFID II) PDF 56 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor ddiweddariad y Gyfarwyddeb Marchnadoedd mewn Offerynnau Ariannol (MIFID II).
Dangosodd y nodyn briffio wedi'i ddiweddaru fod ceisiadau, ers cyfarfod Pwyllgor Cronfa Bensiwn Dyfed ar 21ain Medi 2017, wedi'u cyflwyno gan Gyngor Sir Caerfyrddin fel awdurdod gweinyddu ar gyfer Cronfa Bensiwn Dyfed i uwchraddio i statws Cleient Proffesiynol at ddibenion MIFID II.
Nododd y Pwyllgor fod yr 'uwchraddio' wedi cael ei gwblhau gan ddau o'r sefydliadau a bod y ceisiadau eraill yn aros i gael eu cwblhau ar hyn o bryd.
PENDERFYNWYD nodi diweddariad y Gyfarwyddeb Marchnadoedd mewn Offerynnau Ariannol (MIFID II).
|
|
DYRANIAD ASEDAU STRATEGOL Cofnodion: Yn y man hwn bu i'r Pwyllgor:
BENDERFYNU'N UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i newidiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitemau canlynol yn cael eu hystyried, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).
Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad am Ddyraniad Asedau Strategol, a oedd wedi'i baratoi yn dilyn y prisiad actiwaraidd, a gynhelir bob tair blynedd, ar 31ain Mawrth 2016.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r adroddiad am Ddyraniad Asedau Strategol.
|
|
ADRODDIAD DETHOL GWEITHREDWR Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno).
Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad Dethol Gweithredwr, a roddai grynodeb o'r ymarfer caffael ar gyfer penodi gweithredwr i Bartneriaeth Pensiwn Cymru, a gynhaliwyd gan wyth Awdurdod Cymru.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:
11.1 penodi Cynigydd 1 fel y cynigydd a ffefrir ar gyfer caffael Partneriaeth Pensiwn Cymru, ac 11.2 yn amodol ar gwblhau cyfnod segur a chwblhau'r Cytundeb Gweithredwr, benodi Cynigydd 1 fel y Gweithredwr o dan y Cytundeb Gweithredwr.
|
|
ADRODDIAD YMGYNGHORYDD BUDDSODDI ANNIBYNNOL MEDI 2017 Cofnodion: Cyflwynwyd i'r Pwyllgor Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol Medi 2017 gan Mr Eric Lambert, sef yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol. Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a roddai wybodaeth i'r Aelodau mewn perthynas â pherfformiad y rheolwr buddsoddiadau ar gyfer pob chwarter, pob 12 mis a chyfnodau treigl o 3 blynedd, gan ddod i ben ar 30 Medi 2017.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi Adroddiad yr Ymgynghorydd Buddsoddi Annibynnol fel yr oedd ym mis Medi 2017.
|