Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell 59, Neuadd y Sir, Caerfyrddin

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

ADRODDIAD NAD YW I'W GYHOEDDI

ADRODDIAD EITHRIEDIG YN UNOL Â PHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12(A) I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, (fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007) GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH AM FATERION ARIANNOL NEU FUSNES UNRHYW UNIGOLYN (GAN GYNNWYS YR AWDURDOD Y MAE'R WYBODAETH HONNO YN EI FEDDIANT).

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 na fyddai’r eitem ganlynol yn cael ei chyhoeddi gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y’i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

3.

TIR YNG NGORLLEWIN CROSS HANDS

Cofnodion:

Yn sgil cynnal y prawf budd y cyhoedd, PENDERFYNWYD yn unol â’r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 2 uchod beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Mae prawf budd y cyhoedd yn y mater hwn yn ymwneud â’r ffaith bod y budd i'r cyhoedd o ran cynnal yr eithriad mewn perthynas â’r adroddiad dan Ddeddf 1976 yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth sydd ynddo gan y byddai datgelu’r wybodaeth yn peryglu cyllid cyhoeddus.

 

Rhoddodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a fanylai ar gynigion ynghylch tir yng Ngorllewin Cross Hands.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y cynnig diwygiedig y manylwyd arno yn yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau