Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

2.

CAIS AM DRWYDDED SAFLE - PARC Y SCARLETS, PARC PEMBERTON, LLANELLI, SA19 9UZ pdf eicon PDF 280 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb a oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, a hysbysodd fod cais wedi dod i law gan Scarlets Regional Ltd. am drwydded safle ar gyfer Parc y Scarlets, Parc Pemberton, Llanelli i ganiatáu'r canlynol:

 

·           Cyflenwi alcohol / adloniant rheoledig / bocsio neu reslo / oriau agor: dydd Llun i ddydd Sul rhwng 07:00 a 02:00;

 

·           Lluniaeth hwyrnos o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 23:00 a 02:00

 

             Amrywiadau Tymhorol ac Amserau Ansafonol fel a ganlyn:

 

Awr yn ychwanegol i mewn i'r bore yn dilyn pob Noswyl Nadolig (24 Rhagfyr), Diwrnod San Steffan (26 Rhagfyr), Dydd Calan (1 Ionawr), Dydd G?yl Dewi (1 Mawrth) a Diwrnod Sant Padrig (17 Mawrth). Dwy awr yn ychwanegol i mewn i'r bore yn dilyn pob nos Wener a Sadwrn ym mis Rhagfyr ar gyfer Partïon Nadolig. Ar Nos Galan o ddiwedd yr oriau caniataëdig ar 31 Rhagfyr tan ddechrau'r oriau caniataëdig y diwrnod canlynol, 1 Ionawr.

Digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mawr - Y dewis i fod ar agor 30 munud cyn a 30 munud ar ôl (cynhwysol) unrhyw ddigwyddiad chwaraeon rhyngwladol mawr sy'n cael ei ddarlledu ar y teledu ac sy'n cael ei gynnal mewn gwlad neu wledydd sy'n gweithredu mewn parth amser sy'n wahanol i'r DU gan eu cyfuno os ydynt yn gorgyffwrdd.

Y digwyddiadau chwaraeon mawr sy'n cael eu cynnwys yn y cymal uchod yw: Cwpan Rygbi'r Byd, Cwpan y Byd Pêl-droed, cystadlaethau Rygbi a Phêl-droed Ewropeaidd, Gemau Olympaidd, Gemau'r Gymanwlad a'r Gemau Ewropeaidd (athletau), Gemau Criced Rhyngwladol a Gemau Cwpan Criced y Byd, gornestau bocsio mawr a rownd derfynol Pêl-droed Americanaidd.

Mae defnydd o'r cae chwarae ar gyfer adloniant rheoledig a lluniaeth hwyrnos wedi'i gyfyngu i 6 achlysur fesul blwyddyn galendr.     

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-

Atodiad A - copi o'r cais gwreiddiol a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd;

Atodiad B - sylwadau'r Awdurdod Trwyddedu;

Atodiad C - sylwadau Heddlu Dyfed-Powys;

Atodiad D - sylwadau a gyflwynwyd gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd;

Atodiad E - sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill.

Nid oedd yr Awdurdodau Cyfrifol eraill wedi gwneud sylwadau mewn perthynas â'r cais.

 

Gyda chytundeb yr holl bartïon, dosbarthwyd copïau o'r dogfennau ychwanegol i'r Is-bwyllgor, a oedd yn cynnwys Amodau Trwydded Arfaethedig Drafft a gytunwyd arnynt gan yr holl bartïon hefyd.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, fel y'u manylwyd yn Atodiad B i'r adroddiad ac yn yr Amodau Trwydded Arfaethedig Drafft y cyfeirir atynt uchod. Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch y sylwadau a wnaed.

Cyfeiriodd cynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys at ei sylwadau, fel y'u manylwyd yn Atodiad C i'r adroddiad ac yn yr Amodau Trwydded Arfaethedig Drafft a gyfeiriwyd atynt uchod. Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd Heddlu Dyfed-Powys ynghylch y sylwadau a wnaed.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd at ei sylwadau fel y'u manylwyd yn Atodiad C i'r adroddiad ac yn yr Amodau Trwydded Arfaethedig Drafft a gyfeiriwyd atynt uchod. Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi cynrychiolydd  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 2.

3.

HYSBYSIAD DIGWYDDIAD DROS DRO - Y MAES SIOE, NANTYCI, CAERFYRDDIN, SA33 5DR pdf eicon PDF 249 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 Hysbyswyd yr Is-bwyllgor bod yr ymgeiswyr wedi gofyn am ohirio ystyried eu cais. 

 

PENDERFYNWYD derbyn y cais.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau