Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB. Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Davies a C.A. Davies.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR ABDUL LAICE CHOWDHURY. PDF 182 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Abul Laice Chowdhury, 26 Stryd Coldstream, Llanelli am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Chowdhury ynghylch ei gais.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Chowdhury yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Abul Laice Chowdhury am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. Rhesymau Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
|
CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR BERNARD PRICE. PDF 182 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Bernard Price, 159 Trilwm, Trimsaran, Cydweli am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Price ynghylch ei gais.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Price yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Ar hynny
PENDERFYNODD y Pwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Bernard Price am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. Rhesymau Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.
|
|
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Richard Jake Pitman, 19 Zion Row, Llanelli i adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Pitman ynghylch ei gais.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Pitman yn cael ei wrthod.
Ar hynny
PENDERFYNODD y Pwyllgor YN UNFRYDOL gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16, Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Richard Jake Pitman am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd llym iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol. Rhesymau Ar ôl ystyried y ffeithiau a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor o'r farn bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded. Fodd bynnag, rhybuddiodd y Pwyllgor yr ymgeisydd petai unrhyw gollfarnau neu faterion yn codi mewn perthynas â'i drwydded yn y dyfodol, y gallai ei drwydded gael ei dirymu.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu ‘A’ a gynhaliwyd ar 9 Awst, 2017, gan eu bod yn gywir.
|
|
Cofnodion: Cafodd aelodau'r Pwyllgor, er ystyriaeth, gofnodion cyfarfod 3 Awst, 2017 a rhoddwyd gwybod iddynt am y newidiadau canlynol i'r cofnodion:
- Cofnod 1 - Ymddiheuriadau am Absenoldeb – Y Cynghorydd J.E. Williams i'w gynnwys yn y rhestr o ymddiheuriadau.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn amodol ar y newidiadau uchod, lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 3 Awst 2017 yn gofnod cywir.
|