Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Aelod o'r Cabinet dros Adnoddau (Cyn Mai 2022) - Dydd Gwener, 8fed Medi, 2017 2.00 yp

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

 

2.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNOD PENDERFYNIADAU'R CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 13EG GORFFENNAF, 2017 pdf eicon PDF 303 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2017 yn gofnod cywir.

 

 

3.

HEN THEATR ELLI, HEOL YR ORSAF, LLANELLI pdf eicon PDF 345 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad ynghylch yr hen Theatr Elli, Heol yr Orsaf, Llanelli. Roedd yr adroddiad yn darparu gwybodaeth ynghylch gwerthu'r eiddo ym mis Tachwedd 2014 gyda chymal gorswm yn y cytundeb gwerthu. Roedd y cymal yn rhoi'r hawl i'r Awdurdod adfachu 50% o unrhyw arian grant a sicrheir ar gyfer gwaith allanol i'r adeilad, hyd at derfyn o £150,000.

 

Tynnodd yr adroddiad sylw at y ffaith fod perchennog newydd yr adeilad (Calon Llanelli) yn ceisio am gyllid grant gan Cadw a Chronfa Dreftadaeth y Loteri er mwyn ymgymryd â gwaith treftadaeth a fyddai'n gwella golwg yr adeilad. Roedd y gwaith penodol a gynigir yn cael ei amlinellu yn y ddogfen a atodir i'r adroddiad.

 

Ar sail yr adroddiad, nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod perchennog yr adeilad wedi holi a ddylai'r cymal gorswm fod yn berthnasol i'r grantiau hyn gan nad oedd y gwaith yn benodol i'r ffasâd teils nac i'r to, sef yr hyn y bwriadwyd y gorswm ar ei gyfer yn wreiddiol.

 

Dywedodd y Rheolwr Eiddo a Phrosiectau Mawr y byddai'r Awdurdod, petai'n adfachu arian am y gwaith penodol hwn, yn mynd yn groes i ysbryd y cytundeb gorswm a bod yr Awdurdod yn annog y gwaith gwella i adeilad amlwg yng nghanol tref Llanelli.

 

Cynigiwyd felly y dylid rhoi caniatâd i'r gwaith treftadaeth penodol a nodwyd yn y ddogfen a atodwyd ac na fyddai'r ddarpariaeth gorswm yn berthnasol ar yr achlysur hwn.

 

Petai ceisiadau grant pellach yn cael eu gwneud yn y dyfodol nodwyd y byddai'r rhain, a goblygiadau'r trefniant adfachu, yn cael eu hystyried ar yr adeg honno.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL roi caniatâd ar gyfer y gwaith treftadaeth arfaethedig ac ni fyddai darpariaethau gorswm y cytundeb gwerthu yn berthnasol i'r gwaith penodol hwn, fel yr amlinellwyd yn y ddogfen a atodwyd i'r adroddiad.

 

 

4.

BWRIAD I WAREDU TIR YNG NGERDDI'R FFYNNON pdf eicon PDF 293 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad mewn perthynas â'r bwriad i werthu tir yng Ngerddi'r Ffynnon, Caerfyrddin a darparodd wybodaeth ynghylch gwrthwynebiad oedd wedi dod i law. 

 

Dywedodd y Swyddog Cymorth Rheoli Asedau fod tir yng Ngerddi'r Ffynnon, Caerfyrddin, fel rhan o'r rhaglen derbyniad cyfalaf, wedi ei nodi'n dir nad oedd ei angen o bosibl a bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i'w werthu er mwyn lleihau atebolrwydd a chostau cynnal a chadw'r Cyngor a chreu derbyniadau cyfalaf. Felly, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972 Adran 123(2a) roedd y Cyngor wedi cyhoeddi Hysbysiad Man Agored Cyhoeddus yn y Carmarthen Journal a'r Llanelli Journal am ddwy wythnos yn olynol, 24ain Mai 2017 a 31ain Mai 2017, yn gwahodd sylwadau erbyn 28ain Mehefin 2017.  

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol, er ei fod yn cydnabod y byddai gwerthu'r tir yn lleihau atebolrwydd a chostau cynnal a chadw'r Cyngor ac yn creu derbyniad cyfalaf, fod gwrthwynebiad i'r hysbysiad ynghylch y tir yng Ngerddi'r Ffynnon wedi dod i law a bod yn rhaid ei ystyried yn unol â'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl rhoi ystyriaeth i'r gwrthwynebiadau oedd wedi dod i law yn sgil yr Hysbysiadau Mannau Agored Cyhoeddus, a gyhoeddwyd yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972 Adran 123 (2a),

 

PENDERFYNWYD bod y Cyngor Sir yn bwrw ati i werthu'r tir yng Ngerddi'r Ffynnon, Caerfyrddin.

 

 

5.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

ADRODDIAD EITHRIEDIG YN UNOL Â PHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12(A) I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, (fel y’i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007) GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH AM FATERION ARIANNOL NEU FUSNES UNRHYW UNIGOLYN (GAN GYNNWYS YR AWDURDOD Y MAE'R WYBODAETH HONNO YN EI FEDDIANT).

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraffau 14 ac 17 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

 

6.

DILEU DYLEDION CYN-DENANTIAID

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 5 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys data personol am gyn-denantiaid y cyngor, ynghyd â manylion am eu hôl-ddyledion rhent. Dywedwyd nad oedd cyfiawnhad dros gyhoeddi dyledion unigol, ac y byddai hynny'n anfanteisiol i hawliau a rhyddid yr unigolion perthnasol.  Felly, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth.

 

Rhoddodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad oedd wedi ei lunio'n unol â Rheolau Gweithdrefn y Cyngor a oedd yn gofyn am ddileu dyledion o fwy na £1,500 gan gyn-denantiaid. Nodwyd bod y Polisi ynghylch Ôl-ddyledion Cyn-denantiaid yn nodi'n glir y meini prawf yr oedd yn rhaid cydymffurfio â hwy wrth benderfynu a oedd yn annarbodus cymryd camau pellach er mwyn ceisio casglu dyled gan gyn-denant. 

 

Tynnwyd sylw'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol at rai gwallau teipio oedd yn yr adroddiad a ddarparwyd. Yng ngoleuni'r gwallau, nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol gyfanswm diwygiedig y ddyled.

 

PENDERFYNWYD dileu ôl-ddyledion y cyn-denantiaid, fel yr oeddid wedi manylu arnynt yn yr adroddiad, am nad oedd modd eu hadennill.

 

 

7.

CYFRIFON NA ELLIR EU HADFER

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 5 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am ddyledion unigolion a/neu wybodaeth bersonol.  Er y byddai datgelu'r adroddiad i'r cyhoedd yn hybu atebolrwydd o ran cyllid cyhoeddus, byddai hefyd yn datgelu gwybodaeth ariannol gyfrinachol.  Felly, ar ôl pwyso a mesur y mater, yr oeddid yn barnu bod y budd i'r cyhoedd o ran cadw'r wybodaeth yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth ar hyn o bryd.

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn manylu ar dri chyfrif gordaliad budd-dal oedd wedi eu clustnodi'n rhai anadferadwy.  Yr oedd yr holl weithdrefnau adennill wedi cael eu defnyddio, lle'r oedd hynny'n briodol, ac nid oedd dim tebygolrwydd y byddai modd cael y taliadau.  Felly, bernid ei bod yn briodol dileu'r cyfrifon hyn.

 

PENDERFYNWYD bod y cyfrifon dyledus y manylwyd arnynt yn yr adroddiad yn cael eu dileu am nad oedd modd adennill y taliadau.

 

 

8.

TRETHI ANNOMESTIG - CYMORTH CALEDI

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal y prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 5 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am hanes ariannol diweddar trethdalwyr unigol a/neu wybodaeth bersonol.  Er y byddai datgelu'r adroddiad i'r cyhoedd yn hybu atebolrwydd o ran cyllid cyhoeddus, byddai hefyd yn datgelu gwybodaeth ariannol gyfrinachol.  Felly, ar ôl pwyso a mesur y mater, yr oeddid yn barnu bod y budd i'r cyhoedd o ran cadw'r wybodaeth yn gyfrinachol yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth ar hyn o bryd.

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried ceisiadau am Ryddhad Caledi o dan ddarpariaethau Adran 49 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 fel y'i diwygiwyd.

 

 PENDERFYNWYD:

 

·         bod 50% o'r cynnydd ar gyfer 2017/18 yn cael ei hepgor yn achos cais cyfeirnod 80013741;

·         bod 20% o dâl y flwyddyn gyfredol yn cael ei hepgor yn achos cais  cyfeirnod 80014557;

·         bod cais cyfeirnod 80022589 yn cael gostyngiad o 50% ar yr holl daliadau cyn 2017/18;

·         bod 50% o'r cynnydd ar gyfer 2017/18 yn cael ei hepgor yn achos cais cyfeirnod 30033902;

·         bod 50% o atebolrwydd net y flwyddyn gyfredol yn cael ei hepgor yn achos cais cyfeirnod 80021787;

·         gwrthod ceisiadau cyfeirnod 80018585 a 80013791.