Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Martin S. Davies 01267 224059
Rhif | eitem |
---|---|
DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
COFNOD PENDERFYNIADAU - 16 MEHEFIN, 2017 PDF 289 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 16 Mehefin, 2017 yn gofnod cywir.
|
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: PENDERFYNWYD
3.1 cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Budd Cymunedol Mynydd y Betws yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:
Ymgeisydd Dyfarniad Clwb Bowlio Tref Rhydaman £6,808.77 Cymdeithas Neuadd Les Penybanc £15,000.00 Eglwys y Plwyf Llandybie £15,000.00 Cyngor Plwyf Eglwysig Eglwys Sant Edmwnd £15,000.00 CRA Parcyrhun £10,871.60 Cyngor Tref Rhydaman £8,319.90 Eglwys Bedyddwyr Calfaria £4,005.00 Clwb Merlod Dyffryn Aman £14,858.59 Canolfan Gymunedol Pen-y-groes £15,000.00 Cyngor Tref Cwmaman £8,998.19
3.2 cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa'r Degwm yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:
Ymgeisydd Dyfarniad Eglwys Sant Mihangel-Cilycwm £3,000.00 Neuadd Eglwys Sant Edmwnd £3,000.00 Eglwys y Santes Fair Magdalen £3,000.00 Clwb Rygbi Ffwrnes £1,494.24 Eglwys Sant Llawddog Pen-boyr £3,000.00 CRA Parcyrhun £1,900.00
3.3 cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o'r Gronfa Cyllid a Dargedir yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:
Ymgeisydd Dyfarniad Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru £20,000.00 Canolfan Gymunedol Pen-y-groes £13,000.00 Cyngor Cymuned Llanedi £12,000.00
|
|
ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI Cofnodion: PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.
|
|
CRONFA MENTRAU GWLEDIG SIR GAERFYRDDIN - HAYDEN DENTAL Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion:
Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoeddPENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, roedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.
Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried cais gan Hayden Dental Caerfyrddin am grant tuag at ehangu'r ddeintyddfa yn Rhiw'r Castell, Caerfyrddin, a fyddai'n creu 8.5 o swyddi amser llawn yn ogystal â datblygu 250m2 o le ychwanegol. PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am gymorth o'r Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:- Yr Ymgeisydd/Eiddo Y Dyfarniad HaydenDental / Rhiw'r Castell, Caerfyrddin £128,000.00
|
|
CRONFA MENTRAU GWLEDIG SIR GAERFYRDDIN- PEBBLE & CHEESE Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoeddPENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf). Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, roedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.
Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried cais gan Pebble & Cheese Ltd. am grant tuag at ddatblygu bwyty Caribî yng Nghaerfyrddin, a fyddai'n creu 4 o swyddi amser llawn, yn ogystal â datblygu 115.5 m2 o le cyflogaeth. PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am gymorth o'r Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:- Yr Ymgeisydd/Eiddo Y Dyfarniad Pebble & Cheese Ltd./Gardd Llydaw, Lôn Jackson, Caerfyrddin £27,715.80
|