Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa'r Cyfarwyddwr - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

 

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 9FED MAWRTH 2018 pdf eicon PDF 100 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi'r cofnod penderfyniadau o gyfarfod yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2018 gan ei fod yn gofnod cywir.

 

3.

GWRTHWYNEBIADAU I ORCHYMYN SIR GAERFYRDDIN - CYFYNGU AR AROS A MANNAU PARCIO AR Y STRYD - (CAERFYRDDIN) (AMRYWIAD 17) pdf eicon PDF 192 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad a oedd yn manylu ar wrthwynebiadau i gynnig y Cyngor o ran gwneud Gorchymyn i ddiwygio Gorchymyn Cydgyfnerthu Sir Gaerfyrddin (Caerfyrddin) (Cyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) 2004 (Amrywio Rhif 17).  Diben y cynnig oedd diogelu defnyddwyr ffyrdd a hwyluso llif traffig diogel a dirwystr mewn amrywiol leoliadau yng Nghaerfyrddin fel y dangosir yn yr atodlen sydd ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Rhoddwyd gwybod nad oedd unrhyw wrthwynebiadau wedi dod i law i'r cynnig oddi wrth yr ymgyngoreion statudol, ond er hynny roedd tri gwrthwynebiad wedi dod i law oddi wrth y cyhoedd, fel y manylwyd yn Atodiad 3 i'r adroddiad ynghyd ag ymatebion yr Adran iddynt.

 

PENDERFYNWYD nodi'r gwrthwynebiadau oedd wedi dod i law i'r Gorchymyn arfaethedig i ddiwygio Gorchymyn Cydgyfnerthu Sir Gaerfyrddin (Caerfyrddin) (Cyfyngu ar Aros a Mannau Parcio ar y Stryd) 2004 (Amrywio Rhif 17) ond bod y Gorchymyn yn cael ei gadarnhau, fel y manylwyd yn Atodiad 1 i'r adroddiad, yn amodol ar y newid a nodwyd ym mharagraffau 3.2 yr adroddiad a bod y gwrthwynebwyr yn cael gwybod am hynny.

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau