Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Swyddfa'r Arweinydd - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Janine Owen  01267 224030

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

 

2.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNOD PENDERFYNIADAU'R CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 19EG CHWEFROR 2018. pdf eicon PDF 103 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi bod Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 19 Chwefror 2018 yn gofnod cywir.

 

 

3.

CYMORTH ARIANNOL O'R CRONFEYDD GRANTIAU CANLYNOL: GRANT CRONFA'R DEGWM A'R GRONFA CYLLID A DARGEDIR. pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa'r Degwm yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Ymgeisydd                                                 Dyfarniad

Fforwm Pentref Trimsaran                           £3,000.00

Menter Cwm Gwendraeth Elli                     £20,000.00

 

 

4.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI.

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI

CYNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R

BWRDD GWEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL

I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH

EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O

ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I

NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL

(MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau ganlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

 

5.

CRONFA MENTRAU GWLEDIG SIR GAERFYRDDIN - COMPLETE ACCIDENT SOLUTIONS LTD.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoeddPENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried cais gan Complete Accident Ltd am grant tuag at greu canolfan damweiniau ac atgyweiriadau ac iard trafnidiaeth gyhoeddus a fyddai'n creu cyflogaeth hirdymor gynaliadwy a fyddai'n cynnal 7 o swyddi llawn amser a chyfleoedd am brentisiaethau yn y diwydiant adeiladu a cheir.

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am gymorth o Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:-

Ymgeisydd/Eiddo                                                         Dyfarniad

Complete Accident Solutions Ltd.                                          £128,000.00

 

6.

CRONFA MENTRAU GWLEDIG SIR GAERFYRDDIN - LHP ACCOUNTANTS.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoeddPENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad am ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig ynghylch materion ariannol neu faterion busnes unrhyw unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.

 

Bu'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried cais gan LHP Accountants am grant tuag at symud i safle newydd a fyddai'n diwallu anghenion y busnes sy'n ehangu. 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am gymorth o Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:-

Ymgeisydd/Eiddo                                                         Dyfarniad

LHP Accountants                                                                    £128,000.00

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau