Agenda a Chofnodion

Cyllideb Gorfforaethol, Cyngor Sir - Dydd Mercher, 21ain Chwefror, 2018 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr C. Campbell, A. Davies, R. Evans, S. Matthews, S. Najmi, D. Price ac E. Schiavone.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

H.A.L. Evans

 

8.            8 - Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2018/19 tan 2020/21 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2018/19;

Ei chwaer yw Prif Weithredwr Cymdeithas Tai Bro Myrddin;

K. Madge

6 - Strategaeth Cyllideb Refeniw 2018/19 tan 2020/21;

Mae ei ferch yn gweithio i'r Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol;

A.   McPherson

9.            6 - Strategaeth Cyllideb Refeniw 2018/19 tan 2020/21;

Cadeirydd Elusen Iechyd Meddwl.

 

3.

CYHOEDDIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y ffaith fod Mr. Ken Evans, Porthor Neuadd y Sir, ar fin ymddeol, a dywedodd y byddai cyflwyniad yn cael ei wneud i Mr. Evans yn nes ymlaen y diwrnod hwnnw i nodi'r achlysur.

 

4.

CWESTIYNAU CYHOEDDUS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.

CWESTIYNAU GAN AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan yr Aelodau.

 

6.

ARGYMHELLIAD Y BWRDD GWEITHREDOL - STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2018/19 TAN 2020/21 pdf eicon PDF 206 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 5 Chwefror, 2018 (gweler Cofnod 5), wedi ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw 2018/19 tan 2020/21 a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion yn ei chylch, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Cafodd y Cyngor gyflwyniad gan yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, ar ran y Bwrdd Gweithredol, pryd y bu'n manylu ar gefndir yr argymhellion ar gyfer y gyllideb oedd yn cael eu cyflwyno at ystyriaeth y Cyngor. 

Dywedodd fod y setliad terfynol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru ar 20 Rhagfyr 2017 wedi bod yn fwy ffafriol a chefnogol i Lywodraeth Leol na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol, a olygai ei bod hi wedi bod yn bosibl ailedrych ar rai o'r cynigion yn y Gyllideb wreiddiol ac ystyried opsiynau pellach, gan gynnwys rhoi ystyriaeth i'r cynnig diweddaraf i roi codiad cyflog. Fodd bynnag, gan mai ar gyfer blwyddyn yn unig yr oedd Llywodraeth Cymru wedi gallu darparu ffigurau ar lefel Awdurdod, roedd hyn yn cyfyngu ar y gallu i ragweld yn y tymor canolig o fewn y cynllun ariannol tymor canolig.

Tynnodd sylw at rai o bwyntiau amlwg y setliad; roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn cyfeirio at y manylion llawn. O edrych ar Gymru gyfan roedd y cyllid ar gyfer Llywodraeth Leol wedi cynyddu gymaint â 0.2%, gyda Sir Gaerfyrddin yn unol â'r cyfartaledd. Roedd y setliad terfynol wedi rhoi £1.48m pellach i'r Awdurdod o gymharu â'r setliad dros dro. Roedd hyn yn dod â chyfrifoldeb ychwanegol yn ei sgil, fodd bynnag, a oedd yn cynnwys cynyddu'r terfynau cyfalaf ar gyfer gofal preswyl a chymorth rhyddhad wedi'i dargedu i fusnesau bach, a fyddai'n cael eu trosglwyddo i'r gwasanaethau hynny. Roedd y setliad wedi cynnwys £399k ychwanegol ar gyfer atal digartrefedd. 

Dywedodd bod un o'r dilysiadau mwyaf arwyddocaol a wnaed ar y gyllideb eleni yn ymwneud â'r cynnig o godiad cyflog a wnaed gan y corff cyd-drafod ar gyfer cyflogwyr, a oedd yn rhoi codiad cyflog o 2% ynghyd â sicrhau mai'r rhai oedd ar y graddfeydd cyflog isaf fyddai'n gweld y cynnydd mwyaf yn eu cyflog. Ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin, canlyniad hyn oedd pwynt cyflog isaf o £8.68 o fis Ebrill 2018, sef cynnydd o 8.98%, a fyddai'n cynyddu i £9.18 ym mis Ebrill 2019 a chynnydd pellach o 5.76%. Nid oedd y cynnig cyflog yn berthnasol i athrawon, a oedd yn destun trefniadau cyflog cenedlaethol ar wahân sef 2% o fis Medi 2018.

Cyfeiriwyd at Banel Ymgynghorol yr Awdurdod Ynghylch y Polisi Tâl, sydd yn wleidyddol gytbwys, ac un o argymhellion y panel hwnnw, a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r Cyngor Sir er mwyn ei ystyried ar 7 Mawrth 2018, fyddai talu tâl atodol isel i staff sydd ar hyn o bryd ar bwyntiau 9 a 10 ar y golofn gyflogau, fel bod y staff hynny yn derbyn swm cyfwerth â £8.75, sef y Cyflog Byw Sylfaen a argymhellir (y tu allan i Lundain). Yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ARGYMHELLIAD Y BWRDD GWEITHREDOL - RHAGLEN GYFALAF BUM MLYNEDD (CRONFA'R CYNGOR) - 2018/19 TAN 2022/23 pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 5 Chwefror, 2018 (gweler Cofnod 7), wedi ystyried y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd am y cyfnod rhwng 2018/19 a 2022/23, a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion yn ei chylch, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Cafodd y Cyngor gyflwyniad gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, ar ran y Bwrdd Gweithredol, am y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd a adlewyrchai'r Strategaeth Gorfforaethol bresennol ac a gefnogai flaenoriaethau a dyheadau strategol yr Awdurdod. Dywedodd fod y rhaglen gyfalaf yn rhagweld gwariant amcangyfrifedig o fwy na £200m dros y 5 mlynedd, ac mai'r nod oedd cyflawni yn erbyn y blaenoriaethau strategol a'r dyheadau ar gyfer y Sir.

 

Rhoddodd wybod i'r Cyngor fod y cyllid ar gyfer y rhaglen hon tua £143m ar hyn o bryd a bod £55m pellach yn dod oddi wrth gyrff cyllid grant allanol. Tra bod Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru wedi rhoi arwydd o setliadau refeniw'r blynyddoedd i ddod, nid oedd hyn ar gael ar gyfer cyfalaf y tu hwnt i 2018/19, ac felly roedd y rhaglen, yn unol â rhagdybiaethau cynghorau eraill, yn seiliedig ar fod benthyca â chymorth yn y dyfodol a grant cyffredinol ar yr un lefel â 2018/19. Ychwanegodd y byddai llawer o'r buddsoddiadau, megis rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, Priffyrdd, Adfywio a Thai, yn gyfarwydd i'r Cynghorwyr, ond bu'n bosibl ychwanegu buddsoddiad i gynlluniau yr ystyrid eu bod yn bwysig ar gyfer y Sir. Dyrannwyd cyllid newydd o fewn yr Adran Cymunedau ar gyfer Parc Gwledig Pen-bre, Casgliadau Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin a Pharc Howard a pharhau i roi cymorth i Dai'r Sector Preifat yn 2022/23. O fewn Adran yr Amgylchedd roedd y cymorth ar gyfer Gwelliannau Priffyrdd, Cynnal a Chadw Pontydd a Chynlluniau Diogelwch Ffyrdd yn parhau i mewn i 2022/23 ac, o ganlyniad i gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, gwnaed cynnydd o £2.2m yn ychwaneg i'r gwariant ar 'adnewyddu ffyrdd' y flwyddyn nesaf.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau y byddai'r swyddogion yn parhau i fonitro cynlluniau unigol a'r cyllid sydd ar gael. Tra byddai angen rheoli'r ddwy elfen hyn yn agos i sicrhau bod cynlluniau'n cael eu cyflawni'n llawn, roedd y rhaglen bresennol yn cael ei chyllido'n llawn ac eithrio'r diffyg o £1.5miliwn ym mlwyddyn 4. Yna fe gynigiodd argymhellion y Bwrdd Gweithredol mewn perthynas â'r Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) a'r cyllid arfaethedig ar ei chyfer, yn unol â manylion yr adroddiad. Eiliwyd y cynnig.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

7.1 bod y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd a'r cyllid, fel y'u nodwyd

yn Atodiad B yr adroddiad, gyda chyllideb 2018/19 yn gyllideb bendant

a chyllidebau 2019/20 tan 2022/23 yn gyllidebau amhendant/dangosol yn cael

eu cymeradwyo;

 

 

7.2 bod cyllideb 2021/22 yn cael ei hadolygu dros y flwyddyn i ddod er

mwyn ymdrin â'r diffyg yn y cyllid;

 

 

7.3  bod y rhaglen yn cael ei hadolygu, yn ôl yr arfer, oni lwyddir i  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.

8.

ARGYMHELLIAD Y BWRDD GWEITHREDOL - CYLLIDEB Y CYFRIF REFENIW TAI 2018/19 TAN 2020/21 A PHENNU RHENTI TAI AR GYFER 2018/19 pdf eicon PDF 157 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorydd H.A.L. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Hysbyswyd y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 5 Chwefror 2018 (gweler Cofnod 8), wedi ystyried Cyllideb y Cyfrif Refeniw Tai 2018/19 tan 2020/21 a Phennu Rhenti Tai ar gyfer 2018/19 a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfrifydd y Gr?p, i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Cafodd y Cyngor gyflwyniad gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, ar ran y Bwrdd Gweithredol, ar gynigion y Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf ar gyfer y Cyfrif Refeniw Tai 2018 tan 2021. Roedd yn adleisio nodau'r Awdurdod yn y Cynllun Busnes 30 blynedd sef y prif gyfrwng cynllunio ariannol ar gyfer cyrraedd Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (CHS+) a'n Strategaeth Tai Fforddiadwy.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y buddsoddiad cyfalaf o £231m yn y cynllun busnes presennol wedi sicrhau bod tenantiaid yn elwa ar Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy, ac wrth gamu ymlaen roedd y gyllideb wedi cael ei llunio mewn modd oedd yn gofalu bod y cyllid priodol yn cael ei ddyrannu er mwyn cynnal Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy yn achos holl eiddo'r Cyngor i'r dyfodol. Dros y 3 mlynedd nesaf rhagwelid y byddai tua £30m yn cael ei wario ar gynnal a gwella ein stoc tai. Hefyd roedd y gyllideb yn darparu cyllid o ryw £26m dros y 3 mlynedd nesaf i gefnogi'r Strategaeth Tai Fforddiadwy, a fyddai'n arwain at gynnydd yng nghyflenwad y tai fforddiadwy ar hyd a lled y sir drwy wahanol atebion gan gynnwys y rhaglen adeiladu tai newydd a'r cynllun prynu'n ôl.

 

Eglurodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol ei bod yn ofynnol i'r Awdurdod, ers 2015, fabwysiadu Polisi Cysoni Rhent Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, a olygai bod y cynnydd arfaethedig mewn rhent oedd gerbron yr aelodau wedi'i ragnodi gan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru. Er nad oedd y polisi hwnnw wedi newid, roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud, oherwydd y Mynegai Prisiau Defnyddiwr cymharol uchel sef 3%, efallai y byddai Awdurdodau Lleol yn dymuno ystyried defnyddio opsiwn is eleni. Ystyrid y byddai cymhwyso'r polisi fel yn y blynyddoedd blaenorol ar gyfer 2018/19 sef cynnydd o 4.5% mewn rhent ynghyd â chynnydd o £2 yn arwain at rent cyfartalog o £86.21, sef cynnydd o 5.49%, a fyddai'n annerbyniol ac yn annheg i denantiaid. Yn unol â hynny cynigiwyd bod y rhent yn cael ei osod ar y lefel isaf bosibl. 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fod y cynnydd arfaethedig mewn rhent yn ceisio, cyn belled ag yr oedd modd, cydnabod y pwysau sydd ar gyllidebau aelwydydd gan nad yw codiadau cyflog wedi bod yn cyfateb i'r chwyddiant cynyddol mewn prisiau. Byddai'r egwyddorion uchod yn lleihau'r baich ar yr holl denantiaid o gynnydd cyfartalog o 4.5% i 3.5% ac yn cyfyngu'r cynnydd tuag at y rhent targed i £1.62 o gymharu â'r cynnydd mwyaf y gellir ei ganiatáu sef £2. Dyma oedd y cynnydd cyfartalog isaf y gellir ei ganiatáu  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 8.

9.

ARGYMHELLIAD Y BWRDD GWEITHREDOL - CYNLLUN BUSNES SAFON TAI SIR GAERFYRDDIN A MWY (CHS+) 2018-21 pdf eicon PDF 257 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 5 Chwefror, 2018 (gweler cofnod 9) wedi ystyried Cynllun Busnes Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (CHS+) 2018-21, yr oedd ei ddiben fel a ganlyn:-   

 

• egluro gweledigaeth a manylion Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy dros y tair blynedd nesaf, a'r hyn y mae'r Safon yn ei olygu i'r tenantiaid;

• cadarnhau'r proffil ariannol, yn seiliedig ar y rhagdybiaethau presennol, ar gyfer cyrraedd Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy dros y tair blynedd nesaf; a

• llunio cynllun busnes ar gyfer y cais blynyddol i Lywodraeth Cymru am y Lwfans Atgyweiriadau Mawr (MRA) ar gyfer 2018/19++, sy’n cyfateb i £6.1m.

 

Cyflwynodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai yr adroddiad a dywedodd pe bai'r adroddiad a'i argymhellion yn cael eu mabwysiadu, byddai'n arwain at wario rhyw £56m dros y tair blynedd nesaf ar gynnal a chadw a gwella ymhellach gynllun Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy (£30m) a darparu'r Cynllun Tai Fforddiadwy (£26m) drwy ystod o ddatrysiadau gan gynnwys tai newydd. 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

9.1

Cadarnhau gweledigaeth Safon Tai Sir Gaerfyrddin a Mwy,

ynghyd â'r rhaglen ariannol a chyflawni ar gyfer

y tair blynedd nesaf;

 9.2

Cadarnhau bod y Cynllun yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

10.

ARGYMHELLIAD Y BWRDD GWEITHREDOL - POLISI A STRATEGAETH RHEOLI'R TRYSORLYS 2018-19 pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbyswyd y Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 5 Chwefror, 2018 (gweler Cofnod 10) wedi ystyried Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2018/19.

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol wrth y Cyngor fod yn rhaid i'r Cyngor, yn unol â gofynion Côd Ymarfer diwygiedig CIPFA ynghylch Rheoli'r Trysorlys, gynnal Polisi Rheoli'r Trysorlys a oedd yn manylu ar bolisïau ac amcanion gweithgareddau'r Awdurdod o ran Rheoli'r Trysorlys, a hefyd gymeradwyo Strategaeth Rheoli'r Trysorlys yn flynyddol cyn dechrau'r flwyddyn ariannol yr oedd yn ymwneud â hi. Hefyd, dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Leol 2003, roedd yn ofynnol i'r Cyngor gymeradwyo Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Yn unol â'r gofynion uchod, rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i'r Polisi a'r Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19. 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

10.1

Bod Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2018-19

a'r argymhellion a nodwyd ynddynt yn cael eu cymeradwyo;

 10.2

Bod y Dangosyddion Rheoli'r Trysorlys, y Dangosyddion Darbodaeth,

 y  Datganiad ynghylch y Ddarpariaeth Isafswm Refeniw

a'r argymhellion yn cael eu cymeradwyo.

 

11.

BWRDD GWEITHREDOL - 5 CHWEFROR 2018 pdf eicon PDF 244 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad y cyfarfod uchod.