Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 13eg Rhagfyr, 2018 1.00 yp

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  (01267) 224029

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J. James, J. Prosser a G. Thomas.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

C. Jones

4 – Cais Cynllunio W/38027 – Newid defnydd yr ysgubor bresennol yn llety gwyliau, Parcnwc, Heol yr Hen Ysgol, Llansteffan, Caerfyrddin, SA33 5HA

Cyfaill i un o'r ymgeiswyr.

D. Phillips

5 - Cais cynllunio S/37933 - Estyniad unllawr yng nghefn yr eiddo gyda balconi ar y llawr cyntaf, 105 Pentre Nicklaus, Llanelli, SA15 2DF

Mae'n adnabod yr ymgeisydd.

 

 

3.

E/34791 - BYDD Y DATBLYGIAD TYRBINAU GWYNT ARFAETHEDIG YM MRYN BUGAIL YN CYNNWYS TYRBIN GWYNT SENGL, A FYDD YN GALLU CYNHYRCHU HYD AT 100KW GYDA'R TYRBIN YN MESUR 37 METR HYD AT UCHDER Y BOTH, GYDA DIAMEDR ROTOR O 24 METR, GAN GREU UCHDER LLAFN CYFFREDINOL O HYD AT 49 METR. BYDDAI'R TYRBIN GWYNT WEDI'I LEOLI MEWN CAE SYDD AR HYN O BRYD YN CAEL EI DEFNYDDIO AR GYFER PORI A GALL Y DEFNYDD HWN BARHAU GYDA'R TYRBIN GWYNT YN BRESENNOL AR DIR YM MRYN BUGAIL, CAERFYRDDIN, SA32 7JX. pdf eicon PDF 203 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 3.1 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 18 Hydref 2018) a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle.  Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.

 

Cafwyd sylwadau oedd yn gwrthwynebu'r cais ac yn ailbwysleisio'r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn Adroddiad y Pennaeth Cynllunio, lle mai'r prif bryderon oedd bod y cais yn mynd yn groes i sawl polisi cynllunio, bod nifer gormodol o dyrbinau gwynt yn y cyffiniau, yr effaith niweidiol ar y dirwedd, yr effaith sylweddol ar yr olygfa, bywyd gwyllt ac ecoleg a'r niwed o ran cysgodion symudol ar yr hawl dramwy gyhoeddus.

 

Ymatebodd asiant yr ymgeisydd i'r materion a godwyd. 

 

PENDERFYNWYD caniatáu Cais Cynllunio E/34791 yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio.

 

4.

W/36131 - NEWID DEFNYDD RHANNOL ARFAETHEDIG I ARDAL FACH MEWN FFATRI/GWEITHDY FFRÂM BREN I'W DEFNYDDIO FEL GOFOD CAMPFA FFITRWYDD A CHWILBEDLO (I'W OSOD). NEWID DEFNYDD RHAN O'R CAE CYFAGOS I FOD YN FAES PARCIO PWRPASOL AR GYFER Y DEFNYDD CAMPFA A CHWILBEDLO ARFAETHEDIG YN Y GWEITHDY, BWLCH Y DOMEN ISAF, PANT Y BWLCH, CASTELLNEWYDD EMLYN, SA38 9JF. pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Swyddog Rheoli Datblygu at ymweliad preifat y Pwyllgor â'r safle'n gynharach y diwrnod hwnnw (gweler cofnod 5 cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 18 Hydref 2018) a drefnwyd er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y safle.  Cyfeiriodd, gyda chymorth sleidiau PowerPoint, at adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio a oedd yn rhoi arfarniad o'r safle, ynghyd â disgrifiad o'r datblygiad arfaethedig, crynodeb o'r ymatebion a gafwyd i'r ymgynghoriad a gwybodaeth am y polisïau lleol a chenedlaethol a oedd yn berthnasol wrth asesu'r cais.

 

Cafwyd sylw oedd yn gwrthwynebu'r cais ac yn ailbwysleisio'r gwrthwynebiadau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio, lle mai'r prif bryderon oedd bod y cais yn mynd yn groes i brif nodau Polisi TR2 y Cynllun Datblygu Lleol, bod y safle mewn lleoliad anghynaliadwy, y bydd yn cynyddu llygredd s?n a golau ac y bydd y maes parcio arfaethedig yn achosi d?r ffo arwyneb i'r tyddyn cyfagos.

 

PENDERFYNWYD caniatáu Cais Cynllunio W/36131 yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, ar y sail y barnwyd ei fod yn defnyddio cyfleuster amaethyddol presennol a'i fod yn unol â Pholisïau GP1, TR2 a TR3, yn amodol ar yr amodau i'w drafftio gan y Pennaeth Cynllunio.

 

5.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

5.1 PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio:

 

S/36465

Y cynnig yw darparu 34 o dai fforddiadwy newydd ar y tir agored presennol ger Ystad Dai Dylan.  Ynghyd â gwaith lliniaru ecolegol cysylltiedig i gynnwys nodwedd pwll gwlyptir newydd.  Bydd 28 o dai dwy ystafell wely i bedwar o bobl a 6 o dai pedair ystafell wely i saith o bobl, tir ger Ystad Dai Dylan, Llanelli, SA14 9AN

 

Cafwyd sylw yn gofyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle am resymau yn ymwneud â phriffyrdd ac edrych dros eiddo.  Gwrthodwyd y cais.  Parhaodd y sylw a oedd yn gwrthwynebu'r datblygiad arfaethedig, gan ailbwysleisio’r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys y pwyntiau canlynol:-

 

  • mae'r dyluniad yn gwahaniaethu yn erbyn yr henoed a phobl fregus;
  • mae'r tai hyn yn debyg i'r 450 o dai sydd eisoes yn y ward;
  • dim ond 4% o stoc tai'r Cyngor sy'n fyngalos;
  • mae 122 cais am fyngalos yn yr ardal o hyd;
  • achos difrifol o edrych dros eiddo;
  • mae dau dro dwbl a chyffordd-T yn agos at y fynedfa;
  • mae angen mwy o fyngalos er mwyn rhyddhau tai 2 a 3 ystafell wely ar gyfer teuluoedd ifanc;
  • gorlenwi na ellir ei gyfiawnhau;
  • yn groes i bolisïau cynllunio gan gynnwys H1.

 

Ymatebodd y Peiriannydd Cynorthwyol (Cydgysylltu Cynllunio) a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.

 

S/37971

Adnewyddu, addasu a newid defnydd y swyddfeydd presennol i ddarparu wyth fflat breswyl i gynnwys cymysgedd o fflatiau Cymdeithas Tai newydd, sef un ystafell wely, dwy ystafell wely a stiwdio, WRW Construction Limited, 3-5 Heol Goring, Llanelli, SA15 3HF

 

 

 

5.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:-

 

S/37933

Estyniad unllawr yng nghefn yr eiddo gyda balconi ar y llawr cyntaf, 105 Pentre Nicklaus, Llanelli, SA15 2DF

 

[Noder:  Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd D. Phillips Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno.]

 

Cafwyd sylw yn gofyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle ar y sail y bydd y cynnig yn edrych dros yr eiddo cyfagos a niweidio preifatrwydd.

 

RHESWM: galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle yn sgil pryderon a godwyd ynghylch yr effaith bosibl ar breifatrwydd yr eiddo cyfagos.

 

 

 

6.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

6.1 PENDERFYNWYD caniatáu'r ceisiadau cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio:

 

W/37655

Newid defnydd tir fferm yn ddwy lain i deithwyr-sipsiwn (gydag ystafelloedd dydd), tir sydd i'r de o Brynhowell, Llanddowror, SA33 4HN

 

W/37690

Gwella'r fynedfa bresennol i'r coetir i ganiatáu i goed gael eu symud, y fynedfa i Goedwig Fasnachol Allt Werncorgam, i'r gorllewin o Lanllwch, Caerfyrddin, SA31 3QY

 

Cafwyd sylw a oedd yn mynegi pryderon ynghylch y cynllun rheoli traffig.

 

Ymatebodd yr ymgeisydd i'r materion a godwyd.

 

Cafwyd sylw arall a oedd yn mynegi pryder ynghylch pa mor serth oedd rhan o'r llwybr arfaethedig ac effaith gronnol ceisiadau cynllunio ar draffig yn yr ardal.

 

W/37831

Gwydr o'r golwg ar ochrau'r tai yn lleiniau 4 a 5.  Newid arddull dormer Llain 4 a 5, Cae Coch, tir ger Heol Cwm Mawr, Drefach, Llanelli

 

W/38027

Newid defnydd yr ysgubor bresennol yn llety gwyliau, Parcnwc, Heol yr Hen Ysgol, Llansteffan, Caerfyrddin, SA33 5HA

 

[Sylwer: Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd C. Jones Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno]

 

W/35898

Adeiladu gweithdy/garej fasnachol ar gyfer Sarnau Motors, cae ger Hafod Bakery, Heol Llysonnen, Bancyfelin, Caerfyrddin

 

Yng nghyfarfod y Pwyllgor Cynllunio ar 27 Tachwedd, penderfynodd yr Aelodau wrthdroi argymhelliad y Swyddog i wrthod caniatâd cynllunio a'i gymeradwyo ar gyfer y datblygiad arfaethedig, gyda rhestr o amodau priodol i'w dychwelyd i'r Pwyllgor i'w cadarnhau.

 

Cymeradwyodd y Pwyllgor yr amodau yn yr adroddiad.

 

6.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r cais canlynol i ryddhau'r Cytundeb Adran 106, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio ar y sail nad oes diben defnyddiol i'r adeilad bellach a'i bod yn rhesymol rhyddhau'r cytundeb ar ôl 19 o flynyddoedd.

 

W/37164

Rhyddhau Cytundeb Adran 106 sydd ynghlwm wrth gais cynllunio W/02153, lle y byddai defnydd preswyl y ffermdy presennol yn dod i ben ac i'r t? gael ei ddefnyddio at ddibenion storio amaethyddol yn lle hynny, Fferm Cystanog, Heol Capel Dewi, Llangynnwr, Caerfyrddin, SA32 8AY

 

Roedd y Pwyllgor am gymeradwyo rhyddhau'r Cytundeb Adran 106 yn amodol ar gyflwyno cais ffafriol i adfer yr hen breswylfa ac yn amodol ar weithredu'n unol â chyfyngiad o ran anghenion lleol a thai fforddiadwy.

 

 

6.3  PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r amodau a ddrafftiwyd gan y Pennaeth Cynllunio, fel y'u manylwyd yn yr adroddiad, mewn perthynas â'r cais cynllunio canlynol, y rhoddodd y Pwyllgor Cynllunio ganiatâd cynllunio iddo, yn groes i argymhelliad y swyddog ar 27 Tachwedd, 2018:-

 

W/35898

Adeiladu gweithdy/garej fasnachol ar gyfer Sarnau Motors, cae ger Hafod Bakery, Heol Llysonnen, Bancyfelin, Caerfyrddin

 

 

6.4    PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor Cynllunio ymweld â'r safle:-

 

W/37267

Adeiladu 2 breswylfa tair ystafell wely (1 fforddiadwy, 1 ar y farchnad agored), tir ger Llys Briallu, Sarnau, Bancyfelin, SA33 5EA

 

RHESWM: galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle a'r mynediad.

 

 

 

7.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 15FED TACHWEDD 2018. pdf eicon PDF 164 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2018 yn gywir.