Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr C. Campbell, S. Curry, G. Davies, A. Davies, A.L. Fox, D. Harries, C. Harris, P. Hughes, A. James, J. James, T.J. Jones, M.J.A. Lewis, S. Matthews a J.G. Prosser.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

J. Jenkins

9.1 - Adolygiad o'r Polisi Hapchwarae

Mae'r Cynghorydd yn gweithio i fusnes betio.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd gofyniad i aelodau sydd â theulu ac ati yn y proffesiwn addysgu ddatgan buddiant mewn perthynas â Chofnod 9 [Polisi Cyflogau Athrawon Enghreifftiol] o gyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2018, gan fod y cofnodion ond yn cael eu derbyn. 

 

3.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

·                   Mynegodd y Cadeirydd ddymuniadau da i'r Cynghorwyr John Prosser a John James a dymunodd wellhad buan iddynt yn dilyn llawdriniaethau yn ddiweddar;

·                   Cydymdeimlodd y Cadeirydd â theulu Paul James, swyddog yn Adain Bensiynau'r Cyngor, a fu farw yn ddiweddar;

·                     Mynegodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i'r canlynol:

-        Cai Thomas Phillips [Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro], Marged Lois Campbell [Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr] a Megan Carys Davies [Llanelli] a oedd wedi cael eu hethol i Senedd Ieuenctid Cymru.

-        Mark Drakeford, sy'n dod o Gaerfyrddin, ar gael ei ethol yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru;

-        Clwb Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin ar gyrraedd y trydydd safle yng Nghystadleuaeth Celf Tir Genedlaethol Taith Prydain OVO Energy a gynhaliwyd yn gynharach eleni;

-      Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar ennill Achrediad Platinwm Buddsoddwyr mewn Pobl.

·                   Cyfeiriodd y Cadeirydd at gr?p o ddiffoddwyr tân o'r Trallwng, Powys, ac ar draws canolbarth a gorllewin Cymru, a oedd wedi ceisio cyrraedd brig Siart y Senglau gyda'u record "Do they know it's Christmas". Roedd y gân yn y 7fed safle ar hyn o bryd. Dymunodd y Cadeirydd bob llwyddiant i'r gr?p wrth godi arian ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân ac Ymddiriedolaeth Elusennol Band Aid;

·                   Estynnwyd llongyfarchiadau i Tennessee Randall ar ddod yn Bencampwr Ewrop y World Association of Kickboxing Organisations yng nghategori 56kg i fenywod. Hi oedd yr ymladdwraig cyswllt llawn gyntaf i gynrychioli tîm Prydain Fawr ym Mhencampwriaethau Cic-focsio Ewrop ac roedd hi hefyd wedi ennill gwobr yr Ymladdwr Gorau mewn Cylch yn y Bencampwriaeth;

·                   Dywedodd y Cadeirydd iddo fod yn bresennol mewn nifer o ddigwyddiadau ers y cyfarfod diwethaf, gan gynnwys cyngherddau, carnifalau, digwyddiadau Nadolig a digwyddiadau agoriadol. Ychwanegodd fod ymweld â chartrefi preswyl y Cyngor wedi bod yn bleser mawr, lle cafodd groeso cynnes iawn ac roedd yn gallu gweld safon uchel iawn y gofal a ddarperir ac ymrwymiad yr holl staff. Cyfeiriodd hefyd at y cymorth yr oedd wedi ei gael gan unigolion a sefydliadau wrth godi arian ar gyfer Alzheimers Cymru ac Ambiwlans Cymru. Dywedodd y byddai hefyd yn cymryd rhan yn Nhrochfa'r Tymor ar ?yl San Steffan a chroesawodd yr Aelodau i'w noddi;

·                       Ar ran y Cynghorydd Mair Stephens, atgoffwyd yr Aelodau gan y Cadeirydd i gefnogi'r Apêl Teganau Flynyddol, drwy roi arian o bosibl, ond roedd angen penodol am deganau ar gyfer bechgyn;

·                       Ar wahoddiad y Cadeirydd, dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole fod ei 'Ddiwrnod Golff yr Arweinydd' ar 6 Hydref 2018 wedi codi £2826.50 ar gyfer Uned Gofal Canser y Fron yn Ysbyty’r Tywysog Philip, Llanelli. Diolchodd i aelodau ei dîm, i Glwb Golff Ashburnham ym Mhen-bre ac i Nigel Owens am gefnogi'r digwyddiad;

·                       Ar ôl clywed diweddariad y Prif Weithredwr ynghylch datblygiadau diweddar o ran Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd Llanelli yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol ar 3 Rhagfyr 2018, dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi gofyn i'r Prif Weithredwr roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyngor hefyd. Dyma ymateb y Prif Weithredwr:

"Diolch i chi Gadeirydd. Fel y dywedoch chi, roeddech  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

CYMERADWYO A LLOFNODI COFNODION CYFARFOD Y CYNGOR OEDD WEDI EI GYNNAL AR 14 TACHWEDD 2018, GAN EU BOD YN GYWIR pdf eicon PDF 555 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd 2018 gan eu bod yn gywir.

 

5.

CYFLWYNIAD INSIGHT

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod nifer o ddisgyblion o ysgolion Sir Gaerfyrddin wedi cymryd rhan mewn digwyddiad yn ddiweddar a gynhaliwyd yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli, a roddodd gipolwg i'r disgyblion ar y penderfyniadau anodd y mae awdurdod lleol yn eu hwynebu o ran y broses o bennu cyllideb. Roedd y digwyddiad, a gynhelir yn flynyddol, wedi rhoi cyfle i'r disgyblion ystyried gwahanol gynigion cyllideb a gwneud argymhellion o ran rôl y Bwrdd Gweithredol.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd ddisgyblion o bob un o'r ysgolion canlynol, a amlinellodd y cyflwyniadau yr oeddent wedi'u gwneud yn ystod y digwyddiad uchod:

 

Maes y Gwendraeth

Dyffryn Amman

Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth

Bro Dinefwr

Bro Myrddin

 

Wedyn llongyfarchwyd y disgyblion ar eu cyflwyniadau a diolchwyd iddynt am ddod.

 

6.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

7.

CWESTIYNAU GAN AELODAU:-

Dogfennau ychwanegol:

7.1

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR:

“Yn 2016, dywedodd yr Awdurdod hwn mewn datganiad i'r wasg: "Mae'r cytundeb cydweithio sydd wedi deillio o'r broses gaffael rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin, Prifysgol Abertawe a Sterling Health Security Holdings, o fewn consortiwm o bartneriaid gan gynnwys Siemens, Fujitsu, Pfizer, Faithful & Gould, David Morley Architects a Medparc.” A allai Arweinydd y Cyngor ddatgan a oes unrhyw bartneriaid eraill yn y consortiwm, ar wahân i’r rhai a nodwyd uchod?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 

 

 

“Yn 2016, dywedodd yr Awdurdod hwn mewn datganiad i'r wasg: "Mae'r cytundeb cydweithio sydd wedi deillio o'r broses gaffael rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin, Prifysgol Abertawe a Sterling Health Security Holdings, o fewn consortiwm o bartneriaid gan gynnwys Siemens, Fujitsu, Pfizer, Faithful & Gould, David Morley Architects a Medparc.” A allai Arweinydd y Cyngor ddatgan a oes unrhyw bartneriaid eraill yn y consortiwm, ar wahân i'r rhai a nodwyd uchod?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

“Diolch i chi am y cwestiwn. Ni ddechreuodd y broses gaffael i gael partner datblygu ar gyfer Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd tan 2017.  Felly ni chyhoeddwyd datganiad i'r wasg yn 2016 a oedd yn nodi cytundeb cydweithio canlyniadol."

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Rob James:

 

"Yn y digwyddiad lansio busnes ar gyfer y Fargen Ddinesig yr wythnos ddiwethaf, roeddech yn gwadu y cytunwyd eisoes mai Vinci, y cwmni adeiladu mawr o Ffrainc, yw'r contractwr ar gyfer y prosiect hwn. Mae'r gymuned fusnes leol wedi bod yn amyneddgar iawn gennych ond erbyn hyn maent yn pryderu bod hyn yn dechrau edrych fel twyll.  Felly, yn y cytundeb cydweithio a lofnodwyd, a oedd contractwr adeiladu wedi'i nodi yn y ddogfen honno ac ai Vinci Plc oedd hwnnw?

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:

 

"Rwy'n cael anhawster deall pam nad yw fy nghydweithiwr yn deall yr ateb.   Unwaith eto, yr ateb yw nad oedd contractwr wedi'i nodi.  Nid oes neb wedi cael ei benodi, fel y mae wedi cael ei esbonio'r wythnos ddiwethaf ac eto fore heddiw. Roedd y cytundeb cydweithio ar waith ac fel y dywedwyd yn glir yn y datganiad sefyllfa gan y Prif Weithredwr fore heddiw, mae hwnnw wedi cael ei ddweud eto a hoffwn ychwanegu mai'r ateb yw nad oedd. Ac fel y dywedais yn y cyfarfod yr wythnos ddiwethaf, nad oedd neb. Roedd y broses wedi'i hamlinellu'n glir ac mae'n sicr mai honno yw'r broses. Nid oes neb wedi'i benodi ac nid oes ymrwymiad wedi'i wneud. Dechreuodd y broses gaffael drwy gyhoeddi Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw (PIN) ar 18 Mawrth 2017 - dyma fy mhwynt cyntaf.  Diben hwnnw oedd rhoi gwybod i'r farchnad am ein bwriad i dendro a chynnal ymarfer ymgysylltu â'r farchnad.  Wedyn roedd proses o gynnal trafodaethau.  Eglurais hyn y mis diwethaf, a ddaeth i ben drwy lofnodi'r cytundeb cydweithio yr ydym wedi clywed amdano rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin, Prifysgol Abertawe a Sterling Health Security Holdings. Trwy gydol y broses honno cafodd nifer o gwmnïau rhyngwladol a chenedlaethol eu cynnwys yn y trafodaethau, ynghyd â sefydliadau ariannol y Fargen Ddinesig.  Roedd y rhain yn cynnwys pob un a nodwyd yn eich cwestiwn blaenorol."

 

 

 

 

7.2

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR:

“Mae Arweinydd y Cyngor wedi datgan yn flaenorol nad yw Cyfarwyddwyr Cwmnïau'r Cyd-fenter wedi cael eu pennu eto ac nad yw'r strwythur corfforaethol wedi cael ei ddatblygu gyda'r partneriaid eto i gyflawni'r pentref. A yw Arweinydd y Cyngor bellach mewn sefyllfa i ddweud wrth y Cyngor pwy yw'r Cyfarwyddwyr ac a yw'r strwythur corfforaethol hwnnw wedi cael ei gwblhau?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 

 

“Mae Arweinydd y Cyngor wedi datgan yn flaenorol nad yw Cyfarwyddwyr Cwmni'r Cyd-fenter wedi cael eu pennu eto ac nad yw'r strwythur corfforaethol wedi cael ei ddatblygu gyda'r partneriaid eto i gyflawni'r pentref. A yw Arweinydd y Cyngor bellach mewn sefyllfa i ddweud wrth y Cyngor pwy yw'r Cyfarwyddwyr ac a yw'r strwythur corfforaethol hwnnw wedi cael ei gwblhau?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:

 

"Nid ydym yn gallu egluro'r strwythur corfforaethol na dweud pwy yw'r cyfarwyddwyr eto, i ateb eich cwestiwn. Rydym yn parhau i gael cymorth cyfreithiol penodol er mwyn sicrhau ein bod yn creu strwythur a fydd yn ein galluogi i ddatblygu'r pentref yn y ffordd orau a rhoi'r nifer uchaf bosibl o gyfleoedd i'r Awdurdod, ac yn bwysig iawn, rhoi'r manteision gorau i breswylwyr y Sir.  Bydd y manteision hyn yn cynnwys y swyddi da a chadarn yr ydym wedi siarad amdanynt a'u hamlinellu.  Mae'r hyfforddiant yn cynnwys prentisiaethau, hyfforddiant i nyrsys, meddygon, therapyddion, canolfan hamdden newydd, cyfleusterau i'r henoed a chanolfan iechyd gymunedol yn Llanelli, gyda chymorth ein partneriaid Bwrdd Iechyd.  Mae'r Bwrdd Gweithredol wedi cytuno bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i swyddogion er mwyn creu'r strwythur corfforaethol hwnnw a byddaf yn sicrhau ei bod yn cael ei chyflawni.  Bydd hyn hefyd yn sicrhau bod yr holl gyfathrebu angenrheidiol yn digwydd â'r aelodau wrth i ni gyflawni'r broses honno a symud ymlaen."

 

7.3

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB JAMES I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR:

“Rhagwelwyd y byddai cam cyntaf y Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd yn agor yn gynnar yn 2021. A yw Arweinydd y Cyngor yn credu eich bod yn unol â'r targed o ran cyflawni'r nod hwn ar hyn o bryd?”

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

“Rhagwelwyd y byddai cam cyntaf y Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd yn agor yn gynnar yn 2021. A yw Arweinydd y Cyngor yn credu eich bod yn unol â'r targed o ran cyflawni'r nod hwn ar hyn o bryd?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:

 

"Ydw, ein nod o hyd yw agor cam cyntaf y pentref ym mis Medi 2021.  Mae'r cam cyntaf yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gan dîm o 19 gwahanol ddisgyblaeth o Arup a bydd yn cynnwys y ganolfan lesiant a fydd yn cynnwys y cyfleusterau chwaraeon, hamdden a gweithgareddau d?r. Bydd y ganolfan iechyd gymunedol yn cynnwys yr elfennau ymchwil, datblygu busnes, addysg, sgiliau a hyfforddiant a'r ddarpariaeth glinigol ynghyd â'r llecyn agored cyhoeddus."

 

Cwestiwn Atodol gan y Cynghorydd Rob James:

 

"Pan lofnodwyd y cytundeb cydweithio, roedd chwe pherson yn y llun. Mae dau ohonynt wedi cael eu hatal, mae un wedi ymddiswyddo a thorrwyd cysylltiad ag un arall. Yr unig un sydd ar ôl yw chi, Arweinydd y Cyngor hwn. Rydych wedi bod yn gweithio ar hyn ers tair blynedd felly onid ydych yn credu, o ystyried popeth sydd wedi digwydd yn yr wythnosau diwethaf, ei bod hi'n amser i chi ailystyried eich swydd fel Arweinydd y Cyngor."

 

 

Ymateb gan y Cynghorydd Emlyn Dole, Arweinydd y Cyngor:

 

"Rwyf wir yn cael trafferth deall pam mae Arweinydd y Gr?p Llafur yn beirniadu prosiect mwyaf y Fargen Ddinesig ar gyfer Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn gyson. Prosiect trawsnewidiol ydyw, nid ar gyfer ardal Llanelli yn unig, ond ar gyfer y rhanbarth cyfan. Bydd yn darparu canolfan hamdden newydd sbon o'r radd flaenaf ar gyfer pobl Llanelli. Dyma fydd lleoliad y Ganolfan Lesiant, y Sefydliad Gwyddor Bywyd, llecynnau agored cyhoeddus, llety byw â chymorth, cartref gofal a chyfleuster meithrin busnesau. Llwybr o'r maes clinigol i'r gymuned. Canolfan gymunedol ar gyfer iechyd. Felly pam na all gefnogi'r prosiect a'r bobl y cafodd ei ethol i'w cynrychioli? Hoffwn ateb fy nghwestiwn fy hun, oherwydd mai clymblaid dan arweiniad Plaid sy'n darparu ar gyfer pobl Llanelli. Yn y cyfamser, ein bwriad yw dechrau adeiladu tai Cyngor yn Llanelli am y tro cyntaf ers 40 mlynedd.  Beth maent yn ei wneud? Gwrthwynebu. Rydym yn cyhoeddi y bydd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn cael ei hadeiladu yn Llanelli.  Beth mae'n ei wneud?  Gwrthwynebu. Rydym yn gwario £3 miliwn neu ragor ar brynu eiddo gwag yng nghanol tref Llanelli. Rydym yn lansio Stryd Cyfleoedd o dan y Prif Gynllun Rhanbarthol ar gyfer canol y dref. Beth maent yn ei wneud? Gwrthwynebu. Rydym yn gweithredu rhaglen ymgysylltu cymunedol ar gyfer ward Ty-isa i ystyried amddifadedd yng nghyd-destun y ward cyfan er mwyn mynd i'r afael â'r prif broblemau y mae'r gymuned honno yn Llanelli yn eu hwynebu, mewn ffordd gyfannol am y tro cyntaf.  Beth maent yn ei wneud?  Ceisio cipio'r broses. Y gwir yw bod y cyfan yn pwysleisio eu rhwystredigaeth. Pan ddechreuais fel Arweinydd bedair blynedd yn ôl, un o'r pethau cyntaf y gwnes  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 7.3

8.

RHYBUDD O GYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD LOUVAIN ROBERTS

 

“Bydd yr holl gynlluniau a gyflwynir gan ddatblygwr preifat ar gyfer adeiladu 3 eiddo neu fwy yn destun amod cyn cynllunio er mwyn sicrhau na fydd datblygwyr yn cael caniatâd cynllunio oni bai eu bod yn cytuno y bydd yr holl ffyrdd sy'n rhan o'r datblygiad yn cael eu mabwysiadu gan yr Awdurdod Lleol ar ôl cwblhau'r gwaith ac felly mae'n rhaid iddynt gydymffurfio â safon y Cyngor Sir o ran yr holl ffyrdd. Swm addas o arian i'w gyflwyno mewn ymddiriedolaeth gan y datblygwr i wneud y gwaith hwn cyn dechrau unrhyw waith adeiladu."

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod y Rhybudd o Gynnig wedi'i dynnu'n ôl.

 

 

9.

YSTRIED ARGYMHELLION Y BWRDD GWEITHREDOL O RAN Y MATERION CANLYNOL:-

Dogfennau ychwanegol:

9.1

ADOLYGIAD O'R POLISI HAPCHWARAE pdf eicon PDF 172 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd J. Jenkins wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y Siambr.)

 

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 19 Tachwedd 2018 (gweler cofnod 15), wedi ystyried adroddiad ynghylch yr adolygiad o'r Polisi Hapchwarae, a oedd yn cynnwys Dogfen Ymgynghorol 2018 a'r Polisi Hapchwarae diwygiedig - Deddf Hapchwarae 2005.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:

 

“bod y Polisi Hapchwarae diwygiedig yn cael ei gymeradwyo.”

 

 

9.2

ADOLYGIAD O'R POLISI TRWYDDEDU pdf eicon PDF 139 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 19 Tachwedd 2018 (gweler cofnod 16), wedi ystyried adroddiad ynghylch yr adolygiad o Bolisi Trwyddedu'r Awdurdod a oedd yn cynnwys yr Adroddiad Ymgynghori ynghylch y Polisi Trwyddedu a Datganiad diwygiedig y Polisi Trwyddedu a oedd yn adlewyrchu canlyniadau'r broses o ymgynghori ac adolygu.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr argymhelliad canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

 

"cymeradwyo'r Polisi Trwyddedu diwygiedig."

 

10.

DERBYN ADRODDIAD CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALIWYD AR 19EG TACHWEDD, 2018 pdf eicon PDF 233 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn adroddiad cyfarfod y Bwrdd Gweithredol a gynhaliwyd ar 19 Tachwedd 2018.

 

11.

AELODAETH PWYLLGORAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 2(2)(n) ac ar ôl derbyn enwebiadau gan y grwpiau gwleidyddol perthnasol:

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

11.1 nodi y byddai'r Cynghorydd Mansel Charles yn cymryd lle'r Cynghorydd Andrew James fel un o gynrychiolwyr Gr?p Plaid Cymru ar y Pwyllgor Craffu - Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd;

 

11.2 nodi y byddai'r Cynghorydd Gary Jones yn cymryd lle'r Cynghorydd Andre McPherson fel un o gynrychiolwyr Gr?p Llafur ar y Pwyllgor Craffu - Iechyd a Gofal Cymdeithasol;

 

11.3 penodi'r Cynghorydd Rob James i wasanaethu ar y Pwyllgor Safonau yn lle'r Cynghorydd Andre McPherson.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau