Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Kevin Thomas 01267 224027
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorydd A.S.J. McPherson.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL. Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.
|
|
MR DOUGLAS GLYNDWR THOMAS - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 139 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Douglas Glyndwr Thomas o Iron Gate Lodge, Talyllychau, Llandeilo, Caerfyrddin am drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Thomas ynghylch ei gais.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Thomas yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Douglas Glyndwr Thomas am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
|
|
MR SIMON JOHN GRIFFITHS - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 139 KB Cofnodion: Yn unol â Chofnod 6 o'i gyfarfod ar 24 Hydref, 2018, bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Simon John Griffiths o 36 Harddfan, y Bryn, Llanelli, am drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Griffiths ynghylch ei gais.
Cafwyd sylw gan ddarpar gyflogwr Mr Griffiths o blaid ei gais.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Griffiths yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Simon John Griffiths am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
|
|
MR BERNARD PRICE - CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 139 KB Cofnodion: Yn unol â Chofnod 7 o'i gyfarfod ar 24 Hydref, 2018, bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Bernard Price o 159 Trilwm, Trimsaran, Cydweli am adnewyddu ei drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Price ynghylch ei gais.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Price yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Bernard Price am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
|
|
MR SIMON MARTIN VAUGHAN - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 139 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Simon Martin Vaughan o 9 Carregamman Isaf, Rhydaman am drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Vaughan ynghylch ei gais.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Vaughan yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
PENDERFYNODD Y PWYLLGOR YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Simon Martin Vaughan am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
|
|
MR BRIAN WOOLOFF - CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT PDF 138 KB Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr Brian Wooloff o 9 Lôn yr Ysgol, Llanelli am adnewyddu ei drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat.
Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Wooloff ynghylch ei gais.
Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr. Wooloff yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd terfynol ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
Ar hynny:
PENDERFYNWYD cynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.
Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.
PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Brian Wooloff am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.
|
|
LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR Y DYDDIADAU CANLYNOL:- |
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 24 Hydref 2018 yn gofnod cywir.
|
|
Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 13 Tachwedd 2018 yn gofnod cywir.
|