Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr a Rhag-Ystafell, - 3 Heol Spilman, Caerfyrddin. SA31 1LE.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd J. Prosser.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL GAN GYNNWYS UNRHYW CHWIPIAU PLEIDIAU A RODDIR MEWN YMATEB I UNRHYW EITEM AR YR AGENDA

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.

 

4.

ADRODDIAD MONITRO ABSENOLDEB SALWCH - HANNER BLWYDDYN CHWARTER 2 2018/19 pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyfeirio at gofnod 5 o'r cyfarfod ar 14 Mehefin 2018, rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn darparu data ynghylch absenoldeb ar gyfer cyfnod cronnol Chwarter 2 blwyddyn ariannol 2018/19 ynghyd â chrynodeb o gamau gweithredu i gefnogi lleihau lefel yr absenoldeb salwch.Roedd y canlyniadau cronnol yn dangos gostyngiad parhaus o gymharu â Chwarter 2 2017/18. Roedd yr Is-adran Rheoli Pobl yn parhau i gefnogi a chynghori Timau Rheoli Adrannol, rheolwyr pobl a gweithwyr mewn perthynas â'r Polisi Absenoldeb Salwch a gweithdrefnau a chanllawiau cysylltiedig i sicrhau bod absenoldeb yn cael ei reoli mewn modd amserol, cyson a rhagweithiol. Yn benodol, tynnwyd sylw'r Pwyllgor at Gynllun Cymorth Ariannol Neyber a oedd ar fin cael ei lansio i gyflogeion. Roedd y cynllun hwn yn galluogi cyflogeion i gael benthyciadau a chynnyrch cynilo ar gyfraddau cystadleuol y gallent gael anhawster eu cael drwy fenthycwyr y stryd fawr ac a allai fel arall ddefnyddio benthycwyr diwrnod cyflog fel dewis arall. Roedd hyn yn deillio o gydnabod y gallai pryderon ariannol gyfrannu i absenoldeb cysylltiedig â straen a nod y cynllun oedd cefnogi staff a chynnig ateb arall.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

 

·         Cytunodd y Partner Busnes Arweiniol [Adnoddau Dynol] i ddarparu rhestr o'r ysgolion cynradd hynny nad oeddent wedi ymuno â'r Cynllun Absenoldeb Staff Ysgolion eto, sef ffordd arall o ddarparu yswiriant i ysgolion ar gyfer costau cyflenwi staff a oedd yn gweithredu yn unol ag egwyddorion cydfuddiannu ac nid er elw;

·         Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol [Rheoli Pobl] ei fod wedi cymryd rhan mewn trafodaethau â chynrychiolwyr undebau ynghylch mentrau i hyfforddi a chefnogi rheolwyr i ymdrin â materion iechyd meddwl ymysg staff ac, yn dilyn trafodaethau â TUC Cymru, y byddai cyllid Cronfa Ddysgu Undebau Cymru yn cael ei ddefnyddio i gefnogi rhagor o waith i godi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl yn gorfforaethol;

·         Cyfeiriwyd at y Fforwm Herio ac Adolygu Presenoldeb, [sy'n cael ei gadeirio gan y Cynghorydd Mair Stephens, y Dirprwy Arweinydd, a'i fynychu gan y Cynghorydd Giles Morgan, Cadeirydd y Pwyllgor Polisi ac Adnoddau] a oedd yn rhoi her a chymorth i Benaethiaid Gwasanaeth gynnal proffil uchel o ran rheoli presenoldeb;

·         Ailbwysleisiodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol [Rheoli Pobl] ei sylwadau a wnaed yn y cyfarfod ym mis Mehefin sef pan fydd pryderon parhaus ynghylch lefelau absenoldeb salwch efallai y byddai'r Pwyllgor am wahodd y Pennaeth Gwasanaeth perthnasol i gyfarfod er mwyn egluro'r sefyllfa ac amlinellu unrhyw gamau a gymerir i wella'r sefyllfa;

·         Gwnaed nifer o sylwadau ynghylch y cysylltiad posibl rhwng y gostyngiad yn nifer y staff mewn rhai meysydd a'r straen tebygol ar y staff sydd ar ôl;

·         Awgrymwyd lle y defnyddiwyd y gair 'gwahodd' yn yr adroddiad efallai y byddai'n fwy priodol defnyddio'r gair 'gofynnol’;

·         Derbyniodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol [Rheoli Pobl] awgrym y gallai fod yn briodol cymharu perfformiad Sir Gaerfyrddin ag awdurdodau lleol tebyg, sy'n wledig i raddau helaeth, yn hytrach nag awdurdodau megis Merthyr Tudful.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

4.1 derbyn yr adroddiad;

 

4.2  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

RHAGLEN TRAWSNEWID I WNEUD CYNNYDD (TIC) ADRODDIAD BLYNYDDOL 2017/18 A CHYNLLUN BUSNES 2018/19 - 2020/2021 pdf eicon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol 2017/18 a Chynllun Busnes 2018/19 - 2020/21 y Rhaglen Trawsnewid i Wneud Cynnydd [TIC]. Roedd yr Adroddiad Blynyddol yn rhoi manylion am waith y Rhaglen TIC dros y flwyddyn ddiwethaf, y canlyniadau a gyflawnwyd hyd yn hyn [cyfanswm o £7.7955 miliwn o arbedion ers 2012] ac yn edrych ymlaen at waith y rhaglen am y tair blynedd nesaf [£8.376 miliwn o arbedion a dargedir].

 

Mewn ymateb i bryder ynghylch a allai arbedion yn sgil adolygiadau TIC beryglu darparu gwasanaethau i'r cyhoedd mewn rhai meysydd, yn ogystal â chynyddu'r pwysau ar staff, sicrhawyd y Pwyllgor mai un o amcanion allweddol dull TIC oedd diogelu a gwella gwasanaethau rheng flaen yn ogystal â gallu darparu dull mwy effeithlon o weithio. Roedd yr arbedion hefyd yn galluogi adrannau i wynebu heriau ariannol yn awr ac yn y dyfodol gan gynnwys heriau anhysbys a allai ddeillio o BREXIT.

 

Mewn ymateb i sylw, cydnabu'r Pennaeth TGCh yr arbedion ariannol sylweddol a fyddai'n bosibl pe bai cofnod cyfannol ar gyfer pob unigolyn a oedd yn crynhoi gwybodaeth a gedwir gan y Cyngor a chyrff eraill megis yr Awdurdod Iechyd Lleol. Fodd bynnag, ychwanegodd nad oedd y systemau gwahanol a ddefnyddir gan bob corff yn galluogi hyn i ddigwydd ar hyn o bryd er bod platfform 'Fy Nghyfrif' wedi cael ei sefydlu i bobl ryngweithio â'r Cyngor ei hun. Nodwyd bod caffael hefyd yn faes sy'n cael ei ystyried o ran arbedion posibl, ac yn benodol lle y gellid caffael nwyddau a gwasanaethau ar y cyd â chyrff eraill. Roedd pob ymdrech yn cael ei wneud i gefnogi busnesau lleol. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Blynyddol 2017/18 a Chynllun Busnes 2018/19 - 2020/2021 y Rhaglen Trawsnewid i Wneud Cynnydd (TIC).

 

6.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL Y PRIF WEITHREDWR 2019/2022 pdf eicon PDF 146 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Adran y Prif Weithredwr 2019-22 a oedd yn amlinellu blaenoriaethau'r adran a sut yr oedd yn cefnogi'r Pum Ffordd o Weithio a 7 nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Nododd y Rheolwr Polisi Corfforaethol a Phartneriaeth gais am gopi caled o'r cynllun yn dangos datblygiadau yn Llanelli gan gynnwys llwybrau beicio a hefyd cytunodd i gyfleu cais i'r swyddogion priodol am fwy o gynrychiolaeth o ran aelodau lleol ar Dasglu Tref Rhydaman.

 

PENDERFYNWYD nodi'r Cynllun.

 

7.

CYNLLUN BUSNES ADRANNOL YR AMGYLCHEDD 2019/2022 pdf eicon PDF 145 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried darnau o Gynllun Busnes Adran yr Amgylchedd 2019-22 yn ymwneud â'r Is-adran Eiddo a oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor. Roedd y darnau o'r Cynllun yn amlinellu blaenoriaethau'r adran a sut yr oeddent yn cefnogi 5 Ffordd o Weithio a 7 nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

·         Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y Pennaeth Eiddo fod yr is-adran yn parhau i archwilio buddsoddi yn ynni'r haul ac mewn mathau eraill o ynni adnewyddadwy;

·         Mewn ymateb i sylw ynghylch dyfodol Neuadd y Dref Rhydaman, cadarnhaodd y Pennaeth Eiddo ei bod yn dal i fod yn un o adeiladau swyddfeydd craidd y Cyngor a dywedodd y byddai diweddariad ynghylch y Cynllun Rheoli Asedau Corfforaethol a'r Rhaglen Swyddfeydd yn cael ei gyflwyno yn y cyfarfod nesaf;

·         Cytunodd y Pennaeth Eiddo y gellid codi'r targed o gadw lefelau deiliadaeth eiddo sefydledig yn uwch nag 85% lle bo hynny'n bosibl.

 

PENDERFYNWYD nodi'r Cynllun.

 

8.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB CYFALAF A REFENIW 2018/19 pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Monitro Cyllideb Gorfforaethol yr Awdurdod ac adroddiadau adrannol y Prif Weithredwr a'r Gwasanaethau Corfforaethol fel yr oeddent ar 31 Awst 2018 mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2018/19. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys, am y tro cyntaf, atodiad a oedd yn rhoi manylion Monitro Arbedion 2018-19.

 

Roedd y canlynol ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad:

 

·         Roedd y swyddogion yn cydnabod pryderon ynghylch y ffaith bod y ffigurau yn adlewyrchu'r sefyllfa bron 4 mis o'r blaen gan gytuno i roi sylw i'r mater, ond rhoddwyd sicrwydd i'r Pwyllgor fod y sefyllfa ariannol eisoes wedi cael ei hystyried gan Reolwyr Cyllideb a'r Bwrdd Gweithredol yn y cyfamser mewn perthynas â chamau unioni i'w cymryd;

·         Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol fod y costau cynyddol oherwydd y galw am ofal cartref yn peri pryder ac yn rhoi pwysau ar y gyllideb ond y byddai'r pwysau yn fwy pe bai'r bobl dan sylw mewn cartrefi gofal;

·         Mewn ymateb i bryder y gallai terfynu swydd gynyddu'r pwysau ar aelodau eraill o staff dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol [Rheoli Pobl] y byddai'n rhaid i ddyletswyddau'r swydd ddod i ben o dan y meini prawf terfynu cyflogaeth;

·         Mynegwyd pryder ynghylch y pwysau ar y Gwasanaeth Cerdd i Ysgolion, yn enwedig o ystyried ei gyfraniad diwylliannol i'r sir.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

9.

ADRODDIAD CANOL BLWYDDYN YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1AF 2018 I MEDI 30AIN 2018 pdf eicon PDF 147 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr Adroddiad Canol Blwyddyn ynghylch Dangosyddion Darbodaeth a Rheoli'r Trysorlys am y cyfnod rhwng 1Ebrill 2018 a 30 Medi 2018 i sicrhau bod y gweithgareddau a wnaed yn gyson â gofynion Polisi a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys ar gyfer 2018-2019 a fabwysiadwyd gan y Cyngor ar 21 Chwefror, 2018.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad monitro.

 

10.

EGLURHAD AM BEIDIO Â CHYFLWYNO ADRODDIAD CRAFFU pdf eicon PDF 62 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad "peidio â chyflwyno".

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r adroddiad.

 

11.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU POLISI AC ADNODDAU pdf eicon PDF 121 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYDYN UNFRYDOL nodi'r adroddiad a fanylai ar y cynnydd o ran y camau gweithredu, y ceisiadau, neu'r atgyfeiriadau oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Craffu.

 

12.

EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL pdf eicon PDF 119 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn y rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 11 Ionawr 2019.

 

13.

COFNODION - 11 HYDREF, 2018 pdf eicon PDF 190 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Hydref 2018 yn gofnod cywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau