Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 2 (Adfywio), Neuadd y Sir, Caerfyddin - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Emma Bryer  01267 224029

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 19 MEDI 2018 pdf eicon PDF 83 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnod penderfyniadau’r cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Medi 2018, gan ei fod yn gywir.

 

3.

CEISIADAU I'R GRONFA CYMORTH DIGWYDDIADAU pdf eicon PDF 205 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad oedd yn rhoi manylion ynghylch cais am gymorth o’r Gronfa Cymorth Digwyddiadau a gafodd ei asesu ar sail ei gyfraniad at amcanion strategol yr Awdurdod o ran Twristiaeth, Cymunedau a’r Economi.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r cais canlynol am gymorth o’r Gronfa Cymorth Digwyddiadau, yn amodol ar y telerau a’r amodau a nodwyd yn y meini prawf ar gyfer y gronfa:-

 

Digwyddiad                                                               Swm

 

Treialon C?n Defaid 2019                           £2,000

 

4.

TALIADAU HAMDDEN 2019-20 pdf eicon PDF 158 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol yn ystyried crynhoad o ffioedd hamdden arfaethedig ar gyfer 2019-20.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys y ffioedd am y canlynol:

 

·         Gwasanaethau diwylliannol (canolfannau’r celfyddydau a theatrau)

·         Lleoliadau chwaraeon a hamdden (canolfannau hamdden a phyllau nofio)

·         Hamdden awyr agored (parciau gwledig, gan gynnwys Parc Arfordirol y Mileniwm, maes parcio Traeth Pentywyn a Chanolfan Addysg Awyr Agored Pentywyn).

 

Yn ystod y cyfarfod, cyfeiriodd Pennaeth Hamdden at y newidiadau canlynol yr awgrymwyd y dylid eu gwneud i’r adroddiad ar ôl ei gyhoeddi:

 

·         Tocyn Tymor Parc Gwledig Pen-bre – tâl o £55 y flwyddyn yn lle £53 y flwyddyn a £50 yn lle £47.50 am adnewyddu tocyn.

·         Y maes parcio y tu allan i Barc Gwledig Pen-bre – cael gwared â’r tâl o £1.10 am 1 awr a chodi £2 am hyd at ddwy awr.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r crynhoad o Ffioedd Hamdden am 2019-20 fel y nodwyd yn yr adroddiad, yn amodol ar y newidiadau uchod.

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau