Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Trwyddedu - Dydd Mercher, 24ain Hydref, 2018 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Davies, H.I. Jones a D.E. Williams.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

3.

TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MRS REBECCA LOUISE BURTON pdf eicon PDF 126 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod Mrs Rebecca Louise Burton o The Old Mill, Dre-fach Felindre, Llandysul, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei thrwydded.

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mrs Burton ynghylch y mater hwnnw.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mrs Burton yn cael rhybudd ynghylch ei hymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod Mrs Rebecca Louise Burton Lewis yn cael rhybudd ynghylch ei hymddygiad yn y dyfodol.

Y Rhesymau

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

4.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR LIONEL HUGH PHILLIPS pdf eicon PDF 118 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y cais gan Mr Lionel Hugh Phillips o Elm Lodge, Cwmbach, Hendy-gwyn ar Daf am drwydded yrru ddeuol ar gyfer cerbyd hacnai/hurio preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Phillips ynghylch ei gais a'r materion a godwyd gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu. 

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Phillips yn cael ei gymeradwyo.

 

Ar hynny:

 

PENDERFYNWYD cynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD gwrthod cais Mr Lionel Hugh Phillips am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Y RHESYMAU:

Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd, atebion yr ymgeisydd i'r Pwyllgor a'r ffeithiau a gyfaddefwyd ganddo, roedd y Pwyllgor o'r farn nad oedd yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

5.

DRWYDDED CERBYD HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 139 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod Mr Lionel Hugh Phillips wedi tynnu ei gais am Drwydded Cerbyd Hurio Preifat yn ôl yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor i wrthod ei gais am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat [gweler cofnod 4 uchod].

6.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR SIMON JOHN GRIFFITHS pdf eicon PDF 118 KB

Cofnodion:

 

 

Dywedodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wrth y Pwyllgor fod Mr Griffiths wedi rhoi gwybod i'r swyddogion nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod a'i fod wedi gofyn am ohirio ystyried ei gais. 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried cais Mr Simon John Griffiths am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat tan y cyfarfod nesaf.

 

7.

CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR BERNARD PRICE pdf eicon PDF 128 KB

Cofnodion:

Dywedodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu wrth y Pwyllgor fod Mr Price wedi rhoi gwybod i'r swyddogion nad oedd yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod a'i fod wedi gofyn am ohirio ystyried ei gais. 

 

PENDERFYNWYD gohirio ystyried cais Mr Bernard Price am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat tan y cyfarfod nesaf.

 

8.

CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR DANIEL PETER LEAVER pdf eicon PDF 128 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr Daniel Peter Leaver o 1 Dyffryn Tywi, Caerfyrddin am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Leaver ynghylch ei gais.  .

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Leaver yn cael ei ganiatáu a'i fod yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr Daniel Peter Leaver am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

Y Rhesymau

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

9.

CAIS I ADNEWYDDU TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT - MR DAVID WILLIAM DAVIES pdf eicon PDF 119 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr David William Davies o 15 Maes y Ffair, Caerfyrddin am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Davies ynghylch ei gais. 

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Davies yn cael ei ganiatáu ond ei fod yn cael ei atal am 7 diwrnod.

 

Ar hynny

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr David William Davies am adnewyddu ei Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

Y Rhesymau

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, roedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

10.

ADOLYGIAD O'R POLISI HAPCHWARAE pdf eicon PDF 174 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad ynghylch adolygiad o'r Polisi Hapchwarae a oedd yn cynnwys Dogfen Ymgynghorol 2018 a'r Polisi Hapchwarae diwygiedig - Deddf Hapchwarae 2005. Nododd yr Aelodau fod y Polisi Hapchwarae presennol a fabwysiadwyd gan yr Awdurdod ym mis Chwefror 2016 wedi dod i rym ar 11 Mawrth 2016. Roedd yn ofynnol, yn ôl y ddeddfwriaeth, i'r Polisi Hapchwarae gael ei adolygu o leiaf bob tair blynedd er mwyn sicrhau ei fod yn adlewyrchu adborth gan y gymuned leol fod yr amcanion statudol yn cael eu cyflawni. Roedd y Polisi Hapchwarae yn adlewyrchu canlyniadau'r ymgynghoriad a'r broses adolygu ac yn cydymffurfio â deddfwriaeth a chyfarwyddyd perthnasol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL fod y Polisi Hapchwarae diwygiedig yn cael ei gymeradwyo.

 

11.

ADOLYGIAD O'R POLISI TRWYDDEDU pdf eicon PDF 150 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Gan gyfeirio at gofnod 10 o gyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 24 Mai 2018, cafodd y Pwyllgor adroddiad ynghylch yr adolygiad o Bolisi Trwyddedu'r Awdurdod a oedd yn cynnwys yr Adroddiad Ymgynghori ynghylch y Polisi Trwyddedu a Datganiad diwygiedig y Polisi Trwyddedu a oedd yn adlewyrchu canlyniadau'r broses o ymgynghori ac adolygu. Roedd y Polisi Trwyddedu presennol wedi'i fabwysiadu ym mis Chwefror 2016, yn amodol ar gynnal ymgynghoriadau pellach ynghylch y posibilrwydd o fabwysiadu Polisi Effaith Gronnol mewn perthynas â Heol Awst, Caerfyrddin. Ym mis Ebrill 2018, diwygiwyd y ddeddfwriaeth er mwyn cyfeirio at Asesiadau Effaith Gronnol yn hytrach na Pholisïau Effaith Gronnol. Cynhaliwyd yr ymarfer ymgynghori rhwng 3 Ebrill a 1 Mehefin 2018 yn benodol ar gyfer awdurdodau cyfrifol, preswylwyr lleol, busnesau, deiliaid trwydded presennol a'u cynrychiolwyr gan gyrraedd 1000 o unigolion a sefydliadau. Nododd y Pwyllgor fod y ddogfen polisi trwyddedu ddiwygiedig a oedd yn amgaeedig wrth yr adroddiad, yn adlewyrchu canlyniadau'r ymgynghoriad a'r broses adolygu. O ganlyniad i'r ymarfer ymgynghori, y prif fater a godwyd oedd y darparwyd digon o dystiolaeth i gyfiawnhau mabwysiadu Asesiad Effaith Gronnol mewn perthynas â Heol Awst, Caerfyrddin. Roedd y cynllun dirprwyo wedi'i ddiwygio i adlewyrchu arferion da a newidiadau i'r ddeddfwriaeth.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R BWRDD GWEITHREDOL fod y Polisi Trwyddedu diwygiedig yn cael ei gymeradwyo.

 

12.

DEDDF TRWYDDEDU 2003 GWEITHDREFNAU AWDURDODI FFILMIAU pdf eicon PDF 106 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried fersiwn ddrafft o ddogfen Gweithdrefnau Awdurdodi Ffilmiau a oedd yn nodi proses eglur ar gyfer dosbarthu ffilmiau i'w dangos mewn mannau cyhoeddus, yn dilyn ymarfer ymgynghori diweddar ynghylch nifer o geisiadau mewn perthynas â chaniatáu i blant wylio ffilmiau byrion sydd heb eu dosbarthu. Roedd y weithdrefn yn seiliedig ar ddogfen arferion gorau a luniwyd gan Banel Arbenigwyr Trwyddedu Cymru Gyfan a oedd wedi'i diweddaru i adlewyrchu'r cynllun dirprwyo a nodir yn y Polisi Trwyddedu diwygiedig ar gyfer Sir Gaerfyrddin. Nododd y weithdrefn y byddai ceisiadau am ddosbarthu ffilmiau'n cael eu cyfeirio at Is-bwyllgor Trwyddedu i benderfynu arnynt, ac eithrio ceisiadau mewn perthynas â rhoi caniatâd i ddangos ffilm a awdurdodwyd gynt mewn lleoliad gwahanol, gan y byddai'r swyddogion yn ymdrin â hwy yn y lle cyntaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r Gweithdrefnau Awdurdodi Ffilmiau.

 

13.

PENODI AELODAU I EISTEDD AR IS-BWYLLGORAU TRWYDDEDU AR GYFER GWEDDILL 2018-19 pdf eicon PDF 126 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad ynghylch darpariaethau Deddf Trwyddedu 2003 a oedd yn manylu ar aelodaeth arfaethedig Is-bwyllgorau Trwyddedu "A" a "B" am weddill Blwyddyn y Cyngor 2018/19 yn dilyn newidiadau i aelodaeth y Pwyllgor Trwyddedu yn ddiweddar.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL y byddai aelodaeth Is-bwyllgorau Trwyddedu "A" a "B" am weddill Blwyddyn y Cyngor 2018/19 fel a ganlyn:-

 

Is-bwyllgor Trwyddedu "A”

Cynghorwyr: Fozia Akhtar, Mansel Charles; Ann Davies; Rob Evans: Amanda Fox; Ken Howell ac Elwyn Williams.

 

Is-bwyllgor Trwyddedu B”

Cynghorwyr: Tyssul Evans; Penny Edwards; Irfon Jones; Andre McPherson; Susan Phillips, Edward Thomas ac Eirwyn Williams.

 

14.

PENODI CADEIRYDDION YR IS-BWYLLGORAU TRWYDDEDU AR GYFER WEDDILL FLWYDDYN Y CYNGOR 2018/19

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried enwebiadau ar gyfer Cadeiryddion yr Is-bwyllgorau Trwyddedu ar gyfer gweddill Blwyddyn y Cyngor 2018/19 yn dilyn newidiadau o ran yr aelodau'n ddiweddar.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

14.1

Benodi'r Cynghorydd J.M. Charlesyn Gadeirydd Is-bwyllgor Trwyddedu "A" am weddill Blwyddyn y Cyngor 2018/19;

14.2

Penodi'r Cynghorydd H.I. Jones yn Gadeirydd Is-bwyllgor Trwyddedu "B" am weddill Blwyddyn y Cyngor 2018/19.

 

 

15.

IS BWYLLGOR TRWYDDEDU 'B' A GYNHALIWYD AR Y 31AIN GORFFENNAF 2018 pdf eicon PDF 190 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu "B" a gynhaliwyd ar 31 Gorffennaf 2018 gan eu bod yn gywir.

 

16.

IS BWYLLGOR TRWYDDEDU 'A' A GYNHALIWYD AR Y 18FED MEDI 2018 pdf eicon PDF 71 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu "B" a gynhaliwyd ar 18 Medi 2018 gan eu bod yn gywir.

 

17.

IS BWYLLGOR TRWYDDEDU 'B' A GYNHALIWYD AR Y 26AIN MEDI 2018 pdf eicon PDF 372 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod Is-bwyllgor Trwyddedu "B" a gynhaliwyd ar 26 Medi 2018 gan eu bod yn gywir.

 

18.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR Y 2AIL AWST 2018 pdf eicon PDF 179 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 2 Awst 2018 gan eu bod yn gywir.