Agenda a Chofnodion

Cabinet - Dydd Llun, 22ain Hydref, 2018 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr H.A.L. Evans a P.M. Hughes.

 

Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad i’r Bwrdd am yr hyn oedd wedi digwydd mewn perthynas â Storm Callum. Sir Gaerfyrddin ddioddefodd waethaf yn sgil y storm a gwelwyd y llifogydd mwyaf difrifol ers mwy na 30 mlynedd.

 

Cydymdeimlwyd â theulu Corey Sharpling a fu farw mewn digwyddiad trasig ar yr A484 yng Nghwmduad, rhwng Caerfyrddin ac Aberteifi, yn ystod Storm Callum.

 

[Cafwyd munud o dawelwch er cof am Mr Sharpling]

 

Dywedodd y Cadeirydd fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi bod yn allweddol o ran rhoi cymorth gwerthfawr i drigolion a busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y storm.

 

Roedd y llifogydd wedi effeithio ar tua 160 o gartrefi. Roedd y Cyngor wedi darparu’r cymorth canlynol:

 

·      RoeddSwyddogion Tai y Cyngor wedi ailgartrefu saith o deuluoedd yn uniongyrchol. Roedd llawer o’r rhai effeithiwyd wedi dod o hyd i’w llety dros dro eu hunain neu wedi cael cymorth gan eu cwmnïau yswiriant.

 

·      Roeddcronfa cymorth yn dilyn llifogydd o £100,000 wedi cael ei sefydlu a oedd yn cynnig taliad o £200 ymlaen llaw i unrhyw un oedd mewn angen. Anogwyd trigolion i wneud cais, ar-lein ac mewn person, a bu timau allan i’r ardaloedd a darwyd waethaf gan ddefnyddio gwasanaeth cwsmeriaid teithiol y Cyngor i gymunedau gwledig, ‘Hwb Bach y Wlad’.

 

·      Roeddcymorth ymarferol wedi cael ei roi trwy gasglu celfi ac eitemau t? a ddifrodwyd, helpu i gwblhau hawliadau yswiriant, cynnal profion trydanol am ddim a mwy. 

 

·      Gweithiodd y Cyngor gyda Celfi Xcel yn Nhre Ioan, Caerfyrddin i lansio apêl at bobl i roi celfi er mwyn helpu’r bobl oedd wedi colli llawer o’u heitemau.

 

·      Roeddrheolyddion lleithder wedi eu darparu i gynifer o gartrefi â phosibl.

 

Dywedwyd bod y Cyngor wedi rhoi’r cymorth canlynol i fusnesau:

 

·      Roeddcelfi, ffitiadau, ac offer a ddifrodwyd wedi cael eu casglu ac roedd ysgubwyr ffordd wedi bod i’r mannau a darwyd waethaf;

 

·       Roedd £200,000 wedi’i neilltuo o Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin ar gyfer cefnogi busnesau oedd mewn angen;

 

·      Bu Swyddogion Cymorth Busnes yn ymweld â 110 o fusnesau yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt, ac mae 67 ohonynt yn dal i gael cymorth. Yn ogystal, roedd cymorth ymarferol wedi cael ei roi er mwyn helpu busnesau yn ôl ar eu traed cyn gynted â phosibl.

 

 

O ganlyniad i sgil-effeithiau ofnadwy Storm Callum, amcangyfrifwyd bod y busnesau dan sylw wedi colli tua £3-4 miliwn, heb gynnwys colli enillion.

 

O ran priffyrdd, seilwaith, glanhau a gwaredu, dywedwyd bod:-

 

·    Yrholl ffyrdd a phontydd yn yr ardaloedd yr effeithiwyd arnynt wedi cael eu harchwilio, eu clirio a’u hailagor ac eithrio’r A484 yng Nghwmduad a oedd wedi’i chau o achos tirlithriad.

 

·    Ledled Sir Gaerfyrddin, roedd yr asesiad cychwynnol wedi amcangyfrif y byddai angen £3 miliwn i atgyweirio seilwaith y priffyrdd yn unig.

 

·    Gelwidtimau arbenigol i gefnogi  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 1.

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

3.

LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWEITHREDOL A GYNHALWYD AR Y 24 MEDI 2018 pdf eicon PDF 171 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 24 Medi, 2018 gan eu bod yn gywir.

 

 

4.

CWESTIYNAU Â RHYBYDD GAN AELODAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

5.

CWESTIYNAU A RHYBYDD GAN Y CYHOEDD

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

 

6.

DIWEDDARU RHAGLEN GYFALAF 2017-18 pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol, ar ôl nodi bod angen cywiro'r teitl i 'Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Raglen Gyfalaf 2018-19', yn ystyried yr adroddiad a roddai'r wybodaeth ddiweddaraf o ran sefyllfa derfynol y gyllideb ar gyfer rhaglen gyfalaf 2018/19 ar 30 Mehefin, 2018.

Yn adrannol rhagwelwyd gwariant net o £62,301k o gymharu â chyllideb net weithredol o £60,757k gan roi £1,554k o amrywiant. Roedd y gyllideb net wedi cael ei hailbroffilio gan £3.81m o 2018/19 i'r blynyddoedd i ddod er mwyn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf am y proffil gwariant. Yn ogystal, cynhwyswyd y llithrad yn y gyllideb o 2017/18 yn y ffigurau a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Hefyd, nododd y Bwrdd Gweithredol fod ymarfer ailbroffilio Cyllideb Addysg a Gwariant Cyfalaf yn cael ei gyflawni ar hyn o bryd er mwyn dangos cynnydd y cynlluniau sy'n rhan o'r Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd a'r Rhaglen Moderneiddio Addysg.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad diweddaru ynghylch y rhaglen gyfalaf.

 

 

7.

ADRODDIAD MONITRO CYLLIDEB REFENIW Y CYNGOR pdf eicon PDF 181 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried yr adroddiad monitro'r gyllideb refeniw a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 30 Mehefin 2018, o ran 2018/2019.

 

Yn gyffredinol, roedd yr adroddiad yn rhagweld y byddai gorwariant diwedd blwyddyn o £3,016k ar gyllideb refeniw net yr Awdurdod ac y byddai gorwariant o £3,918k ar lefel adrannol. Roedd y Cyfrif Refeniw Tai yn rhagweld tanwariant o £98k i ddiwedd y flwyddyn.

 

O ystyried y rhagwelir gorwariant sylweddol o bosibl, a fyddai'n defnyddio oddeutu traean o gronfa gyffredinol y Cyngor, roedd yr adroddiad yn argymell bod y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu eu sefyllfaoedd cyllidebol yn feirniadol ac yn cymryd camau priodol ac angenrheidiol i ddarparu eu gwasanaethau yn unol â'r cyllidebau a ddyrannwyd iddynt fel mater o frys.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

7.1     derbyn yr Adroddiad Monitro ynghylch y Gyllideb Refeniw;

7.2       bod y Prif Swyddogion a'r Penaethiaid Gwasanaeth yn adolygu eu sefyllfaoedd cyllidebol yn feirniadol ac yn cymryd yr holl gamau angenrheidiol a phriodol i ddarparu eu gwasanaethau yn unol â'r cyllidebau a ddyrannwyd iddynt fel mater o frys.

 

 

8.

ADRODDIAD YNGYLCH RHEOLI'R TRYSORLYS A DANGOSYDD DARBODAETH EBRILL 1AF 2018 I MEHEFIN 30AIN 2018 pdf eicon PDF 157 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau rheoli'r trysorlys o 1 Ebrill, 2018 hyd at 30 Mehefin, 2018.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

9.

POLISI TALIADAU UNIONGYRCHOL CYNGOR SIR CAERFYRDDIN pdf eicon PDF 190 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar Bolisi Taliadau Uniongyrchol Cyngor Sir Caerfyrddin a ddiweddarwyd yn unol â'r newidiadau i'r ddeddfwriaeth, sef Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Rheoliadau Gofal a Chymorth (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2015 a Rhan 4 o Gôd Ymarfer Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Nododd y Bwrdd Gweithredol y prif newidiadau pwysig a wnaed i Bolisi blaenorol y 3 Sir fel y nodwyd yn yr adroddiad. Cafodd y Polisi Taliadau Uniongyrchol diwygiedig a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad ei ddiwygio i adlewyrchu'r newidiadau hynny.

 

Roedd yr adroddiad yn nodi bod taliadau uniongyrchol yn ffordd y gallai unigolion ag anghenion gofal a chymorth cymwys brynu eu gwasanaethau eu hunain er mwyn diwallu'r anghenion gofal a chymorth hynny. Roedd gan yr awdurdod lleol rwymedigaeth gyfreithiol i gynnig taliadau uniongyrchol i unrhyw un a oedd â hawl i gael gofal a chymorth.

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo Polisi Taliadau Uniongyrchol Cyngor Sir Caerfyrddin.

10.

POLISI DIOGELEDD GWYBODAETH pdf eicon PDF 136 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ar y Polisi Diogelwch Gwybodaeth a oedd wedi'i adolygu a'i ddiweddaru i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â deddfwriaeth bresennol (Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol) ac arferion gorau drwy ddarparu polisi cadarn er mwyn diogelu gwybodaeth y Cyngor. Cafodd nodweddion allweddol y Polisi Rheoli Mynediad a'r Polisi Hawlfreintiau, Dyluniadau a Phatentau eu cynnwys yn y Polisi Diogelwch Gwybodaeth diwygiedig.

 

Nododd y Bwrdd Gweithredol dri phrif amcan y polisïau:

 

·       Sicrhau bod asedau gwybodaeth a chyfarpar TGCh y Cyngor yn cael eu diogelu’n ddigonol rhag unrhyw weithred a allai gael effaith niweidiol ar ddiogelwch gwybodaeth.

 

·       Bod pob ased gwybodaeth yn “eiddo” i swyddog penodol yn yr awdurdod.  Mae'r Cyngor yn diffinio pob Pennaeth Gwasanaeth fel Perchennog Asedau Gwybodaeth.

 

·       Bod staff ac aelodau etholedig yn gwybod am yr holl ddeddfwriaeth berthnasol a pholisïau’r Cyngor ac yn cydymffurfio â hwy wrth gyflawni eu dyletswyddau beunyddiol o ran TGCh.

 

Roedd yr adroddiad yn argymell y dylid cyhoeddi'r polisi i'r holl staff a'r aelodau etholedig drwy ddefnyddio meddalwedd meta-compliance er mwyn sicrhau bod y polisi yn cael ei ddarllen a'i ddeall yn llwyr.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad a chymeradwyo'r Polisi Diogelwch Gwybodaeth diwygiedig.

 

 

11.

TREFNIADAU TALU CRWNERIAID pdf eicon PDF 245 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch Trefniadau Talu Crwneriaid a oedd yn rhoi manylion am fframwaith talu cenedlaethol newydd ac yn rhoi arweiniad i Grwneriaid a gyhoeddir gan y Cyd-bwyllgor Trafod Telerau ar gyfer Crwneriaid (JNC).

 

Roedd yr arweiniad a roddwyd gan y Cyd-bwyllgor wedi rhoi cymorth i awdurdodau lleol ynghylch y ffactorau sydd angen rhoi ystyriaeth iddynt er mwyn llunio darlun cyffredinol cytbwys o gymhlethdod crwner ardal. Roedd Cylchlythyr rhif 61 a 62 crwneriaid y Cyd-bwyllgor ynghlwm wrth yr adroddiad yn Atodiad 1 a 2 yn y drefn honno.

 

Nododd y Bwrdd Gweithredol fod cydweithwyr o Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin wedi cwrdd i drafod cyflog y Crwner ac wedi cytuno mewn egwyddor ar y cyflog newydd a fyddai'n cael ei dalu ar sail 50:50 gan y ddau Awdurdod. Roedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys y cyflog presennol a'r cyflog arfaethedig newydd yn ei gyfanrwydd yn Sir Gaerfyrddin.

 

Yn unol â'r arweiniad ac ar ôl trafod â'r Crwner, penderfynwyd ar gyfradd ddyddiol arfaethedig sef £440.00. Cyfrifwyd y gyfradd ddyddiol yn seiliedig ar gymhlethdod y llwyth achosion yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin a'r cyfraddau cyflog cenedlaethol a osodwyd gan y Cyd-bwyllgor Trafod Telerau ar gyfer Crwneriaid ym mis Ionawr 2018.

 

Roedd yr adroddiad yn cynnig y dylid mabwysiadu'r fframwaith ar gyfer pennu lefel cyflog y Crwner a lefel cyflog y Crwner Cynorthwyol, a gofynnwyd i'r Bwrdd Gweithredol gytuno ar bennu dyddiad ar gyfer ôl-ddyddio cyflog y Crwner.

 

Yn unol â'r arweiniad a'r fframwaith cenedlaethol newydd;

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

11.1     cytuno ar y cyflog ar gyfer y Crwner a'r Crwner Cynorthwyol, fel y nodwyd yn yr adroddiad;

 

11.2     ôl-ddyddio’r cyflog perthnasol ar gyfer y Crwner i 25 Medi 2018.

 

 

12.

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG SIR GAERFYRDDIN 2018-2033 pdf eicon PDF 418 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dywedwyd wrth y Bwrdd Gweithredol fod y Cyngor Sir yn ei gyfarfod ar 10 Ionawr 2018 wedi cytuno i ddechrau'n ffurfiol ar y gwaith o baratoi Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) diwygiedig (newydd), a'i fod wedi cael cymeradwyaeth Llywodraeth Cymru ar Gytundeb Cyflawni ar 28 Mehefin 2018 gan gynnwys amserlen ar gyfer paratoi'r cynllun.

 

Yn unol â'r argymhelliad hwnnw, ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad ar Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig 2018 sy'n gosod Fersiwn Drafft o'r Strategaeth a Ffefrir drwy nodi gweledigaeth y Cyngor o ran defnydd tir, amcanion strategol a gofynion twf strategol ar gyfer y Sir hyd at 2033. Atodwyd y dogfennau atodol canlynol i'r adroddiad:

 

·       Fersiwn Drafft o'r Strategaeth Cyn-adneuo a Ffefrir

·       Fersiwn Drafft o'r Arfarniad Cynaliadwyedd Cychwynnol (sy'n cynnwys y Datganiad Amgylcheddol Strategol)

·       Rhagamcanion Poblogaeth ac Aelwydydd - Papur Cyfarwyddo

 

Nododd y Bwrdd Gweithredol fod y Fersiwn Drafft o'r Strategaeth a Ffefrir wedi'i gynllunio i adlewyrchu cyfrifoldebau statudol y Cyngor er mwyn llunio'r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig dan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004.

 

Roedd yr adroddiad yn gofyn am gymeradwyaeth gan y Bwrdd Gweithredol er mwyn ei gyhoeddi fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol am gyfnod statudol o 6 wythnos o leiaf. Byddai Fersiwn Drafft o'r Strategaeth a Ffefrir, fel y nodwyd yn y Cytundeb Cyflawni, yn cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2018.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR;

 

12.1    cymeradwyo cynnwys y Fersiwn Drafft o'r Strategaeth a Ffefrir (a dogfennau atodol) ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig 2018-2033 at ddibenion ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol;

 

12.2     rhoi awdurdod dirprwyedig i swyddogion wneud addasiadau teipograffyddol neu ffeithiol ansylweddol yn ôl yr angen, i wella eglurder a chywirdeb y Fersiwn Drafft o'r Strategaeth a Ffefrir .

 

 

13.

CANLLAWIAU URDDAS A PHARCH YN Y GWEITHLE AR GYFER YSGOLION pdf eicon PDF 157 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad a oedd yn cynnwys Canllawiau newydd ynghylch Urddas a Pharch yn y Gweithle ar gyfer Ysgolion.

 

Roedd y canllawiau'n diffinio ymddygiad annerbyniol ac yn nodi strategaethau y gellid eu defnyddio i oresgyn effeithiau anodd ymddygiad o'r fath.  Dull a nod allweddol y canllawiau oedd disgwyl a hyrwyddo ymddygiad derbyniol fel y ffordd orau o atal ymddygiad annerbyniol.

 

Soniodd aelodau fod angen sicrhau bod yr holl ysgolion wedi darllen a deall y canllawiau, ac felly cynigwyd y dylid gofyn i Benaethiaid drefnu bod y canllawiau yn cael eu trafod yn ystod diwrnodau hyfforddiant mewn swydd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

13.1    cytuno i fabwysiadu'r Canllawiau ynghylch Urddas a Pharch yn y Gweithle ar gyfer Ysgolion;

 

13.2    gofyn i Bennaethiaid drefnu bod y Canllawiau ynghylch Urddas a pharch yn y Gweithle ar gyfer Ysgolion yn cael eu trafod yn ystod diwrnodau hyfforddiant mewn swydd.

 

 

 

14.

POLISI A GWEITHDREFN GWEITHIO'N HYBLYG AR GYFER YSGOLION pdf eicon PDF 155 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn cynnwys y Polisi a'r Weithdrefn Gweithio Hyblyg ar gyfer Ysgolion. 

 

Mae'r Polisi a'r Weithdrefn wedi'u datblygu i gynorthwyo Penaethiaid i ymdrin â cheisiadau gan weithwyr a oedd wedi defnyddio eu hawl statudol i wneud cais am weithio hyblyg. Roedd yr hawl statudol yn ceisio hwyluso trafodaethau ac annog y gweithiwr a’r rheolwr llinell i ystyried patrymau eraill o weithio hyblyg a dod o hyd i atebion a oedd yn cyd-fynd â gofynion y naill ochr a’r llall.

 

Nododd y Bwrdd, o dan ddarpariaethau a nodwyd yn Neddf Hawliau Cyflogaeth 1996 a'r rheoliadau a wnaed, fod gan bob gweithiwr yr hawl statudol i ofyn i'w gyflogwr am gael newid yn nhelerau ac amodau contractiol ei gyflogaeth er mwyn gweithio'n hyblyg, ar yr amod ei fod wedi gweithio i'w gyflogwr yn barhaus am o leiaf 26 wythnos ar y dyddiad y gwnaed y cais. 

 

Pwysleisiodd y Dirprwy Arweinydd nad oedd yr hawl statudol yn golygu bod hawl awtomatig i weithio'n hyblyg.

 

Cyfeiriwyd at bwynt 13 yn y canllawiau a oedd yn rhestru'r 'Rhesymau Busnes dros Wrthod Cais', a mynegwyd pryder ynghylch ysgolion bach a sut y gallent fod dan anfantais o ran gweithredu'r polisi oherwydd y cyllidebau sy'n lleihau a nifer y staff cyfyngedig. Cydnabuwyd er y gallai fod yn anodd i ysgolion bach roi'r un lefel o hyblygrwydd ag ysgolion mawr, yn enwedig yn ystod oriau dysgu, serch hynny, mae dyletswydd i gynnal safon uchel o addysg.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, gymeradwyo mabwysiadu'r Polisi a'r Weithdrefn Gweithio Hyblyg ar gyfer Ysgolion.

 

 

15.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) O DDEDDF LLYWODRAETH LEOL, 1972.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Diolchodd y Cadeirydd i'r staff am eu holl ymdrechion yn ystod ac yn dilyn y storm y penwythnos diwethaf. Roedd ymrwymiad a pharodrwydd y staff i fynd yr ail filltir yn golygu bod y Cyngor wedi gallu ymdrin â materion yn effeithiol ac yn effeithlon er mwyn diwallu anghenion y bobl yr effeithiwyd yn ddirfawr arnynt.