Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Gwener, 19eg Hydref, 2018 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Kevin Thomas  01267 224027

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd A. McPherson.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Aelod

Rhif yr Eitem

Math o Fuddiant

Y Cynghorydd J. Prosser

4 – Cais am Ollyngiad gan y Cynghorydd Andre McPherson

Ffrind Personol

Julie James

5 – Cais am Ollyngiad gan y Cynghorydd Edward Thomas

Cyd-aelod o'r Pwyllgor Archwilio gyda'r Cynghorydd Thomas

 

 

3.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 15FED MEHEFIN, 2018. pdf eicon PDF 212 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 15 Mehefin 2018 yn gofnod cywir.

 

4.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD ANDRE McPHERSON pdf eicon PDF 154 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(SYLWER: Gan fod y Cynghorydd J. Prosser, wedi datgan buddiant yn yr eitem hon eisoes, gadawodd y cyfarfod tra bod y Pwyllgor yn ei thrafod.)

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i gais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Andre McPherson am ganiatáu gollyngiad o dan ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) i siarad, pleidleisio ac i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ynghylch unrhyw waith y cyngor sy'n ymwneud â materion iechyd meddwl, a darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl, ond heb gynnwys unrhyw gais gan MIND Llanelli neu unrhyw Elusennau MIND eraill am gyllid neu unrhyw gymeradwyaeth rheoleiddiol.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd McPherson fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(i) o Gôd Ymddygiad yr Aelodau gan y bu'n gweithio fel seicolegydd clinigol a hefyd paragraff 10(2)(a)(ix)(bb) gan y bu'n Gadeirydd yr elusen MIND Llanelli.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd McPherson hefyd yn rhagfarnol, petai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel ei fod yn debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd McPherson wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD caniatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o ddarpariaethau Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Sir Andre McPherson SIARAD, OND NID PLEIDLEISIO, A CHYFLWYNO SYLWADAU YSGRIFENEDIG ar unrhyw faterion y cyngor sy'n ymwneud â materion iechyd meddwl a darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl, ac eithrio unrhyw gais gan MIND Llanelli neu unrhyw Elusennau MIND eraill am gyllid neu unrhyw gymeradwyaeth rheoleiddiol. Bydd y Gollyngiad yn ddilys tan ddiwedd ei dymor presennol yn y swydd.

 

 

5.

CAIS AM OLLYNGIAD GAN Y CYNGHORYDD EDWARD THOMAS pdf eicon PDF 155 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(NODER: Roedd Mrs J. James wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach)

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r cais a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Sir Edward Thomas am ganiatáu gollyngiad o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) fel y gallai siarad yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Llandeilo Fawr mewn perthynas ag unrhyw fater y cyngor sy'n ymwneud â'r grant blynyddol gan y Cyngor Tref i Gymdeithas Chwaraeon Llandeilo a'r Cylch.

 

Dywedwyd bod y cais am ollyngiad wedi'i wneud oherwydd bod gan y Cynghorydd Thomas fuddiant personol yn y materion hyn yn rhinwedd paragraff 10(2)(a)(ix)(ee) o Gôd Ymddygiad yr Aelodau gan ei fod yn Gadeirydd Cymdeithas Chwaraeon Llandeilo a'r Cylch.

 

Roedd buddiant y Cynghorydd Thomas hefyd yn rhagfarnol petai aelod o'r cyhoedd, o wybod yr holl ffeithiau, yn ystyried yn rhesymol fod y buddiant hwnnw mor arwyddocaol fel y byddai'n debygol o amharu ar farn y Cynghorydd ynghylch budd y cyhoedd.

 

Gan hynny, roedd y Cynghorydd Thomas wedi gofyn am ollyngiad o dan Reoliadau 2 (d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD caniatáu gollyngiad o dan Reoliadau 2(d) a (f) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 i'r Cynghorydd Edward Thomas SIARAD YN UNIG yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Llandeilo Fawr ar unrhyw faterion y cyngor sy'n ymwneud â'r grant blynyddol gan y Cyngor Tref i Gymdeithas Chwaraeon Llandeilo a'r Cylch, a bod y gollyngiad yn ddilys tan 31 Rhagfyr, 2019.

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU pdf eicon PDF 155 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2017/18 a oedd yn cynnwys y Datganiad Cyfrifon ac yn darparu gwybodaeth am achosion o gamweinyddu ac achosion Côd Ymddygiad y deliwyd â nhw gan ei swyddfa yn ystod cyfnod yr adroddiad.

 

Nododd y Pwyllgor fod y pwyntiau allweddol a godwyd yn yr adroddiad fel a ganlyn:

-       Cafwyd cyfanswm o 270 o gwynion yn ymwneud â chôd yn ystod y cyfnod adrodd gan gynrychioli cynnydd o 14% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, a oedd wedi deillio'n gyfan gwbl o'r cynnydd o 33% yn nifer y cwynion yn ymwneud â chôd yn erbyn cynghorau tref a chymuned, a'r mwyaf cyffredin ohonynt oedd oherwydd methiant ar ran aelod i hybu ansawdd a pharch.  

-       O'r cwynion hynny, (ynghyd â rhai a ddygwyd ymlaen o'r flwyddyn flaenorol) roedd yr Ombwdsmon wedi cau 247, wedi ymchwilio i 30 (gostyngiad o 32%) ac wedi dod o hyd i dystiolaeth o dorri rheolau mewn 13 yn unig (gostyngiad o 41%);

 

Gan gyfeirio'n benodol at Gyngor Sir Caerfyrddin, nodwyd bod cyfanswm o 6 ch?yn yn ymwneud â'r Cod Ymddygiad wedi'u gwneud yn erbyn aelodau'r Cyngor a chafodd y 6 eu cau ar ôl rhoi ystyriaeth gychwynnol iddynt.

 

Gyda golwg ar g?ynion yn ymwneud â'r Côd Ymddygiad yn erbyn Cynghorau Tref a Chymuned yn Sir Gaerfyrddin, roedd yr Ombwdsmon wedi delio ag 17 o g?ynion yn erbyn cynghorwyr cymuned h.y. Llanddowror a Llanmilo (2), Cyngor Gwledig Llanelli (1), a Phen-bre a Phorth Tywyn (14).

 

Cyfeiriodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol at y 14 cwyn a gafwyd yn erbyn Cyngor Tref Pen-bre a Phorth Tywyn a dywedodd y byddai'r Swyddog Monitro yn darparu Hyfforddiant Côd Ymddygiad ar gyfer yr Awdurdod hwnnw.

 

Cyfeiriwyd at y cwynion a wnaed yn erbyn Cynghorwyr Sir a Chynghorwyr Tref a Chymuned a gofynnwyd a fyddai'n bosibl i'r Pwyllgor gael gwybodaeth ychwanegol am y cwynion hynny. Cadarnhaodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai'n trafod y cais â Swyddog Monitro'r Cyngor.

 

Cyfeiriwyd at dudalen 73 o'r adroddiad a'r dadansoddiad yn ôl gr?p oedran o gwynion a dderbyniwyd gan yr Ombwdsmon, lle'r oedd 60% yn y gr?p oedran 35-65 a dim ond 14% yn y gr?p oedran o dan 35. Codwyd cwestiwn ynghylch a fyddai'n bosibl i Gynghorau Tref a Chymuned roi manylion llawn eu haelodau fesul oedran a sawl un a oedd wedi mynychu'r Hyfforddiant Côd Ymddygiad. Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol y byddai'n cynnwys cais o'r fath yn yr holiadur blynyddol a anfonir at Gynghorau Tref a Chymuned ac yn ymgorffori'r ymatebion yn adroddiad blynyddol nesaf y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

7.

PENDERFYNIAD PANEL DYFARNU CYMRU pdf eicon PDF 164 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Banel Dyfarnu Cymru yn manylu ar ei ganfyddiadau yn achos Graham Down, cyn-gynghorydd Cyngor Sir Fynwy (bellach yn gynghorydd cymuned). Cyfeiriwyd y mater i'r Panel gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru o ganlyniad i gwynion a ddaeth i law fod y Cynghorydd Down wedi torri'r Côd am fethu â dangos parch ac ystyriaeth i eraill drwy wneud cyfres o ddatganiadau homoffobig mewn e-byst at Brif Weithredwr y Cyngor. Ar ôl ystyried cynnwys pump o'r negeseuon e-bost, daeth y Panel i'r casgliad fod y Cynghorydd Down wedi torri Côd Ymddygiad yr Aelodau o ran dau o'r negeseuon hynny, ac fe'i waharddwyd am ddau fis.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

8.

PANEL DYFARNU CYMRU - CANLLAWIAU YNGHYLCH SANCSIYNAU pdf eicon PDF 154 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried canllawiau a gyhoeddwyd gan Banel Dyfarnu Cymru ar gyfer Pwyllgorau Safonau ynghylch gosod sancsiynau ar ôl canfod fod cynghorydd wedi torri'r Côd Ymddygiad. Roedd y canllaw yn nodi'r pum maes canlynol i Bwyllgorau Safonau o ran ymchwilio i gwynion yn ymwneud â chôd:-

 

1.    Bod yr egwyddorion sylfaenol yn berthnasol wrth osod sancsiwn ar gyfer achosion o'r fath.

2.    Perthnasedd deddfau hawliau dynol, yn enwedig Erthygl 10 o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (rhyddid pobl i fynegi eu hunain)

3.    Y broses gywir ar gyfer penderfynu ar sancsiwn priodol, sef:-

(a)  Asesu difrifoldeb yr achos o dorri'r rheolau

(b)  Nodi'r math mwyaf priodol o sancsiwn

(c)  Ystyried sancsiynau lliniarol a gwaethygol perthnasol

(d)  Ystyried a oedd unrhyw addasiad pellach yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y sancsiwn yn briodol

(e)  Cadarnhau'r sancsiwn a'r rhesymau dros ddewis y sancsiwn hwnnw.

4.    Yr amrywiaeth o sancsiynau sydd ar gael i Bwyllgorau Safonau.

5.    Enghreifftiau o ffactorau lliniaru a gwaethygol y gellir eu hystyried.

 

Yn ogystal â'r uchod, roedd y Canllawiau hefyd yn rhoi cyngor ar b?er y Panel Dyfarnu i wneud argymhellion i awdurdod lleol a'i Bwyllgor Safonau ynghylch eu swyddogaeth a chôd ymddygiad yr awdurdod.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

9.

COFLYFR CÔD YMDDYGIAD YR OMBWDSMON pdf eicon PDF 154 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor y rhifyn diweddaraf o ‘Goflyfr Côd Ymddygiad’ Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2018, yn rhoi crynodeb o'r tri ymchwiliad côd a gynhaliwyd yn ymwneud ag aelodau o Gynghorau Sir a Chynghorau Cymuned. Nid oedd dim o'r achosion yn berthnasol i gynghorwyr o Sir Gaerfyrddin.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

10.

CANLLAW CYMDEITHAS LLYWODRAETH LEOL CYMRU I GYNGHORWYR YNGHYLCH Y CYFRYNGAU CYMDEITHASOL pdf eicon PDF 152 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried canllawiau a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gynghorwyr mewn perthynas â'r defnydd o gyfryngau cymdeithasol. Roedd y canllaw yn esbonio rhai o'r cyfryngau cymdeithasol mwyaf cyffredin sydd ar gael, manteision ac anfanteision eu defnyddio, 'Prif Reolau' defnyddio'r cyfryngau a'u cysylltiad â Chôd Ymddygiad yr Aelod. Roedd hefyd yn cyfeirio at y rhwymedigaethau troseddol a sifil amrywiol a allai ddeilio o unrhyw achos o gamddefnyddio.

 

Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad gan nodi'r angen am gynnwys y defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol mewn hyfforddiant ar y Côd Ymddygiad a ddarperir gan y Cyngor yn y dyfodol. Roedd y Pwyllgor hefyd o'r farn y dylid anfon y canllawiau at glercod y Cynghorau Tref a Chymuned yn Sir Gaerfyrddin er mwyn iddynt eu dosbarthu i'w haelodau etholedig.

 

Ymatebodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol i gwestiwn ynghylch a oedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cyhoeddi rhifyn diweddarach a oedd yn cynnwys rhan ar gam-drin ar-lein, ac os yw ar gael, a fyddai'n sicrhau bod y fersiwn ddiweddaraf yn cael ei dosbarthu i glercod Cynghorau Tref a Chymuned.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

10.1    

bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;

10.2

Bod y defnydd o'r Cyfryngau Cymdeithasol yn cael ei gynnwys yn yr hyfforddiant ar y Côd Ymddygiad yn y dyfodol ar gyfer Cynghorwyr Tref a Chymuned yn Sir Gaerfyrddin.

10.3

Bod copi o'r Canllaw ynghylch y Cyfryngau Cymdeithasol yn cael ei anfon at glercod y Cynghorau Tref a Chymuned yn Sir Gaerfyrddin.

 

 

11.

HYFFORDDIANT YNGHYLCH Y CÔD YMDDYGIAD AR GYFER CYNGHORWYR TREF A CHYMUNED 2018 pdf eicon PDF 168 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ar ddwy sesiwn hyfforddiant a gynhaliwyd ar 14 a 26 Mehefin, 2018 yngl?n â Chôd Ymddygiad yr Aelodau ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned. Roedd 80 o bobl yn bresennol ynddynt a oedd yn cynrychioli 30 o wahanol Gynghorau Tref a Chymuned. Nodwyd bod copïau o'r cyflwyniad ar gyfer yr hyfforddiant, yr astudiaethau achos a'r canllaw hwylus ynghylch buddiannau personol wedi'u dosbarthu i'r holl Gynghorau Tref a Chymuned yn Sir Gaerfyrddin.

 

Cafwyd trafodaeth ynghylch ffyrdd gwahanol o gynyddu nifer y cynghorwyr tref a chymuned sy'n mynychu'r hyfforddiant, a oedd yn cynnwys cadw'r drefn bresennol o ran hyfforddiant yn Neuadd y Sir, cynyddu defnydd y Gymraeg, dosbarthu gwahoddiadau personol i gynghorwyr, defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, cymhorthion electronig ar-lein ynghyd â fideo ar-lein o'r hyfforddiant.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad

 

12.

UNRHYW FATER ARALL Y GALL Y CADEIRYDD OHERWYDD AMGYLCHIADAU ARBENNIG, BENDERFYNU EI YSTYRIED YN FATER BRYS YN UNOL AG ADRAN 100B(4)(B) DEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972

Cofnodion:

Nid oedd dim materion brys i'w trafod.