Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr C. Jones, H.I. Jones a G.B. Thomas.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Y Cynghorydd

Rhif y Cofnod

Y Math o Fuddiant

J. Prosser

4.1 Cais Cynllunio - S/37325 - Gosod grisiau newydd a ramp yn lle'r grisiau presennol i'r drws gorllewinol i ganiatáu mynediad i gadeiriau olwyn i'r Eglwys yn Eglwys Sant Ellis, Stryd y Bont, Llanelli, SA15 3UF

 

Mae'n aelod o Gyngor Tref Llanelli ac mae wedi bod yn rhan o'r trafodaethau ynghylch y cais hwn.

J. Gilasbey

4.2 Cais Cynllunio - S/37693 - Amrywio amod rhif 3 (bydd yr eiddo yn cael ei ddefnyddio yn unig at ddibenion storio esgidiau) S/36969 er mwyn caniatáu i gwsmeriaid allu casglu trwy apwyntiad yn unig yn 21 Park View Drive, Cydweli, SA17 4UP

 

Mae hi'n un o Ymddiriedolwyr Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli ac mae'r gwrthwynebydd yn un o'r Ymddiriedolwyr hefyd, ac felly maent yn adnabod ei gilydd.

 

 

 

3.

RHANBARTH Y DWYRAIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1016 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1      PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor allu ymweld â'r safle:-

 

E/34791

Bydd y datblygiad tyrbinau gwynt arfaethedig ym Mryn Bugail yn cynnwys tyrbin gwynt sengl, a fydd yn gallu cynhyrchu hyd at 100kw gyda'r tyrbin yn mesur 37 metr hyd at uchder y both, gyda diamedr rotor o 24 metr, gan greu uchder llafn cyffredinol o hyd at 49 metr.  Byddai'r tyrbin gwynt wedi'i leoli mewn cae sydd ar hyn o bryd yn cael ei defnyddio ar gyfer pori a gall y defnydd hwn barhau gyda'r tyrbin gwynt yn bresennol ar dir ym Mryn Bugail, Caerfyrddin, SA32 7JX

 

Derbyniwyd cais ar gyfer y Pwyllgor i gynnal ymweliad â'r safle er mwyn galluogi'r Pwyllgor i weld y safle yng ngoleuni'r pryderon a godwyd ynghylch effaith y datblygiad arfaethedig ar yr ardal a'r effaith bosibl ar eiddo cyfagos. 

 

Yn unol â phrotocol y Pwyllgor Cynllunio, roedd y gwrthwynebwyr a oedd wedi gofyn am gael siarad ynghylch y cais hwn wedi dewis cyflwyno eu sylwadau yn y cyfarfod a fydd yn dilyn yr ymweliad â'r safle.

 

RHESWM: I weld safle'r datblygiad arfaethedig ar y cyd â Pholisi SP14 – Diogelu a Gwella'r Amgylchedd Naturiol.

 

 

 

4.

RHANBARTH Y DRE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

4.1   PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio:-

 

S/37325

Gosod grisiau newydd a ramp yn lle'r grisiau presennol i'r drws gorllewinol i ganiatáu mynediad i gadeiriau olwyn i'r Eglwys yn Eglwys Sant Ellis, Stryd y Bont, Llanelli, SA15 3UF

 

[Sylwer: Gan ei fod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd J. Prosser Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno].

 

Tynnodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu (Rhanbarth y De) sylw at y newidiadau fel y'u hamlinellwyd yn yr atodiad.

 

S/37581

Cais amlinellol am ddatblygiad preswyl ar dir yn Llwyncyfarthwch, Llanelli, SA15 1GY

 


 

4.2         PENDERFYNWYD caniatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau y manylwyd arnynt yn adroddiad/atodiad y Pennaeth Cynllunio:-

 

S/37693

Amrywio amod rhif 3 (bydd yr eiddo yn cael ei ddefnyddio yn unig at ddibenion storio esgidiau) S/36969 er mwyn caniatáu i gwsmeriaid allu casglu trwy apwyntiad yn unig yn 21 Park View Drive, Cydweli, SA17 4UP

 

[Sylwer: Gan ei bod wedi datgan buddiant yn y mater hwn yn gynharach, gadawodd y Cynghorydd J. Gilasbey Siambr y Cyngor cyn i'r Pwyllgor ystyried y mater a phenderfynu arno].

 

Cafwyd sylw a wrthwynebai'r cais ac a oedd yn ail-bwysleisio’r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio, gyda'r prif bwyslais ar y pwyntiau canlynol:-

 

·        Pan oedd y cais cynllunio blaenorol ar gyfer storio B8 yn cael ei ystyried rhoddwyd sicrwydd na fyddai cwsmeriaid yn cael galw ar y safle.

 

·        Diogelwch y ffyrdd – nid oes unrhyw fanylion ynghylch y trefniadau parcio ar gyfer cwsmeriaid.

 

·        Byddai angen ystyried y symudiadau traffig ychwanegol yn yr ardal, gan gynnwys y caniatâd cynllunio amlinellol a roddwyd yn ddiweddar ar gyfer datblygiad preswyl pellach ar dir cyfagos. Ardal breswyl yw Park View Drive ac mae'r cynllun ffyrdd yn adlewyrchu hyn.

 

·        Byddai yna anawsterau gyda'r trefniant gyrru allan a gynigir oherwydd aliniad yr allanfa, a byddai hefyd yn gwrthdaro â'r ardal casglu/gollwng ar gyfer gwarchodwyr plant.

 

·        Ni ddylai amseroedd casglu i gwsmeriaid gael eu caniatáu rhwng 8am a 10am a 3pm a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, gan y byddai hyn yn gwrthdaro â symudiadau cerbydau gwasanaeth gwarchod plant (eiddo'r cymdogion).

 

·        Yr ardal ar y chwith y tu mewn i'r garej yw'r ardal fwyaf priodol ar gyfer pwynt casglu, ac nid yr ardal a ddangosir. Mae'n amlwg mai'r nod yw gwerthu cymaint â phosibl, a byddai hynny'n golygu mai'r dosbarth defnydd mwyaf priodol yw A1.

 

Ymatebodd yr ymgeisydd ac Uwch-swyddog Rheoli Datblygu [Rhanbarth y De] i'r materion a godwyd.

 

S/37793

Estyniad i safle carafanau Sipsiwn awdurdodedig i wneud lle i ddwy garafán breswyl statig ychwanegol i Sipsiwn ynghyd â chodi dwy ystafell ddydd/cyfleustodau, dwy garafán deithiol, gosod tanc septig a chadw gwaith i greu wyneb caled a mynediad newydd ar dir yn T? Newydd, Llwyn Teg, Llannon, Llanelli, SA14 8JN

 

[Sylwer: ni chefnogwyd ceisiadau a gyflwynwyd yn gofyn i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle ar y sail nad oedd y rhesymau am ymweliad safle yn rhesymau  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

RHANBARTH Y GORLLEWIN - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 962 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle:-

 

W/37263

Adeiladu un annedd ar Lain 4, Heol Drefach, Plasydderwen, Meidrim, Sir Gaerfyrddin

 

Derbyniwyd cais ar gyfer y Pwyllgor i gynnal ymweliad safle er mwyn galluogi'r Pwyllgor i weld y safle yng ngoleuni'r pryderon a godwyd ynghylch effaith y datblygiad arfaethedig ar yr ardal. Yn ogystal, byddai Ymweliad Safle yn galluogi'r Pwyllgor i ystyried cymeriad/ymddangosiad y datblygiad arfaethedig mewn cydberthynas ag eiddo yn yr ardal gyfagos.

 

RHESWM: Gweld safle'r datblygiad arfaethedig mewn perthynas â Pholisi GP1 – cynaliadwyedd a dyluniad o ansawdd uchel, sydd hefyd yn ceisio sicrhau bod datblygiadau yn cydymffurfio â chymeriad ac ymddangosiad y safle ac yn eu gwella.

 

W/36131

Newid defnydd rhannol arfaethedig i ardal fach mewn ffatri/gweithdy ffrâm bren i'w defnyddio fel gofod campfa ffitrwydd a chwilbedlo (i'w osod). Newid defnydd rhan o'r cae cyfagos i fod yn faes parcio pwrpasol ar gyfer y defnydd campfa a chwilbedlo arfaethedig yn y Gweithdy, Bwlch y Domen Isaf, Pant y Bwlch, Castellnewydd Emlyn, SA38 9JF

 

Derbyniwyd cais ar gyfer y Pwyllgor i gynnal ymweliad safle er mwyn galluogi'r Pwyllgor i weld y safle yng ngoleuni'r pryderon a godwyd ynghylch effaith y datblygiad arfaethedig ar yr ardal a byddai hefyd yn gyfle i weld y busnesau presennol eraill yng nghyffiniau'r datblygiad. 

 

Y RHESWM:  Cael golwg ar safle'r datblygiad arfaethedig mewn perthynas â Pholisi TR2 - Lleoliad y Datblygiad.

 

 

 

6.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 20 MEDI 2018 pdf eicon PDF 181 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 20 Medi 2018 yn gofnod cywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau