Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 (Ystafell Bwyllgor Gwasanaethau Democrataidd) Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1 JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Janine Owen 01267 224030
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Ni chafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb.
|
|
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.
|
|
COFNODION Llofnodi yn Cyfnod cywir cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:- |
|
12 MEHEFIN (10.00 A.M.); PDF 100 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 12 Mehefin 2018 am 10:00 o'r gloch y bore gan eu bod yn gywir.
|
|
12 MEHEFIN 2018 (10.15 A.M.); PDF 99 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 12 Mehefin 2018 am 10:15 o'r gloch y bore gan eu bod yn gywir.
|
|
12 MEHEFIN 2018 (10.45 A.M.); PDF 98 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion y cyfarfod oedd wedi'i gynnal ar 12 Mehefin 2018 am 10:45 o'r gloch y bore gan eu bod yn gywir.
|
|
GORCHYMYN I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD NI DDYLID CYHOEDDI'R ADRODDIAD SY'N YMWNEUD Â'R MATER CANLYNOL GAN EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINIWYD YM MHARAGRAFF 12 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972 FEL Y'I DIWYGIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007. OS BYDD Y PANEL AR ÔL CYNNAL PRAWF LLES Y CYHOEDD YN PENDERFYNU YN UNOL Â'R DDEDDF, I YSTYRIED Y MATER HON YN BREIFAT, GORCHMYNNIR I'R CYHOEDD ADAEL Y CYFARFOD YN YSTOD TRAFODAETH O'R FATH. Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod tra oedd yr eitem ganlynol yn cael ei hystyried, gan fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 12 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf.
|
|
I YSTYRIED APÊL GAN YR YMGEISYDD A.M.M YN ERBYN PENDERFYNIAD YR AWDURDOD I BEIDIO Â DARPARU CLUDIANT AM DDIM I'R YSGOL Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng Nghofnod 7 uchod, ystyried y mater hwn yn breifat gan orchymyn i'r cyhoedd adael y cyfarfod, gan y byddai'r drafodaeth yn datgelu gwybodaeth eithriedig ynghylch unigolyn penodol.
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd mewn perthynas â'r mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth bersonol oedd yn ymwneud â'r ymgeisydd. Byddai datgelu'r wybodaeth yn ategu tryloywder ac atebolrwydd o ran y broses o wneud penderfyniad ond, ar y cyfan, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran datgelu'r wybodaeth, am fod angen sicrhau na fyddai modd adnabod yr ymgeisydd a'i deulu/a'i theulu.
Croesawodd y Cadeirydd swyddogion o wasanaethau'r Gyfraith, yr Amgylchedd ac Addysg a Gwasanaethau Plant i'r cyfarfod. Rhoddodd y Panel ystyriaeth i sylwadau ysgrifenedig yr apelydd o ran gwrthod Cam 1 y Panel Adolygu i ganiatáu trafnidiaeth ysgol am ddim i A.M.M. i'r ysgol agosaf a dynodedig gan yr AALl a oedd wedi'i lleoli o fewn pellter cerdded statudol, ac felly nid oedd yn cydymffurfio â'r meini prawf a amlinellwyd ym mholisi'r Cyngor ar gyfer rhoi cymorth.
Rhoddodd y Panel ystyriaeth i sylwadau'r swyddogion adrannol, ynghyd ag amgylchiadau unigol yr achos. Hefyd gofynnodd y Panel am eglurhad ynghylch elfennau o Bolisi'r Awdurdod ynghylch Cludiant o'r Cartref o'r Ysgol, argaeledd cludiant cyhoeddus o gyfeiriad cartref A.M.M. i'r ysgol ddynodedig a hefyd asesiad o'r llwybr cerdded i'r ysgol a gynhaliwyd yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru.
PENDERFYNWYD oherwydd yr amgylchiadau unigol dan sylw, bod yr apêl a gyflwynwyd gan A.M.M.ar gyfer cludiant rhad ac am ddim o'r cartref i'r ysgol yn cael ei chadarnhau.
|