Agenda a Chofnodion

Cyfarfod Penderfyniadau Arweinydd y Cyngor (Cyn Mai 2022) - Dydd Iau, 11eg Hydref, 2018 2.00 yp

Lleoliad: Swyddfa'r Arweinydd - Neuadd y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Martin S. Davies  01267 224059

Eitemau
Rhif eitem

1.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

2.

COFNOD PENDERFYNIADAU - 11 MEDI, 2018 pdf eicon PDF 103 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD llofnodi Cofnod Penderfyniadau'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Medi 2018, gan ei fod yn gywir.

 

3.

CYMORTH ARIANNOL O'R CRONFEYDD GRANTIAU CANLYNOL: GRONFA CYLLID A DARGEDIR A'R CRONFA'R DEGWM pdf eicon PDF 144 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa'r Degwm a'r Gronfa Cyllid a Dargedir yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Ymgeisydd                                                                                      Dyfarniad

Neuadd Bentref Llangathen                                                            £3,000.00

Cymdeithas Les Gât a'r Cylch                                                       £3,000.00

Gr?p Theatr Gymunedol Rhydaman                                             £430.00

Llanelli Mynydd Mawr Railway Company Ltd.                               £13,000.00

 

4.

ADRODDIADAU NAD YDYNT I'W CYHOEDDI

WEDI YSTYRIED HOLL AMGYLCHIADAU'R ACHOS AC WEDI YNNAL PRAWF BUDD Y CYHOEDD GALL YR AELOD O'R BWRDD WEITHREDOL FARNU NAD YW'R EITEM CANLYNOL I'W GYHOEDDI AM EI FOD YN CYNNWYS GWYBODAETH EITHRIEDIG FEL Y'I DIFFINNIR YM MHARAGRAFF 14 O RAN 4 O ATODLEN 12A I DDEDDF LLYWODRAETH LEOL 1972, FEL Y'I NEWIDIWYD GAN ORCHYMYN LLYWODRAETH LEOL (MYNEDIAD AT WYBODAETH) (AMRYWIO) (CYMRU) 2007.

Cofnodion:

PENDERFYNWYD yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 1972, fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007, na fyddai’r eitemau canlynol yn cael eu cyhoeddi, gan fod yr adroddiadau'n cynnwys gwybodaeth eithriedig fel y'i diffiniwyd ym Mharagraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i’r Ddeddf.

 

 

5.

CRONFA DATBLYGU EIDDO - DOLAWEN, CLOS FFERWS, CAPEL HENDRE

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, roedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth hon yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.

 

Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol gais gan Dolawen Cyf am grant ar gyfer adeiladu cyfleuster newydd i Midtec Products Ltd. yng Nghapel Hendre a fyddai'n darparu ar gyfer 37 o swyddi yn ogystal â chreu lle cyflogaeth 11,152 troedfedd sgwâr.

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r cais canlynol am grant o Gronfa Datblygu Eiddo Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:-

Ymgeisydd / Eiddo                                                                                  Dyfarniad

Dolawen Cyf / Llain 3b, Clos Fferws, Capel Hendre                              £416,647.70

 

6.

CRONFA CYCHWYN BUSNES/TWF BUSNES SIR GAERFYRDDIN

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, roedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth hon yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.

 

Yn dilyn cofnod 3 o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2018 ystyriodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol geisiadau am gymorth gan Gronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin a Chronfa Twf Busnes Sir Gaerfyrddin. Blaenoriaeth y ddwy gronfa oedd cefnogi'r gwaith o greu swyddi a busnesau newydd yn y Sir.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin a Chronfa Twf Busnes Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Cronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin

Ymgeisydd                                                                                      Dyfarniad

A & J Partners Ltd. T/A Harry Watkins                                          £1090.37

Mesen                                                                                             £2331.20

MusicHeadquarters Ltd                                                                 £9,587.16

 

Cronfa Twf Busnes Sir Gaerfyrddin

Ymgeisydd                                                                                      Dyfarniad

Thomas & Thomas Plant and Tool Hire                                         £5,000.00

Williams Marine                                                                              £10,000.00

Preseli Bluestone Meats                                                                 £10,000.00

Rock The Dragon                                                                           £5000.00

Treharne Automotive Engineering Ltd                               £10,000.00

Fferm Trefin                                                                                    £9,000.00