Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr A. Davies ac A. McPherson.

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

3.

DATGANIAD CHWIP PLAID WAHARDDEDIG

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.

 

 

4.

CWESTIYNAU GAN Y CYHOEDD (NID OEDD DIM WEDI DOD I LAW)

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd nad oedd dim cwestiynau wedi dod i law gan y cyhoedd.

 

5.

STRATEGAETH RANBARTHOL DDRAFFT "BYWYDAU MWY DIOGEL, TEULUOEDD IACHACH" - MYND I'R AFAEL Â THRAIS YN ERBYN MENYWOD, CAM-DRIN DOMESTIG A THRAIS RHYWIOL YN EIN CYMUNEDAU 2018-2022. pdf eicon PDF 192 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i'r strategaeth ranbarthol ddrafft “Bywydau Mwy Diogel, Teuluoedd Iachach”, sef strategaeth ar y cyd gyntaf Canolbarth a Gorllewin Cymru i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Roedd y strategaeth yn amlinellu sut y byddai'r rhanbarth yn cefnogi dioddefwyr a goroeswyr, yn mynd i'r afael â'r rhai sy'n cam-drin, yn sicrhau bod gan weithwyr proffesiynol yr offer a'r wybodaeth i weithredu, yn codi ymwybyddiaeth o'r problemau ac yn helpu plant a phobl ifanc i ddeall anghydraddoldeb mewn perthnasoedd a bod ymddygiad camdriniol yn anghywir bob tro.

 

Nod y strategaeth oedd gwneud trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn "fusnes i bawb" ac yn thema drawsbynciol lle roedd yn ofynnol i bob agwedd ar bolisi cyhoeddus fynd i'r afael, llunio a gwella'r gwasanaethau a ddarperir i'r rhai yr effeithir arnynt.

 

Ceisid barn y Pwyllgor fel rhan o'r ymgynghoriad ynghylch y strategaeth, a fyddai'n llywio'r strategaeth derfynol a gaiff ei chyhoeddi a'i chyflwyno i Lywodraeth Cymru.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Pwysleisiwyd pa mor bwysig oedd hi bod swyddogion yn adrodd yn ôl, fel bod y Pwyllgor yn gallu gweld a oedd unrhyw welliannau wedi cael eu gwneud;

·       Gofynnwyd i swyddogion a oeddent wedi ystyried darparu math o gerdyn hyblyg i blant a restrai rhifau llinell gymorth defnyddiol, neu efallai gellid creu ap a roddai gymorth a chyngor. Roedd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu yn croesawu'r awgrymiadau gan ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth a allwn i annog plant i ddod ymlaen; 

·       Cyfeiriwyd at y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn mynd i gyllido ar sail ranbarthol o flwyddyn nesaf ymlaen. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod £330k ar gael i'r rhanbarth ac y byddai arian yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi staff rheng flaen ac at ddibenion eirioli. Roedd Llywodraeth Cymru'n cyllido'n rhanbarthol i hybu cydweithio rhanbarthol;

·       Mynegwyd pryder fod y cyllid yng Ngogledd Cymru yn uwch o lawer na Dyfed-Powys. Eglurodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu fod hwn yn un rheswm am gyflwyno potiau rhanbarthol, gan y byddai'n caniatáu i arian gael ei rannu'n fwy teg a chyfartal.

·       Pwysleisiwyd pa mor bwysig oedd hi fod y Pwyllgor yn cymryd rhan yn y broses ymgynghori, a oedd ar gael ar-lein. 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL YNGHYLCH DIOGELU OEDOLION (2016-18). pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i Adroddiad Blynyddol yr Awdurdod ar Ddiogelu Oedolion, a roddai wybodaeth am rôl, swyddogaethau a gweithgareddau'r Awdurdod o ran Diogelu Oedolion.  Fel y prif sefydliad sy'n gyfrifol am ddiogelu oedolion, roedd yn ofynnol i'r Awdurdod gael trefniadau effeithiol i sicrhau bod oedolion agored i niwed yn cael eu diogelu rhag niwed. Roedd yr Awdurdod yn cyflawni ei rôl mewn partneriaeth agos â Heddlu Dyfed-Powys, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a sefydliadau eirioli lleol. 

 

Roedd yr adroddiad yn ymwneud â'r flwyddyn ariannol ddiwethaf ac yn crynhoi cyd-destun polisi cenedlaethol Diogelu Oedolion ar y pryd, gan gynnwys goblygiadau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ac yn darparu amrywiaeth o wybodaeth gan gynnwys:-

 

·       y sefyllfa strategol ranbarthol

·       y trefniadau gweithredol

·       y prif lwyddiannau a digwyddiadau arwyddocaol

·       y prif heriau a materion

·       sicrhau ansawdd

·       adroddiadau partneriaethau

·       gwybodaeth am berfformiad a gweithgarwch

 

Bellach roedd y Bwrdd Diogelu Oedolion Rhanbarthol wedi ei hen sefydlu. Y Bwrdd hwn, a gâi ei gadeirio gan Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Penfro, oedd y corff arweiniol oedd yn gyfrifol am bennu'r cyfeiriad strategol a'r trefniadau llywodraethu ar gyfer diogelu oedolion yn y sir.  Roedd y Bwrdd ar ei fantais o gael arweiniad strategol da a threfniadau partneriaeth cryf.  O ran cam-drin, 'dim goddefgarwch o gwbl' oedd ymagwedd y Bwrdd.  Roedd gan bob un yr hawl i fyw heb gael ei gam-drin a'i esgeuluso, a mater i bawb oedd sicrhau ein bod yn cydweithio fel cymuned er mwyn cefnogi a diogelu'r rhai hynny oedd fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas. 

 

O ran gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn Ebrill 2016, roedd diogelu oedolion bellach yn statudol am y tro cyntaf. Gan fod gan Sir Gaerfyrddin drefniadau llywodraethu a chraffu oedd wedi hen ennill eu plwyf, roedd mewn sefyllfa dda i gyflawni dyletswyddau ac egwyddorion y Ddeddf.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at yr hyfforddiant rhianta corfforaethol roedd rhai aelodau wedi ei gael, a gofynnwyd i swyddogion a fyddai'n bosibl cyflwyno'r hyfforddiant hwn i'r aelodau i gyd, gan mai nhw yw llygaid a chlustiau eu cymunedau ac roedd yn bwysig eu bod yn gallu adnabod arwyddion esgeulustod;

·       Cyfeiriwyd at y ffaith fod swydd Rheolwr Deddf Gallu Meddyliol/Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid wedi bod yn wag ers bron blwyddyn a bod y swydd yn cael ei hail-lunio. Gofynnwyd i swyddogion a oedd bod yn gyfrifol am ddiogelu hefyd yn gofyn gormod o un unigolyn, pan oedd Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid yn gyfrifoldeb mor fawr. Eglurodd yr Uwch-reolwr Diogelu mai hi fyddai'r rheolwr strategol o hyd ac ychwanegodd ein bod yn ffodus yn Sir Gaerfyrddin gan nad oedd unrhyw gyfrifoldeb statudol yn cwympo ar un person yn unig; 

·       Soniwyd bod canran yr ymholiadau ynghylch oedolion mewn perygl oedd wedi'u cwblhau mewn 7 diwrnod wedi cynyddu o 75.3% yn 2016/17 i 92.48% yn 2017/18, a gofynnwyd i swyddogion sut roedd cynnydd mor sylweddol wedi cael ei gyflawni. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod dau reswm dros y cynnydd hwn, yn gyntaf roedd swyddogion  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD CWYNION A CHANMOLIAETH GOFAL CYMDEITHASOL I OEDOLION 01/04/17-31/03/18. pdf eicon PDF 189 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a fanylai ar y cwynion a'r ganmoliaeth ynghylch Gofal Cymdeithasol i Oedolion, a oedd wedi dod i law ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18.  Roedd yr adroddiad yn crynhoi nifer y cwynion a'r ganmoliaeth oedd wedi dod i law ac yn cynnwys gwybodaeth am y math o gwynion a'r maes gwasanaeth perthnasol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

8.

GRWP GORCHWYL A GORFFEN Y PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD 2018/19 - DOGFEN CYNLLUNIO A CHWMPASU. pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor gan y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi ystyried nifer o awgrymiadau ac wedi cytuno i gynnal adolygiad i Unigrwydd yn Sir Gaerfyrddin, ar ôl i'r aelodau ofyn am awgrymiadau ar gyfer prosiectau posibl y Gr?p Gorchwyl a Gorffen.

 

Cafodd trafodaethau'r Pwyllgor o ran prif nodau ac amcanion yr adolygiad Gorchwyl a Gorffen eu cofnodi a'u datblygu mewn dogfen cynllunio a chwmpasu ddrafft, a oedd yn cynnwys nodau a chwmpas yr adolygiad, ac a oedd yn cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor i'w hystyried a'i chymeradwyo. 

 

Yn ogystal, roedd angen i'r Pwyllgor gytuno ar yr aelodau a ddylai fod yn rhan o'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen, a ddylai gynnwys hyd at 6 aelod sy'n wleidyddol gytbwys.

 

Dywedwyd y byddai cyfarfod cyntaf y Gr?p Gorchwyl a Gorffen yn cael ei gynnal ar 14 Mehefin, 2018 pryd y byddai Cadeirydd ac Is-gadeirydd yn cael eu penodi o blith aelodau'r Gr?p.  Byddai swyddogion yr Adran Cymunedau a'r Uned Gwasanaethau Democrataidd yn cefnogi gwaith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen.

 

PENDERFYNWYD

 

8.1 derbyn Dogfen Gwmpasu y Gr?p Gorchwyl a Gorffen;

 

8.2     cadarnhau nodau a chwmpas gwaith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen;

 

8.3   bod yr aelodaeth o'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen fel a ganlyn:-

 

·       Y Cynghorydd Ieuan Wyn Davies

·       Y Cynghorydd Ken Lloyd

·       Y Cynghorydd Louvain Roberts

·       Y Cynghorydd Emlyn Schiavone

·       Y Cynghorydd Gwyneth Thomas

·       Y Cynghorydd Dorian Williams

 

 

9.

DIWEDDARAF AM WEITHREDIADAU AC ATGYFEIRIADAU'R PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHASOL AC IECHYD. pdf eicon PDF 143 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a nodai'r hyn a wnaed mewn perthynas â'r camau, ceisiadau, neu atgyfeiriadau a oedd wedi deillio o gyfarfodydd blaenorol. 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.


 

 

10.

BLAENRAGLEN WAITH Y PWYLLGOR CRAFFU GOFAL CYMDEITHSOL AC IECHYD AR GYFER 2018/19. pdf eicon PDF 152 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei Flaenraglen Waith ar gyfer 2018/19 a baratowyd yn unol â Chyfansoddiad y Cyngor sy'n ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgorau Craffu ddatblygu a chyhoeddi blaenraglen waith bob blwyddyn gan glustnodi materion ac adroddiadau sydd i'w hystyried mewn cyfarfodydd yn ystod blwyddyn y cyngor.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau Blaenraglen Waith y Pwyllgor Craffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar gyfer 2018/19.

 

11.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 19EG EBRILL, 2018. pdf eicon PDF 216 KB

Cofnodion:

 

PENDERFYNWYD llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a oedd wedi ei gynnal ar 19 Ebrill, 2018 gan eu bod yn gywir.

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau