Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB.

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriad am absenoldeb gan y Cynghorydd A. Davies.

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL.

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau personol.

 

 

3.

MR UMAAR BIN HAMEED - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 123 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Umaar Bin Hameed o Fflat 2, 27 Heol Picton, Caerfyrddin, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded. Nododd y Pwyllgor nad oedd Mr Hameed yn bresennol yn y cyfarfod heddiw, nad oedd wedi cysylltu â'r swyddogion i gynnig esboniad ynghylch hynny a'i fod wedi cael gwybod pe na bai'n bresennol yn y cyfarfod heddiw y gallai'r mater gael ei ystyried ac yntau'n absennol.  Yn ogystal, nododd y Pwyllgor fod yr achwynydd yn bresennol. Felly:

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn ystyried y mater a godwyd yn absenoldeb Mr Hameed.

 

Adroddwyd 3 o ddatganiadau tyst i'r Pwyllgor gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.  Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â'r achwynydd ynghylch y mater.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Trwydded Yrru Ddeuol Mr Hameed ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat yn cael ei hatal am 14 diwrnod.

 

Ar hynny,

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD yn unol â chanllawiau'r Cyngor, atal Trwydded Yrru Ddeuol Mr Ummar Bin Hameed ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat am 14 diwrnod.

 

Y Rhesymau

 

Ar ôl ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor o'r farn bod achos rhesymol yn bodoli oherwydd y rhesymau canlynol:

  • Ym marn y Pwyllgor yr oedd tystiolaeth yr achwynydd yn gredadwy ac yn rymus.
  • Nid oedd Mr Hameed wedi dod i'r cyfarfod.
  • Er bod y Pwyllgor yn derbyn nad oedd Mr Hameed wedi dweud yn agored ei fod yn gwrthod mynd â'r achwynydd a'i chi tywys, credir nad oedd wedi mynd â nhw heb achos rhesymol.
  • Mae'r Pwyllgor yn fodlon bod hyn yn golygu bod achos rhesymol dros atal Trwydded Yrru Ddeuol Mr Hameed ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

 

4.

MR EIRWYN LYN DAVIES - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 122 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Eirwyn Lyn Davies o Fro Helyg, Heol Pontarddulais, T?-croes, Rhydaman, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Davies ynghylch y mater hwnnw.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr Davies yn cael rhybudd terfynol ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, roi rhybudd terfynol i Mr Eirwyn Lyn Davies ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

 

5.

MR RUSSELL ALAN HOWE - TRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 123 KB

Cofnodion:

Atgoffwyd y Pwyllgor ei fod wedi gohirio ystyried y cais hwn yn y cyfarfod oedd wedi ei gynnal ar 19 Chwefror, 2018 gan nad oedd Mr Howe yn gallu bod yn bresennol.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Mr Russell Alan Howe o 28 Parc y Bryn, Caerfyrddin, yn meddu ar Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat gan yr Awdurdod a bod mater wedi codi ynghylch ei drwydded.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Howe ynghylch y mater hwnnw.

 

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod Mr Howe yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Ar hynny:

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, fod Mr Russell Alan Howe yn cael rhybudd ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

 

 

6.

MR DAVID GEORGE HOPKINS - CAIS AM DRWYDDED YRRU DDEUOL CERBYD HACNAI/HURIO PREIFAT pdf eicon PDF 123 KB

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried cais gan Mr David George Hopkins o 4 Dolau Bran, Llanymddyfri am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat.

 

Bu'r Pwyllgor yn cyfweld â Mr Hopkins ynghylch ei gais. Yn ogystal, adroddwyd 3 o ddatganiadau tyst i'r Pwyllgor gan yr Uwch-swyddog Trwyddedu.

 

Argymhellodd yr Uwch-swyddog Trwyddedu fod cais Mr Hopkins yn cael ei wrthod.

 

Ar hynny:

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Ar ôl y toriad, ailymgynullodd y Pwyllgor i roi ei benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD, yn unol â chanllawiau'r Cyngor, ganiatáu cais Mr David George Hopkins am Drwydded Yrru Ddeuol ar gyfer Cerbyd Hacnai/Hurio Preifat a rhoi rhybudd iddo ynghylch ei ymddygiad yn y dyfodol.

 

Y Rhesymau

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, yr oedd y Pwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn rhywun addas a phriodol i feddu ar drwydded.

 

 

7.

DEDDF TRWYDDEDU 2003 - CAIS YN YMWNEUD Â DOSBARTHIAD FFILM pdf eicon PDF 128 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad yn amlinellu cais a dderbyniwyd gan Mrs Mair Craig ar ran Ystafelloedd Darllen Llansadwrn am argymhelliad ynghylch caniatáu i blant wylio dwy ffilm nad oeddynt wedi cael eu dosbarthu yn flaenorol.

 

Yr oedd yr ymgeisydd yn bwriadu arddangos dwy ffilm Gymraeg, sef "Sampli" a "Helfa'r Heli", cyn dangos ffilm dystysgrifedig yn y sinema gymunedol. Yn ogystal, yr oedd y safle'n bwriadu gweithredu'r sinema gymunedol o dan yr esemptiadau safle cymunedol a nodir ym mharagraff 6A o Atodlen 1 i Ddeddf Trwyddedu 2003.

 

Nododd y Pwyllgor y dylai'r ffilmiau a ddangosir gael argymhelliad ynghylch caniatáu i blant eu gwylio, a roddwyd naill ai gan gorff Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain neu gan yr Awdurdod Trwyddedu perthnasol, a hynny er mwyn bodloni gofynion Deddf Trwyddedu 2003.

 

Er mwyn i'r Pwyllgor wneud yr argymhelliad gofynnol ynghylch caniatáu i blant wylio'r ffilmiau, cafodd y Pwyllgor gyfle i wylio'r ddwy ffilm fer gan roi ystyriaeth i'r cyfeiriadau at ymddygiad dynwaredadwy, iaith, noethni a rhyw.

 

Rhoddwyd sylwadau ysgrifenedig i'r Pwyllgor gan yr ymgeisydd ynghylch y ddwy ffilm.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw priodol i'r paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod Trwyddedu ac o Ganllawiau gan Fwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain a oedd wedi'u hatodi i'r adroddiad yn Atodiad 1.

 

Ar ôl ystyried yr holl dystiolaeth oedd ger ei fron,

 

PENDERFYNODD Y PWYLLGOR:

 

  1. y dylai "Sampli" gael ei hystyried yn ffilm sydd dan gyfarwyddyd rhiant (PG)
  2. y dylai "Helfa’r Heli" gael ei hystyried yn ffilm sy'n addas i blant 12 oed a h?n (12A)

 

Y Rhesymau

 

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Pwyllgor;

 

·         Nid yw'r un o'r ffilmiau wedi cael eu dosbarthu gan Fwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain neu awdurdod lleol arall.

·         Mae cynnwys y ffilm "Sampli" yn bodloni meini prawf Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain ar gyfer gradd PG.

·         Mae cynnwys y ffilm "Helfa’r Heli" yn bodloni meini prawf Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain ar gyfer gradd 12A.

 


Ar ôl ystyried cynnwys y ddwy ffilm, sylwadau a gafwyd gan yr ymgeisydd a chanllawiau gan Bwyllgor Bwrdd Dosbarthu Ffilmiau Prydain, mae'r Pwyllgor yn fodlon bod angen dosbarthu'r ddwy ffilm fel y dangosir uchod er mwyn hyrwyddo'r Amcan Trwyddedu o ran amddiffyn plant rhag niwed. 

 

Mae'r Pwyllgor yn fodlon bod hyn yn ymateb cymesur i gynnwys penodol pob ffilm.

 

 

8.

LLOFNODI YN GOFNOD CYWIR COFNODION CYFARFOD Y PWYLLGOR TRWYDDEDU A GYNHALIWYD AR 19EG CHWEFROR, 2018. pdf eicon PDF 128 KB

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Trwyddedu a gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2018 yn gywir.

 

 

 

 

Cyngor a Democratiaeth

Y Cyngor

Cynghorwyr, ACau ac ASau

Adrannau'r Cyngor

Dweud eich dweud

Pwyllgorau a Chyfarfodydd

Strategaethau a chynlluniau