Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Democratic Services 01267 224059
Rhif | eitem | |||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr F. Akhtar, H. Davies, D.C. Evans a C. Jones.
|
||||||||||
DATGANIADAU O FUDDIANNAU PERSONOL Cofnodion:
|
||||||||||
DATGANIAD CHWIP PLAID WAHARDDEDIG Cofnodion: Ni chafwyd dim datganiadau ynghylch chwip waharddedig.
|
||||||||||
CWESTIYNAU CYHOEDDUS Cofnodion: Nid oedd cwestiynau gan y cyhoedd wedi dod i law.
|
||||||||||
BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS (BGC) SIR GÂR ADRODDIAD BLYNYDDOL 2016-17 PDF 152 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd Mr Barry Liles, Pennaeth Coleg Sir Gâr a Chadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, a gyflwynodd Adroddiad Blynyddol 2016-17 y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Rhoddodd yr adroddiad drosolwg o ofynion y Bwrdd a'r camau a wnaed yn ystod ei flwyddyn gyntaf i sefydlu ffyrdd o weithio, i fodloni'r gofynion statudol angenrheidiol ac i ddatblygu rôl y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir Gaerfyrddin a Chymru. Roedd yn ofynnol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fod pwyllgor craffu llywodraeth leol yn gyfrifol am gadw golwg a chraffu ar waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac yn Sir Gaerfyrddin nodwyd mai'r Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau oedd y pwyllgor craffu arweiniol.
Ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad oedd y canlynol: · Mewn ymateb i sylw ynghylch y gwahoddiad y cyfeiriwyd ato yn y cyfarfod diwethaf i aelodau'r Pwyllgor Craffu - Polisi ac Adnoddau fod yn sylwedyddion yn un o gyfarfodydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, dywedodd Mr Liles y byddai'n edrych ar y posibilrwydd o gynnal cyfarfod mewn lleoliad a allai gynnal y pwyllgor llawn. Fodd bynnag, ystyriwyd y byddai'n fuddiol petai llai o aelodau yn bresennol mewn cyfarfodydd ar wahanol ddyddiadau yn y gwahanol leoliadau a ddefnyddir a hynny er mwyn cael dealltwriaeth o'r ystod o faterion a drafodir; · Gofynnwyd a oedd partneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi llwyddo i wneud arbedion o ran eiddo o ganlyniad i weithio ar y cyd. Mewn ymateb dywedwyd mai pwyslais Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 oedd gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru ac y daw arbedion effeithlonrwydd yn sgil hynny gobeithio; · Eglurwyd bod ysgrifenyddiaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael ei darparu gan Gyngor Sir Caerfyrddin ond roedd y partneriaid yn talu 'mewn da' drwy gymorth swyddogion. Yn ogystal, roedd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid blynyddol o £55k ar lefel ranbarthol (Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro) a oedd wedi'i ddefnyddio hyd yn hyn i gefnogi datblygiad yr Asesiad Llesiant a'r Cynllun Llesiant; · O ran cynrychiolaeth yng nghyfarfodydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, dywedodd Mr Liles ei fod yn feirniadol iawn o sefydliadau nad oeddent yn anfon cynrychiolwyr i'r cyfarfodydd ond roedd yn hyderus bod y cynrychiolwyr a oedd yn mynychu yn gallu trosglwyddo penderfyniadau, ceisiadau a phryderon y Bwrdd i'r sefydliadau a gynrychiolid ganddynt. Pwysleisiwyd, er hynny, mai corff gwneud penderfyniadau mewn egwyddor yn unig oedd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ac y byddai'n rhaid i'r sefydliadau unigol, atebol a gynrychiolid arno ystyried ei argymhellion; · Gwnaed y sylw bod angen gwneud gwelliannau i'r cysylltiadau trafnidiaeth rhwng ardaloedd megis Rhydaman a Llanelli yng ngoleuni'r datblygiadau arfaethedig sy'n rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe, megis y Pentref Llesiant yn Llynnoedd Delta. Sicrhaodd yr Arweinydd y byddid yn mynd i'r afael ag anawsterau trafnidiaeth fel rhan o'r Fargen Ddinesig.
Ar hynny diolchodd y Cadeirydd i Mr Liles am ddod i'r cyfarfod.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn Adroddiad Blynyddol 2016-17 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Gaerfyrddin.
|
||||||||||
YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2018/19 TAN 2020/21 PDF 136 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2018/19 hyd 2020/21 a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn y cyfarfod ar 27 Tachwedd 2017. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2018/2019, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2019/2020 a 2020/2021. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion gwariant y swyddogion, gan ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 10 Hydref 2017. Dywedwyd bod y setliad amodol a gyhoeddwyd yn well na'r hyn a ddisgwylid ond y byddai'r gostyngiad ar setliad y flwyddyn bresennol yn cael effaith negyddol sylweddol ar adnoddau'r Cyngor o ystyried ffactorau megis chwyddiant, newidiadau demograffig a'r galw am wasanaethau. Byddai'r cynigion ar gyfer y gyllideb yn darparu'r £25.6 miliwn o arbedion a nodwyd. Ar ben hynny, roedd cynigion y Strategaeth ar gyfer y gyllideb yn golygu cynnydd yn y Dreth Gyngor o 4.12% a byddai symudiad o 1% yn cyfateb i +/-£820k.
Ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad oedd y canlynol: · Mewn ymateb i gwestiwn, dywedwyd wrth y Pwyllgor y byddai'r gyfradd wrth gefn yn cael ei lleihau o 1 Ebrill 2018 ymlaen, yn dilyn trafodaethau gyda chynrychiolwyr yr undeb. Drwy hyn, gwneir yr arbedion arfaethedig a nodir yn yr adroddiad; · Pwysleisiwyd bod cynigion ar gyfer arbedion effeithlonrwydd o ran rheolwyr yn cael eu hystyried yn unigol, ac er na fyddant yn effeithio ar y drefn o ddarparu gwasanaethau fe allant effeithio ar ansawdd y gwasanaeth a ddarperir; · Codwyd mater cronfeydd wrth gefn yr ysgolion, yn enwedig gan fod diffyg ariannol gan y mwyafrif o'r ysgolion, a dywedwyd bod yr Adran Addysg yn edrych yn fanylach ar y mater. Nodwyd bod swyddog TIC [Trawsnewid i Wneud Cynnydd] arbenigol wedi'i benodi i gynorthwyo ysgolion i nodi arbedion effeithlonrwydd posibl y gallent eu cyflawni; · Mewn ymateb i bryder, sicrhawyd y Pwyllgor na cheid rhwymedigaethau nad oeddent wedi'u cynnwys yn y Strategaeth. O ran prosiectau'r Fargen Ddinesig ni fyddai ymrwymiad cyfreithiol ar yr Awdurdod hyd nes y bydd yr holl gyllid, gan gynnwys arian sector preifat, wedi'i gael; · Cydnabuwyd y byddai goblygiadau i CWM yn sgil penderfyniad China i wahardd mewnforio gwastraff, ond nid oedd union natur y goblygiadau yn hysbys eto ac roedd strwythur CWM ei hun yn destun sylw.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad a chymeradwyo'r Crynhoad Taliadau.
|
||||||||||
RHAGLEN GYFALAF PUM MLYNEDD 2018/19-2022/23 PDF 105 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bu'r Pwyllgor yn ystyried y rhaglen gyfalaf bum mlynedd a gymeradwywyd gan y Bwrdd Gweithredol ar 18 Rhagfyr 2017 ar gyfer ymgynghori yn ei chylch. Nodwyd y byddai'r adborth o'r broses ymgynghori hon, ynghyd â chanlyniad y setliad terfynol, yn cyfrannu at adroddiad terfynol y gyllideb a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r aelodau i'w ystyried ym mis Chwefror 2018. Roedd y rhaglen gyfalaf arfaethedig yn cynnig gwariant cyfalaf o ryw £199m dros y 5 mlynedd nesaf ac roedd y cynigion cyllido cyfredol yn cynnwys cyllid allanol o £56m. Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at y setliad terfynol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru a oedd yn nodi cyllid cyfalaf o £9.423 miliwn ar gyfer yr Awdurdod yn 2018-19. Roedd y cyllid yn cynnwys benthyca â chymorth o £5.858 miliwn a Grant Cyfalaf Cyffredinol o £3.565 miliwn. I grynhoi, sefyllfa gyffredinol y rhaglen gyfalaf oedd ei bod yn cael ei chyllido am y 3 blynedd gyntaf o 2018/19 tan 2020/21 gyda diffyg presennol bychan o £1.462 miliwn ym mlwyddyn olaf y rhaglen sef 2021/22.
Ymhlith y materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad oedd y canlynol: · Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod cyllid ar gyfer gweithdai Glanaman wedi'i gynnwys yng nghynigion Rhaglen Gyfalaf 2018/19 a 2019/20; · Tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd cynlluniau'r Llynnoedd Delta, fel rhan o'r Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd, yn rhan o'r rhaglen gyfalaf, ac eithrio'r ganolfan hamdden a'r cartref gofal arfaethedig. · Nodwyd bod ysgol newydd arfaethedig Heol Goffa, a adeiladir ar safle Ysgol Penrhos, wedi'i chynnwys yn y Rhaglen Moderneiddio Addysg.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo'r rhaglen gyfalaf bum mlynedd 2018/19 – 2022/23.
|
||||||||||
CYNLLUN BUSNES ADRANNOL Y PRIF WEITHREDWR 2018/19 - 2021 PDF 145 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ystyriodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Adran y Prif Weithredwr 2018-21 a oedd yn amlinellu blaenoriaethau'r adran a sut yr oedd yn cefnogi'r Pum Ffordd o Weithio a 7 nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
PENDERFYNWYD nodi'r Cynllun.
|
||||||||||
CYNLLUN BUSNES ADRANNOL GWASANAETHAU CORFFORAETHOL 2018/19 - 2021 PDF 133 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
(NODER: Roedd y Cynghorydd A. Davies wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd y cyfarfod tra oedd yr eitem yn cael ei thrafod.) Ystyriodd y Pwyllgor Gynllun Busnes Adran y Gwasanaethau Corfforaethol 2018-21 a oedd yn amlinellu blaenoriaethau'r adran a sut yr oedd yn cefnogi'r Pum Ffordd o Weithio a 7 nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mewn ymateb i gwestiwn dywedodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol ei bod yn fodlon bod ganddi ddigon o staff yn yr adain archwilio i fodloni'r gofynion archwilio, ond bod dal nifer o swyddi yn wag. PENDERFYNWYD nodi'r Cynllun.
|
||||||||||
EITEMAU AR GYFER Y DYFODOL PDF 110 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi'r rhestr o eitemau ar gyfer y dyfodol a oedd i'w hystyried yn y cyfarfod nesaf ar 7 Chwefror 2018.
|
||||||||||
LLOFNODI FEL COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR Y 6ED RHAGFYR 2017 PDF 224 KB Cofnodion: PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion y cyfarfod ar 6 Rhagfyr 2017 yn gywir, ar yr amod y nodir enw K Madge ymhlith y sawl a oedd yn bresennol.
|