Agenda a Chofnodion

Pwyllgor Cynllunio - Dydd Iau, 11eg Ionawr, 2018 10.00 yb

Lleoliad: Siambr, Neuadd Y Sir, Caerfyrddin. SA31 1JP.. Cyfarwyddiadau

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr J.A. Davies, C. Jones a J.E. Williams.

 

 

2.

DATGAN BUDDIANNAU PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant personol.

 

 

3.

RHANBARTH Y DE - PENDERFYNU AR GEISIADAU CYNLLUNIO pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

3.1           PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:-

 

S/35215

Datblygiad preswyl i gynnwys 51 o breswylfeydd ynghyd â gwaith cysylltiedig, tir ger Clos y Benallt Fawr, Fforest, Abertawe, SA4 0TQ

 

Gwnaed cais i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle er mwyn cael golwg ar y mynediad o'r safle i Heol y Fforest.

 

Yn unol â phrotocol y Pwyllgor Cynllunio roedd y gwrthwynebwyr a oedd wedi gofyn am gael siarad ynghylch y cais hwn wedi dewis cyflwyno eu sylwadau yn y cyfarfod ar ôl yr ymweliad safle.

 

RHESWM: Er mwyn i'r Pwyllgor gael golwg ar y mynediad o'r safle i Heol y Fforest yn sgil pryderon a fynegwyd ynghylch diogelwch ffyrdd.

 

 

3.2       PENDERFYNWYD gohirio ystyried y ceisiadau cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle:-

 

S/35962

Cadw'r llawr gwaelod fel bar caffi yn ystod y dydd gan ddefnyddio cefn y llawr gwaelod a'r llawr cyntaf fel clwb nos yn ystod y nos ynghyd ag ychwanegu grisiau sy'n ddihangfa dân yn y cefn, 56 Stryd Stepney, Llanelli, SA15 3TG

 

Yn dilyn sylw a wnaed gan yr Aelod lleol yn gwrthwynebu'r cais cynllunio, cynigiwyd bod y Pwyllgor yn ymweld â safle arfaethedig y clwb nos er mwyn cael gwell amcan o ran a fyddai effaith niweidiol bosibl ar eiddo cyfagos a'r ardal gyfagos yn ystod yr oriau gweithredu.

 

RHESWM: Galluogi'r Pwyllgor i gael golwg ar y safle er mwyn cael amcan o leoliad y clwb nos arfaethedig mewn perthynas ag eiddo cyfagos.

 

S/36429

Estyniad deulawr ar yr ochr ynghyd â phorth ceir ar lefel y ddaear, 36 Coedlan Parc y Strade, Llanelli, SA15 3EF.

 

Daeth sylw i law a wrthwynebai'r datblygiad arfaethedig, ac a ailbwysleisiai'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad y Pennaeth Cynllunio. Cynigiwyd bod y Pwyllgor yn cynnal ymweliad safle i ystyried materion sef a fyddai'r cymydog cyfagos yn colli golau ac a fyddai'r adeilad yn ormesol, ac a fyddai'r cais yn arwain at newid cymeriad o ran golwg Coedlan Parc y Strade.

 

Yn unol â phrotocol y Pwyllgor Cynllunio roedd y gwrthwynebwyr a oedd wedi gofyn am gael siarad ynghylch yr eitem hon wedi dewis cyflwyno eu sylwadau yn y cyfarfod ar ôl yr ymweliad â'r safle.

 

RHESWM: Asesu a allai'r cynnig gael effaith niweidiol ar amwynder yr eiddo cyfagos o ran colli golau ac ystyried cymeriad y cynnig mewn perthynas â'r ardal.

 

S/35028

Preswylfa ddeulawr, 15A Bryncaerau, Trimsaran, Cydweli, SA17 4DW.

 

Roedd sylwadau wedi dod i law mewn perthynas â'r datblygiad arfaethedig yr oedd swyddogion wedi argymell ei fod yn cael ei wrthod.

 

Cafwyd sylw gan yr aelod lleol ar ran yr ymgeisydd. Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu [Rhanbarth y De] i'r pwyntiau a godwyd.

 

Yng ngoleuni'r sylwadau uchod, cynigiwyd bod y Pwyllgor yn cynnal ymweliad safle er mwyn cael golwg ar y safle a'i fynediad yn sgil y pryderon a fynegwyd ynghylch diogelwch ffyrdd.

 

RHESWM: Er mwyn rhoi cyfle i'r Pwyllgor gael golwg ar fynediad y datblygiad arfaethedig.

 

 

 

 

4.

LLOFNODI YN COFNOD CYWIR COFNODION Y CYFARFOD A GYNHALIWYD AR 16EG TACHWEDD 2017 pdf eicon PDF 280 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL lofnodi bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd, 2017, yn gywir.